Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

Advertising

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

RESULTS RECEIVED TO-DAY.

IBWRDEISDREFI DINBYCH. !

Sefydlogrwydd y Gogladd.

Advertising

Dr Cynddylan Jones a Mr David…

Prawf Gyngherdd

[No title]

! Mr David Rhys at Southsea.

[No title]

Sefydlogrwydd y Gogladd.

News
Cite
Share

,¡ ail le-(cym).- Yr oeddynt yn mhell yn mlaen arnom. Yr wyf yn ei oddef yn rhwydd gyda theimlad o eiddigedd. Ed- rycher ar yr iaith maent wedi ei hyrddio ataf fi-(chwerthin)-bradychwr, ysbeil- iwr, lleidr, dyna engraifft-(chwerthin), Yn wir nid wyf yn meddwl ei bod yn gorwedd gyda hwy i gwyno oherwydd iaith, ac o'r holl iaith ddefnyddiwyd gan unrhyw rai, yr hyn gan yr Arglwyddi oedd y gwaethaf, oblegid nid oeddynt yn gwybod sut i ymddwyn—(chwerthin). Ond edrycher arnynt dros y wlad i gyd. Maent wedi dwyn i mewn i'r ymdrafod- aeth boliticaidd ddull o iaith na chedwir, yr wyf yn gobeithio, fel rhan sefydlog o'n cyfansoddiad, a dyna un rheswm paham yr wyf eisiau cael Ty'r Arglwyddi oddiar y ffordd yn fuan. Pe bae iddynt fyned yn mlaen fel hyn yn sicr nid wyf yn gwybod pa iaith fyddem yn ei defnyddio, ond yr wyf yn eithaf siwr fod yr iaith Gymraeg yn gwbl anghyfaddas i'r ymdrafodraeth boliticaidd yn yr hon y cymer yr Arglwyddi ran flaenllaw. Wel, gymaint a hyny am Mr Balfour a iaith anweddus (Llais: "Ceiliog y gwynt ydyw ef.") Wel pa ffordd y mae'n gyfeirio yn awr ?— (chwerthin uchel). Yn bersonol tybiaf mai ar i lawr-(cym). <LLE DYLEM EFELYCHU GERMANI. Dywedodd Mr Lloyd George fod Mr Balfour wedi bod yn hawlio credid am flwydd-dal i'r hen. Yn wir, o bob peth gwynebgaled ddywedwyd yn yr etholiad hon cymerai hyn y wobr gyntaf. Ni ddarfu Mr Balfour tra mewn swydd gymamt a chodi bys bach i estyn blwydd- daliadau- Ni addawodd Mr Asquith erioed mo honynt, ond efe ydoedd y dyn a'u cyfranodd-(cym). Dyna'r gwahan- iaeth yr ochr arall oedd y cyntaf i addaw; a'r Rhyddfrydwyr y cyntaf i gyflawni-(cym). Dechreuad yn unig oedd y blwydd-daliadau, ond yr oeddynt yn ddechreuad anrhydeddus. Yr oedd llawer iawn ychwaneg yn y Gyllideb. Un peth oedd ganddynt yn erbyn eu gwrthwynebwyr, sef ei bod yn wastad yn eu cymell i efelychu Germani, yn ei har- terion gwaethaf ond byth yn ei goreu, ac yr oedd i bob gwlad ei goreuon. Yr oedd gan Germani ochr dda,—ei chyfun- drefn addysg ardderchog, ei syniadau mawr am gyfluniad, a'i chynllun rhagorol o edrych ar ol y cleifion ond dywedai y Toriaid 64 Paham na chopiwch Ddiffyn- dollaeth Germani?" Yr hyn oedd yn golygu bara du a chig ceffyl. Dywedent yn mhellach "Paham na chopiwch conscription Germani a'i threuliau milwrol mawr ? Atebai yntau: "Bydd i ni efelychu Germani yn yr hyn oil sydd yn iawn ac yn oreu, fel yn ei chynllun mawr i ddarparu yn erbyh yr anffawdd oedd yn goddiwes tylwyth pan fydd y penteulu yn afiach, cynllun mawr o yswiriad cenedl- aethol—(cym).—Cyfeiriodd at yr hyn a ddarparai y Gyllideb ar ei gyfer, a chwyn- ai ei fod wedi ei droi allan trwy y drws cefn. Y ffaith am dani ydoedd nad oeddynt yn myned i wneyd unrhyw beth yn ffordd deddfwtiaeth eang yn y wlad hon hyd nes i gwestiwn Ty'r Arglwyddi gael ei setlo. Yr oedd dan argyhoeddiad cad- arn o hyn fel Cymro ac fel Rhyddfrydwr am lawer iawn o flynyddoedd, ac yn y cysylltiad hwn cyfeiriodd at dynged ewes- tiwn Dadgysylltiad i Gymru. Byddai yn rhaid ei gwneyd yn eithaf eglur os gwna'r Arglwyddi wrthod mesur a anfonwyd o Dy'r Cyffredin yr ail waith y cai ei anfon ar ei union at yr Orsedd—(cym uchel). Yn cyfeirio wrth derfynu at gwestiwn y tir, sylwodd mai diogelwch mwyaf i eiddo oedd boddlonrwydd y bobl Nid oedd ond un ffordd i roddi diogelwch i eiddo, sef trwy ei sylfaenu ar gyfiawnder, chwareu teg, a thrugaredd—(cym)—-yr hyn oedd polisi y Gyllideb—(uchel gym).