Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

------GWAITH Y FLWYDDYN.

News
Cite
Share

GWAITH Y FLWYDDYN. Ar gychwyn 1908 priodol yw taflu trem ym mlaen ar y gwaith a ddisgwylir arnom fel cenedl i'w gyflawni o fewn ei dyddiau. Nid oes angen creu unrhyw ragleni newydd, na meddwl am benderfyniadau newydd i'w gosod mewn gweithrediad ar ddechreu blwyddyn arall. Mae gofynion pwysicaf ein gwlad wedi eu gwyntyllu drosodd a throsodd gennym ers blynyddau lawer ond ar ol yr holl lafur a siarad mae'r hen feichiau yn aros heb eu symud. Gellir enwi ami i bwnc sydd wedi bod yn destyn myfyrdod a phryder i ddwy genhedlaeth, o leiaf, cyn y genhed- laeth bresennol; ac maent yn aros o hyd. Fe gyfyd to ar ol to i'n cynrychioli yn y Senedd, fel gwleidyddwyr aiddgar; eto i gyd, mae rhaglen y blaid sydd gennym yn Westminster heddyw, yn eangach ac yn fwy llawn nag ydoedd rhestr gofynion y bobl oeddent yno ar ein rban rbyw ddeugain mlynedd yn ol. Cafodd ein teidiau weini- dogaeth nerthol o bulpud ein gwlad, a bu seintiau Duw yn ein tir yn ceisio ymlid pob aflendid a phechod i ffwrdd, ond y mae mwy o angen am y pulpud heddyw nag erioed, er fod nifer ein doniau wedi lliosogi ddeng- waith mwy. Bu pryderon masnachol a thrafferthion tirfeddianol yn poeni ein hyn- afiaid, ac mae'r un hen gwynion yn aros i flino y genhedlaeth heddyw, fel y gellir addef gyda phriodoldeb fod gwaith y genedl heddyw mor fawr ac mor bwysig ag y bu erioed mewn hanes. Gwir ein bod wedi cael rhyw fath o gydnabyddiaeth cenedlaethol yn ddiweddar ynglyn ag addysg ein hieuenctyd, ond er penodi swyddogion Cymreig rhaid addef nad yw'r genedl rhyw lawer iawn yn nes ymlaen. Pan roddir i ni un fendith gydag un Haw, defnyddia'r Sais ei law arall i dynnu rhyw hawliau oddi- wrthym. Gwelir hyn yn eglur yn yr an- foddlonrwydd cyffredinol ynglyn a'r ysgolion yng Nghymru heddyw, a rhaid i'n cynrycb- iolwyr Seneddol, yn ogystal a'n harweinwyr cenedlaethol gartref, fod ar eu heithaf i sicrhau fod yr holl gyfundrefn cyn hir i ddod tan reolaeth hollol rhyw Gyngor can- olog Cymreig. Saif pwnc Dadgysylltiad yn yr unfan, os nad yn wir mewn cyflwr mwy ansicr nag y bu ers blynyddau lawer ond na ddigalonwn Nid yw'r genedl i golli y fendith bon, oherwydd mae gwaed gormod o'r hen gewri wedi ei dywallt dros y cwest- iwn i'w adael yn ddisylw gan y plant; ac am gwestiynau Liafur rhaid i'r rhai hyn oil gael eu penderfynu yn hollol o hyn allan ar gynlluniau Cymreig os am fod o wir fen- dith i mi yng Nghymru. Ydyw, mae blwyddyn 1908 yn argoeli bod yn flwyddy weithgar, ac, ond i'n harweinwyr fod yn effro, y mae gobaith y gellir ysgabo rhai o'r cwynion oddiar raglen ein gofynion, fel ag y gellir cychwyn 1909 gyda mwy o galondid a mwy o hyder nag y cychwynwyd llawer or blynyddau diwerth a gawsom i agor gwawr y ganrif hon. Pob llwydd, felly, i'n liafur fel cenedlaetholwyr yn ystod ei dyddiau

Yr hen stori.

[No title]