Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

PEXMAENMAWR.

News
Cite
Share

PEXMAENMAWR. Yn marwolaeth y Parch. D. P. Davies, coll- odd yr ardal gymeriad fu yn amlwg iawn yn ei odd yr ardal gymeriad fu yn amlwg iawn yn ei hanes am gyfnod maith, a chollodd Cyroru un o'i gweinidogion hynaf. Credaf nad oes ym mysg yr holl enwadau un a fu am gyfnod mor faith yn y weinidogaeth. Urddwyd ef 6iain o flynyddau yn ol, a threuliodd fwy na hanner y cyfnod hwn ym Mhenmaemawr. Er ei fod wedi pasio ei So mlwydd oed, yr oedd mor ysgafn- droed a syth a bachgen. Daliodd i weithio hyd y diwedd. Annodd fydd cymodi a'r syniad fod Salem heb Mr. Davies ar ol cvfnod mor faith. Yr oedd pawb yn hoff iawn ohono. Gan fod crybwylliad helaeth mewn colofn arall, ni bydd i mi ychwanegu yma, ond goddefer i mi amlygu fy nghydymdeimlad a'r rhai anwyl sydd wedi eu gadael i alaru am dano. Drwg iawn gennyf nad allaswn fod gyda'r dyrfa fawr yn ei angladd. Mae yr hen weinidogion yn mynd o un i un,wedi gweithio yn ffydlawn gyda'r achos goreu.— Bore Sadwrn, bu farw y Parch. Ephraim Thomas yn ninas Bangor. Bu ef flynyddau yn ol yn weinidog yn Gerizim, Llanfairfechan, ac yn Neheudir Cymru, a daeth wedi hynny i Fangor, a chymerodd ofal yr achos ym Mhen- y-mvnydd, Mon, ond yr oedd yn awr er's rhai blynyddau wedi rhoddi yr eglwys honno i fyny. Bu yn wael am nsoedd. Hen gymeriad noble oedd vntau, a galar mawr sydd am dano. Claddwyd ef ddydd Mawrth ym mynwent Bethle- hem, ger Bangor, lie y gorwedda Dr. Arthur Jones, Tanymarian, ac eraill. Sicr gepnyf y cofia pobl Llanfairfechan yn dda am dano. YR HEN A'R IEUANC. Y Saboth diweddaf, yr oeddwn oddi cartref, mewn lie yng nghanol y wlad. Yn oedfa'r bore gwnaeth y pregethwr syhv fel hyn "fae Ilawer iawn o wahaniaeth rhwng yr hen bregethwyr a phregethwyr ieuainc yn myned i'w cyhoeddiad- au. Mae yr hen yn cychwyn yn brvdlon ac yn cyrraedd eu Iletty yn gynnar y Sadwrn, ond y mae nifer o'r myfyrwyr ieuainc yma yn aros hyd y tren olaf, ac yn cerdded wedi hynny rai rnilltiroedd ac yn codi pobl o'u gwelyau i'w derbyn." Gwir bob gair. Mae rhai o honynt yn aros heb gychwyn hyd fore Saboth. Yn ddi- weddar iawn yr oedd un yn cyrraedd yr addoldy un ar ddeg o'r gloch ar fore Saboth, a'r oedfa yn dechreu ddcg. Trefnant hefyd weithiai i ddechreu y gwasanaeth hwyrol yn gynt na'r amser arferol er cael dychwelyd. Ond, ie," meddai rhywun, mae'r myfyrwyr yn brysur iawn, a llawer o waith ganddynt." Na, nid mor brvsur. Oni chaniateir y Sadwrn iddynt rK-6 ddosparthiadau, er eu galluogi i fyned i'w teith- iau, a dydd Llun i ddychwelyd? Feallai os y gwel rhai ohonynt y sylwadau hyn y bydd iddynt ddiwygio. RHY DDRWG. Mewn cyfarfod llenyddol vn ddiweddar yr oedd 2S. o wobr yn cael ei chynnyg am waith llenyddol. Pan alwyd ar y buddugol, hysbys- odd yr ysgrifennydd ei fod ef yn cynrychioli Mr. ysgolfeistr yn Mae yn rhaid ei bod vn fain ofandwy arno pan yn cystadlu am wobr fel hyn yn erbyn nifer o weithwyr cyffredin. Un o amodau y cyfarfod oedd "Atelir pris tocyn blaensedd oddi ar y buddugwyr oni fyddant yn bresennol." Wedi i'r pwyllgor gadw is., fe welir faint ychwanegir at gyfoeth y gwr galluog. Clywais ei fod yn wr ac sydd wedi ennill gwobrwyon anrhydeddus mewn Eisteddfodau pwysig. Rhyfedd iawn gennyf yn wir ei fod yn darostwng ei hun i gystadlu am wobr o 2s. mewn cyfarfod bychan. Ffei! Wrth gwrs yr oedd ganddo berffaith hawl i gystadlu, ond dy- lai gwr oÏ saffe ef roddi cyfle i eraill yn dechreu gael gwobrwyon fel hyn, i'w symbylu ymlaen. Amcan pennaf cyfarfodydd bychain ydyw tynnu allan dalentau newyddion, ond pan y deuant i ddeall eu bod yn cystadlu ag ysgolfeistriaid, nid oes gobaith iddynt. RHODD DDA. Gwelais fod Mrs. Richard Davies, Treborth, wedi addaw 65oo at yr addoldy coffadwriaethol a godir yn Llansannan. Merch ydyw hi i'r Parch. Henry Rees, Liverpool, ac er coffa am y pregethwr mawr hwnnw y codir y capel. Bydd pobl y fro yn llawen iawn ar ol cael tanysgrifiad mor anrhydeddus at yr amcan teilwng hwn. ARWAIN CYMANFA. Anfonir ataf i ofyn i mi ddweud fy marn am y llvthyr ymddanghosodd yn y rhifyn diweddaf. Dywed yr ysgrifennydd hwnnw, gan fod swm mor sylweddol o arian wrth gefn y dylid eu gwario i gael arweinydd o'r tuallan i'r cylch. Gan mai peithyn i blwy' arall yr wyf, nid wyf yn hoffi ymyryd, ond dywedaf fy marn. Yn ol yr hanes a geir am y cymanfaoedd yn y blynyddoedd diweddaf, nid wyf yn meddwl fod eisiau newid y drefn o gwbl. Mae y Ilwyddiant mawr sydd wedi bod arnynt yn profi fod yr ar- weinwyr cartrefol yn gymeradwy iawn yn y cylch. Hwy sydd yn Uafurio yn y cylch gyda'r canu, ac nid ydyw ond teg iddynt gael yr an- rhydedd o arwain yn eu tro ar ddydd mawr yr wyl. Dyma yr unig ffordd sydd gan y gwahanol enwadau i ddangos eu bod yn gwerthfawrogi v rhai sydd yn llafurio gartref. Gan fod y drefn hon wedi gweithio mor dda, paham y sonir am newid? Nid ydyw dweud fod arian wrth gefn yn ddigon o reswm y dylid eu gwario ar yr hyn a dybiaf ifi sydd yn ddiangenrhaid. Pe ceid ar- weinydd o'r tu allan, yr arweinwyr Ileol fyddai raid drafferthu i baratoi ar gyfer y gymanfa, er hynny. Let well alone," meddai rhywair, ac felly y dwedaf finnau. TREFRIW. Un o ffyddloniaid y lie yma yn yr haf fyddai Mr. John Williams, A.C., Llanllechid. Cymer- ai ran amlwg iawn yn y cyfarfodydd a gynhelid wrth y ffynnon ac yn y neuadd gyhoeddus. Gweithiai yn chwarel y Penrhyn. Un dydd yr wythnos ddiweddaf cymerwyd ef yn wael yn y chwarel aed ag ef i'r ysbyty, a bu farw yno. Yr oedd yn gymeriad diddan iawn, ac yn adna- byddus i gylch eang o'r ymwelwyr a Threfriw. Cofiaf yn dda i mi fod yno am ddyddiau yn ei gwmni, a chwith gennyf feddwl ei fod heddyw yn ei fedd. Ar wahan i fod yn gerddor galluog, yr oedd hefyd yn ddyfeisydd da. Yr oedd fa!7d,dt) amryw o fan beiriannau o'i ddyfeisiad ei hun. CYNGOR PRIODOL! Un noson yn ddiweddar yr oedd bachgen bychan eisiau myned allan yn hwyr i weld y Comet, ac yr oedd ei fam yn ambarod iawn i roddi caniatad iddo. O'r diwedd cydsyniodd, a dywedodd, O'r goreu, mi gei fynd ond cymer di ofal nad ei di yn rhy agos ati, rhag ofn i rhywbeth ddigwydd Gofal marn, onide? Mae yn debyg na fu cynnifer yn edrych i fynny er's llawer o amser ag sydd er pan y soniwyd gyntaf am y Comet. Mae pawb bron wedi, mynd i astudio seryddiaeth; o leiaf dyna'r esgusawd geir gan lawer o fod allan yn hwyr y nos. Gwell gennyf fi fynd i ngwely. Nos dawch. NED LLWYD. Weekly News Office, Conwy.

Cyfarfod Misol Dyffryn Clwyd.

Nodion Llywarch Hen

The Fred W. Jones Testimonial.

Abergele Sparks.

Conway Corporation and the…

Carnarvon Guardians.

Welsh Celebrity's Resting…

Rickets and Paralysis. Now…

Successful Welshman on National…

Advertising

Advertising

Pobl a Phethau Llanfair Talhaiarn.

Ffordd ai Llwybr?

Congl yr Awen.

Poisoned Cows.

Nodion Llywarch Hen