Hide Articles List

11 articles on this Page

Advertising

—[ Jlppwyntiad Mr Herbert…

^OHEBIAETH. -

[No title]

"'_.-.....--------__-"--_...._-------j…

News
Cite
Share

j BEIRNIADAETH I Traelhawd byr 3 chryno o Feirdd ym- adwedig Sir Ddinbych. Y mae y beirniaid wrth gloiianu y cys- tadleuwyr wedi ystyried y gosodiadau dilynol I-Dymunoldeb gair o ragarweiniad er Z-1 awgrymu cyniiun. 2âDoethineb mewn detholiad. 3âMedr i iawn drefnu a chymmathu yr hyn a loffwyd o awduron. 4.-Cywirdeb y ffeithiau a groniclir. 5-Cymesuredd y bywgraphiadau yn ol saton barddasâanwybyddu y Silod 6âY pwysigrwydd na bo'r bardd yn ym- golli, tra y traethir fanion amgylchiadau cyffredin bywyd. Daeth i law bump o draethodau yn dwyn yr enwau a ganlyn :-Hanesydd, Philemon, Gwydion ab Don, Rhiwallon, a Hywel Fychan. Hanesydd:-120 o dudalenau, a 102 o Feirdd. Rhydd Fynegair ar y trothwy, a diolchwn iddo. Hefyd ychydig linellau o ragmadrodd a nod y meusydd y bu yn Iloffa ynddynt. Ysgrif ddiofal, a mynych yn aneglur-y Ilythyrenau fyth a hefyd yn anorphenol. Rhydd y brif lythyren N yn lie yr M yn ddieithriad. Ymdreched i ddod yn feistr ar ysg-ri-fen- gron, glir. Cynwys ei restr o feirdd ochr yn ochr gewri, cyffredinolion, ac eiddilod, yr olaf rai ag y buasai yn oreu eu gadael yn nhir anghof. Gofaled Hanesydd, rhag def- nyddio mwy, frawddegau diwerth o'r rhyw a ganlyn Costiodd lawer o waith chwilota.' Nid ymffrostiaf ddarfod i mi ddihys- byddu y pwnc.' Ond credaf fod yr ym- gais yn onest a theg." Mae traethawd ar ei fantais hebddynt. Gallaf ysgrifenu yn faith ar y cymeriad doniol." Dichon byny-ond nid oes a fyno beirniadaeth ond a'r hyn a ysgrifenwyd. Dywed fod Tudur Aled o urdd y Brod- yr Du,' pan mewn gwirionedd un o'r 4 Brodyr Llwydion ydoedd. A chaniattau fod I Davies (Tahiti) yn fardd, yr unig gysylltiad rhyngddo a Sir Ddinbych oedd cadw ysgol am dymhor yn Llanrhaiadr yn Mochnant. Dr Davies, os bardd yntau, ei unig gysylltiad a Sir Dinbych oedd iddo fod yn Esgob Llanelwy am bedwar mis. Gesyd Llyfrbryf yn mysg y beirddâNid bardd bryf, ond beirniad llygadgraff, lien- or chwaethus, ac argraffydd destlus, yd- oedd ef. Rhydd Scorpion gyda'r beirdd, ond yr unig ddangoseg o'r bardd a ddyry yw y frawddeg" yr oedd, ynJarddda." r Chaos o gymysgedd yw ei draethawd, a dyrys iawn i deithio drwyddo. Cydnab- yddwn ei lafur, a diau y cafodd ei elw wrth gyfansoddi. Bydded iddo ymarfer ei hun i drefn- usrwydd. Philemon'-38 o dudatenau a 48 o feirdd. Del yr ymwelydd hWn yn wylaidd a difrol, heb gymaint a boreu da rhag- ymadrodd o gwbl. Trofna el feirdd nid yn ot trefn y wyddor, gan ddechreu gyda Tudur Aled. ¡" Ysgrif eglur a lied ofalus, Cymraeg da, cyfansoddiad cryno, taclus, twt. Y mae ei ddyfyniadau yn dda. Y mae yn ei le pan yn dweyd mai i urdd Francis Sant y perthynai Tudur Aled. i, Nid i Sir Ddinbych y perthyn leuan Glan Geirionydd, ond i Sir Gaernarfonâ Caer, a Fflint. Ceisied ddefnyddio prif lythyren i ddechreu brawddegau. Beth a olyga wrth y frawddeg Enaid mawr a thafod bychan oedd ei hanfod ef ? Sylwed, tra yn rhoddi tudalen i Maelor- ydd, nid oes i Talhaiarn a Maes y Plwm ond 14 0 linellau, ac nis rhoddir i Caled- fryn a Hiraethogond tudalen yr un. Am Talhaiarn dywed Yr oedd yn ymgeisydd aflwyddianus ar awdl y Greadigaeth fyth- gofiadwy yn He awdl fythgofiadroy y Greadigaeth. Gwydion ap Don43 o dudalenau, a 48 o Feirdd. Ysgrit rwydd ac eglun Rhydd restr o'i awduron. Detholiad da wedi ei grynhoi yn dda. Rhagymadrodd clodwiw. Rhenir y beirdd ganddo i gyf- nodau yr Awdl, y Cywydd, a'r Mesur Rhydd. Y mae hyn oil yn nglyn a'i frawddegiad da, a'i ddullwedd, yn eb- rwydd yn denu. Ond y mae iddo ei ddiff- ygion amryw. Hefyd, fel yr a rhagddo a. yn ol! Nid yw yn meddianu ei hun fel ar y qychwyn, ond ychydig yu frysiog. -yc y i.g,,YR' siog' Gallasai hwn wneyd yn berffeithiach. Gesyd Gwalchmai yn ei lechres. Yn Nghonwy y ganwydâie, ac yn Llandudno y bu fyw y rhan fwyif q 9i oes. Nis gall Diribych ei hawlio. Eo, J Jones (Iola) aanwyd yng Nghon- wy, a fu fyw yn Sir Fflint, ac a fu farw yn Mhagillt. t leilah o Leyn a anwyd yn Llaniestynâ Cenhadwr yn ludia'r Gorliewin, a Deheu- dir Amerig. Gwir Iddo fyw ychydig yn Sir Ddinbych. loan Ddu, a anWyd yn Llandudno, fu fyw yng Nbonwy, Llan- dudno drachefn, g«n orphen yn y Wydd- grug, ppb man ond a ddylasai fod !â Owain Cyfeiliog, Maldwyn ai piau-Am Gutun Owain, genedigol o Sir Fflint, ac a fu fyw yn Mynachdy Maes Glds. Onid eiddo Fflint ?-»~Dafydd ab Emwnt, gen- edigol o Sir Fflint a'i breswyl ynddi, yn atchlysurol i Ddyflfryn CIwyd. Hawl gwan- aidd sydd gan yr uchod t fod yn Ddin- bychiaid. Byr yw Gwydion ar Hiraethog. Cwta iawn ar lorwerth Glan Aled. Llan- ybodwelâSir Ddinbych ?âonid, yr Am. ..1 c," i ,yth;g? Dywed am amryw cytansodd- odd iawer," ond attolwg paham nas dynodir yn benodol ? Rhiwallon.âgo o dudalenau, 84 o Feirdd. Dwywaith gymaint a Gwydion. Mewn ychydig- o linellau o arweiniad, dywed "Yn mhlith siroedd Cymru, does yr un wedi bod yn fwy enwog yn y gorff- enol am ei beirdd na Sir Ddinbych." Beth ddywed y gweddill o'r Siroedd ? Rhwng Rhiwallon a hwy. Ysgrif dda, rededog yw eiddo Rhiwallon. Rhestra yn ol trefn y Wyddor. Traethawd syml o ffeithiau, wedi eu britho a blwyddiad- aeth. Nid arddengys un math o ddyfyn- iadau. Croniclydd yw Rhiwallon a esyd gerbron ffeithiau olynol, heb grwydro uac ymflflamychu. Hwn yw yr unig un a esyd Farddones yn y Cwmni (Hannah Bellis, Fflint). Dywed fod Tudur Aled yn fynach o urdd Dominice, yn lie St Francis. Am Richard Bonnor dywed Go brin y gellir ei alw yn fardd. Talai yr awen ynvweliad ag ef weithiau." Paham y dodir ef yn mhlith y y Goruchafion ydynt yn byw a bod mewn Barddaeth ? Dywed am Hugh Davies, Dywedir fod ganddo rai Emynau godid- og," ac am Ap Cledwen, Enillodd lawer buddugoliaeth, ond dim i wireddu y naill na'r llall-Rhywbeth yn debyg i'r hen bregethwr wrth ddesgrifio loan, a ddy- wedai, "dyn bacho nice oedd loan!" Sion y Potiau, daeth yn adnabyddus fel bardd." Pa fodd ? Yn mha ddull ? A dymar hyn a ganlyn Cyhoeddodd al- manaciau, a chyfieithiad o Daith y Per- erin Wei, hwyrach fod dychymyg bardd ac almanaciaeth yn ddwy chwaer a bod bywyd o bererindod yn agweddu i'r gwir hardd Wel eto, John Edwards. Cyt- ansoddodd alawon o gryn deilyngdod," a Gruffydd ab Ieuan, Y mae amryw gan- ladau o'i eiddo-mewn llawysgrif Gym- reig." Da fuasai ycllydig eiriau er egluro y cyfryw fynegiadau rhad. Am Iorthyn Gwynedd, dywed fod ganddo gryn hoffder at farddoniaeth,-a chyda hyny nid oes sill am dano fel bardd Ni rydd i Dudur Aled ond 12 llinell, i loto Goch ond 16- ond i A Bonnor 23, a 31 i John Jones, Llangollen, a 36 i Ab Ithel. Nid cym- mesur hyn. Am Twm o'r Nant, dywed, Anhegwch yw ei gymharu i Shakes- peare." Gwir, mor wir, fel mai ffoledd yw brawddeg fel hon ar bapur. Hywel Fychan,â72 o dudalenau Fools- cap, 102 o Feirdd. Hwn yw y traethawd meithaf, a'r mwyaf cyflawn. Arddengys ol llafur mawr. Ysgrif dda, hawdd ei darllen. Gyda llaw y mae y Traethodwr, yr hwn drwy ddiofalwch, a ryddei fedd- yliau mewn arwyddluniau {hieroglyphics) dyrys eu darllen, yn haeddu gwg cyfiawa- der. Gwanaidd ei ragymadrodd, ac yn gorffen yn siomedig. Mwy chwaethus yw Rhiwallon na hwn. Y mae gan Hywel feirdd na fedd Rhiwallon, ond o'r tu arall y mae gan Rhiwallon athrai na fedd Hywel. Dull o'i eiddo ei hun yw ei nodiadau esboniadol ymaac accw. Rhydd hwn groes goch ar gyfer beirdd gradded-, ig Eisteddfodau CaerwysâAnrhydedd nid bychan. lawn y dywed mai i'r Brodyr Llwydion, y perthynai Tudur Aled. Am Nefydd dy- wed ei ddwyn i fyny yn y grefft o wneyd esgidiauâdim sill am dano fel bardd! Efe yn unig a gyfeiria at gofgolofn Tudur Aled. Dywed am I D Ffraid y bu am dair blynedd a'r ddeg yn pregethu gyda'r AnnibynwyrâNid ffaith hyn. Dyry y Llyfrbryf ac Emrys ap I wan yn mhlith ei feirddâGwell eu hanfarwoli mewn cylch arall. Nid cymmesur 21 o linellau i'r clerfardd Ellis y Cowper, 20 i Gutyn Gwynedd, 16 i Ieuan y Foelas, ac i Thos Jones, Dinbych, a Trebor Mai, ond ryw 8 neu 9 llinell yr un Rhydd i Hiraethog dudalen, ac i Glanmor i| dudalen. Cofier fod rhagor rhwng seren a seren mewn gogonian t. Am Twm o'r Nant wrth gyfeirio at y modd y gelwir ef yn "Welsh Shakes- peare," dywed, Fe allai. nad oedd yn I ormod anrhydedd arno Gwell fuasai sychu y pin cyn ysgrifenau hynyna. Ffil- oreg satw yw y sylw. Nid oedd y ddau yn byw yp yr un byd Beth a olyga Hywel wrth frawddegu fel hyn ? Corph IJenyddol b.arbaraidd ynwir alluog mewn barddas, effaith anllad y gorchymyn ciaidd" Eheda ei awen heb ifrwyn amy march a'i bertbynas-dywedir y rhaid attal ei 6n a genfa ac a ffrwyn." Rhwng lRhiwallon a Hywel y mae y gydymgais derfynol. Gatwn sytw fod y beirdd caolynol, a rhai o fri, gan Hywel, na enwir gan Rhiwallon Hywel ab Ein- ion, Talhaiarn Brydydd Mawr (awdwr ffurfweddiyrOrsedd), Llywarch ap Llew- elyn (un o feirdd godidocaf y canol oesau), Tyiiii6 Sant (Bardd ac Esgob Llanelwy), Meredith ap Rhys, Cynddelw Brydydd Mawr (bardd penaf ei oes), Dafydd Ddu Htraddug, Gwilym Ganoldref &c. Ar ol cymeryd pobpeth i ystyriaeth, yr ydym yn cynghori y Pwyllgor, os y flordd yn rhydd, i. roddi gwobr gyfartal i Hywel a Rhiwalloii. TWois f Richard. Robert Jones.

OYFKROHIAD YR ORSEDD.1

GWEITHRED ANFAD YN LLANRWST.

RHOS PARISH MEETING.

'RUABOlf' POLICE COURT.

Crime in Denbighshire.

Advertising