Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

LLANDDANIEL, MON.—Nos Sadwrn, Gorph. 6, cynhaliwyd cyngherdd yn Oana, addoldy helaeth yr Annibynwyr yn y lie hwn, gan Gor Eglwys Porthdinorwig. Yr oedd y capel yn or- lawn ar yr achlysur. Llywyddwyd gan y Parch. R. E. Williams, Beaumaris; ac arweiniwyd y cor gan Mr. W. Williams, Siloh Cottage, Porth- dinorwig. Cynhwysai y programme ddetholiad chwaethus o weifchiau yr awduron enwocaf, o ba rai yr oedd y mwyafrif yn Gymry, ac un yn aelod o'r cor. Canwyd a chwareuwyd yr holl ddarnau gyda chwaeth ac yspryd rhagorol. Haeddasai amryw o'r cantorion eu cydnabod genym wrth eu henwau, oDd y mae yr olwg ddirodres a gawsom arnynt yn peri i ni feddwl mai prin y diolchent i ni am hyny. Nis gallwn, pa fodd bynag, beidio cyfeirio at y rhai ieuengaf—a'r rhai yn wir a gawsant ddwyn eu rhan yn helaeth o'r baich. Canodd Miss Owen amryw solos yn swynol iawn; a chwareuodd Master Bucking- ham a Miss Richards yn fedrus ar y piano. Teimla y gynnulleidfa hon dan rwymedigaethau cryfion i'r cor, ac i'w harweinydd galluog a char- edig, yr hwn yn mhlith ei gyfeillion gartref a werthodd uwchlaw gwerth. £ o o docynau, a rhoddodd yr holl arian, yn nghyd a'i lafur ei hun a r cor tuag at dalu dyled ein haddoldy.— Gohebydd, CASNEWYDD.- Urddiad.-Mae hen egl wys yn Mynydd Seion, Casnewydd, ond dydd Mawrth, Gorphenaf 2, y bu yr urddiad cyntaf erioed yno. Yr urddiedig oedd Mr. D. Dayies, o Goleg Aber- honddu, gwr ieuanc o ardal Olydach ar y de- chreu. Dechreuwyd y cyfarfodydd nos Lun, Pryd y pregethwyd gan y Parchn. E. Owens, Clydach; a W. Williams, Hirwaun. Am haner awr wedi deg ddydd Mawrth, dechreuwyd gan y Parch. D. Edwards, Coed duon; pregethwyd ar Natur Eglwys gan Proffesswr Roberts, Aber- honddu holwyd y gofyniadau gan y Parch. E. Owens, Clydach gweddiwyd am fendith gan y Parch. D. Dayies, New Inn; yna pregethwyd i'r gweinidog gan y Parch. W. Williams, Hir- waun. Erbyn hyn yr oedd yn llawn bryd cael cmiaw, yr hyn a gafwyd yn nhy Mr. J. Jones. Am ddau pregethwyd yn Saesoneg gan Proffes- wr Morris, Aberhonddu; a phregethodd Dr. Rees, Abertawe, i'r eglwys. Am saith pregeth- odd y Parch. H. Samuel, Abertawe, a Dr. Rees. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol, a hyderwn y bydd Mr. Davies yn ddedwydd yn ei le newydd. Cafodd gymeradwyaeth uchel gan ei athrawon, a chan Mr. Owens, Clydach, a hyderwn y caiff nerth i gadw ei gymeriad yn loyw tra byddo byw. Bydded i'r eglwys fod yn gylch o'i am- gylch ac yn gweddio trosto.-Gohebydd. BETHANIA, OWMA vON.-Traddodwyd darlith yn y capel uchod, nos Lun yr 8fed cyfisol, gan y Parch. E. Hughes, Penmain, ar Ddeuddeg Apos- tol yr Oen. Cymerwyd y gadair gan y Parch. W. Thomas, y gweinidog, yr hwn a'i llanwodd yn deilwng o hono ei hun. Cafwyd cynulleidfa ragorol. Yr oedd y darlithydd yn ymddangos ynhynod o gartrefol—ytestyn a'r darlithydd yn cyfateb i'r dim. Gallesid meddwl ei fod yn cydoesi a'r Apostolion santaidd, ac wedi en dilyn yn eu hanturiaethau beiddgar a gogoneddus Danghosodd gydnabyddiaeth helaeth a manwl iawn, nid yn unig a'r gyfran gyssegredig o'u hanes, ond hefyd a manylion eu holl deithiau llwyddianus i wahanol wledydd y ddaear, y rhai a brofir gan hanesion, a thraddodiadau y tadau, a chenhedloedd yr oesau a fu. Yr oedd ei ddar- nodiad o natur apostolaeth yn eglur a syml, ei ddesgrifiad o nodweddau ac amgylchiadau natur- iol yr apostolion yn fyr ac i'r pwrpas, ei ddar- 5™ ° gwahanol deithiau yn fawreddog a i n° a'r ^raddodiad mor rwydd ac effeith- io y codwyd y gynnulleidfa i ryw hwyliau o ganinol a gorfoleddu.—IEUAN AFAN. ,T^r'XI)fTLL0- Yn nglyn a chyfluyniad tysteb' Mi. Pugh, cynnaliwyd cyfarfod pregethu. Nos 0 r blaen yn y capel, decln'euwyd gan v Parch J. Peters, Bala; a phregethwyd gan y Parch. T. Jones, Llangiwc, a Dr. Rees, Liverpool. Yn yr un lie boreu dranoeth am haner awr wedi deg, dechreuwyd gan y Parch. E. Evans, Llangollen, I a phregethodd y Parchn. D. M. Davies, Llan-! fyllin, ac R. Williams (Hwfa Mol).yll vr ysgoldy am 6 o'r gloch, dechreuwyd gan y Parch. R. Thomas, Llanuwchllyn; a phregethodd y Parch. R. Williams, a Dr. Bees. Cafwyd prell- ethau da a chynnulleidfaoedd lliosog bob tro; ■ disgwylir i'r odfeuon ynglxyd achyfarfod y dysteb wneud lies, ac nid oes ammheuaeth nad felly fydd. CAIWIEL, VOCHRIW.—Ar y 7fed a'r 8fed cyiisol, cynnaliwyd cyfarfodydd agoriacl y lie ucliod, pan y pregethwyd am 10, 2, a 6, y Sabbath gan y Parch. D Thomas, Ystradfelite, a'r Parch. B. Williams, Canaan. Am 10 dydd Llun, dechreu- PTLN/R11 y Parch. J. Evans, Gellideg, a phreg- Thoma<=y/~<?>arc^m" Thomas, Abercanaid, T. dechr;?1^' a ])avies» Caerdydd. Am Morgan, Troedvrliiw, 1 F] Pr^e AH J FARCLM- J- Bowen, Pendaren, T 6, dechreuwyd gan Mr! p j 'p Aterhonddu, a pln'egethodd y Paiclm. 33. Williams, Canaan, P. Howells, Ynysgau, aJ. Davies, Caerdydd Cafwvd era- milliadau Uuosog, pregethaw a dylamvadol, a eliasgliadau rhagorol o dcla. Moo "yr adeilad newydd yn addurn ir gymmydogaeth, yn "lod i'r Parch. T. Thomas, Glandwr, y t'.ynlliutvCufi ac yn enwogrwydd i Mr. D. Jenkins, Mertliyr, yr adeil- adydcl. Fe ddaw pob manylion am daiiys^rifiad- au yr eglwys a'r ardal, yn gystal a lxaelioni eglwysi y cyfimdel) ac eraill tuag atom mewn rhifyn dyfodol o'r TYST.— W. H. Thomax. P-\ NTKG, tam CAI-;RITIIDI3I^.—Traddodwyd dar- lith yh y Ile iieliod,, nos Luii, Goijrfi. 8, ar Yr angenrheidrwydd o ga<el addysgfti'af derneugciyd: gan Mr. John Williams, Llanelli. Nid digon vw dyweyd i'r daiiitliydd fyned trwy ei waith yn dda, ond credaf fod ei enw yn fwy uchel nas gallaf ei osod allan, a buom mor hapus trwy bobpeth fel y cawsom gadeirydd gwych dros ben, sef Mr. T. t, y Thomas, myfyriwr o Glasgow, yr hwn, fel arwein- iad a ddywedodd ei feddwl mewn modd profiadol a syml. Hoffem fel cynnulleidfa gael cyffelyb wledd etto yn fuan.—J. D. LIANSAMLET.—Ar y 4ydd cyfisol, cynnaliwyd cyfarfod yn Bethel, Llansamlet, i'r diben o ordein- io Mr. Rowland Rowlands, diweddar fyfyrhvr o Goleg Caerfyrddin. Declireuwyd yr oedfa gan y Paxch. E. Griffith, Abertawe. Pregethodd y Parch. W. Morgan, athraw duwinyddol Coleg Caerfyrddin, ar 'Natur Eglwys.' Derbyniwyd cyffes ffydd y gweinidog ieuangc, a gweddiwyd yr urdd-weddi gan y Parch. J. Jones, Machynlleth. Pregethodd y Parch. D. Hughes, B. A., Tredegar, siars i'r gweinidog; a'r Parch. J. Rees Rees, Rod- borough, siars i'r eglwys; a rhoddwyd y pennill- ion allan gan y Parch. E. Evans, Sciwen. Preg- ethwyd hefyd yn y prydnhawn ar yr un dydd a'r noson o'r blaen gan amryAV o weinidogion. Yr oedd nifer fawr o weinidogion a myfyi-wyr ynghyd. MERTHYR.—Ysgolion Brytanaidd.—Nos Ian, Gorph. 11, cynnaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn nghapel Zoar, mewn cyssylltiad a'r Ysgolfon Brytanaidd. Cymmerwyd y gadair gan Mr. G. T. Clark. We(li ychydig eiriau gan y cadeirydd, yn hysbysu nas gallasai Meistri Fowler a Bruce fod yn bresennol, galwodd ar y Parch. Mr. Thomas, yr ysgrifenydd, yr hwn a roddodd statement o'r anhawsderau yr aethant drwyddynt. Dywedai mai oddeutu £3,700 oedd y ddyled ar y dechreu, ond fod y swm hwnw yn awr wedi disgyn i X999. Diolchai yn wresog i'r gwyr haelionus fn mor garedig a'u cynnorthwyo. Cafwyd areithiau pwTpasol gan y cadeirydd, y Parchn. Mr. Howell, E. Thomas, W. Davies, a Meistri Chas. James, D. Davies, Goodfellow, a R. Lewis. Wedi talu diolchgarwch i'r cadeirydd, terfynodd y cyfarfod. PORTH J.)INORWIG.-Yehydig o fanau yn y Gogledd sydd wedi cynnyddu mwy mewn byr amser na'r lie hwn. Y mae yma ddigon o dai, ond eu bod ar wasgar, i ffurfio tref o gryn faint- ioli, ac adeiledir rhai newyddion yn barhaus, yr hyn sydd yn argoeli yn dda gyda golwg ar ami- bad y bolilogaeth yn y dyfodol.-Y Tafarnau. -Y mae yma bedair yn barod, a gwneir ymgais yn awr at gael rhagor; ond y mae cyfeillion sobrwydd ar ddihun, a hyderir y llwyddant i attal y fath drychineb rhag cymmeryd He. Y Wesleyaid.-Cynnalia y brodyr hyn gyfarfod pregethu yr wythnos hon. Traddodwyd dar- lith nos Lun diweddaf yn nghapel Elim gan y Parch. W. Powell, ar 'Whitfield a Wesley.' Cy- hoeddwyd y Sabbath diweddaf ybyddai y cyfar- fod yn dibenu nos Fawrth yn un o gapelau yr Annibynwyr, pryd y disgwylid gweinidog pobl- ogaidd perthynol i'r Bedyddwyr (gwr dall) o'r Deheubarth, i bregethu gydagun o weinidogion y Wesleyaid. Disgwylir cyfarfod da. Mae y W esleyaidyn gryfion a dylanwadol yn yr ardal hon. Y TysT.-Da g6nym ddeall fod iddo dderbynwyr lawer yma yn barod, a chredwn mai cynnyddu a wnant, os gofala y dosbarthwr am anfon y papyr yn rheolaidd a phrydlawn i dai y derbynwyr. Rhoddai y rhifyn diweddaf fodd- had neillduol i bawb. Ystyrir fod y prif erth- ) glau ynrhai campus. Clywsom, pa fodd bynag, fod rhai yn meddwl y byddai yn dda er mwyn y lluaws pe ceid ychydig yn rhagor o newydd- ion cyffredinol, ac y byddai yn fantais i'r TYST pe crynhoai rhywun ychydig o hanes gweithred- iadau pob enwad crefyddol ar wahan, bob tro, rywbeth yn debyg i'r drefn a ddilynir yn y Christian World. Ond dylai y cyfeillion hyn fod yn ymarhous, oblegid credwn y llawn fodd- lonir hwyi t yn mhob ystyr bob yn dipyn. GWERNAFFILD, GER WYDDGRUG.—Yr wyth- nos ddiweddaf, ymgynnullodd pwyllgor gweith- iol cyfarfod llenyddol y lie uchod, i ddewis tes- tynau, ac i ardrefnu pethau ar gyfer euhwythfed gylchwyl flynyddol, yr hon a gedwir ar bob dydd Calan. Cedwir cyfarfodydd y gymdeithas yn yr Ysgoldy Gwladwriaethol. Cyfansoddir y pwyllgor o Eglwyswyr, Bedyddwyr, Annibyn- wyr, a Wesleyaid. Cynnaliwyd y blynyddoedd a aethantheibio gyfarfodydd llewyrchus, lluosoo, a llwyddiannus; ac, a chymmeryd i ystyriaeth y pleidiau, o'r rhai y gwneir i fyny y pwyllgor, gallwn ymffrostio gryn lawer ein bod yn lied lan oddi wrth ysbryd plaid a difriaeth; a dymunem o'n calon weled a chlywed am undeb a chyd- weithrediad o'r fath yn mhob llan a thref trwy Gymru oil. WYDDGRTJG.—Nos Iau, Gorph. I i, yn Ysgoldy y Trefnyddion Calvinaidd y lie uchod, ymgyfar- fu amryw o gyfeillion y Feibl Gymdeithas Fryt- anaidd a Thramor. Yr oedd yn bresennol y Parchedigion canlyiiol:-W. T. Thomas, J. M. Thomas, a C. R. Edwards; a Meistri B. Dowell, E. Davies, E. Griffiths, H. Jones, D. Dowell. Penderfynwyd fod Mr. Hugh Jones, argraffydd, i fod yn Uyfrgellydd o hyn allan yn lie W. J. Jones. J. Bankes, Ysw., o Balas Sychtyn, i fod yn gadeirydd y cyfarfod blynyddol nesaf. CLYDACH, HEBRON.— Cynnaliwyd cyfarfod blynyddol y lie uchod ar y Sabbath, y Heg o'r mis hwn, pryd y pregethwyd gan y Parchn. Daniel, Mynyddbach; Jones, Llangadog; a Roberts, Cwmavon. Cafwyd cyfarfod da yn mhob ystyr.

[No title]

MARWOLAETH Y PARCH. JOSEPH…

ABERTAWE A'R GYMYDOGAETH.

LLOFRUDDIAETH FRA WYOHUS,…

tw!Jddion ramgt.c