Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

ANERCHIAD I'R 'TYST CYMREIG.'

YSGOLION SABBOTHOL ANNIBYNWYR…

AT DAEAREGYDD.

RHYBYDD I'R BEIRDD.

I: ! CYMMERIADAU.

ENNANTLLIW BACH, LLANTJWCHLLYN.

GEIRIAU YMADAWOL Y DDjWEDDAR…

Y DYN ANWADAL.

Gynhygiad Arwyddocaol,

[No title]

News
Cite
Share

CERFLUN COFFADWQIAETHOL I MR. RATHBONE.—Y mae y pwyllgor wedi penderfynu codi cerflun i'r hen Ryddfrydwr parchus hwn. Tanysgrifiwyd zC2,980 at hyn. DAMWAIN ANGEUOL YN TRANMERE.—Fel yr oedd dyn a'r enw James Hendley, yn myned adref i Higher Tran- mere,nos Wener diweddaf, syrthiodd dros ymyl craig 60 troedfedd o ddyfnder, a rhaid iddo farw yn union- gyrchol. Yr oedd y trancedig yn 35 mlwydd oed, a gadawodd weddw a phedwar neu bump o blant. MARW WRTH YMLADD.—Prydnawn dydd Sadwrn, fel yr oedd John Williams, a William Lambert, yn ymladd a'u gilydd, tarawyd y cyntaf i lawr, a bu farw yn fuan wedi hyny. Yr oedd y ddau ymladdwr yn byw mewn cwrt yn Llanrwst-street, Toxteth Park, yn y dref hon. Cyfododd ffrae rhyngddynt, yr hyn a barodd iddynt fyned i ymladd. Saith ar hugain oed oedd y trancedig, yr oedd ganddo wraig ond dim un plentyn. Berrur mai dolur y galnn oedd prif achos ei farwolaeth, ond y mae Lambert wedi ei gymeryd i fyny ar y cyhuddiad-o brysuro ei angeu. GWENWYNIAD TAD A MAB YN CREWE TRWY GIG MOOR Ar, iAcH.-Yr wythnos ddiweddaf tarawyd dyn o'r enw George Steele, pan ydoedd yn ei waith, yn sal iawn, a chymerwyd ef i'r hysbytty. Bron gyda i'r tad gyraedd, dygwyd ei fachgen 15 oed yno, yn dioddef yn union fel yntau. Daeth Dr Otde atynt, a barnai ar unwaith eu bod ryw fodd wedi cymeryd gwenwyn, ac wrth eu holi, cafodd eu bod eu dau wedi bwyta pen mochyn. Rhodd- wyd meddyginiaeth briodol iddynt, ond buont am oriau yn y perygl mwyaf. Pan gyraeddodd y newydd am hyn at wraig Steele, cafodd ei gwely yn anamserol ar efeilliaid. YMCHWILIAD AM GYDFRADWYR O'FARRELL AR FWRDD Y GREAT BRITAIN.—Yr oedd disgwyliad mawr am gyr- haeddiad y Great Britain 0 Awstralia, trwy fod y Llyw- odraeth wedi cael hysbysiad fod y brad i lofruddio y Tywysog Alfred yn un eang iawn, ac fod tebygrwydd y byddai rhai o'r giwed yn ceisio dychwelyd i Loegr. Prydnawn ddydd Sadwrn fel yr oedd y llong enwog hon yn dod i mewn i'r Mersey, byrddiwyd hi gan am- ryw heddgeidwaid, ond ni chymerwyd yr un o'r teith- wyr i fyny, gan na cheid lie i gredu fod yr un o honynt yn dal cysylltiad a'r anfadwaith. BWRDD DRTJDFAWR.—Y mae y Sultan wedi erchi i fwrdd arian gael ei wneyd iddo yn Paris, a chostia ddim llai na 3,000,000 o ffrancod. FFYNHON WHISKY.—Dywed y papurau Americanaidd am ddarganfyddiad ffynhon whisky yn agos i Nodaway, yn Missouri. Llifa rhwng dwy graig, ac ymddengys yn debyg i frandi o liw uchel, ond y mae vn tastio ac yn arogli fel whisky pur, ac y mae yr effeithiau yr un mor feddwol. Bwriadai amryw bersenau fyned yno i'w gweled, ond rhwystrodd y gwlaw hwynt—hyny yw nid oeddynt yn hoffi cymysgu dwfr a'u whisky. Pa un a'i ffaith neu farddoniaeth Yanciyddol ydyw hyn tybed. DALFA FAWR o FECRYLP—Daliwyd oddeutu 50,000 o fecryll tu ol i Isle of Wight yrwythnos ddiweddaf. DARGANFYDDIAD LLENYDDOL.—Cyhoedda y papurau Italaidd, fod gohebiaeth ddyddorol cydrhwng Arglwydd Byron a mynachod St. Lazare, yn agos i Venice, wedi ei darganfod yn ddiweddar yn y mynachdy hwnw. Fe gofir i Arglwydd Byron dreulio rhan fawr o'i amser yn St. Lazare, a'i fod yn hoff iawn o'r mynachod oedd yno, at ba rai y cyfeiria yn ei 'Childe Harold.' MR MORLKY A PIIEIFYSOOI, OYMRTT.—Dywedir fod y boneddwr haelfrydig hwn wedi rhoddi mil o bunnau at gael Prifysgol i Gymru. PREGETHWR MOLMONAIDD MEWN DALFA. Cafodd Isaac Aldridge, pregethwr Mormonaidd, ei gyhuddo ddydd Sadwrn yn yr Amwythig, o ymosod yn anweddus ar eneth fud a byddar, o'r enw Alice James, Dywedid mai yn ddiweddar y daeth y carcharor i'r wlad hon o'r America. Yr oedd dyddlyfr yn ei feddiant, yn yr hwn yr oedd yn ysgrifenedig, 'Anerch y saint yn Wolver- hampton, ac wedi hyny myned i'r Theatre'—tro sant- yddol iawn, onide P Traddodwyd ef i gymmeryd ei brawf. Y BARDD LONGFELLOW.—Dywed y Carlisle Journal fod y bardd Longfellow, yn myned i dreulio mis yr haf hyn yn nghymmydogaeth y llynoedd Seisnig. Ni wnai un niweid i'w awen fyned i Lanau Llyn Tegid. YMERAWDWR FFRAINC A'R CYNGRAIR EFENGYLAIDD. —Cafodd y Parch James Davies, ysgrifenydd y Cyng- rair, gyfle i osod ger bron yr Ymerawdwr, achos cen- hadaethau Protestanaidd New Caledonia. Datganai yr Ymerawdwr ei ofid fod dim rhwystr wedi ei osod ar eu ffordd, a sicrhai y .byddai i'r un rhyddid crefyddol ag oedd yn Ffrainc, gael ei estyn trwy yr holl drefedig- aethau. RHAGOLYGON Y CYNHATTAF.—Y mae y cnwd gwenith yn neheudir Lloegr yn edrych yn addawol iawn. Cyf- rifir y cynhyrcha dair sach yr acr fwy na'r un y llynedd. Y mae y cynhauaf gwair wedi dechreu yn nghymmyd- ogaeth Blandford, swydd Dorset. DARGANFYDDIAD PLANED NEWYDD.-Darganfydd- wyd planed newydd ar y 18fed o'r mis diweddaf, gan y, Proffeswr Peters, o Clinton, New York. Y mae ei throgylch yn mysg y ser sydd yn troi rhwng Mawrth a Jupiter. IECHYD YR YMERODRES CHARLOTTE.-Y mae y fon- eddiges anffodus hon yn gwellhau yn gyfiym. Bydd yn myned allan bob dydd am daith lied bell yn ei cher- byd. Disgwylir yn gryf y llwyr adferir ei synwyr. MR GLADSTONE I OLYNU ARGLWYDD BROUGHAM.—Y mae parotoadau yn eu gwneud i ethol Mr Gladstone i fod yn Ganghellydd Prifysgol :Edinburgh, yr hon swydd a aeth yn wag trwy farwolaeth Arglwydd Brougham. CREULONDEB RHIENI YN NGHYMRIT.—Dygwyd gwr a gwraig ger bron yr ynadon yn Blackburn, ddydd Llun diweddaf, ar y cyhuddiad o arfer creulondeb at fachgen bach naw blwydd oed, plentyn i'r wraig o'r gwr cyntaf Rhwyn-iid y creadur bach mewn basged, a chedwid ef yno am oriau heb damaid o fwyd. Dioddefai y plant eraill oddiwrth greulondeb y rhieni, fel yr oedd eu gwedd welw a nychlyd yn dangos. Anfonwyd y rhieni i r carchar am chwe mis bob un, yr hyn a barodd fodd- londeb mawr i bawb oedd yn gwrando y prawf. Rhoddwyd y plant druain o dan ofal y Eeleiving Officer. YN OL Y PENDERFYNIADATT.—Yn ddiweddar, mewn cyfarfod cenhadol o'r negroaid o un o'r eglwysi negroaidd cyfoethocaf yn America, pasiwyd y pen- derfyniadau canlynol yn unfrydol:—1. Y rhoddwn rhywbeth. 2. Y rhoddwn yn ol ein gallu. 3. Y rhoddwn yn ewyllysgar. Wedi darllen a chymmer- adwyo y penderfyniadau, aeth negro blaenllaw at y gadair wrth y bwrdd, a chymmerodd ysgrif-bin ac inc er dodi i lawr yr hyn a ddaethant i danysgrifio. Daeth llawer yn mlaen a'u tanysgrifiadau at y bwrdd, a rhoddodd rai lawer ac eraill ychydig. Yn mhlith y tanysgrifwyr yr oedd hen negro, yr hwn oedd yn bur gyfoethog—bron mor gyfoethog a'r cwbl gyda'u gilydd. Taflodd i lawr fil bychan. Cym- merwch ef yn ol eto,' medclai y eacleirycld, gall hyn fod yn ol y penderfyniad cyntaf, ond nid yw yn ol yr ail.' Cymmerodd ef yn ol, ac aeth i'w le wedi cyn- ddeiriogi. Aeth lluaws yn mlaen, i gyd yn rhoddi ychwaneg nag ef. Cywilyddiodd, ac yn ddjgofus taflodd fil mwy ar y bwrdd, gan ddyweyd, f H wd. iwch, cymmerwch hynyna.' Greenback ugaiu dolar ydoedd, ond gan iddo ei rhoddi mewn tymher ddrwg gAvrthododd y eadeirydd ef drachefn, g^an ddyweyd, 'Na, Syr, ni wna y tro. Gall fod yn ol y pender- fyniad cyntaf a'r ail, ond nid yw yn ol y trydydd.' Bu gorfod iddo ei chymmeryd i fynu yr ail waith. Parhau yn llidiog wrtho ei hunan ydoedd, ac eis- teddodd i lawr am amser luaith, nes aeth pawb allan bron, ac aeth yn mlaen at y bwrdd, a chyda gwen ar ei wynebpryd rhoddodd swm mawr o arian ar y bwrdd. Dyna,—da iawn,' ebe'r cadeirydd, hynyna y tro; y mae yn ol yr holl benderfyniadau.'

LLYTHYRAU OYk. N NGHANAA-W.…