Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

.Sefyllfa Glowyr yn Ngogledd…

GOHEBIAETH.I

RHOS.

News
Cite
Share

RHOS. MAP.WOLANTH. -Dydd Mercher (wythnos) bu farw Mrs Grace Griffiths, gweddw y di weddar Mr Evan Griffiths, Erwgerrig, a hi yn 66 mlwydd oed. Brodor o Lanuwchllyn, ger y Bala, oedd yr ymadawedig. ond yn Rhos treul- iodd y deugain mlynedd diweddaf o'i bywyd. Cymerodd y gladdedigacth le yn Mynwent y Rhos prydnawn Llun, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch S Jones (curad). MARWOLAETII.-Gofid dwys i lawer oedd deall fod Mrs E S Jones, priod Mr J Lloyd Jones, The Bungalow, Duke street, Rhos, wedi ymadael a'r fuchedd bresenol y Sabboth diwedd- af. "Nid oedd ond 31 mlwydd oed. Merch ydoedd i Mr Edward Parry, Builder, Ponkey. Yr oedd yr ymadawedig yn adnabyddus i gylch eang yn yr ardal, fel dynes ieuanc 0 gymeriad uchel, ac ymarweddiad dilychwin. Flynyddau yn ol cyflwynodd gryn lawer o'i hanfser i astudio arluniaeth, a daeth yn hyddysg a medius yn y ganghen hon. Ymbriododd a Mr J Lloyd Jones, a bu yn ymrwymiad hapus hyd nes i afiechyd gymylu ar hyny. Cymerodd yr angladd le prydnawn Mawrth diweddaf yn Nghladdfa y Rhos. Cynhaliwyd gwasanaeth yn Nghapel Calfaria, Duke street, yn cael ei arwain gan y Parch E Williams, Penuel. Heblaw tyrfa fawr yr oedd y gweinidogion canlynol yn bresenol:—Parchn E Mitchell, Ponkey R WiHiai|i8, Hill-street > a W Price, Wesleyaid. Wedi y gwasanaeth hebryngwyd y gweddillion i'r Gladdfa 11e y cynhaliwyd gwas- anaeth hynod ddwys, y Parchn E Mitchell, R Williams, a W Price yn cymeryd rhan ynddo. WY Anfonwyd amryw lfodeudyrdi, ac yn eu plith un gan ei hen ddosbarth yn Nghapel Noddfa, Johnstown, ac un arall gan weithwyr y John- stown Saw Mills, He y nuae Mr Jones yn Glerc. Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu oil yn eu trjillod. j

UNDEB ANNIBYNWYB. CYMRU.

Advertising

RUABON POLICE COURT.