Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Hide Articles List
9 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
BUTTER is so dear just now that you should try the BEST MAYPOLE MARGARINE, (British Made.) AT S A LB. Other Reliable Qualities at 9d. and IOd. a lb. OVER-WEIGHT GIVEN AWAY: Half-pound with each Pound; Quarter pound with each I-Pound; Two-ounces with each i-Pound. 4 Guaranteed to please, or money back MAYPOLE DAIRY Co., Ltd. Manebester House, Station Rd., COLWYN BAY; 1, BusseB Buildiiags, Sigh Street, RHYL; 96, Mostyn Street, LLANDUDNO ri&T) The Largest Retailers of Choicest Quality Butter, Tea and Margarine in the Kingdom. Over 630 Branches now open. 39 We are now fully prepared with Ladies' and Children's Hats In all the New Shades. ALSO BLOUSES, COSTUMES, SKIRTS, Fancies of the Latest Styles. Misses Thomas, Fancy Drapers, 7. High St.. Conway. Established >884. THOMAS DAVIES Wheelwright and Coach Builder, Waggon, Van, Cart and Lurry Builder, ABERGELE ROAD, -—— COLWYN BAY. Mangle Rollers of the be6t Maple Wood supplied and fitted at the lowest rates. Wheelbarrows for Contractors and Farmers. ESTIMATES FREE. TERMS MONTHLY. -=- Emigration. CANADIAN. PACIFIC DIRECT SERVICE FROM GREAT BRITAIN TO &. THROUGH CANADA MAGNIFICENT -EMPRESS- STEAMERS AND COMFORTABLE EXPRESS TRAINS. CARE TAK £ N OF WOMEN &> CHILDREN EMICBARLTS R°FC FURTHER PARTICULARS APPLY CANADIAN PACIFIC RAILWAY, 24, JAMES STREET, LIVERPOOL, Or Local Agents everywhere. 114 CHIMNEY SWEEPING. ADDRESS WOOD JONES Tinsmith, II, UPPER GATE STREET, CONWAY. PRINCIPAL HOUSES IN THE NEIGHBOURHOOD ATTENDED. 20 YEARS' EXPERIENCE. 87 PENriYFFRYN NURSERIES, Between PENMAENMAWR & CONWAY. PETER WRIGHT, NURSERYMAN AND ART FLORIST. Wreaths, Bouquets, and General Floral Decorator. Gardens laid out and kept in order. Golf, Croquet, Tennis, and Bowling Greens laid. Rock Building, &c. Pra. ctical Men sent out by the Hour, Day, or Contract. TODD Tnini r I It tones up the whole H ■•Ir Lt ■ nervous system and as- H| T, I suits nature to throw off I N CT U R E I all nerve pains. Post I ™ free, i, i i and 2/9 from NEURALGIA S5. I ™ free, i, i i and 2/9 from TODpi, Che,, NEURALGIA S5. I ORD. CHEAP OHAIRS L]| For Churches, Chapels, Missions and Schoolrooms. From Is. 8d. each. Buy from the factory, save middle profits. 363 MEALING BROS., High Wycombe
Nodion Ned Llwyd.I
News
Cite
Share
Nodion Ned Llwyd. I TRO GWAEL. Un nos Lun yn ddiweddar yr oedd gwraig barchus yn myned i gyfarfod gweddi yn a gadawodd ei gwlawlen (un led gostus) yn ymyl y drws. Er ei syndod, pan yn dyfod allan, yr oedd y wlawlen wedi ei chymeryd gan rhywun y drws. Er ei syndod, pan yn dyfod allan, yr oedd y wlawlen wedi ei chymeryd gan rhywun arall, ac nid ydyw wcdi ei dychwelyd i'w pherchen- nog eto. Rhy ddrwg ydyw hyn, a dychweled y sawl a'i cymerodd hi gyda brys, onide Ond gadawaf ar hyn yna. EGLWYS BACH. Llongyfarchiadau calonog iawn i Mr. R. E. Hughes am Iwvddo i fyned ar y Cyngor Plwyf ar dop y poll. Gwelais hefyd fod yr hen gyfaill D. O. wedi ei ethol. Mae efe yn teimlo dydd- ordeb mawr yn amgylchiadau y He, a phe buasai wedi cynnal cyfarfod cyhoeddus i ddadleu ei hawl a'i deilyngdod am sedd, mi fuasai yn bleser gennyf fyned yno yn gadeirydd iddo. Gwyliaf y Cyngor newydd yn gwneud ei waith. CARIAD CYNTAF. Dyma fel y disgrifia un bardd yr hanes:— Rhyw ddydd c'add Evan bach y Cwm, Gan gariad trwm ei glwyfo, A chredu wnai mai'r penaf peth "— Oedd cael yr eneth hono, A myn'd a wnaeth, rhyw ddydd yn ffol, Ar ol ei anwvl Gweno Fel Hyn. Ei dilyn wnaeth, nes yn y man, Fe gafodd Evan, druan, Ei Weno fwyn, ar unig sedd, Yn eistedd wrthi 'i hunan, Ond cyn bo hir, un ar bob pen Eisteddai Gwen ac Evan. Fel Hyn. Edrychai Evan braidd yn swil, Drwv gil ei lygad siriol, A Gweno deg, fel blodyn Mai, A wenai yn ddymunol; A'r pellter rhynyddynt aeth yn llai, Xes daeth v ddau i'r canol Fel Hyn. Ond gwr y Cwm ddigwyddodd fod Yn dod yn ol o rhywle, A chafodd Evan yn ddioed Fynd nerth ei draed tuag adre'. A'r diwedd fu fe gawn y tad Ac Evan ar ei linie •uah RI Dyna'r hen stori, ynte. Dyna brofiad llawer un wedyn. Yr Nvvf vn cofio y foment yma am danaf fy hun vn cyfarfod a Catrin y tro cyntaf Dyna, yr oeddych yn meddwl cael yr hanes, ond chewch chwi mohono y tro yma. Mae hi yn ymyl, a phe buaswn yn rhoddi yr hanes i lawr, ei roi yn y tan wnai. Fydd hi byth yn hoffi i mi gyfeirio at yr amser hwnnw, a hynny, meddai hi, am fy mod i yn ymddwyn mor wahanol i'r hyn oeddwn yn addaw y pryd hynny. Cyfnod yr addewidion oedd hwnnw, cyfnod yr edrych ar yr ochr oleu i fywyd, ac nad oeddym yn gweled yr un cwmwl yn ffurfafen y dyfodol. Mae pethau wedi newid gyda ni, fel eraill. Ond trwy y cwbl yr ydym yn rhwyfo ymlaen ar for- daith bywyd, yr haul yn tywynu, a'r awel o'n tu, yn amlach, feallai, nag yr ydym yn haeddu. LLANFAIRFECHAN. Yr oeddwn wedi meddwl am gael myned yma i'r wledd fawr oedd gan y Rhyddfrydwyr yn ddiweddar. Yr oedd arogl hyfryd yn llenwi yr ardal. Yr oedd y merched wedi gwneud eu gwaith yn ardderchog, a phawb wrth eu bodd yn gwneud cyfiawnder a'r danteithion. Cystal a'r wledd i'r corff oedd y wledd gafwyd i'r meddwl wedi hynny caneuon ac adroddiadau da gan gyfeillion caredig. Mr. Charles Fisher lywyddai. Da gennyf na ddigalonodd ar ol yr etholiad, ond yn hytrach yn teimlo awydd gwneud mwy o ddaioni yn y lie. Pan y daw etholiad eto credaf y bydd y byrddau yn cael eu troi, ac y dychwelir ef gyda mwyafrif mawr. Yr hyn sydd yn bwysig ydyw fod y gymdeithas yn cadw yn fyw ac effro, ac yn gofalu am yr etholwyr. Bu y gymdeithas yn ffodus iawn i gael ysgrif- ennydd gweithgar, ac nid oedd yn rhyfedd gennyf weled eu bod yn cyflwyno pwrs a'i lond o aur i Mr. Griffith R. Griffiths- Tystiai amryw o'r aelodau i'w sel a'i ffyddlondeb, a chyflwyn- wyd y pwrs iddo gan Miss Griffiths, Plas Newydd. Cydnabyddodd yntau mewn araith bert. Hy- deraf v deil yr achos i gynnyddu, ac fe wna yn sicr ond cael yr holl aelodau i fod yn fyw i'w dyledswyddau. Da y gwnaeth pobl a phlant y lie fyned i'r Eisteddfod i Benmaenmawr i ennill rhai o'r gwobrwyon, gan fod gwobrwyon lawer wedi myned yno yr wythnos cynt o Lanfairfechan. Llawen oedd gennyf ddeall fod pawb ar delerau heddychol a'u gilydd ar ol y ddwy Eisteddfod. Dyna sydd yn iawn. Os colli, colli heb golli tymer, ac os ennill, ennill heb ymffrostio llawer. BANGOR. Mae rhyw debygolrwydd fod yma ddeffroad ymysg Rhyddfrydwyr y ddinas hon y dyddiau hyn. Adeg yr etholiadau ydyw, ac y mae amryw ymgeiswyr yn dod allan am seddau ar Fwrdd y Gwarcheidwaid, ond ofnaf nad oes ond gobaith gwan vr ethohr ond ychydig o Rydd- frydwyr, gan fod y blaid yn cysgu bob amser ond ar adeg etholiad. Toriaidd iawn ydyw y ddinas wedi bod, a hynny yn lied debyg oher- wydd dylanwad y Castell a'r Eglwys Gadeiriol. Yr hyn sydd yn rhyfedd ydyw, er fod yn y ddinas gynnifer o addoldai Ymneilltuol, a rhifa eu haelodau, mi dybiaf, rai miloedd, eto Eglwyswyr sydd yn' sicr o gael eu hethol. Yr unig gyfrif ellir roddi am hyn ydyw fod yn rhaid fod yr Ym- neilltuwyr yn pleidleisio iddynt, ac yn sicr ni ddylai hyn fod. Da gennyf fod y Rhyddfrydwr cadarn. Mr. W. O. Jones, yn dyfod allan yn y frwydr hon, a dylai fyned i fewn gyda mwyafrif anrhydeddus. Mae Rhyddfrydwyr eraill hefyd ar y maes. Cawn weled beth fydd canlyniad y frwydr hon. Er ymffrost y Ceidwadwyr yn eu llwyddiant yn y ddinas yn amser yr Etholiad Cyffredinol, gobeithio y teflir eu Dagon. er eu bod wedi gofalu am ddewis yr vmgeisydd tebycaf i lwyddo. Ofnaf fod yr ochr arall yn boddloni rai prydiau ar pwy bynnag a ddel. "NED LLWYD," Weekly News Office, Conwy.
.--.-Clywedion o Lanfair Talhaiarn
News
Cite
Share
Clywedion o Lanfair Talhaiarn Fod Ned Llwyd wedi bod yno. Fod merched y lie ofn iddo gael gafael ar eu hanes i'w roi yn y Weekly News. Fod cyfarfod da wedi bod yno dydd Gwener y Groglith. Fod hen lane wedi cael awgrym gan foneddiges i fod yn fwy cyflym am y lodes fu yn fuddugol. Ei fod wedi methu cael partnar i fynd gyda clwy lodes y noson hono. Fod y bachgen ifanc hwnw oedd yn methu canu, na phlesio'r merched yn Eisteddfod Ll- wedi cadw gafael mewn lodes ifanc am chwarter awr! Fod rhai yn dweyd y byddai yna lith fawr am Llanfair yn y Weekly News yr wythnos nesaf. Fod ymddiddan ymfrostgar rhwng dau gyfaill yn ystod y cyfarfod ynglyn a hau. Fod gormod o swn siarad gan y bechgyn a'r genethod, nes y gorfu i Deiniol wrthod ad- rodd. Os bydd cyfarfod eto yn yr ysgol, fod eisiau i'r pwyllgor gofio am roi Ilwyfan yn y pen arall i'r ffyliaid air ffoledd. Fod bechgyn ieuainc yn Llanfair ofn i E. H. gael eu hanes. Fod un wedi ei siomi yr wythnos ddiweddaf yn y Weekly News, am nad oedd dim am Llan- fair ynddo. Fod J. H. wedi cael ordor ymlaen Haw am niter benodol o Weekly News yr wythnos nesaf. Fod pwyllgor y gymdeithas yn gobeithio na wnaitf Deiniol gymeryd yn anharedig am ym- ddygiad y bechgyn a'r genethod, ac y cofia fod manus hefo gwenith bob amser. Fod y pwyllgor am gael patent machine i ddi- doli'r manus allan y tro nesaf. Fod nifer o'r genethod wedi cymeryd cap ¡ bachgen o'r B-—— yn sport.
Nodion Llywarch Hen
News
Cite
Share
Nodion Llywarch Hen Daeth Mawrth i fewn eleni fel Ilew, ac ii allan fel yr oen. Ar ei ffordd allan rhoddodd wisg o wen, a blodau, a bywyd ar Wyl y Pasg. Dihaul i raddau oedd y Groglith. Ond er nad oedd yr haul fel marworyn, yr oedd y ffordd yn sech, fel ffordd canol haf. Yr oedd min ar yr awel, a duwch dwyrain yn ei ffordd. Gyrai'r ceir modur. nes codi colofnau o lwch, a pheri i'r gwladwyr felltithio'r dydd eu dyfeisiwyd. Nos Sul, cil- iodd pob chwa, a daeth cafod ddistaw, ddistaw. Daeth fel bendith rhyngom a phla'r llwch. Gwyliau buddiol i drefi glan y mor oedd hwn, a chawsant gynheuaf da. Ofnai rhai yn wahanol, gan fod yr Wyl yn gynar ar y flwyddyn. Gwyl y Lloer yw, ac fel bo amser hono, y bydd ei hamser hithau. Yn ol Calan presenol, ni ddig- wydd Pasg yn gynarach na Mawrth 23ain, nac yn ddiweddarach nag Ebrill 26ain. Ni wel ond ychydig Basg ar Ebrill 26ain, gan na ddig- wydd ond teirgwaith ar y dyddiad hwn am 300 mlynedd, sef 1943, 2038, a 2190. Ni waeth heb gynllunio, ni wel ond ein plant y dyddiad cyntaf, a byddwn oil yn anghof cyn daw'r ail. t Aeth y Grawys drosodd a'i holl ddefodau yr un modd ei beidio priodi, a'i beidio bwyta cig, Neges y rheini ar y dechreu oedd cymhwyso dynion i ofidio am ofid Un arall. Nid ydynt heddyw nemor well nag arferion sychion a di- ystyr. Aeth un o ohebwyr Llundain heibio'r Llyfrgelloedd lCyhoeddus, i chwilio a ddarllenid llai o chwedlau, a mwy o lyfrau crefyddol. Na dim Grawys neu beidio, unig wledd llawer calon yw brwdfrydedd gwamal nofel wyllt. Nid yw ein crefydd yn nawseiddio ein bywyd cyffredin, ond y mae pethau ein bob dydd yn halogi ein pethau sanctaidd. Llenwir yr eg- lwysi yn y bore-bore Sabbath-gan addolwyr eiddgar-erbyn y prydnawn y maent yn rhodian- wyr a dringwyr mynyddoedd rhfygus a bydol eu hanian. Ffurf wag yw'n gwyliau. Crefyddwyr wedi colli eu crefydd ydynt. Yn araf cyll y Sabbath ei hen dawelwch nefolaidd yr un modd. Duw gadwo Gymru rhag troi ei throed oddi wrth y Sabbath. Ar y Pasg y cynhalia Methodistiaid Llundain Gymanfa. Yn y Celt rhydd Myfyriwr gyngor i'r gwyr a a yno i gyhoeddi'r Hen Hanes am lesu Grist a'i Groes." Na, camgymerais yn enbyd, ni orchymynir son am dano ef, na'i groes chwaith. Dywedir yn ddiamwys na wiw son am hen wirionedd. Rhaid cael rhyw bethau newydd i bobl Llundain a gofalu am brofi pob peth ysgolheigion ydynt hwy wedi arfer cael pob peth a'i brawf arno. Felly pe soniai un am anonestrwydd yn Llundain, byddai rhaid profi ei fod yn groes i gyfraith daear a nefoedd, a chroes i natur dyn ei hun-ac anhawdd ofnadwy fyddai profi'r olaf dan lawer amgylchiad. Rhaid i'r pregethau fod yn "wladgar" ac yn "fyr- ion." Ni roddir yn yr amodau y rhaid iddynt fod i bwrpas achub enaid na than eneiniad yr Ysbryd Glan. Student sy'n llefaru, dros ei gyd-" students yn Llundain. Ei gam- gymeriad mawr yw ordro pa fath Efengyl ddylai pobl Lluddain yn gyffredinol gael. Y mae yn Llundain bechaduriaid eisio eu hachub, a saint eisio eu hadeiladu-wrth reswm nid oes ar am- bell fachgen o student eisio'r naill na'r llall. Chwareu teg i Gymry Llundain, pobl ddigon ddymunol ydynt i bregethu'r gair uwch eu penau, a thyn stori bach am Gymru ddagrau o'u llygaid. Crefu ddydd a nos am y Gyllideb y mae'r Blaid Geidwadol yn y Senedd. Ysgerbwd drwg- sawrus, anghyfiawn, a chynllun i ladrata ydoedd hi'r llynedd. A newidiodd y llewpart ei frychni ? Gwir mai gwaeddi am ranau o honi y maent, gwyddant na ddaw ei haelodau'n rhydd. y rhaid i'r holl gorff ddod i'r golwg, os y daw hefyd. Felly ei chael oil ym mlaen yw'r amcan. Beth wedi hyny. Credant y trydd yr Aelodau Gwyddelig eu cefnau arni, yr ymunant a'u gelynion i'w chroeshoelio. Nid yw son am barodrwydd Ty'r Arglwyddi i'w phasio yn ddim, ond eu dull slei o guddio'r bach sy'ng nghol yr abwyd. Galwodd Arglwydd Hugh Cecil Dy'r Arglwyddi yn "gath," a chyfaill calon y Ty hwn ydyw ef. Os felly, rhaid mai'r Gyllideb yw'r llygoden. Llefa pobl y Ty biau'r gath," yr a'r holl fyd o'i le, oni ddaw'r Ilygoden o'i lloches. Och Och Aros yn ei chuddfa y mae, gan rhyw rith ymddangos, i ddeffro nwyd y rhai geisiant ei bywyd. Eis- tedda'r wlad ar y gwrych, gan ddisgwyl yn awchus weled tori ewinedd lladrones yr hufen, a thynu blew ei barf. Nid gorchwyl braf fydd hyny, dyddorol fydd yr ysgarmes pan y daw. Dyma nodyn heddyw o gynteddau y Seredd. Yno y mae Mr. William Jones, yr aelod dros Arfon, yn brysur genhadu cymod rhwng yr Ael- odau Gwyddelig a'r Rhyddfrydwyr. Tafl ei linin tangnefedd o'u cylch i'w cadw dan y faner, dyna'r esboniad ar ei brysurdeb. Ond cedwir cwrs ei waith yn haner cuddiedig, rhag rhoddi mantais i'r bobl heuant anghydfod. Mawr yw'r darogan, a cheir digon o esbonwyr, a mwy o gynghorwyr na hyny. Er pob peth, a thrwy bob peth ymlaen yr a'r weinyddiaeth yn sef- ydlog. Taflant ambell air poeth i'r dyfroedd oer, i ferwi cynwrf etholiad. Ond dichon mai neges hwnw yw gwasgu'r rhengau yng nghyd, yn fwy nag awgrymu beth ddigwydd. Pe'r ddwy blaid yn credu y daw etholiad yn fuan, oni fyddai llawer mwy o ddarpar ar y cerbydau, a hwylio arfau'r frwydr ? Yn llawes y Gwyddelod y mae card y chwareu. Er y gwawdia'r Ceid- wadwyr hwy, er yr ofna'r Rhyddfrydwyr hwy, ni fedr un o'r ddwy blaid gredu'r gwaethaf am danynt. Cred Mr. Lloyd George ynddynt yn gryf, a gwialen ei ffydd ef yw gwasanaeth Mr. William Jones. Chwe blynedd o heddwch a llwyddiant yw'r hyn geisia'r wlad. Nid melus y chware ethol yma. Heb os un ,0 gamrau cyfiawnder yw rhoddi'r holl etholiadau ar yr un dydd-yn Sul i ethol Senedd. Amheua'r newyddiaduron dyddiol ddoethineb y ddeddf, collant hwy beth mantais, canys rhed pawb am ddyddiau yn amser etholiad am bapur newydd. Bydd yn gyfle i degwch, pawb yn arddu ei dir ei hun. Beth ddaw o'r mudiadau ystriwgar sy'n anfon eu castiau o fan i fan fel show ? Bydd rhaid iddynt roddi eu cardiau i'w cadw. Ni chefnoga'r Ceidwadwyr y ddeddf hon, ni bydd mor fuddiol i blaid cyfoeth, plaid y ceir modur. Manion yw'r rhain. Llesola ei hegwyddor fawr y ddwy blaid fel eu gilydd, sef cadw'r pleidiau rhag syrthio yn aberth i gwrs y llif. Er engraifft, pan gollodd Mr. Balfour ym Manceinion, yn nechreu Etholiad 1906, collodd ei blaid yr un foment. Yn lie sefyll yn annibynol, a datgan barn ar bynciau'r dydd, rhedodd Lloegr anwadal trwy'r adwy ar ol Manceinion. Danghosodd v Ceidwadwyr fedr dda i ochel hvn yn yr Ethol- iad ddiweddaf-trefnasant eu manau gore i bolio gyntaf, er mwyn cael y blaen. Deddfau ac nid dynion ddylai fod prif achosion ein Hethol- iadau, ac yn lie bwrw eu hunain i'r llif, dylai pawb ddewis yn ol ei farn. Gochelir yr anffawd hon wrth osod yr oil ar yr un dydd. Bydd y flwyddyn nesaf yn flwyddyn cyfri'r bobl. Nid o falchter, fel Dafydd, ond i hwyluso ein hamgylchiadau gwladol. Llwyddodd Mr. William Jones i gael colofn i'r Gymraeg yn yr holl bapurau, fel y caffo pob Cymro ym mhob man fedro'r Gymraeg restru ei hun fel y cyfryw. Y mae ychwaneg na gwladgarwch yn hyn. Mewn dinasoedd fel Llundain a Liverpool bydd yn ar- weiniad da i Genhadon. Cant ddilyn y rhestr- iad ar ol y colledig. Nid pawb chwaith ddaw i'r amlwg. Oherwydd fe gar llawer ymguddio rhag eu cenedl, a rhag eu ceraint; hyn yw anian llawer Cymro pan syrthio i lawr. Nid medru'r Gymraeg, ond medru'r Saesneg yw'r dyrys- bwngc. Noda llawer eu hunain fel yn medru Saesneg, pan mewn gwirionedd na fedrant ond deall ychydig frawddegau. Pe caent fyd am lefaru brawddeg gywir o Saesneg, nis medrant. Pobl ddwy-ieithog fyddant er hynny ar y rhestr. Chwalu Byrddau'r Gwarcheidwaid sydd un o bynciau newydd a llosgawl y dydd. A chy- meryd pethau ar eu gwyneb yn awr, anfoddog yw'r Byrddau eu hunain i'r oruchwyliaeth hon. Hollol naturiol. Pa bryd bynag y daw hyny, ni wiw disgwyl unfrydedd ar fater mor fawr. Y mae'r bobl garant swyddau dros i bethau aros fel y maent. Eto pan ystyriom bob peth, heb os i hyn y daw. Pan ddaw'r Pensiwn i'w llawn rym, hi gymer ymaith ran ehelaeth o waith y Byrddau. Aiff pob un dros 70ain oed o afael y Byrddau hyn i ofal y Llywodraeth, a thyna waith talwyr arian y tlodion ymaith bron i gyd, yn ddim amgen na segur swydd. Tuedd amlwg pethau ar hyn o bryd yw cefnu ar y Wrcws." Megir y plant ar wahan, er eu cadw o gyredd cymdeithas ddidda, a thynu gwarth gweithdy'r Undeb oddi ar eu cymeriadau. A byddai cell- oedd gweigion y Rhinws yn llawer cymwys- ach llety noswaith i segurwyr ein ffyrdd na'u beichio ar y trethdalwyr. Beth bynag am chwalu'r Byrddau hyn, rhaid eu hail drefnu, gan y cymerir eu gwaith yn ddarnau oddi arnynt. Gall y trethdalwr godi ei ben, daw ei faich ef yn ysgafnach. Caiff dalu llai o achos y Pensiwn, felly hefyd lai o gyflog i swyddogion. Y mae'r Byrddau eu hunain, fel rheol, yn llawer rhy anghyfartal. Ceir ynddynt ychydig o w9'r blaenllaw, yn gyru eu cerbyd i'w pwrpas eu hunain, a'u gwanach yn methu ei atal. Ceidwaid Cymro oddi cartref yw ei iaith a'i grefydd. Pan gollo'r bobl gyffredin yr rhain' cant eu hunain ar ei llithrigfa, a chollant eu lie a'u cymeriad yng nghymdeithas cyn hir; felly, dyledswydd Cymry Cymru yw anog eu brodyr ym mhell draw ar gefn y byd i godi eu Beth- elau yn droell naturiaeth i'w bywyd yn eu gwlad newydd. O'm blaen y mae Llyfr Tonau ac Emynau," a'i enw'n Odlau Moliant, at Wasan- anaeth Eglwys Gymreig Cape Town, ac Eglwysi eraill De Affrica." Y Parchn. Gwynfryn Jones Wesley Hughes, a Mr. John Morgan a'i casglodd, a gwnaethant waith rhagorol. Dyma lyfr a'i faint yn ail i'w le, rhyw 156 o donau a 382 o emynau. Meddylier am faint Llyfr y Method- istiaid Calfinaidd, rhif ei emynau yn 953, a'r tonau yn 468. Beth bynag am arfer y tonau, ni chenir o'r emynau, o ddechreu blwyddyn i'w diwedd, ond rhyw bedwar cant cwta. Y mae digon o amrywiaeth yn dda, ond dirgelwch canu emynau yw, nid amrywiaeth a phriodoldeb, ond cynefindra. Cara'r pobl eu hemynau cynefin, a chanant hwy ddengwaith fwy calonog. Ceid- wadaeth reddfol natur, mewn dafad a dyn, yw caru ei gynefin. Hoffaf yn fawr gywair lion y tonau a'r emynau. Er yn onest, rhaid i mi ddatgan fy nheimlad, nid fy marn, ond fy nheimlad y mae yma ormod o gyfieithiadau, a gormod o emynau newyddion. Dywaid fy marn mai nodedig briodol yw cyfiaethu rhai o emynau molianus y Saeson i'r Gymraeg, am na feddwn i lawer o'r math hwn. Ond chwilio y mae fy nghalon, er hyny, am emynau lleddf a gweddi- gar Cymru. Os collwyd ambell hen emyn, cad- wyd ambell hen don anwyl gan y bodol, er con- demniad ein cerddorion megys yr Hen Dder- bi," Andalusia," Denton's Green," Teyrn- asa lesu Mawr," a Bryniau Cassia." Hwyrach nad yw'r rhai'n mor eglwysig a defosiynol ag yr hoffem. Myn y bobl eu canu, oherwydd eu hwyl wresog Gymreig. Syrthiodd y Golygwyr i am- ryfusedd yng nglyn ac awdwyr rhai o'r emynau, megys priodoli Un waith am byth oedd ddigon" i Mrs. M. Owen. Nid Ieuan Glan Geirionydd ond leuan Gwyllt gyfiaethodd Mi glywa'th dyner lais." Brychau bychain yw'r rhain. Bendith fo ar yr ymdrech deg hon i wasanaethu ein brodyr yn eu cartrefi pell o'r hen wlad.
.--.---Cytarfod Cystadleuol…
News
Cite
Share
Cytarfod Cystadleuol Carmel, Llanrwst. Cynhaliwyd y cyfarfod cystadleuol blynyddol mewn cysylltiad a'r capel uchod, prydnawn a nos Wener y Groglith. Yr oedd y pwyllgor, fel arfer, wedi paratoi rhaglen ddyddorol i'r cystad- leuwyr, a daeth tyrfa liosog i'r maes. Clorian- wyd y cantorion gan Mr. Alex. Henderson, Taly- sarn, a rhoddodd ei ddyfarniadau foddhad per- ffaith; y traethodau a'r farddoniaeth gan y Parch. E. J. Jones, Llangernyw yr adroddiad- au, Mri. John Williams, C.S., Ffrith Ucha', a T. W. Jones, Maenan School; a'r gelfyddyd- waith gan Mr. a Mrs. Williams, Henblas Mr. a Mrs. Williams, Fedw Mr. a Mrs. Owen, Farm Yard Mrs. Roberts, Henffrith, a Mrs. Davies, Turnpike Uchaf. Gwnaeth pawb ei waith yn rhagorol. Y trysorydd oedd Mr. John Williams, Maes Madog, a'r ysgrifennydd gweithgar oedd Mr. William Roberts, Hen Ffrith. Dymunem grybwyll yn neilltuol garedigrwydd yr ysgrif- ennydd a Mrs. Williams yn rhoddi te i'r pwyll- gor yn rhad ac am ddim. Cadeirydd cyfarfod y prydnawn oedd Mr. John Williams, C.S., Ffrith Ucha', ac arweiniwyd yn ddeheuig yn y ddau gyfarfod gan Dewi Tudur," ac yr oedd yn ei hwyliau goreu. Cymerwyd y gadair yng nghyfarfod y nos, yn absennoldeb ei dad, gan Mr. Norman Rogers Jones, Gorffwysfa, a gwel- wyd yn amlwg fod ynddo ddefnydd cadeirydd campus er nad oedd ei araith yn faith, yr oedd ei sylwadau yn hvnod bwrpasol. Adroddiad i rai dan 10 oed 1, Annie Roberts, Henffrith 2, J. H. Hughes, Rhydlechog cyd- radd drvdydd, lorwerth Roberts ac Rosina Ro- berts, Cae Candryll. Par o fenvg Mair Moel- wyn. Par o mils: Mrs. Owen, Farm Yard. Llawysgrif i rai dan 10 oed 1, Ellen Jones, Bryn Bettws 2, Annie Roberts, [Henffrith. Unawd i rai dan 14 oed 1, E. J. Jones, Llan- rwst cydradd ail, Hilda Thomas, Coed Llydan Bach', a Maggie Evans, Coed Llydan Mawr. Ar- holiad i rai dan 14 oed: Evan Hughes, Gors- wen. Crafell bara ceirch a ffon onen Mr. Wil- liam Roberts, Ysgoldv. Adroddiad i rai dan 14 oed: 1, Gwladys Jones, Turnpike; 2, Annie Roberts, Henffrith. Pais plentyn: Miss Ro- berts, Llanrwst. Par o hosannau ribs Mrs. A. Williams, Rose Hill. Arholiad i rai dan 16 oed 1, Miss Maggie Evans, Cefn Madog; 2, Annie Harker, Nant v Fedwen. Unawd i rai dan IS oed Miss Gwladys Williams, Town Hill, Llan rwst. Araith ddifyfyr: Willie Thomas, Melin y Coed. Crys nos i ferch Mrs. Davies, Turn- pike Uchaf. Deuawd i rai dan 14 oed Hilda Thomas a Maggie Evans, Melin y Coed. ( Deuawd, tenor a bass: Mri. William a T. O. Ellis, Llanrwst. Pedwarawd Mr. Henry Wil- liams, Llanrwst, a'i barti. Darllen darn heb ei atalnodi: R. 1). Jones, Melin y Coed. Wyth- awd: Parti Henry Williams. Englyn, "Y Maen Liifo Mr/ T. Herbert Hughes (Eryi Menai), Llanrwst. Adroddiad: Mr. R. Lloyd Jones, Penmachno. Collar a front wedi eu gwau: Mrs. Davies, Clwt Cottage, Eglwys Bach. Parti meibion: Mr. R. O. Ellis, Llanrwst. Tie gwyn i ferch Miss Jones, Denbigh-street, Llanrwst. Chwe phennill, "Etholiad Seneddol": J. L. P." Crochet front: Mrs. Davies, Clwt Cottage. Dadl Mri. Robert Morris a Francis Lones, Pandy Tudur. Traethawd Cydradd, Miss Wil- liams, George-street, Llanrwst, a Mr. R. Lloyd Jones, Penmachno. Her-unawd: Mrs. Kerry, Llanrwst. Par o fenyg: Mrs. Jones, Nant Wnan, Llansannan. Tea co-i. ,,i Hughes, Nanerth, Pandy Tudur. -aeth gor- awl: Cor Llanrwst, dan arweiniad Mr. R. O. Ellis. Cyfeiliwyd gan Mr. W. E. Davies.
Advertising
Advertising
Cite
Share
CURED AT 78 of Chronic Cough by VENO'S LIGHTNING COUGH CURE. Mr. George Bradley, Long Street, Wotton- under-Edge, Glos., writes Two years ago I had a serious illness, which left me with a very bad cough,- but Veno's Lightning Cough Cure cured me, after trying everything else in vain. I always use it when I have a cold or cough, and it never fails to cure me. I am 78 years of age, a fact which shows the wonderful sustaining pro- perties of Veno's Lightning Cough Cure." Veno's Lightning Cough Cure is a perfect remedy for coughs, colds, bronchitis, asthma' blood-spitting, nasal catarrh, difficult breathing, and all chest and lung troubles. Price 9 £ d., Is. 1-2\) and 2s. 9d., of all chemists.
Y Golofit Feirniadol
News
Cite
Share
Y Golofit Feirniadol CYFARFOD CYSTADLEUOL LLAXFAIR TADHAIARX, Y GROGLITH, 1910. Y LLYTHYR CARU. Derbyniwyd deg o l/yfchyrau. Daeth tri o honymt i Law yn rhy ddiweddar. ond gan na wna hynny yr un gwahan-iaeth yn v dyiarniad, fe wneir sylw byrr arnynt hwy fel y rhai eraill. Nid ydym yn eu rhestru yn ol eu teilyngdod. LAURA PUGH.—Llythyr byrr sydd ganddi hi. Disgwyliai weld ei hanwyl gariad yn y cyfarfod hwn heddyw, a gobeithio nad ydyw wedi ei siomi. Tybiwn y bydd Laura yn un hawdd byw gyda hi, oblegid nid yw yn meddu ar lawer o ddawn ond 4dichon y bydd yn wahanol ar ol priodi. DEWI.—Llythyr doniol sydd ganddo ef. Nis gellir cymeradwyo pob ymadrodd sydd ganddo. Mae yn dymuno ar A Jane ei gyfarfod nos Fercher. Cofia ddwad," meddai, "neu myn, c-ebyst mi ddof i dy nol bob cam." Dyna un engraifft. EVAN JONEs.-Mae ef yn ysgrifennu ymddi- heuriad am rua fuasai wedi gallu cyfarfod ei gari-ad ar noson bennodol. Y rheswrn sydd ganddo am hynny yw fod ea dad a'i fam oddi cartref. Dywed fod son yn yr ardal am ddwy o ibrioda.s.au sydd i gymeryd lie yno, a chymer fan)tais oddiar hynny i awgrymu ei bod yn bryd iddyilt hwythau ddiJyn eu hesiampl. Gofynna 1 "Margret" wneud ei miheddwl i fyny a'i gjyfarfod saith o'r gloch nos Iau ar waelod Pont yr Alltgoch. Os y cytunodd y ddau, pob llwyddiant iddynt. JANE.—Mae hi yn llawenhau am fod Bob wedi troi yn ddirwestwr. Hyrr iawn ydyw ei llythyr, ond yn ddigon pert. Hi ydyw yr unitg un sydd wedi rhoddi croesau ar y diwedd. Mae y bobl ieuainc yma, feallai, yn dean ystyr pethau felly. lOAN THOMAS.—Defnyddia ef ormod o'i bapur yn ofer. Mae y cyfeiriad, &c., yn myned a hanner tudalen ganddo. Anferwch gynhildeb, loan. Neges bennaf ei lythyr ydyw gofyn aim giael y fraint o arwain "Mair" at allor Hymen i wneud y cyfamod yn sicr. DAVID PRITCHARD.—Llawysgrif dlos ac eglur. Ysgrifenna at Miss Jones a gyfarfyddodd vn Llangollen, yr hon a'i srwynodd i'r fath raddau fel y meddylia am dani nos a dydd. Sonia am y byd isloerawl hwn. Gair anghvffiredin ydyw hwnyna mewn llytihyr caru. Hefvd cyn diwedd ei lythyr geilw yr "Anwyl Miss Tones" yn "Anwyl Feistres." Rhy fuan i hynny, David DAFYDD RHYS.—Nid oes yn ei lythyr ddim ellir ei gondemnio yn neilltuol. Rhy gvffredin ydyw. Mae ganddo iaith dda. Drwg gennyf ydyw. Mae ganddo iaith dda. Drwg gennyf ei fod heb gwrdd a Megan ers rhai mas- oedd. Dichon, fod Dafydd Rhys wedi bod yn rhy brysur yn oeisio cariad arall y misoedd diweddaf! Mae eto yn aros dri llythyr sydd yn rhagori llawer ar v rhai sydd wedi bod dan svlw, sef eiddo Ren," "TalhaLam," a Carwr." Gall- esid yn gydwybodol roddi y wobr i'r naill neu y llall o honynt, gan eu bod yn teilyngu hynnv. Yr ydym wedi darllen y tri droion, ond vr un sydd yn gadael yr argraff fwyaf ffafriol arnom ydyw eiddo Carwr, ac iddo ef yr ydym yn dyfarnu y wobr. "Ar air a chydwybod, Mawrth 24, 1910. DEINIOL FYCHAX. O.Y.—Yr wythnos nesaf bydd gennyf ychydig nodiiadau am fy yimweliad a'r lie. yr hyn a welais ac a glywais yno, &c. Dj-ma y llythyr buddugol. Gwelais enw y buddugwr yn ad- roddiad S-earchb,-ht Nant-y-Foel, Mawrth gfed, 1910. Fy Anv.la{ Geridwen,-Ple.s.er calon gennyf ydyw ateb dy gariadus lythyr, ond mae yn am- hosibl gosod ar bapur gwyn hiraeth calon sydd yn llosgi yn ffiam ar aelwyd serch. Yr ydwyf yn falch iawn o'r darlun prydferth o honot, yr hwn a dderbyniais gennyt ddoe, ac y mae edrych arno yn fy ystarfell yn swynol iawn i ini. Ond mil gwell fuasai dy gael di yma, fy Ngheridwen. Pan oeddym yn rhodio law yn llaw ar hyd v ddol, yr oedd v blodau megis am y cyntaf i gipio y cyfte i gusanu 61 dy draed, a'r adar man. yn canu'n berffeithiach nag erioed. a natur megis ar ei goreu yn dv gyfaxch, a phryd arall yn gwTando yn astud ar beror- iaeth yr awel fwyn ar dannau'r dail. ac vno yng nghvsgod v coedvdd cauadfrig yn n~wallt ffrydiau serch hvd nes yr oedd man draliodion y byd yn myned" o'r sohvg, a'r dyfodol Y" yir- agor o'n blaen fel mor diderfam o wynfyd. 0. Ceridwen dlos, yr wyf heddyw yn edr\-ch yn ol megis drwy niwl amdaenol, ac yn canfod rhyw lecyn cy se.gredisj a dedwvdd }-n }"ingodi yn fv m>nvyd yr adeg hon no pan y t>T>gaist, fy an- wvlaf Cieridwen, lw o ffyddlondeb i mi. Mae y llw hwnnw yn fy nghadw y llawn N-ni- ddiried ynot, ac yr idwi-f yn gobeithio na byddwn yn hir cyn neidio i mewn i enfvs y I cyfamod. YVyt tïn cofio'r noson rvfedd honno. Ceridwen, noson y llw? Haws fuasai i'r haul anghofio taflu ei belydrau llachar ar wynebprvd gwelw'r ddaeat nag i ti anghofio'r noson honno. 0 Ceridwen mae C fy serch mor angerddol tua atat fel yr wyt yn cysgodi rh-\ a chanfod unrhyw ddedwyddwch ar wahan oddi wrth dv gwnini di. CN-frifaf yr oriau a'r munydau svdd rh\-ngvv^ a gweled dy wn-n-eb prydferth. Bydd dy gwmni yn effeithiolach i mi na balm i'r boenus iron. 0 Ceridwen hawddgar! Dychmygai ein gweled ar draeth mor mawr ein dy-fodol, a hen gyfamod yr undeb mewn gweith- rediad. Pryd hyn y bydd llwyth o ofidiau yn cael eu hymlid i ffwrdd oddiar ein mynwesau fel n.1wl o flaen pelydrau tanbaid yr haul, ac yna byddwn y ddau ddedwyddaf yn rhodio ar hyd llanherchau tlysion a bryniau gwyndon serch. Terfynai gyda'r dymuniadau goreu, a bydded byw y serch ferwa yn dy dyner galon.Ydwyf, ajniwylaf Geridwen, yn ddidwryll ia phur hyd angau, CARWR. ENGLYN Y NIWL. Derbyniwyd pedwar o englynion, ond y mae mwy o'r niwl mewn rhai o honynt nag yn eraill: NIWLOG.-Enrglyn llipa. Ymddengys fod un rhinwedd pwysig yn yr awdwr yn ei waath yn adnabod ei hun. CERIDWEN.—Y mae yr hyn ddywedir yma yn dditgon gwir, ond nid oes yma na barddoniaeth na chynghanedd. UN O'R GLYN.-Englyn cywir o ran cynghan- edd. a phiriodol iawn o ran ei syniadau. Gear gwan yw rhiwiau yn v llinell oLajf. Dylasai derfynu yn well, a gallasai bardd o allu Un o'r Glyn" wneud hynziy yn rhwydd. ANOBEITHIOL.-Englya cryf a llawn.. Dy- farnaf y wobr iddo, er fod Un o'r Glyn yn agos iawn ato. H. C. WILLIAMS. HIR A THODDAIDD I'R PARCH. M. ROBERTS. Chwith iawn gennyf y syniad fod fy anwyl gyfall wedi huno mor gynnar. Da iawn gennyi i'w hen gymdogion yn Llanfair ddangos y parch hwn i'w gofiadwriaeth, a da iawn gennyf fod y cynhyrdhaon mor ragorol. Der- byniwyd pum cyfansoddi.ad, ac y maent oil yn wir dda. AARON.—Cyngihanedd ragorol, a syniad ar- dderchog yw i Mr. Roberts losgi allan wrth roddi goleuni i eraill. Mix YR ELWY.—Cywir a chrytf. Ni enwir y gwrthrych ganddo, ac nid yw yn terfynu mor dda ag y buasid yn dymuno. CALON DDWYS.—Cyfansoddiad tyner a nerth- ol. Dywed fod ei galon wedi myned i'w bregeith yn seiniau cynes. Fel rheol, mae ei an- La soddeiriau yn rhai c^imhwys iawn, ond amheuaf briodoldeb y gair gwron wrth ei gysylltu a hyawdl. Yr oedd ein bnawd yn ddiau yn wron, ac yr oedd yn hyawdl. Fodd bynnag, mae hwn yn gyfansoddiad campus. DEIGRYN SERCH.—Dyma gyfansoddiad rhag- orol eto, ond er fod y gynghanedd yn gywir yn v drydedd linell, prin y gellir ei galw yn gref. N.id wyf yn hoffi y term "merthyr oedfaon." Gwelir y meddwl. Llinell dda iawn yw hon Gwr cywir, hyawdl y geiriau hoe won." BETHPEOR.-Dyrna gyfansoddiad pur; yr liai'th yn ddisgrifiadol, y gyn'ghanedd yn gref ac yn naturiol, y portread o'r gwrthrych yn gywir ac yn llawn. Bcthpeor yn ddiau yw y goreu, a chaffed y wobr. H. C. WILLIAMS. DARN I'W ADRODD I RAI DAN 18 OED. T. J.-Darn digrifol yw hwn, yn rhoddi hanes Dic Llwyd." Mae yn ddarn medrus a phert, ond carasiwn ,fod y foeswers oddi wrtho yn gryfach. GLYN.—" Y Glorian sydd ganddo ef. Mae yn cynnwys syniadau rhagorol a gwersi budd- iol. Ond y mae yn Thy ryddiaethol; ni chedr ynddo ddigon o amrywiaeth i ateb i ddarn i'w adrodd, ac nid vw yn gyfaddas iawn ychwaith i rai dan 18 mlwydd oed. fI AWEL.—" Clerfyd y Saboth." Dyma gyfansoddiad pert, ac ystyriaf ef y goreu o'r tri i'r amcan sydd mewn golwg. Mae yn ddi- au yn deilwng o'r wobr. H. C. WILLIAWJT.
!Cyfarfod Ysgolion Dosbarth…
News
Cite
Share
Cyfarfod Ysgolion Dosbarth Llanrwst- CYNHADLEDD ATHRAWON. Cynhaliwyd ail gynhadledd athrawon y dos- barth uchod yn Llanrwst prydnawn ddydd Iau. dan lywyddiaeth y Parch. Evan Davies, Tref- riw. Cafwyd anherchiad rhagorol gan Mr. O. R. Hughes, M.A., County School, Llanrwst, ar Ragoriaethau a Diffygion yr Ysgol Sabothol," a chafwyd sylwadau pellach gan Mr. H. Davies, Talybont Mr. R. Williams, Gwydyr House; y Parch. J. Howel Hughes, Bala, a'r Parch. Wil- liam Thomas, Llanrwst. CYMANFA BYNCIOL. Cynhaliwyd y Gymanfa Bynciol yn vr un lie am banner awr wedi chwech, dan lywyddiaeth Mr. H. Davies, Talybont. Dechreuwvd y cyfarfod gan Mr. W. Morris Jones, Ty'nvgroes. Holwyd oddiar Hyfjorddwr VI. gan y Parch. J. Hov.el Hughes, a chafwyd cyfarfod rhagorol, er y buasai yn welliant pe buasai mwy o nifer yn cymeryd rhan mewn ateb. f!& Diolchwyd yn gynhes'i'r holwr ar gvnnygiad y Parch. William Thomas, ac eiliad Mr. W. H. Williams, Station House. Terfynwyd trwy weddi gan Mr. W. Williams. County School.
Advertising
Advertising
Cite
Share
TO FARMERS AND ESTATE AGENTS. GROUND LIME IN BAGS FOR AGRICULTURAL PURPOSES. For Prices, apply to the Manufacturers, RAYNES & CO., Llysfaen Quarries & Lime Works, Near COLWYN BAY. OR OF THEIR VARIOUS AGENTS. 69 » mm mm mm < MAKE YOUR LIFE HAPPY by putting an end to the stomach and liver trouble from which you suffer. k is a < I physiological fact, which can never be too much insisted upon, that the state of one's > digestive organs determine one's general health and consequently one's enjoyment of life. When the digestive processes are not being properly carried on all sorts of ailments arise, ( t > such as headaches, biliousness, anaemia, insomnia and nervous debilty; therefore it is only > BY TAKING steps to secure perfect digestion that the first conditions of health and happiness can be i j established. In Beecham's Pills you have a medicine of unrivalled efficacy in the treat' 1 ment of indigestion and similar ailments, a few doses are sufficient to remove stomach and liver troubles and to promote health and happiness; therefore take BEECHAM'S PILLS. -1 ► Sold everywhere In boxes, price llIt (56 pitta) A 219 1168 pius) ■ mm mm mm mm mm mm mm mm mm m+ mm m mm ►