Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Am Gymry .Y Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry .Y Llundain. Y PWYLLGORAU.—Yr wythnos hon bu gwahanol bwyllgoran Eisteddfod 1909 yn trefnu eu rhaglenni. Mae argoelion y ceir rhai testynau allan cyn adeg y Pasc. GWYL BATTERSEA.—Mewn colofn arall ceir rhagor o fanylion am Eisteddfod Battersea. Da gennym ddeall fod y rbagolygon yn addawol, a dylai pob un sydd am gystadlu anfon ar fyrder at yr ysgrifenyddion. CYNGERDD JEWIN.-Nos Iau nesaf cynhelir y cyfarfod mawr hwn. Dyma un o gynull- iadau mwyaf poblogaidd yr Eglwys ar hyd y flwyddyn, a chyda'r fath atyniadau ag a geir eleni ar raglen y cyngerdd, diau y bydd y lie yn orlawn. CEDYRN YR AREITHFA.-Mae Jewin wedi bod yn ffodus iawn eleni yn newisiad y ddau bregethwr sydd i wasanaethu yn y cyfar- fodydd pregethu blynyddol ddiwedd yr wythnos nesaf, Ionawr 18 a 21. Cydna- byddir y Parch. John Williams, Brynsien- cyn, fel "John Elias" yr oes hon, ac y mae'r Dr. Moelwyn Hughes yn un o ysgol- heigion goreu yr enwad yn ogystal ag yn "bregethwr hynod o alluog. PRIODAs.-Dydd Mercher yr wythnos ddi- weddaf, sef dydd Calan, unwyd mewn glan briodas David Jones, Buarth Road, Aberyst- wyth, a Rahel, merch ieuengaf Mrs. Roderick, 2, Maury Road, Stoke Newington, a Bow Street, ger Aberystwyth. Yng nghapel Wilton Square cymerodd yr amgylchiad dyddorol le, pryd y gweinyddwyd gan y parchus weinidog, sef Parch. Gwilym H. Havard, M.A.B.D. Rhoddwyd y briodas- ferch i ffwrdd gan ei brawd Robert, a bu Miss Annie Morgan, Lambeth, yn gwein- yddu fel llawforwyn. Cafodd Mr. David Jones gynorthwy Mr. David Rees, Mare Street, Hackney. Yn ystod y dydd yma- dawodd y par ieuanc am Westcliffe-on-Sea, lie treuliant eu mis mel. Yr oedd yr an- rhegion yn lliosog ac yn ddrudfawr. Bwr- iada Mr. a Mrs. Jones ymsefydlu yn 406, Forest Road, Walthamstow. Oes hir a phob bendith a'u dilyno yn eu cartref newydd.

[No title]

Advertising

A BYD Y GAN.