Hide Articles List

2 articles on this Page

Cleber y Clwb.

News
Cite
Share

Cleber y Clwb. Ar ol seibiant y Nadolig a'r Calan yr oedd cynulliadau y clwb wedi dod i'w lien gynefin yr wythnos lion. Troais i mewn ddechreu'r wythnos, pan yn dychwelyd o'r wlad, a chefais amryw o aelodau pwyllgor yr Eisteddfod yno yn paratoi gogyfer a gwaith yr wythnos. Deallais fod cryn lawer o waith yn cael ei drefnu ganddynt y dyddiau hyn, ac fod rhagolygon y ceir rhyw lun o raglen allan cyn y Sulgwyn. Byddai hynny yn waith canmoladwy hefyd, oherwydd os ydynt am. gael rhai gweithiau pwysig yn yr adran lenyddol, dylai'r cyfansoddwyr gael rhagor na blwyddyn o amser i'w paratoi. Ond feallai na fydd Pwyllgor Llundain ddim mor uchelgeisiol a rhai pwyllgorau yn y wlad. Clywais am un cynygiad a wnaed ynglyn a'r Eisteddfod rhyw bum mlynedd yn ol, a haedda ei gofnodi. Awgrymai un brawd y dylid rhoddi pum gini o wobr am waith ar Hanes Cymru ar gynllun Green's History of the English people. Gwir fod angen am y fath waith, ond nid drwy'r Eisteddfod Genedlaethol y mae i ni ei sicrhau, ac ni wnai gwobr o bum gini ddim hudo neb i'r maes, gallwn dybio. Byddai yr un mor afresymol gweled gwobr o gini am awdl o ddwy fil o linellau ar Y tanddaearolion leoedd Ond beth bynnag fydd penderfyniadau y gwahanol bwyllgorau, hyderaf y dygir digon o'r ysbryd Cymreig i'r holl weithrediadau fel ag y gellir sicrhau Eisteddfod Gymreig ym mhob ystyr. Mae'n burion peth i ni waeddi Ein hiaith ein gwlad a'n cenedl," ac argraffu'r hen frawddeg Oes y byd i'r iaith Gymraeg ar barwydydd ein hystafelloedd os ydym i ddwyn llawer o elfenau Seisnig i'r holl weithrediadau. Clywais am rywun yn awgrymu y priodoldeb o gael beirniaid Seisnig i gyd ar yr adran gerddorol, a chael cyfansoddiadau Seisnig i gystadlu arnynt, am nad oes gennym ni nac unawd nac un math o gyfansoddiad cerddorol teilwng o gael ei berfformio (dyna'r gair mawr) o flaen cynulleidfa ddysgedig a pharchus o G-ymry Llundain! Rhaid i'r pwyllgor osod y pastwn ar ben pob ynfytyn a ddwg y fath heresi i fewn i'r pwyllgorau hyn. Nid ydym heb ein diffygion, mae'n wir, ond Duw a'n gwaredo rhag efelychu'r Sais ym mhob peth, yn enwedig yn ei gynlluniau Eistedd- fodol. Paham y myn rhai pobl i ni gredu yn barhaus fod rhyw ragoriaeth arbennig yn perthyn i'r hyn a alwant y byd Seisnig Own mai ymgais fawr llawer o'n marsiand- wyr cyfoethog yw dod yn fath o efelychwyr i'r cyfoethogion Seisnig. Yn ystod yr ugain -mlynedd diweddaf hyn yr wyf wedi cael cyfle i sylwi ar y Cymryâos gellir eu galw yn Gymry hefydâcyfoethog sydd wedi rhoddi ffarwel i'r byd Cymreig a myned i fewn am yr hyn a alwant yn Society." Nis gellir dychmygu am ddim mwy truenus! 03 bu ystyr erioed i'r frawddeg Seisnig H failure iii life," rhaid addef mai yn y cysylltiad hwn y gwelais i y methiantau mwyaf difrifol o bob methiant. Maent yn colli pob nodwedd Gymreig, ac yn methu yn lan a meddiannu yr arddull Seisnig, a safant fel hurtiaid dilun rhwng deufyd-yn ddir- mygedig gan eu cydgenedl ac yn destynau gwawd gan y Sais ar bob amgylchiad ond pan fydd angen eu hamddifadu o'r ychydig ,"bres sydd ganddynt. Os yw ein hadran gerddorol mor ddiffyg- iol ag y myn rhai Sais-addolwyr ei bod, a'i nid gwaith yr Eisteddfod ddylai fod i wella y cyfryw ? Paham na roddir rhagor o wobrwyon yn flynyddol am nifer o ganeuon sieu ganigau, a rhyw waith teilwng o gael ei gyflwyno mewn cyngerdd uwchraddol ? Pe baem i drefnu rhagor o'r pres am gyfansoddi a llai am ganu ar y llwyfan, feallai y deuai gwell Uewyrch ar bethau ac y cawsem ami i Sais i gystadlu fel y gwelir yn awr yn yr adran leisiol ? Ond hwyrach fod y Sais mor brin o gyfansoddwyr ag yr ydym ninnau yng Nghymru. Yn wir, does yr un gwaith mawr wedi cael ei gynyrchu gan yr un cyfansoddwr Seisnig yn ddiweddar, fel mai annoeth yw gwaeddi dilynwch esiampl y Sais" pan nad yw hwnnw yn gwneud dim er ein dyddori na'n hyfforddi. Ap SHON.

A BYD Y GAN.