Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Hide Articles List
10 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
Axt 'I BY APPOINTMENT. REGISTERED. ELLIS'S AN UNRIVALLED I NON-ALCOHOLIC QUININE STIMULANT. LIC TONIC. R. ELLIS & SON, LTD. Head Office and Manufactory, RUTHIN, N. WALES. Established 1825. Telegrams-" Ellis, Ruthin." Telephone-No. i Ruthin. Liverpool Office and Stores-23 and 25, Baker Street, West Derby Road. Telephone No. 214 Anfield. London Agent-RICHARD DAVIS, 20, Maddox Street, Regent Street. Telephone No. 795 Mayfair. Manchester Agents- Midgely's Ltd.. Chemists. St. Anne's Square. Telephone No. 1923 Central. Leeds Agents-Messrs. R. P. Brindley & Co., Wine Merchants, Clay Pit Lane. Telephone No. 616. Bradford Agents-Messrs. W. Whittaker & Co.. Ltd.. The Old Brewery. Telephone No. 909. Isle of Man Agents-Bucknall Bros., 8. Upper Church Street, Douglas.
Nodion Ned Llwyd.
News
Cite
Share
Nodion Ned Llwyd. LLANDUDNO. Prydnawn Sadwrn diweddaf telais ymweliad a'r lie prysur hwn. Yr oedd yn dda gennyf weled fod yno lu mawr o ymwelwyr fel finnau, ac yr oedd yno ddigon o ddarpariaeth ar gyfer mwy o lawer. Yn sicr, mae y lie hwn, fel lle- oedd eraill ar lan y mor, wedi bod yn disgwyl yn bir eleni am dywydd braf, a phan y daeth, amlwg oedd fod pobl yn codi allan. Yr oedd edrych ar y plant yn mwynhau eu hunain ar y tywod yn codi hiraeth arnaf am yr adeg yr oeddwn ninnau yn blentyn bach. Mae dyn wrth tyned yn hen yn codi awydd at lawer o bethau, ac os goddefwch i mi dwedaf air o brofiad personol i brofi hynny. Cofiaf yn dda am yr amser y byddwn yn myned i Landudno flynydd- oedd yn ol, mai y peth cyntaf wnawn wedi cyr- raedd y dref fyddai cyfeirio fy nghamrau i wrando a gweled y •' Niggers yn yr Happy Valley; ond yr wyf wedi bod yn y dref droion yn ystod y blynyddoedd diweddaf yma heb deimlo yr awydd lleiaf i fyned yn agos atynt. Nid wyf am ddadleu gyda neb ar y priodoldeb neu yr amhriodoldeb o fyned yno, ond, dyna'r ffaith yn fy hanes i. Tybed a ydyw hyn yn profi fy mod yn well yn awr nag yn y dyddiau gynt? Yr wyf yn gymaint credwr mewn adlon- iant a neb, a gallaf chwerthin yn iachus (diolch am hynny) pan yn gweled a chlywed pethau doniol, ac yr wyf wedi talu droion am gyfleusderau i hynny. Nid aethum yn agos iddynt y Sadwrn diweddaf. Nid wyf yn ymffrostio yn y ffaith, ond yn unig yn ei nodi, tynwch y casgliad a fynwch oddi wrth hynny. Un peth fydd yn fy nharo yno pan yn eistedd i lawr i edrych ar y tyrfaoedd1 yn gwibio, ydyw yr amrywiaeth mawr a welir yno mewn personau a gwisgoedd, a byddaf yn teimlo yn llawen fod cynnifer o bobl yn gallu cael amser ac arian i fwynhau eu hunain. Clywais yno am un yn ddiweddar yn myned i'r dref; nid i chwilio am dd'wr, mae yno ddigon o hwnnw pan fydd y llanw i fewn, ond yr oedd y brawd y cyfeiriaf ato wedi cael ei gymeradwyo i fyned yno i chwilio am sebon neilltuol, ac ar ol iddo fyned i fasnach-dy neilltuol ei fod wedi anghofio ei neges. Ceisiodd egluro i'r masnachwr, ac wedi hir betruso mae hwnnw yn casglu mai sebon fel a ddefnyddir gan gantores enwog oedd arno eisiau, ac y mae yn rhoddi iddo gyfran o hwnnw. Mae y brawd yn ei ddefnyddio, a chlywais fod golwg Albani-aidd arno er pan y mae yn ei ddefnyddio, ac fod yr arogl hyfryd yn llenwi yr adeilad lie y gweithia. Gwelais yn y dref ac ar ian y mor liaws oeddwn yn ei adna- bod, a sylwais eu bod hwy, fel finnau, yn dy- chwelyd oddi yno yn brydlon. Ond sylwais hefyd' fod rhai o Gonwy yn myned i'r dref pan oedd yn amser i ddychwelyd. Feallai eu bod hwy yn myned at yr evening concert. Sylwais hefyd pan yn dychwelyd ar ddwy o ferched ieuanc yn ymddiddan a'u gilydd yn ymyl yard Lewis, tua haner awr wedi wytb, ac yn chwerthin cymaint, nes tynnu sylw y rhai oedd yn y tren yn myned heibio. Rhaid fod y stori yn felus iawn. Feallai y caf ei chlywed eto, ac os y caf cewch chwithau ei gweled mewn print. Y DU A'R GWYN. Yr ymladdfa fawr rhwng y du a'r gwyn fu yn tynnu sylw y byd yn ddiweddar. Rhyfedd meddwl y fath swm o arian a wariwyd mewn cysylltiad a'r ymdirechfa. Talwyd rhai ugein- iau o filoedd o burinau am yr hawl i gael darlun- iau byw, ond erbyn hyn ymddengys na fydd fawr galw am danynt. Gwneir ymdrech ganmol- adwy gan amryw awdurdodau yma ac yn yr America i rwystro iddynt gael eu dangos, ac y mae yr ymdrech yn debyg o lwyddo. Nid yw yn debyg y ceir eu gweled yn Nghymru, beth bynnag. Mae y dyddordeb deimlid yn yr ym- laddfa wedi colli i raddau helaeth iawn. Amlwg ydyw y bydd yr anturiaethwyr yn cael colled ariannol bwysig, ond nid wyf yn meddwl fod neb ond hwy eu hunain yn teimlo oblegid hynny. Gobeithiaf y llwyddir ymhob man i'w cadw o'r golwg, rhag porthi y rhan anifeilaidd or ddynol natur. LLANGERNYW. Credaf fod pobl yr ardal hon, fel lliaws eraill, yn llawenhau yn y ffaith fod y Parch. H. Cernyw Williams wedi cael y radd o D.D. o'r America. Adwaenwn Hywel Cernyw yn dda, ac yr wyf o galon yn ei longyfarch ar yr anrhyd- edd hon sydd wedi dod yn deilwng i'w ran. Credaf fod y Parch. E. J. Jones, sydd yn wein- idog yn yr ardal, yn B.A., Thaid fydd iddo yntau ymdrechu bellach am ei D.D. Beth bynnag am hynny, hyderaf y caiff Hywel Cernyw fyw yn hir i wisgo ei deitl newydd—gwelaf fod pwyllgor y nodachfa wedi llwyddo i sicrhau gwasanaeth vr enwog Ap Harri. Mae yr Ap yn sicr o dalu yn dda iddynt. Cefais air yn fy sicrhau nad oes raffle i fod yn y nodachfa, a'i bod yn berffaith ddiogel i mi fynd yno, gan nad oes perygl 1 Catrin fy ngholli. Nag oes, yn siwr. Wedi 1 mi gael y sicrwydd hwn, ac addewid am groesaw, feallai yr af yno, ac os nad allaf fyned i'r nod. achfa, trefnaf adeg arall. COLLI CYDYMDEIMLAD. > Heddyw gwelais engraipht o pa mor hawdd vdyw colli cydymdeimlad cymdeithas, ac mor anhawdd ydyw ei adferyd. Cyfarfyddais a dyn ieuanc gafodd ei fagu yn anwyl gan ei nem, y Thai oeddynt mewn sefyllfa dda o ran eu ham- gylchiadau bydol ar un cyfnod yn eu hanes. Bu y rhieni farw. Aeth y llanc i weithio i le. Am gyfnod yr oedd pethau yn addawol iawn yn ei hanes, ond-aeth i yfed. Collodd' ei le, ac y mae wedi colli pob lie arall gafodd, oblegid yr un brofedigaeth. Ar yr heol yr oedd heddyw yn cardota! Mae ei gyflwi wedi myned mor eitn- afol nad vdyw yn debyg y caiff le eto, oddi- eithr i rhyw gyfnewidiad mawr gymeryd lie yn ei hanes. Yr wyf wedi rhoddi y ffeithiau mor brin ac v mae yn bosibl, ond yn wir nis gallwn beidio te'imlo dros ei sefyllfa ddifiifol. Nid wyf heb fod yn gwybod iddo gael help droion gan gvfeillion i geisio ail gychwyn, ond y mae wedi <?wneud cainddefnyddi o'r caredigrwydd hwnw, ac mewn canlyniad y mae heddyw yn grwydryn digartref yn ddyn ieuanc. Nid yw yr hanes am dano ef ond vr hyn sydd yn hysbys 1 ni am liaws eraill sydd yn cerdded yr un llwybrau. Nid yw vr hanes, yn sicr, heb fod yn gadael ei wers i ni gyd. 11 TREFRIW. Mae yr ymwelwyr yn. lliosogi yma y dyddiau hyn. Agorir yr addoldy newydd gan y M.C. yn mis Awst, ac y mae rhai o brif ddomau yr enwad wedi eu sicrhau i gymeryd rhan yn y gwasanaeth. Cydnabyddir yn gyffredinol fod yr addoldy yn addum i'r lie.—Mae y boneddwr a'r cynghorvdd sirol, Mr. Williams, yn codi palasdy hardd ac eang yn ymyl y pentref ar y ffordd o'r dre i Llanrwst; mae yn myned i fyny yn gyflym iawn, a bydd yr hen ymwelwyr yn rhyfeddu at faint a harddwch yn adeilad. Boed iddo ef a'i briod gael hir ddyddiau a llawenydd ynddo. NED LLWYD.
Nodion Llywarch Hen
News
Cite
Share
Nodion Llywarch Hen Gwnaeth Cyngor Sir Arfon ddarn o waith campus wrth brynu Stad Madryn. Barned y bobl drostynt eu hunain, yn fwy na gwrando ar y rhai sy'n llefain bwgan y trethi. Nid yw hyny, yn yr achos hwn, ond arfer un blaid wleidyddol i ddifwyno gwaith y llall. Os yw'r Cyngor am droi yn dir feistr, medr gael llog da am ei arian. Os ei gwerthu i denantiaid a wna, gwnaeth far- gen ardderchog, a medr werthu yn rhad. Oher- wydd os nad yw tir amaethyddol da yn werth £ 20 yr erw, gwell troi'r tir yn goedwigoedd. Gwn am amaethwr brynodd ei ffarm yn ol £ 25 yr erw, gosododd ei haner yn dir pori. Ar hwnw cafodd 12 y cant o log am ei arian. Eled y Cyngor ym mlaen. C&r y bobl gael v tir ar eu henwau. Ond hyd y gwelais i, y mae'r tir- feistri mawrion yn llawer gwell meistriaid na'r rhai bychain. Pwy yw'r gwr sy'n bwrw barn yn lie Pwyllgor Coleg Normalaidd Bangor ? Penodwyd Saesnes yn ofalyddes am yr Hostel, chwaer na wyr ddim am Gymru fechan dlawd, a hyny pan oedd Cym- ryesau o ddysg, ac addfed eu profiad, yn treio am y Ile. Os profiad orbwysai yn un, anghofiwyd ei rin yn hollol mewn penodiad arall. Da y gwna bechgyn a genethod Cymru yn ffarwelio a'u gwlad, ni chant y briwsion oddi ar fyrddau eu meistriaid yng Nghymru. Rhaid cael estron- iaid fel na chaffo ein pobl ein hunain gyfle na hamdden i fagu naws Gymreig yn ein cylchoedd. Gymaint wnaethai Cymraes wladgar i naws- eiddio ysbryd y chwiorydd ieuainc yn y Coleg. Na rhaid ei sych Seisnegeiddio. Bvdded byw Cymru, er pob peth. # Y mae gan bob dyn rhyw synied am dano ei hun a hwnw fel rheol yn un gwreiddiol, heb neb yn ei feddwl yn hollol fel efe ei hun. Y dydd o'r blaen datganodd Syr Marchant Williams ei farn am dano ei hun fel Goliath a gwastadawr beirdd. Tybia ef mai'r elf en fawr o wahaniaeth rhyngddo ef a'r Athro J. Morris Jones yw, ei fod ef, Syr Marchant, yn lladd beirdd wrth eu beirniadu, a'r Athro yn eu lladd wrth eu cvfiaethu." Ni wyddem o'r blaen mai lladd J. M. J." oedd ei amcan, pan yn llusgo ei 6g ddaneddog ar hyd-traws barddoniaeth dlos yr Athro o Fangor. Yn wyneb ei fethiant ofnadwy, anoeth ynddo oedd dinoethi ei galon. Oher- wydd daeth yr Athro J. Morris Jones o bair Uaddedigion y Nationalist heb golli ei lefer- ydd, a chan eto er holl hunan gysur tywysog glyn cysgod angeu'r beirdd. Wele nifer o faterion ar ba rai yr ysgrifenodd Cymry ieuainc gwladgar o Goleg y Gogledd i en ill M.A. Simon de Montford and his Times"; The Church under the Lancastrians The Bardic Order in the Fifteenth Century," The Three Welsh Versions of the New Testament, 1567, 1588, and 1620, critically compared with special reference to the original Greek, The Latin Vulgate, and the English Version The Poetical Works of Dafvdd Namor The Poetical Works of Gruftudd ab leuan ap Llywelyn Fychan." Diolch i frodyr am geibio i'r golwg hanes ein gwlad, a chloddio daear newydd. Paham yn enw rheswm na chyhoedda'r Athrofa Gymreig eu gweithiau, fel y caffo'r wlad ffrwyth eu llafur. Nid oes ddiben ar oleu canwvll a'i dodi dan lestr, ond ar ganwyllbren, fel y gwelo pawb sydd yn y ty. Myned rhagddi y mae'r ddefosiwn a elwir "individual communion cups," sef yr arfer o roddi cwpan bychan i bob cymunwr. Er ein syndod, y mae Anibynwyr Meirion yn ymeiriach a'r ffasiwn goelgrefyddol hon. Yr enwad mwyaf diseremoni a gwerinaidd yn ein gwlad, a hyny yn y Sir fwyaf gwerinaidd, yn dechreu ymhel ag eulunod defosiwn uchel Eglwysyddiaeth. "Rhes- ymau Meddygol yw ategion yr arfer newydd- yr hadau heintiau yn enw'r bobl. Hawdd iawn glanhau'r ochr allan i'r cwpan. Beth am fewnol ddyn y galon ? Pa ddiben glanhau min y cwpan, a'r galon yn heintiog o genfigen, yr haint sy fel gwahanglwyf yn lladd yni cymdeithas. » Oni thybia dyn mai cymdeithas grefyddol yw'r "Church Lads' Brigade "ymdeithas i gych- wyn plant yr Eglwys ar lwybrau sobrwydd a rhinwedd ? Bwriada un o'r cyfryw bebyllio ar faes yn agos i'r Rhyl, a cheisiasant drwydded ddiod feddwol i babell gyfeddach y swyddogion yn y gwersyll. Os clwb dysgu rhyfel yw'r Frigad, nid rhyfedd yr angen am gwrw. Ond os cymdeithas ddaionus o dan gysgod edyn Eglwys ac enwad crefyddol, y mae'n anesbon- iadwy. Os oes un rhinwedd amlwg y dylem ymegnio i'w ddysgu'n fwy na'r llall, dirwest yw hwnw. Na chaffed ein plant olwg ar yr hudoles yn cael ei hanwesu ganleu hathrawon. Cynefino plant a phlasau'r ddiod yw pen y ffordd i ddinistr. Gwlad enwog am ei phethau od yw'r America, cartre'r dyn main yn y llodrau ser. Cyhoeddodd un dalaith ryfel gartrefol yn erbyn yr hen arfer o gusanu, am ei bod yn lledaenu germs afiech- idon. Pob peth yn dda. Y mae Dafydd ap Gwilym yn ei fedd ers canrifoedd, ac yn naear Cymru y gorwedd. Rhoddir medal galed am wddf pob baban, ac ami pediwch a'm cusanu," rhag i neb roddi croesaw i'r anwylyn yn ol hen arfer mamau Cymru. A dwy fil o ferched, hen ferched, mae'n debyg, a amgylch y wlad i wneyd disgyblion i'r sect newydd hon. Ni bydd angen meddwl am y nefoedd yn fuan wrth ganu- A pob gwaganglwyf ymaith." Rhwng pob dyfais a moddion ceir y goreu'n lan ar hadau heintiau. A bydd meddygon ar fyrder mor enwog am eu whims ag ydynt am eu biliau. Mae gwareiddiad, synwyr, a chrefydd ? Rhuthrodd miloedd o Americaniaid gwyngroen, dichwaeth, ond cyfoethog, i lygadrythu ar un o'u brodyr yn ymladd a negro. Talasant bum punt am y lleoedd isaf yn y cwt cwffio. Collodd y croenwyn y frwydr, ac aeth balchter ei frodyr yn fflam satanaidd—y du yn curo'r gwyn am gwffio A hwythau druain wedi talu yn ofn- adwy ddrud am gael bod yn dystion o fod mwy o ddiafol hyd yn oed yn y gwyn na'r du. Lled- odd y llid, lladdwyd llawer o hepil y caethion trwy'r America, ac aeth yn rhyfel gartrefol mewn llawer man. Cernodiwyd rhai pobl dduon ar heolydd Llundain freiniog. Wfft i'n balchter anfrawdol ac anuwiol. Onid yr un Crewr doeth a wnaeth y ddau ? Aeth eu synwyr i'r llygaid, a phan welo hwnw groen melyn neu ddu, a'r nwyd yn fflam lidiog. Ffiaidd oedd ganddynt amser yn ol gyd-ddinasu a'r Jepaneaid, er fod y genedl hono'r fwyaf egniol ar y ddaear, ac yn esiampl i ni oil mewn moes a glanweithdra. Dull llawchwith yw cenfigen i wastadhau anrhefn cymdeithas. Yn ol- Mrs. Mary Davies, y gantores enwog, a hi'n awdurdod ar ganeuon gwerin ac alawon Cymry, y mae'r alaw Difyrwch Gwyr Har- lech cyn hyned a Rhyfeloedd y Rhosynau. Cred mai hi oedd can y dewrion warchodai Gas- tell Harlech yn 1460. Harddlech y gelwir y gaer yn y Mabinogion, ac uwch y weilgi ger y gaerfa hon y canai adar Rhianon. Ystyr llech yn yr enw yw caer, lie llechu. Felly yr oedd y fangre yn gaer enwog yn amser Arthur, brenin hud yr Ynys hon. Ynys y Cedyrn y gelwid Prydain yn amser Arthur, a'r Cymru oedd biau Lloegr a Llundain. Gwedi lladd gwyr yr Ynys hon yn y Werddon yn achos Branwen,a chlwyfo'n farwol Bran Fendigaid, cymerodd Seithwyr ei ben i'w gladdu yn y Gwynfrynn yn Llundein." Buont yn Harddlech am saith mlvnedd yn dded- wydd yng nghwmni'r pen, yn gwrando can y tri aderyn. Pwy wyr nad adlais y gan hono yw'r hen alaw filwraidd a mawreddog. Tynwyd Llw'r Brenin oddiar yr hoel, i'w ail dori at ffasiwn ac amgylchiadau'r oes a thyma lonaid ystafell o deilwriaid enwadol, parod i'w bwytho yn ol dull eu henwad hwy. Hawlia'r Ymneilltuwyr ei gael heb enwadaeth ynddo, dim Eglwys Loegr na son am enwad arall. Myn yr Oreinwyr yn Eglwyswyr a Phresbyteriaid ei gadw fel y mae. Ni fynant hwy roddi un cam o gymod tuag at y Pabyddion. A yw'r Pabydd- ion yn rhoddi achos i elyniaeth yr Oreinwyr ? Diau eu bod, ond y mae'r anghydfod yr un mor anghrefyddol a'r achos. Anfonodd Confoc- asiwn Esgobaeth Efrog gais ar i'r awdurdodau dynu ymaith y "dreadful terms" sy'n darnodi Eglwys Loegr, a'r dreadful terms ydynt Pro- testant Reformed Church." Ni alwant hi'n Bro- testanaidd, gwadant hyn yn bendant am ei fod yn cyffwrdd yr Unaeth Eglwysig, yr hwn sy'n trosglwyddo'r Olyniaeth Apostolaidd. Egyr y dreadful terms ddrws agored i'r Olyniaeth Apostolaidd lithro i enwad ymneilltuodd o Eg- lwys Loegr. Os oedd mewn enwad yr oedd ei fodolaeth yn brotest bendant yn erbyn Eglwys Rufain, paham nad yw hefyd mewn enwad vmneilltuodd oddi wrth hono drachefn. Cymanfaoedd gwagedd ein brodyr v Saeson yw'r Carnivals," y Pageants a'r Hedeg- feydd sy'n y wlad, rhyw ffurfiau newydd ar wagedd, a moddion newydd i hudo'r miloedd. Rhyw Show wageddol i feddwi'r bobl a chadw eu hysbryd ofer yn effro a byw. Y mae'r pageant yn edrych dros y clawdd i Gymru, a chred ynddo ei hun y medr gerdded yng nghamrau'r hen wyl- mabsantau. Cant groesaw siriol gan ein mawr- ion. Y mae swyn iddynt yn y gwisgoedd a'r addurniadau, a chant gyfle i actio hen anianawd eu brid, a hen arferion eu hen dadau. Y fantell o esgus a roddir drostynt i'w dygynod a'r wlad, i'w dysgu hanes, ei ddysgu trwy ei ddangos. Ond pa fodd yr ymhyfryda Cymro yng ngweled Hun byw o hen offeiriad Pabaidd, un o'rcenawon hyny gondemniodd henafiaid ein crefydd i'w llosgi, ac a estynasant eu bysedd atynt yn llid y fflam. A pha swyn i ni sydd yn yr hen dywys- ogion Normanaidd a dreisiodd yr hen Gymry, y bobl drochasant eu dwylaw yng ngwaed tad a mab, ac a ladratasant eu tiroedd oddi ar eu hamddifaid. Lluniwch pageant i Gymru i ddangos yr Esgobion Davies, Morgan, a Pharry a'u Beiblau y Ficer Pritchard a'i Ganwyll y Cymry Elis Wyn a'i Fardd Cwsg Hywel Harris a'i Seiadau Griffith Jones a'i Ysgolion Williams a'i Emynau Goronwy a'i Gywyddau Thomas Charles a'i Eiriadur; John Elias a'i Bregethu R-iaid Llanbrynmair, Tanymarian a'i Storm Tiberias a leuan GwylJt a'i Gyman- faoedd Canu.
------"Nodion Llywarch Hen."
News
Cite
Share
"Nodion Llywarch Hen." AT OLYGYDD Y Weekly News. SYR,—Wrth ddarllen yr uchod yn eich rhifyn diweddaf, meddyliais y buaswn yn anfon atoch hanes hen frwydir arall a gymerodd le rhwng y mor a'r tir, allan o "Drioedd Ynys Prydain :— Tair Rhagynys gyssefin, ynys Prydain, Ore, Manaw a Gwyth, a gwedi hynny y torres y mor y tir onid aeth Mon yn ynys ac yn unwedd ynys Ore a dorred onid aeth yno liaws o ynysoedd, a myned yn ynysoedd a wnaeth mannau eraill o'r Alban a thir Cymru." Y mae yn fwy na thebyg fod Llywarch wedi gweled yr uchod eisioes, ond y mae yn dra sicr fod llawer o'ch darllenwyr heb gael y cyf- leusdTa.—Ydwyf, &c., JOHN EDWARDS. Tanyfron, Abergele. Mehefin i2fed, 1910. ——
Y Diweddar Barch. De Charles…
News
Cite
Share
Y Diweddar Barch. De Charles Evans, F.G.S. Yn sydyn fore ddydd Iau, bu farw y gweini- dog adnabyddus hwn, yn 72 mlwydd oed. Efe, ar hyn o bryd, oedd y gweinidog hynaf perth- ynnol i Gyfarfod Misol Dyffryn Conwy. Or- deiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth wyth mlynedd a deugain yn ol, felly, rhaid ei fod yn pregethu ers oddeutu pymtheg a deugain o flynyddau, tymor pur hir i sefyll o flaen y cy- hoedd a chadw ei gymeriad yn lan a'i weinidog- aeth yn gymeradwy hyd y diwedd. Yr oedd yn pregethu yn y Garth, Porthmadog, y Saboth olaf o Fehefin. Daliodd ato hyd y diwedd. Clywsom ef yn dweyd y byddai yn well ganddo farw na byw heb bregethu. Brodor ydoedd o Geredigion. Aeth i Athrofa'r Bala yn ieuanc iawn, cyn dechreu pregethu, os ydym yn cofio yn gywir. Treuliodd rhyw gy- maint o'i amser yn America yn nechreu ei weini- dogaeth. Wedi dychwelyd, ymsefydlodd yn Nhreffynnon fel gweinidog eglwys Rehoboth. Oddiyno symudodd i Rhyl, ac oddiyno drachefn i Borthaethwy. O'r lie diweddaf symudodd i Gonwy a Threfriw, ac yn niwedd yr haf diweddaf daeth i Lanrwst, lie y bu farw. Symudodd gryn dipyn ar hyd y glannau hyn, ac oblegid hynny yr oedd yn adnabod llawer, ac yn adnabyddus i lawer. Yr oedd o duedd hynod o gymdeith- asgar. Prin yr elai heibio i undyn heb ddweyd rhywbeth wrtho, a medrai ddweyd pethau siriol a chalonogol a barai londer i lawer un wrth ei gyfarfod. Yn anterth ei nerth yr oedd yn bregethwr grymus, a gelwid am ei wasanaeth vn barhaus mewn cyfarfodydd pregethu. Yr oedd yn ddvn lluniaidd o gorff, a chanddo lais hynod "o felod- aidd, a meistrolaeth dda arno. Yr oedd ei fedd- yliau hefyd yn dlysion a tharawiadol. Cafodd lawer odfa ysgubol-yn cario pob peth o'i blaen. Yr oedd ganddo feddwl gafaelgar, a dengys y llyfrau a gyhoeddodd y gallasai ddyfod yn ys- grifennydd poblogaidd. Y mae ei arddull yn swynol dros ben, a'i iaith yn bur a chaboledig, grifennydd poblogaidd. Y mae ei arddull yn swynol dros ben, a'i iaith yn bur a chaboledig. Gresyn na buasai wedi ymroddi i gyfansoddi ac ysgrifennu ychwaneg yn y blynyddaui a dreuliodd heb fod a gofal bugeiliol arno. Gwnaethai ei fare fel lienor. Y parlys a'i goddiweddodd, ond yr oedd vn amlwg ei fod yn graddol lesgau yn ystod y ddwv flynedd ddiweddaf. Ymdrechodd ddilyn ei gv hoeddiadau hyd y diwedd. Aeth i ftwrdd lawer Sadwrn, pryd y buasai yn fwy rhesymol iddo aros gartref. Ond, fel Dafydd Rolant gyrru a wnaeth ef tra daliodd y ger. Yr oedd yn llesg iawn pan y daeth i Lanrwst, fel mai ychydig o'i gwmni a gafwycl yn y cyfarfodydd. Bu lawer tro yn dechreu y cyfarfod gweddi nos Lun, ac ni chlywsom ef erioed yn gweddio na bvddai yn cofio mewn modd arbennig am yr Ysgol Sabothol. Danghosai hynny ei fod yn meddwl llawer am dani ac yn bryderus am ei llwyddiant. Yn ffodus iawn, yr oedd ei unig ferch, Mrs. Carver, wedi dyfod ar ymweliad ag ef ers tair wythnos. Yr oedd hi yma beth amser cyn iddo gael y tarawiad diweddaf hwn, a bu yn ffydd- lawn iawn yn gweini arno am y pythefnos di- weddaf, ac yn ei breichiau hi y tynnodd ei anadl ddiweddaf. Rhoddwyd ei weddillion i orffwys ym meddrod y teulu ddydd Llun diweddaf, 'yn y fynwent sydd wrth gapel y Methodistiaid vn Abergele Chwith yw y syniad fod y tafod soniarus hwn wedi distewi. Heddwch i'w lwch.
ICytarfod Misol Dyffryn Conwy.
News
Cite
Share
I Cytarfod Misol Dyffryn Conwy. Cynhaliwyd yr uchod yn Ro Wen Gorfienaf y 5ed, o dan lywyddiaeth y Parch. W. Jones, Conwy, a Mr. W. F. Jones, Bodidda, Conwy. Gwnaed coffad am Mr. D. Davies, Maes Adda, gwr fu'n nodedig o ffyddlon fel swyddog yn Bryndaionyn. Hefyd datganwyd cydymdeim- lad a Mri. John Jones, Mount Pleasant; W. Williams, County School, LIanrwst, a T. Rich- ards, Penmachno. Rhoddwyd ar y Parchn. W. Thomas ac R. Rowlands i ymweled a'r Parch. De Charles Evans yn ei waeledd. Hysbyswyd fod eglwys Ty'nygroes yn unfrydol yn rhoddi ei llais o blaid i Mr. D. Morris Jones, B.A., gael dechreu pregethu, a Siloh, Llandudno, wedi rhoddi galwad i'r Parch. W. Phillips, M.A., yn olynydd i'r Parch. Mr. Astley, M.A. Cyflwynodd y Parch. W. Jones y gadair i Mr. W. F. Jones ag anerchiad nodedig o briodol. Caed sylwadau ar ystadegau 1909 gan y Parch. H. H. Roberts, Capel Curig. Arweiniodd hyny i drafodaeth yng nghylch i'r eglwysi gymeryd uiwy o ofal yng nghylch y rhai sy'n cilio ac yn ymadel heb docynau. Caed hanes yr achos yn y lie a phrofiad y swyddogion o dan arweiniad y Parch. T. M. Jones, Colwvn Bav. Ymddang- hosai'r achos mewn modd llewyrchus iawn, er wedi colli eu henafgwyr, y swyddogion ieuainc yn bur ymroddgar. Harddwyd y capel vn ddi- weddar, ac edrychai yn nodedig o brydferth. Hysbyswyd pleidlais yr eglwysi ar Mr. Isaac Parry, Colwyn Bay; aeth yn llwvddiannus trwy ei flwyddyn brawf fel ymgeisydd am y weinidogaeth. Darllenwyd papur rhagorol gan y Parch. R. Roberts, Colwyn Bay, ar Eiriolaeth Crist," a siaradwyd ym mhellach gan v Parchn. S. T.. Jones, E. O. Davies, B.Sc., ac O. Evans. Caed trafodaeth ragorol, a dvmunwyd ar v Parch. R. Roberts gyhoeddi ei bapur er mantais y wlad. Rhoddodd Mri. Evan Owen, Llanrwst, a C. Cyn- wal Jones, Conwy, adroddiadau dyddorol iawn am y Gymanfa Gvffredinol. Y Cvfarfod Misol nesaf i fod yn Gwytherin, Awst 24ain. Cy- hoeddwyd i bregethu y Parchn. T. J. James, Penmachno Lewis Williams. Colwyn Robert Roberts, Colwyn Bay, a T. M. Jones.
-JI88.--.....--Y Fynwent Biwyfol.
News
Cite
Share
JI88. Y Fynwent Biwyfol. AT OLYGYDD Y Weekly News. Syit,-Y Sadwrn diweddaf bum mewn angladd mewn plwyf neilltuol yn Nvffryn Conwy. A'r peth a dynnodd fy sylw oedd yr olwg anrhefnus ar y fynwent—y drain a'r mieri a'r danadl poethion yn uwch na waliau'r fynwent, a gwair mawr (crop trwm), heb ei dorri eleni, dros yr holl fynwent. Ai onid ydyw yn gywilydd i'r Cynghor Plwyf, neu y Warden Plwyfol, ganiatau y fath anrhefn ar le mor gysegredig a lie beddau ein hanwyl- iaid? Offrymid i'r Person yn yr Eglwys, ac i'r clochydd wrth fyned allan o'r fynwent, a chaw- sant swm sylweddol. Yn awr, am ba beth y mae'r arian hyn? Ai nid am gadw trefn ar y fynwent? Ni welais erioed gymaint anrhefn mewn un fynwent y bum ynddi. Gobeithiaf y bydd i hyn o sylw trwy eich newvddiadur clod- wiw gymhell y swyddogion plwyfol, pwy bynnag ydynt, i gymeryd y fynwent dan ystyr- iaeth, ac os na bydd v gwaith o'i chadw mewn trefn yn cael ei wneud, annogwn y plwyfolion i beidio offrymu mewn angladdau.—Yr eiddoch, .&C. Ux 0 BLWYF ARALL.
--..-A8.-...c..-Congl yr Awen.,
News
Cite
Share
-A8 -c. Congl yr Awen. ER COFFAWDWRIAETH Am Willie, anwyl blentyn Mr. a Mrs. Owen Roberts, 18, Water-street, Penmaenmawr. Blod'yn hardd yn ngardd yr Iesu Ydoedd Willie trafu byw, Ond mil harddach mae yn tytll Heddvw'n mhrfsenoldeb Duw; Hoff rieni, peidiwch wylo, Willie bach sydd uwchlaw clwy'; Peraidd garu y mae yno. Poen, na chystudd, ni chaiff mwy. Iesu Grist a ddaeth i'w alw Pan oedd aeddfed iawn ïr nef, Ganddo Ef y mae yn cadw, 4 Nes awn ninnau ato ef; Gweled Willie gawn ni eto Os gwnawn fyw i Iesu Grist, A thelynau aur gawn seinio,- Ni bydd yno neb yn drist. Penmaenmawr.' H. T. JONBS. AR FARWOLAETH Richard, mab Mr a'r ddiweddar Mrs. Williams, Trwyn Swch Mawr, Lianddoget, a'i fam, yr hon a fu farw mor fuan ar ei ol. I'w gu vfryl yr Iesu galwai,—yno 'Nlanwyl Richard ddygai; I'w orsedd mewn hedd hwn äi. A Seion a'i croesawai. 1611 ymwelodd, a'r fam alwai.—wedyn Heb oedi coronai A bywiol byth, heb 61 bai, I'w dda fan y ddau fynnai. Llanrwst. R. E.
--.-----Music by the Sea.
News
Cite
Share
Music by the Sea. VICTORIA PIER CONCERTS, COLWYN BAY. The orchestra continues to attract larger audiences as visitors arrive in greater numbers, and the capable musicians under the conductor- ship of Mr. W. Forrest-Hague, are giving of their best. During the past week Mr. Harold Jones, leader and deputy-conductor, and Mr. F. W. Hague, 'cellist, gave solos which were very ap- preciatively received. On Friday evening a special humorous concert was held, among the items played being the Farewell Symphony, wherein the members of the orchestra, steal away one by one and leave their conductor alone in his glory." That the concert was greatly en- joyed was apparent from the hearty applause. THE SACRED CONCERT. Miss Violet Oppenshaw, contralto, paid her initial visit to Colwyn Bay last week, when she sang at the evening concerts on Friday and Satur- day, whilst she also appeared at the sacred con- cert on Sunday. On each occasion she scored a success. Her songs on Sunday were My Heart's Song" (Cuthbert Wynne), and "Love's Coronation" (Aylward), both of which secured her an imperative recall. "THE STINGAREES." The repertoire programme this week is pro- vided by The Stingarees," a costume party under the leadership of Mr. Roland Henry, en- tertainer. The artistes include Miss Alice Braunsten, soprano Miss Nellie Nutt, contral- to Mr. Andrew Pace, tenor and Mr. Harry Hearne, comedian. Included in their programme are many well-known songs, both classical and humorous, which are rendered in a spirited way. Mr. Roland Henry is the writer of many of his amusing monologues, and he has also composed several of the humorous concerted numbers given by the party, who perform with original stage effects. FORTHCOMING ARRANGEMENTS. The artiste on Friday, Saturday, and Sunday at the evening concrts wiII be Mr. Joseph Cheet- ham, the celebrated tenor. The John Ridding Opera Company commence a week's engage- ment on Monday, and they are bringing with them some elaborate scenery. Mr. F. V. Burgess has engaged the famous Follies to appear at a matinee on Friday, August 5th. The party will, of course include its originator and leader, Mr. H. G. Pelissier, and their approaching visit will be eagerly awaited. DIVING EXTRAORDINARY. Professor E. J. Reddish continues to give dis- plays of swimming and diving at the end of the Pier, and his feats of skill and daring are attract- ing large crowds. Tide and weather permitting, the displays take place every morning and after- noon.
Advertising
Advertising
Cite
Share
ADVICE. TO VISITORS. "Why not spend your time in ease and comfort?" i' Then go to the WEEKLY NEWS OFFICE and purchase a Writing Pad, so as to inform ill your friends of your safe arrival. H The Express Correspondence Letter Cards, Colwyn Bay, 12 views, Id M Tablet, 50 sheets linen-faced Notepaper and 50 Envelopes combined, 6|d. Pictorial Postcards, colored or black The Visitors' Note Tablet, stamped and white, in Packets of 12, for eld. 1, Colwyn Bay," and Envelopes, Is. 1!■ The Choicest Selection in North Wales. 11 # — ————————————————————————— Don't fail to pay us a visit before leaving the Bay. j, of every description. NOTE THE ADDRESS 1; R. E. JONES & BROS., 49 Weekly News Office, j. Station Road, COLWYN BAY. iil ;==== ================== V H. SIMKIN, LADIES' TAILOR AND MANTLE MAKER, TELEPHONE 123. LLEWELYN ROAD, COLWYN BAY. (i:=;:=!==:a:==:======== MILLINERY DEPARTMENT. ill =====^= Wl WE HAVE NOW A SPECIAL SHOW OF ii i ILLINERY I FOR THE COMING SEASON. 'i|s ====== INSPECTION RESPECTFULLY INVITED. ■ ———— MISSES THOMAS, 7, High Street, CONWAY. h =3 :===:=:=::=::e:¿:= ro TERM-5 v ALUE OF 15 deposit Wlaly 118 All 30/ 216 115 45/ 3/8 920 88/ 41. £2& 15/ ,,4/1 I WICKER CHVUr I Anj MMant pn rati last ftim. ■ 24mT^ii!lA brass I ^kwiTH REVtRblBU CUSHIONDISCOUNT TBRMS. ^»CAW»tD. WEIGHT'zfcCWTS 10 fromdSii?#SymentWithia 7^ ^MA?L|R"SIZIL^K| I 71 cent, for settlement within 8 weeks from delivery. 5 per cent. for settlemoutwitbin 16 weeks from delivery. I WICKER CHVUr I Anj MMant pn rati last ftim. ■ 24mT^ii!lA brass I ^kwiTH REVtRblBU CUSHIONDISCOUNT TBRMS. ^»CAW»tD. WEIGHT'zfcCWTS 10 fromdSii?#SymentWithia 7^ ^MA?L|R"SIZIL^K| I 71 cent, for settlement within 8 weeks I 21 percent.forwttlemsntwithin6moatb> I AUd 6 ^awount^chuyed1 °r"rto" l<v$y 01 1 88L It now In 6 \lIP oult Who" -& If 88\&led I IDODtU 2' per 08Dt. wllol. If In IZ no Discount ikliowed except at SetUement SLAT- LOUIS CABIttET 4PT.WIDE,7PF"16* WIT" DEVELLED SHAPLO MIRRORB L? Allb CHIHA CUPIKOARD, T.-f. .r.YLE tiALL 3r,4t, N FUIN41DOAK N WR E" H:'E S T E, _T4ky WH ITCH WOLVER HAM PTO'N.SHREWSBU RY D E -N,EWTOWN,MOr4T., CARNARVON., .-WELLI NGTON,SALOP, LLANIDLOES, A