Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

Advertising

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

RESULTS RECEIVED TO-DAY.

IBWRDEISDREFI DINBYCH. !

Sefydlogrwydd y Gogladd.

News
Cite
Share

Sefydlogrwydd y Gogladd. Bwganod y Toriaid Dydd Mercher ymwelodd Mr Lloyd George a'r Drefnewydd, i gynorthwyo Mr David Davies a Mr J D Rees, yr ymgeis- wyr am y Sir a Bwrdeisdrefi Trefaldwyn. Ar ddechreu y cyfarfod esgynodd dirprwy- aeth yn cynrychioli 1,388 o dder-bynwyr pensiwn yr hen yn y Sir, y llwyfan i gyflwyno anerchiad i'r Canghellydd yn datgan diolchgarwch am y buddianauoedd-, ynt wedi eu derbyn trwy y Ddeddf hon. Yn ateb dywedai Mr Lloyd George mai llawenydd a rhagorfraint penaf ei fywyd oedd cael ei ddewis gan y Prif Weinidog i fod yn offeryn i gario trwyodd y cynllun mawr hwn o flwydd-dal i'r hen. EI ANERCHIAD. Wedi i'r cyfarfod basio pleidlais o ymddiriedaeth yn y Llywodraeth cododd Mr Lloyd George yn nghanol brwdfryd- edd anarferol. Dywedodd ei fod ar ei ffordd i'w etholaeth ei hun, yr hon yr ofnai yr oedd wedi ei hesgeuluso, oher- wydd yr oedd yn rhaid iddo yntau gael ei ethol. Ni wnai y tro iddo ef gynorthwyo eraill a chael ei adael ei hun—(chwerthin.) Yr ydym wedi cael dau ddiwrnod o'r I etholiad fawr hon, y fwyaf pwysig, yn ol p^b tebyg, ers blynyddau. Yr wyf yn I siarad gyda gwybodaeth o'r hyn ddis- gwyliai y Rhyddfrydwyr pan y dywedaf yn ddibetrus fod canlyniad y polio wedi bod yn hynod foddhaol-(cym). Os nad wyf yn cangymeryd yn fawr maent yn ar. goeli y bydd i'r Rhyddfrydwyr gael eu dychwelyd i rym gyda mwyafrif gweithiol sylweddol, i ailgymeryd y gwaith da yr oeddynt wedi ei ddechreu, a hyny, fel y credaf, o dan amodau gweithiol gwell. Mae sefydlogrwydd anwrthwynebol gwyr y Gogledd yn un o'r penodau mwyaf cvnhyrfus yn hanes y wlad hon, ac mae yn falch genyf ddeall fod yr unig ddwy etholiad Cymreig sydd hyd yn hyn wedi ei hymladd yn dangos fod y Cymry mor sefydlog a bryniau eu gwlad-(cym). Yr cedd y Rhyddfrydwr dros Abertawe wedi ei ddychwelyd gyda mwyafrif mawr, ac yr oedd newydd glywed fod ei gyfaill Syr David Brynmor Jones i fawn gyda mwyaf- rif yn rhifo rhai miloedd-^(cym). Felly mae Cymru yn myned yn gryf. Wei, beth oeddlyr etholiad yn ei feddwl. Gol- ygai yn y lie cyntaf fod yr holl fwganod wedi methu—(cym). Yn ei anerchiad yr oedd yr ymgeisydd Ceidwadol yn bwgwth canlyniadau erchyll os dychwelir mwyaf- rif Rhyddfrydol-gwrthryfel, Sosialaeth, anarciaeth, dadgorphoriad yr Ymherod- raeth, a goresgyniad Germanaidd—(cym a chwarthin). Y BWGAN GERMANAIDD. Mewn perthynas a'r goresgyniad Ger- manaidd, yr oedd un peth yn arwyddocaol yn nghanlyniad yr etholiad. Os oedd gan rywun le i ofni y Germaniaid gellid meddwl mai pobl Dwyrain yr ynys fyddai y rhai hyny—(cym a chwerthin). Yr oeddynt hwy yn edrych yn myw llygad y Germaniaid ar draws y Geiman Ocean. Wedi'r cwbl yr oeddynt hwy yn Trefald- wyn yn mhell iawn i ffwrdd. Pan ddeuai Dreadnoughts y Germaniaid credai na wnaent ddechreu tanbelenu Llanbryn- mair—(chwerthin uchel). Ond dyna Grimsby, gyda'r Humber yn agor i'r German Ocean, ac nid oedd pobl Grimsby yn ofni—(chwerthin uchel). Dyna Hull hefyd, dyna Yorkshire, dyna Newcastle— yr oedd y porthladdoedd mawr hyn ar yr ochr Ddwyreiniol, a'u Siroedd mawrion, yn hytrach na l?od yn ddychrynedig, wedi dychwelyd Rhyddfrydwyr lie y dychwel- asant Doriaid yn flaenorol, a'r rhai a j ddychwelasant Ryddfrydwyr am yr ail I dro, a wnaethant y tro hwn gyda mwyaf- rif cynyddol. Paham y gwnaed hyn ? Am y gwyddent yu berffaith dda tod ganddynt bob rheswm i deimlo yn hyder- us yn ein llynges fawr ac yn ein morwyr mwy fyth, ac nid oeddynt am gymeryd eu j dychrynu i dderbyn Tariff Reform a'r holl ï wag dybiaethau fyddai yn rhwym o ddwyn dinystr gwirioneddol ar Loegr. I MR BALFOUR AC IAITH DDRWG. Gwelodd oddiwrth Arweinydd yr Wrthblaid ei fod wedi cael ei synu at yr iaith yr wyf fi-(y Canghellydd) wedi ei I ddefnyddio. Wei, bu yn hynod dyner a chymedrol-(cym),-yn enwedig yn yr iaith a ddefnyddiodd at yr Arglwyddi. Ond yn sicr, cyn iddo ddod at hyn, a oedd yn gorwedd yn esmwyth gyda Mr Balfour i feirniadu iaith ?—(Nac oedd). Yr oedd wedi defnyddio iaith na ddarfu yr un Gweinidog o'r radd-flaenaf erioed ei hyvddto at wrthwynebydd politicaidd mewn unrhyw etholiad. Ni fedrai ef (y Canghellydd) adgofio am unihyw wlad- weinydd o'r radd flaenaf yr hwn mewn dad! boliticaidd a ostyngodd ei hun yn ? gymaint ag i aiw gxvrtnwynebydd yn gel- J wyddog—(cym). Felly pan yr oedd Mr I Balfour yn cwyno am yr iaith ddefnyddiodd yn yr etholiad hon yr oedd yn euog o ragrith gwynebagored, Ond edrychwch ar yr ochr arall. Ar bob peth yr oedd ei I blaid wedi eu trechu gyda rhesymeg, yn I yr ystafell etholiadol yr oeddynt wedi eu trechu. Ond mewn perthynas a iaiih rhaid fyddai i'r Rhyddfrydwyr gymeryd

Advertising

Dr Cynddylan Jones a Mr David…

Prawf Gyngherdd

[No title]

! Mr David Rhys at Southsea.

[No title]

Sefydlogrwydd y Gogladd.