Hide Articles List

2 articles on this Page

EISTEDDFOD BOXING NIGHT.

News
Cite
Share

EISTEDDFOD BOXING NIGHT. Erbyn hyn mae Eisteddfod flynyddol Undeb Ysgolion M.C. Llundain ar adeg y Nadolig yn hen sefydliad yn ein plith. O'r hyn lleiaf mae dros 34 mlynedd er pan eaed y cyfarfod cyntaf, ac mae hynny yn gyfnod maith i unrhyw fudiad ymhlith Cymry Llundain. Yn wir does yr un Eis- teddfod arall wedi goroesi rhyw banner dwsin o gynulliadau cyn y rhaid ad-drefnu'r cyfan neu alw cyfarfod mawr i wastadhau'r colledion ar ei hol; ond am wyl y Boxing Night, y mae wedi myned ymlaen yn ddi- iwlch ar hyd y blynyddau, weithiau gyda rhwysg ag urddas, brydiau ereill yn dawel C, ac allan o swn y miloedd, eto i gyd yn par- hau i wneud rhywbeth tros gadw'r Undeb yn fyw a chadw'r Iaith Gymraeg mewn bri ymhlith plant y genedl pan yn alltudion o'u gwlad. Fel bu'r hap eleni caed cyfuniad hapus yn y gwr a lywyddai y cynulliad yn y Shore- 4itch Town Hall. Er feallai nad yw'r cyhoedd yn adnabod Mr. Edward Jones (lorwerth Ceitho) yn dda, nis gellid rhoddi'r fath anrhydedd ar ysgwyddau teilyngach. Efe roddodd gychwyniad i'r wyl rbyw 35 mlynedd yn ol, ac o'r adeg honno hyd yn awr efe yw'r gwr sydd wedi cadw i fyny safon ei gwedd lenyddol ar hyd y blynyddau. Bu'n enillydd droion ar ei phrif-draethodau, a chyda diolchgarwch yr addefai y nos hon mai i'r diwylliant a'r ymarferiad a gafodd drwyddi hi y llwyddodd i ennill prif wobr yr Eisteddfod Genedlaethol beth amser ynol. A barnu oddiwrth y cynulliad eleni, y mae'r Eisteddfod hon yn ad-enill ei phob- logrwydd. Daeth torf fawr ynghyd i Shore- ditch Town Hall nes llanw'r adeilad eang, a chan mai trannoeth i'r Nadolig ydoedd, yr oedd pawb mewn cywair hapus a siriol, yr hyn gadwodd y cyiarfod i fynd gyda bias o chwech o'r gloch hyd i'r awrlais daro hanner nos. Beirniaid y flwyddyn hon oeddentâAr y canu, Mr. David Evans, Mus. Bac., Caer- dydd; llenyddiaeth, Parch. J. Machreth Rees areitheg, Parch. E. T. Owen, Batter- sea a'r amrywiaeth, Mrs. J. L. Evans, Holloway Road. Gofalwyd am y cyfeiliant gan Mr. Evan Jones, Falmouth Road, a gwasanaethodd Mr. D. R. Hughes, o'r un lie, fel arweinydd y gweithrediadau. Yr oedd y cystadleuwyr yn lliosog, fel arfer, a chaed rhagbrawf ar amryw o'r darnau, a diau y gallesid cwtogi 11awer ar yr amser pe cynhelid rhagbrofion ar gystad- leuon ereill hefyd, a phrin yr oedd an gen galw am bed war i gystadlu ar lwyfan yn gyhoeddus ar ol cael rhagbrawf ar un peth. Y buddugwyr yn y gwahanol adranau oeddent a ganlyn :â Unawd ar y berdoneg, gwobr 10/6. Goreu, Miss Annie Evans, Falmouth Road, disgybles i Mrs. D. R. Hughes. Prif draethawd, gwobr 30/ saith o gystadleuwyr, a'r oil o safon uchel. Goreu, Mrs. Wardell, Canning Town. Traethawd i ferched, gwobr 21/ wyth o gystadleuwyr. Rhanwyd rhwng Mrs. Wil- liams, cenhades yn yr East End, a Miss Annie Williams, Holloway. Traethawd i rai dan 21 oed, gwobr 21/. Dau draethawd, a'r goreu oedd eiddo lorwerth," ond ni atebodd i'w enw. Adroddiad, i rai dan 16 oed. Goreu, Miss Lizzie Davies, Jewin; ail wobr rhanwyd rhwng Miss A. Gwendolen Davies, Camber- well, a Bessie Thomas, Mile End Road; 3, Miss Cassie Jones, Jewin. Unawd contralto, gwobr 21/. Goreu, Miss Enid Edwards, Clapham Junction. Dau englyn, gwobr 7/6. Goreu, Mr. Williams, Mile End. Unawd i rai dan 16 oed, gwobr 7/6. Rhanwyd rhwng Misses Mary Morgan a Lizzie Davies, Jewin. Pedwaiawd, Tell me, Flora," gwobr 30/. Goreu Clapton Quartette (parti o Saeson). Cystadleuaeth ar y Gwniadwaith Blouse, Mrs. Wardell, Canning Town. Baby's frocl, Miss Lalla Thomas, Hackney. Cyfieithiadau o'r Gymraeg i'r Saesneg, 27 yn cystadlu. Goreu, Marcuis o Glyn Eiddwen," sef Mr. Enoch Morgan, Waltham- stow. Eto o'r Saesneg i'r Gymraeg, 17 yn cys- tadlu. Rhanwyd rhwng Llew," Mr. Tom Jenkins, Battersea Park Road, a Celt," yr hwn ni atebodd i'w enw. Cystadleuaeth yr Ear Test i'r cerddorion. Goreu, Parch. J. Ishmael Thomas, B.A., Romford, Essex. Adroddiad i rai mewn oed, gwobr 21/. Goreu, Mr. W. G. George, Jewin. Unawd soprano, gwobr 21/ Miss Annie Thomas, Morley Hall. Unawd tenor, gwobr 21/. Goreu, Parch. J. Ishmael Thomas, rheithor Stamford Rise, Essex. Pryddest, Pren y Bywyd," gwobr 21/. Tri o gystadleuwyr. Rhoddwyd haner y wobr i Mr. T. R. Evans, Hammersmith. Cyfansoddi ton, gwobr 10/6. Goreu, Brysiog," ond gan mai un o Gymru ydoedd y yr oedd allan o'r gystadleuaeth. Y goreu o Lundain oedd Spontini," ond ni atebodd i'w enw. Y brif gystadleuaeth gorawl. Ni ddaeth ond dau gor ymlaen, sef Clapham a Fal- mouth Road. Ar ol cystadleuaeth galed, aeth y wobr i'r olaf, tan arweiniad Mr. Evan Jones. Unawd baritone, Y Bachgen Dewr," gwobr 21/ Mr. J. Hughes, City Boy," City Road. Y goreu am enwi y deuddeg pregethwr mwyaf enwog oedd Mrs. Claridge, Falmouth Road. Ni ddaeth ond un parti o 12 ymlaen i'r gystadleuaeth olaf, yr hon a gaed ychydig cyn hanner nos. Parti o Clapham oedd y noswylwyr hyn, a chawsant y wobr. Y BEIRNIADAETHAU. DAU ENGLYN Y CERDYN NADOLIG." Y mae chwech o gystadleuwyr. Bydd dweyd nad oes ond un llinell gywir yn englynion "Alab y Dydd yn ddigon o feirniadaeth arnynt. Y mae englyn cyntaf "Thomas" yn englyn lied dda, ond nid yw yr ail agos cystal. Ni fedraf wneud dim o esgyll hwnnw. Gwnaeth Bardd Brysiog" gynnyg da, ond pe na buasai mor fry sing efallai nad ollyngasai ei ail englyn o'i law gyda dau wall yn ei linell olaf-gwall iaith a gwall cynghanedd- heblaw fod gvvydd ac absen hefyd yn yr englyn. Gwna "Y Postman" bregethwr o'r cerdyn. Gwell fuasai ei alw yn gernod. Anurddir yr englyn cyntaf gan iaith ddrwg. Ni wna llawenhad y tro yn lie llawenydd yn y cysylltiad hwn. Mae'r ymgeisydd yn deall cynghanedd, ond hi yw'r feistres. Y mae "Hynafgwr" (nid henafgwr, cofied), wedi canu dau englyn lied ddidramgwydd. Ar y mwyaf o wahanol ffigyrau sydd yn yr englyn cyntaf. Y mae galw unrhyw beth yn allwedd, yn edyn, ac yn ddiliau, o fewn cylch pedair llinell yn ormod o amrywiaeth. A phrin y gellir dweyd mai neges y Cerdyn Nadolig yw Dal yr Ymgnawdoliad Yn hy o flaen cof y wlad." "Gwladgarwr" sydd wedi llwyddo oreu yn y gystadleuaeth hon. Gwir nad yw'n gynghaneddwr cryf na gwreiddiol iawn, ond y mae'n bur naturiol. Dywed yntau fod y cerdyn yn pregethu, ond rywfodd ni theimlir fod y syniad mor dramgwyddus, yn y cysylltiad y ceir ef yma, ag yw yn englyn Y Post- man." Gwobrwyer Gwladgarwr." PRYDDEST PREN Y BYWYD." Tri chyfansoddiad a dderbyniwyd i'r gystadleuaeth hon, sef eiddo H.P. Gwangalon," a Deryn y Mynydd." Bai mwyaf y tri ymgeisydd hyn ydyw peidio canu yn ddigon testynol. Y mae mwy na llond can Ilinell o farddoniaeth yn yr ymadrodd Pren y Bywyd ei hun, heb son am ei gylchynfyd fel y desgrifir ef yn llyfr Genesis a llyfr y Datgiiddiad. Ond collodd yr ymgeiswyr hyn, dau o honynt yn enwedig, olwg ar neillduolrwydd y testyn, a throisant i ganu i Ardd Eden ac i Iesu Grist. Ond anurddir cyfansoddiadau H.P." a I Gwan- galon" gan lawer o frychau ereill. Syrthiodd "H.P." i'r bai a elwir drwg odl droion, a phaham nad ysgrifenasai pobol lie y gofynai'r mesur am dano yn ddeusill ? Os pobl ddisgwylir i ni ddarllen ys- grifenner pobl, ond os pobol, yna ysgrifenner pobol. Y mae'r ymgeisydd yn bur ddiofal yn ei ddefnydd o ffigyrau hefyd. Sonia am ffordd a "red." Nid yw ffordd byth yn rhedeg, er y dichon i rai o'i theithwyr wneud hynny. Sonia hefyd am "brennau cywrain" wedi eu plannu. Naddu peth cywrain y byddis. Ond yr esiampl waethaf o gymysgu ffigyrau yw'r llinell hon Fe gaed Pren gwiw ar bren-aberth Calfaria." Pren ar bren" Yr un a'r hen gonsêt disynwyr yn y pennill hwnnw:â Rhoed craig mewn craig i orffwys." Nid yw pryddest Gwangalon nemawr, os dim rhagorach na'r eiddo H.P." Y mae ei iaith yntau yn ddrwg yn ami, ei ansoddeiriau fel pe wedi eu dewis fel y deuent i'w feddwl, a'i ffigyrau yn rhyfedd o gymysglyd. Ceir "y pren ar bren" ganddo yntau- Ac wele Bren y Bywyd Ar arw bren y groes." A beth feddylir am "Bren" yn dod o'i orseddfa- ond gwell i mi adael i'r bardd adrodd ei stori yn ei eiriau'i hun :â Ond wele Bren y Bywyd o'i orseddfa wèn Yn dod i adfer iechyd i ganghennau'r pren 0 draethau tragwyddoldeb pell mae'n dod o draw, A blagur coron cysur yn ei Ddwyfol law Drwy wyll cysgodion prudd ymlwybra 'mlaen o hyd At draeth gororau oerion y colledig fyd; Yng ngherbyd cariad pur o hyd yn dod yn nes, A'r hen broffwyd gynt yn teimlo'r Dwyfol wres." Tyfu yn yr unman a wna pren, nid dod o draw.' Ar ei gangau y mae'r blagur, nid yn ei law"; a phwy erioed a welodd bren yn ymlwybro nac yn teithio mewn cerbyd ? Ac ers pa bryd y mae pren yn bwrw allan "wres"? Afraid ymhelaethu. Rhagora pryddest Deryn y Mynydd lawer iawn ar y ddwy y sylwyd arnynt eisoes. Nid yw hon cyn laned a chyn loewed ag y buasid yn dymuno chwaith. Sonia am "gusan" yn dod o ryw "foroedd," a dywed mai "cleddyfdur" oedd cleddyf y ceriwbi- aid. Ceir ganddo hefyd ymadroddion fel byd brennau nas gwn yn iawn beth a olygant. Rhennir y bryddest yn ddwy ran, a rhoddir y tair llinell gyntaf o'r pennill adnabyddus, Yn Eden cofiaf hynny byth" yn benawd i'r naill ran, a'r tair llinell olaf o hono yn benawd i'r llall. Nid oes llawer o briodoldeb yn hyn, gan mai colli ac ennill coron sydd yn y pennill, ac nid colli ac ennill Pren y Bywyd." Ac ni cheir yn y bryddest unrhyw gyfeiriad at bren y bywyd yn llyfr y Datguddiad-y pren ynghanol ei heol hi, ac o ddau tu yr afon." Dylasai hwnnw ddod i mewn ar bob cyfrif. Nid oes amheuaeth nad Deryn y Mynydd yw'r goreu, ond oherwydd y colliadau a nodwyd sydd yn ei gerdd, nid wyf yn ystyried ei fod yn teilyngu mwy na hanner y wobr. MACHRETH.

Advertising