Hide Articles List

10 articles on this Page

EFfiNGYLWYlt TEITHIOL CYMRU.…

News
Cite
Share

EFfiNGYLWYlt TEITHIOL CYMRU. RHYS DAFIS, NEU RHYS Y GLUN BEEN. Mae ar fy meddwl er's tro i ysgrifenu byr nod- ion, am rai o hen Efengylwyr teithiol Cymru y digwyddodd i mi eu gweled a'u clywed.âJacks y galwai Brutus hwy, mewn ffordd o wawd, ond gwel1 genyf fi alw yr hen frodyr gweithgar yn Efengylwyr. Y maent fel dosbarth wedi bod o wasanaeth mawr i grefydd yn Nghymru. Llawer tro digon trwstan a fu ar ami un o hon- ynt; a gwaith digon anhawdd yn fynych oedd dal y ddysgl yn wastad iddynt. Ond ni bydd y benod ar Efengyleiddiad Cymru ynllawn nes y cesglir y gweddillion o hanes a llafur y dos- barth yma hefyd o offerynau. Yr ydwyf wedi dewis Rhys Dafis yn gyntaf, am ei fod ef yn Efengylwr teithiol yn ngwir ystyr y gair. Yr oedd Rhys Dafis yn garitor ar ei ben ei hun yn hollol. Ni bu ei fath o'i flaen nae ar ei ol-un Rhys Dafis welodcl ybyd erioed. Fel hyn y dywed Kilsby am dano yn y Traeth- odydd flynyddoedd lawer yn ol, 'Bu am flyn- yddau maith yn teithio ar hyd Cymru-haf a gauaf, ar oerni ac ar wres-a gwyddai am bob cwm, a chongl, a man lie byddai rhyw fath o synagog wedi ei hadeiladu gan yr Annibynwyr, yn Neheu neu Ogledd Cymru. Pe buasai dim ond adgofion o'r hen bererinion yn ein meddiant, gallasem anrhegu darllenwyr Y Traethodydd ag erthygl ar "Rhys Dafis a'i amserau." Pe buas- ai Rhys ar dir y byw yr haf presenol, gyrasem am dano yn uniongyrchol i ryw fan neu gilydd âcadwasem ef o fwyd, a diod, a dybaco, a'r hen geffyl o borfa a dogn dyddiol o geirch; ac ych- wanegasem at hyn, mewn ffordd o wobr, ddau swllt y dydd-pris dwy bregethâam gynifer o ddiwrnodau ag a fuasai yn ofynol er dirwyn ei adgofion. Buasai yn rhyw beth yn ein golwg hefyd pe digwyddasai fod rhyw arluniwr wedi tynu darlun Rhys-ac yn y sefyllfa ganlynol- pan yn y weithred o werthu llythyr y Gymanfa yn Mwlch y Cae, lie ei cedwid; neu o ddyweyd wrth y rhai a aent heibio iddo heb brynu, "na roddai Ion d gwniadur o so'g am eu crefydd OS na phrynent Lythyr y GymanfaDru- ain o'r hen farchogwr a'i farch! Taraw- ent eu gilydd i'r eithaf, ac yr oedd cymaint o wreiddiolder yn perthyn i un ag i'r llall. Buont fyw ar y voluntary systenb yn dra chysurus; ond pan gollai Rhys ei gyhoeddiad, yna elai yn dy- wyll arnynt eill deuoedd am damaid.' Eithaf gwir Kilsby. Yn y benbleth o golli ei gyhoedd- iad y gwelais Rhys gyntaf erioed. Ar brydnawn go oer yn mis Mawrth er's llawer blwyddyn bellach yr oeddwn yn eistedd wrth y tan yn y I parlwr bach' yn Tanyrallt, aneddle glyd yr hen Williams, Llanwrtyd; a Mr Williams a minau newydd ddychwelyd o angladd yn y gymdog- aeth; a chyn i ni gael prin amser i ymdwymno dyma Mrs Williams i mewn atom, ac yn ei dull tawel, digynwrf ei hun yn dyweyd 'Daffi dyma Rhys Dafis yn dwed.' Neidiodd yr hen wr ar ei draed, a chan fotymu ei goat dywedodd, 'Yn enw'r nefoedd o b'le daeth yr hen greadur; d'oes yma yr un cyhoeddiad iddo fe yn wir, ac fe aiff o o'i go yn awr'âac allan ag ef, a minau ar ei 01, ac erbyn hyny yr oedd Rhys Dafis wrth y drws ar gefn ceffyl o'r fath deneuaf a thruanaf a welswn erioed. Yr oedd yr hen wr wedi clywed cyn dyfod at y ty nad oedd yno gyhoedd- iad iddo, ac oblegid hyny yr oedd yn flin a drwg- dymherog iawn. Edrychai yn sarug a thaeog- aidd; a chyn cyfarch gwell i neb gofynai mewn llais eras a garw, 'O's yma ddim cyhoeddiad i mi Mr Williams?' 'Nag oes yn wir, Mr Dafis, a ddar'u i chwi yru cyhoeddiad ?' Do mi gyrais i e, ac mi eawsoch chithe fe hefyd.' Taniodd y dyn bach mewn munyd, a thywalltodd genllif o'r hyawdledd mwyaf cynhyrfus ar ben Rhys druan, Ymswynwch y dyn, na wedwch y fath beth-y fi gael y'ch cyhoeddiad chi, na chefais i mo hono mae'r nefoedd yn gwybod. 'Dy'n ni ddim yn myned i oddef eich tymer ddrwg chi Mr Dafis. Mae'r nefoedd wedi ymweled a ni yn Nhroedrhiwdalar; a 'dyw hen bregethwr fel chi ddim i fyn'd ar hyd y wlad i fyn'd yn mhon pobi fach wirion sy'n ewyllysio cael llonydd i addoli Duw.' Ac ar y gair, yn ol ag ef i'r ty, a digterwedi cochi ei wyneb, gan adael Rhys druan i fwmian a chwyrnu ar gefn ei asynyn; ac wrth fyned trwy y drws heibio i mi i'r I parlwr bach' dywed- ai, I Rhyw hen greadur crac fel yna yn dyfod ar draws y wlad fel hyn.' Yna wedi llai na haner munyd o ddistawrwydd dywedai, 'un piwra yn y byd yw e hefyd, ond i fod e yn myn d ma s o'i go.' Aeth Mrs Williams yn mlaexi at Rhys, ac yn ei dull pwyllog dywedai, 'Deuwch chi i lawr Mr Dafis, na hidiwch am Daffi, y'ch chi nabod y'ch gilydd o'r gore,' ac estynai ei breichiau i'w helpu i lawr, 'Diolch i chi, diolch i chi, Mrs Williams,' ebe Rhys, ac i lawr y daeth, ac i'r ty; a chyn ei fod dros y trothwy y mae Mr Williams yn ei gyfarfod, ac yn ei gyfarch yn serchog, 'De'wch ymlan Mr Dafis bach;' a chyn pen pum munyd y mae y ddau hen frawd yn eistedd un o bob tu i'r tan, ac yn ymgomio mor ddedwydd a phe na buasai dim erioed wedi digwydd. Brysiai Mr Williams i roddi tan yn mhen cetyn Rhys, o'r hwn y deallais yn fuan ei fod yn bur hoff; a Rhys er dangos ei fod wedi dysgu good manners yn dyweyd yn aml 11 wish you better service, Sir.' Druain gonest a dihoced; pe buasai mwy o'ch cyffelyb yn y byd, buasai yn llawer diogelach i fyw ynddo. Er nad oedd cyhoeddiad i Rhys Dafis yno y noson hono, yr oedd yn digwydd bod yn noson cyfarfod gweddi yr ardal, yr hwn a gynhelid o dy i dy; ac fel yr oedd goreu y ffawd yr oedd ei dro i fod y noson hono yn Mhenyrallt. Daeth yno gryn nifer ynghyd er ei bod yn noson arw; a phregethodd Rhys Dafis, -ei destyn oedd, 'Pel bugail y portha efe ei braidd.' Yr oedd ei olwg a'i ddawn yn ddyeithr iawn i mi, ac yn "wahanol i bawb a glywswn erioed. 'Yr oedd ei ddyn oddiallan yn un hynodâtalcen llydan hytrach yn isel, llygaid gwyllt, trwyn flat, gen- au agored, a gwyneb crwn. Yr oedd ei wyneb- pryd yn arwyddocau ei fod yn hynotach o ran teimlad a nwyd, nag ar gyfrif deall, rheswm, ac aBagyfeediad.' Nid oedd dim yn ei olwg na'i ,ais i'w gymeradwyo. Yr oedd y blaenaf yn ag*y a'r olaf yn aflafar. Nid oedd ganddo un ?~K am siarad, ond tywallt allan yn ddiatal ''yslais, nac aceniad, nac atalnod, heb fath y°- y yd o bereiddiweh na mwyneidd-dra mewn na sam jaa goslef. Ac eto, yr oedd yn llawn tan a bywiogrwydd.âHyny oedd ei hynod- Angerddoldeb eideimlad yn cyflymu y tracldodiad nes cadw pawb yn effro, a chynesu ealonau y bobl oreu. Yr oedd pob peth a ddy- weclai yn ddigon cymwys a phwi-pasol. Yr wyf yn colio ei fod yn dyweyd y noson hono wrth Son am y saint fel praidd, fod gan Dduw ei nod arnynt, Mae ganddo ddau nod meddai, nod a^°dtroGd;' "Y mae fy nefaid I yn gwi'an- 1, y^liais I, dyna nod clut, "a hwy am can- ynent I, dyna nod troe Dyna yx- oil allaf gofio o'r cwbl a glywais ganddo erioed. Yr oedd ganddo ryw habitannaturiol wrth bregethu, o gydio a'i law yn ei enau fel pe am ymafael yn y geiriau i'w taflu at ei wrandawyr. Dywedai Mr Griffiths, Glandwr, am dano, gyda'r hwn y bu am dymor yn yr ysgol, wedi ei glywed yn pregethu, 'Dyma bregethwr o ffasiwn newydd, gall droi allan yn llwyddianus; hwyrach ei fod wedi ei anfon o bwrpas at y gwrandawyr cysg- lyd a difater, canys y mae nid yn unig yn dy- weyd ei eiriau a'i dafod, end yn ymaflyd yn- ddynt a'i law, i'w lluchio at ei wrandawyr. Ad- roddai Rhys ei hun, am y brofedigaeth y bu ynddi unwaith oblegid ei habit o dafiu ei law. Yr oedd ar un prydnhawn Sadwrn yn pregethu mewn capel gwledig, heb fod yn nepell o dref y farchnad. Yn fuan wedi iddo ddechreu, daeth dau amaethwr i mewn y rhai a fuasent yn y farchnad. Yr oedd y ddau wedi yfed ar y mwy- af yn ol rheolau cymedroldeb heb son am ddir- west. Eisteddai un o'r ddau o flaen y pregeth- wr, a'r llall o'r naill du. ifel y digwyddodd, pregeth yn erbyn meddwdod oedd ei bregeth y diwrnod hwnw. I Dyma'r meddwyn, dyma'r meddwyn,' meddai y pregethwr gan daflu ei law fel arferol, nes y tybiodd y gwr a eisteddai ar ei gyfer, mai ato ef yr oedd yn cyfeirio. Cododd y gwr ar ei draed wedi blino ymatal yn hwy, a dywedodd, 'Beth sydd ar y dyn yn cyfeirio ata i o hyd, mae hwnyna yn y gongl acw mor feddw a minau.' Tipyn o brofedigaeth oedd hon, ond taflwyd ef unwaith oblegid yr un habit i un llawer mwy. Yr oedd ar un prydnawn Sabboth yn pregethu mewn ty ffarm. Cynhelid yr odfa yn y gegin, ac yr oedd y He yn llawn o wran- dawyr. Safodd y pregethwr yn nghongl yr ys- tafell. Ar yr aelwyd gorweddai ci mawr yn dawel a llonydd. Fel yr oedd Rhys yn poethi, ac yn taro troed y glun bren yn y blocyn dihun- odd y ciâcododd ei ben, ac edrychai yn chwerw. Wrth weled y pregethwr yn taflu ei law meddyl- iodd ei fod yn ei herio ef. Dechreuodd chwyrnu i ddangos ei fod yn derbyn y challenge, a than chwyrnu nesai at y pregethwr. Cafodd y dynion cryfaf yn y lIe ddigon o waith i ddal a dofi y ci, ac yr oedd yn Hawn cymaint gorchest i'r dyn- ion duwiolaf yn y lie i dawelu Rhys Dafis. (Fw barlmu.J

TAITH Y PERERIN.

LLANBRYNMAIR AC AMERICA.

BRYN, LLANELLI.

ARFON OGLEDDOL.

BRYNGWENITH, CEREDIGION.

SALEM, MEIDRYN.

BETHEL, VICTORIA.

CYFARFODYDD MAWRION MAI.

iNODION A NIDIAU.