Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

., NODIADAU LLENYDDOL.

News
Cite
Share

NODIADAU LLENYDDOL. Golygydd "Cymru." Bu'r si ar led beth amser yn ol fod Mr. O. M. Edwards yn rhoddi heibio ei gysyllt- iadau golygyddol a'r cylchgronau Cymreig, ond deallwn yn awr nad yw yn bwriadu ymadael a gofal y misolyn gwerthfawr hwn. Yr unig gyfnewidiad a wnaed ar ddechreu'r flwyddyn oedd, penodi Miss Winnie Parry i fod yn olygydd ar Cymru1r Plant, a gallem feddwl fod y penodiad yn un hapus iawn. Mae y llenores ddoniol hon wedi cyfoetliogi llawer ar dudalenau y cyhoeddiad bach a gyhoeddir mor rheolaidd gan Mri. Hughes a'i Fab, a gwyr yn briodol beth yw'r arlwy a ddisgwylir o fis i fis gan y plant. Mae Mr. Edwards ei hun yn bwriadu ychwanegu at nifer llyfrau Cyfres y Fil cyn dyfodiad yr haf, a, rhwng pob peth ai gilydd, gallem feddwl fod ei amser segur yn bur ychydig. Parch. Owen Evans, D.D. Dyma un o ysgrifenwyr mwyaf cynrychiol yr enwad anibynol, os nad yn wir y pulpud Cymreig yn gyffredinol. Ar hyn o bryd y mae'n brysur wrth y gorchwyl o baratoi ei ddegfed gyfrol drwy'r wasg. Ser y Dwyrain" yw penawd ei lyfr newydd, ac ymdrinia yn bennaf a hanes boreuol Crist- ionogaeth. Mae Dr. Evans yn ysgolor gwych, medda- lawer iawn o athrylith llen- orol, a gwyr hefyd beth yw prif angen y darllennydd Cymreig. Nid rhyfedd fod ei weithiau yn cael derbyniad parod gan y cyhoedd. The Nationalist. Ceir dwy ysgrif o gryn ddyddordeb yn rhifyn Ionawr or misolyn hwn. Yn un rhoddir hanes diwedd Llewellyn ap GrufTydd, fel y trechwyd ef trwy frad yn ardal Llanfair- it muallt; ac fe ddylai plant ein hysgolion gael y bennod hon yn eu llyfrau hanesyddol er mwyn dangos iddynt mor anghywir yw llyfrau hanes y Sais. Yr awdwr yw Owen Rhoscomyl, gwr sydd yn gwneud llawer iawn yn y dyddiau hyn i osod hanes Cymru. ar seiliau cenedlaethol. Mewn ysgrif arall edrydd Mr. L. J. Roberts, un o arolygwyr yr ysgolion, lawer o ffeithiau dyddorol am gys- ylltiadau y llenor Seisnig, Mr. Thomas de Quincey a Chymru. Lied gyffredin yw nodiadau y Gol. am y mis, ond ceir darlun tarawiadol o Syr Marchant, yr hyn sydd yn fath o iawn am brinder cynnyrch ei ysgrifell. ZD Celtia. Dyma rifyn Ionawr ar y bwrdd, ac yn addaw yn dda ar ddechreu blwyddyn arall. Llwydda'r golygydd i gael ysgrifau o ddydd- ordeb i'r holllwythau Celtaidd, ac er mai yn Saesneg yr argreffir ef, gan mwyaf, y mae i'r ieithoedd Celtaidd eu lie hefyd.

[No title]

Advertising