ANERCHIAD I'R 'TYST CYMREIG.'|1868-05-29|Y Tyst Cymreig - Welsh Newspapers Online
Hide Articles List

11 articles on this Page

ANERCHIAD I'R 'TYST CYMREIG.'

News
Cite
Share

ANERCHIAD I'R 'TYST CYMREIG.' Mr. Gol.,—Dichon fy mod yn cyfeiliorni wrth ddweyd Mr Gol., yn lie Mri. Golygwyr—nis gwn yn iawn pa un ai lleng ai un sydd o honoch; ond sut bynag am hyny, yr wyf yn cael llawer o fudd a difyrwch wrth ddarllen eich tystiolaeth eglur a difloesgni ar bynciau pwysig y dydd mewn byd ac eglwys. Ond cyn myned yn inhellacli, gadewch i mi gywiro un peth a ddy- wedodd eich gohebydd doniol a thalentog o'r dref hon ychydig wythnosau yn ol wrth gofnodi gorchest fawr Tywysog Cymru yn troi allwedd y gwaith dwr, ac yn taenellu y bobl mewn dull helaeth a mawreddog. Gwir i'r Tywysog daenr ellu cenedloedd lawer, ac yr oedd y gawod bron mor drom a Clinic baptism yr hen dadau gynt; ond y camsyniec1 oedd barnu fod Cynddelw hefyd o dan vr oruchwyliaeth. Na, na, Mr Gol., go- fala rhagluniaeth yn wastad am ei phlant, ac felly y tro hwn hefyd; chwythodd y gwynt ffordd arall, a bu Cynddelw mor ffodus a bod yr ochr oleu i'r cwmwl; a phe buasai sylw eich gohebydd yn iawn, buasai fy het newydd wedi ei spwylio ar unwaith, ac nis gallaswn ymddang- os mor tiewsych weddill y dydd. Y peth sydd yn difyru mwyaf arnaf fi yn y TYST yw athrylith ryfedd y taelwriaid. Prin y gellir dysgwyl i daeliwr fod mor gryf ei gyn- neddfau a dyn arall gan mor fasw a lliprynaidd yw ei alwedigaeth. Yr oedd rhai o hen Fedyddwyr cyntefig gwlad Gwent yn cario meddyliau culion a rhagfarnllyd iawn am daelwriaid. Yr oedd yr hen Samuel Morgan, neu Sami Shon o Nantyglo, yn barnu nad oedd cymaint ag un taeliwr yn gadwedig! hyd nes y clywodd efe daeliwr yn gweddio. Gan i weddi y taeliwr gyffnvrdd a'i deimlad, syrthiodd ar ei liniau yn ei ymyl, a dywedodd yn hyglyw, Mae dy ras di yn fawr, Arglwydd, -yn fwy nag y meddyliais i erioed ei fod e. 'Doeddwn i ddim yn meddwl dy fod ti yn rhoi gras i daelwriaid! Ond dyma daeliwr wedi ei achub. A thaeliwr anw'l yw e hefyd.' Lied gul hefyd oedd barn yr enwog F. Hiley am gyiiyrau taelwriaid, gan i rai o honynt beri poen iddo yn yr eglwys. Galwyd arno un tro i gwrdd i dawelu anghydfod, ac iddo ef y rhodd- wyd y gadair. Y peth cyntaf a ofynodd oedd, 'Sawl taeliwr sydd yma P' I Dou,' ebe rhywun, 'Yr Arglwydd a'n helpo,' ebe yntau. Ond mae y TYST yn dangos pa beth a all tael- wriaid wneyd; a dylai yr Hen Daeliwr gael blawr am cyfled a llabwd, ac mor drwchus hefyd, yn destimo-nial am godi yr urdd hwnw i'r fath emvogrwydd awdurol. Llwyddiant heb siomiant yn siwr I da-lent yr Hen Daeliwr. CYNDDELW.

YSGOLION SABBOTHOL ANNIBYNWYR…

AT DAEAREGYDD.

RHYBYDD I'R BEIRDD.

I: ! CYMMERIADAU.

ENNANTLLIW BACH, LLANTJWCHLLYN.

GEIRIAU YMADAWOL Y DDjWEDDAR…

Y DYN ANWADAL.

Gynhygiad Arwyddocaol,

[No title]

LLYTHYRAU OYk. N NGHANAA-W.…