Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

NODIONI NED LLWYD.¡

News
Cite
Share

NODION I NED LLWYD. ¡ BETTWS. I Mae yn dda gennyf ddeall fod preswylwyr y I He hwn o'r diwedd wedi lliwyddo i gael y pell- ebyr i'r lie. Mae yn welliant mawr. O'r bliaen byddai yn cymeryd amser oherwydd y pellter o'r DolweiL. Ond yn awr dyma gyfle yn ynnyl, a Mr John Roberts, un o ddosbartihwyr y "Weekly 'News yn y lie, i ofalu am dano. Dywedwch fod yr hen gyfaill a'r Twnan Isaf yn llywydd mewn cyfarfod pwysig yn y lie, gellir yn anion ei anertihiad i un o'r papurau Seisnig At bore dranoetih. Yr wyf yn sicr fod pob un yn yr ardal yn falch o'r gwelliant hwn. 'CYSGU. Mae amser a lie i hyn ond ceir rhai yn euog y o gysgu mewin lleoedd na ddylent. Nid lie i gysgu ydyw capel nac eglwys, er ei bod yn ddigon anhawdd peidio ar lawer pryd. Cysgodd un cyfaill yn eglwys y Sul o'r blaen, a deffrodd yn aydyn a gwaeddodd John, ydi hi wedi stopio bwrw?" Edrychodd yn euog iawn. pan welodd lie yr oedd, a beth oedd wedi ei ddweyd. Gwelais un heddyw ddiweddaf yn cysgu yn y tren, a chan nad oeddwn yn ei ad- nabod, nid oedd gennyf ond gadael iddo. Ymhen amser agorodd ei lygaid, ac er ei synr dod, fe welai ei fod wedi pasio ei gartref ers smser. Druan o hono. Yr oedd yn rhaid iddo aros yn hir i gael tren i ddychwelyd. Diau y bydd hyni yn wers iddo at y dyfodol; ac hwyracfh y bydd yn foddion i eraill fod yn wyl- iadwrus rhag myned i'r un brofedigaeth. Y CRONiICL." Yn brydlon iawn y daw Y Cronicl allan o swyddfa y Weekly News." Maa y rhifyn am Hydref wedi dyfod i'm llaw. Deil y boneddwr Mr W. J. Parry, Coetmor Hall, i ysgrifenmi yn ddyddorol ar "Hanes fy mywyd a'm gwaith." Cofnoda liaws oi ffeithiau ac sydd yn awr yn werthfawr i"w cadw; ond byddant yn fwy felly ymhen blynyddoedd eto. Y tro hwn ysgrifenna ar hanes dechr-euad Undeb y chwa- relwyr. Ceir yn y rihifyn esboniadau ar y Wers Sabothol, ysgrifau eraill, a darnau i'w hadrodd, &c. Rhifyn. dyddorol iawn, a dylai yr enwad roddi cefnogaeth gyffredinol i'r rhai sydd yn 90falu am danynt. Y DDAU DDOCTOR. Y Sul diweddaf pregethai Dr. Owen Evans, Lerpwl, vng Nghonwy a'r Junction, a mwyn- hawyd ei weinidogaeth r.erthol. Er ei fod yn pregethu ers dros 6oain mlynedd, eto y mae yn' dirf ac iraidd. Gwr ag syddl wedi gwneud gwaith mawr ydyw ef, yn y pwlpud a thrwy y Wasg.—Dydd Llun gwelais Dr. Pan Jones yn dychwelyd o Bethesda, wedi bod yn gwasan- aethu yno. Yr oedd yn edrych yn dda a ohialonog. Pwnc mawr Dr. Pan, ers blvnyddau lawer, ydyw Y T.ir i'r Bobl." Mae wedi pro- ffwydo am hyn yn gynnar, ac yn awr tybia fod ei holl ddymtmiadau yn debyg o gael eu isylweddoili. Dioddefodd lawer o wawd a dir- myg wrth fyned trwy y wlad gyda'i Van ond pe yr elai yn awr, credaf y rhoddid croesaw mawr iddo. Yn ddiweddar rhoddodd ei weini- doigaeth ym Mostyn i fyny. Mae yntau yn pre- gethu ers dros ddeugain mlynedd, ac yn debyg o wneud am flynyddau lawer eto. Gweithiwr dewr ac anibynnol ydyw wedi bod. Caffed y ddau Ddoctor nawnddydd teg. LLANFAIRFECHAN. Clywais fod ysbryd carn. wedi disgyn ar un neu ddau o hen lanciau yma, ac wrth gwrs, Wedi dechreu maent yn selog iawn, ac mi ddylent gael llonydd i hynny. Nid ydyw yn iawn i rai ieuangatih na hwy fod yn gwylio eu iSymudiadau; a phe y cawn i wybod pwy ydyw y rhai svdd yn euog, mi roddwn gerydd iddynt. '\)fnau y morwynion sydd yn wrthrychau serchi hen lanciau, y bydd iddynt ddigaloni os na fydd iddynt gael llonydd. N'a, choeliai fawr. Nid rhai felly ydynt. Byddant yn barod i fynedl trwy yr afon sydd itiu ol i'r ty yn hytrach na rhoddi i fyny. Daliwch ati, firyndiau, a phal1 ddaw dydd y briodas, rhowch air i mi, a deuaf i weled y seremoni, ac i ddymuno yn dda i ohwi. Cofiwch anfon gair er; mwyn i mi wybod mewn pryd. GADAEL EU GWRAGEDD. Gwelais mieiwn neiwyddiadur fod 2,300 01 wragedd wedi cael eu gadael gan eu gwyr yn 'Cincinnati mewn tri mis o amser. Gwarchod pawb, dyna le ofnadwy, onide? Sonir am yr America fel gwlad rydd. Os ydyw yr uchod yn wirionedd, fe ymddengys i mi ei bod yn rhy rydd o beth ofnadwy. Apeliai y gwragedd d'ruain at yr awdurdodau yn y lie am amddi- ffyniad. DEUDRAETH JONES. Fe gofia pobl Conwy a Llandudno am y cyfaill hwn. Aeth i'r America amser yn ol, ac fel hyn yr ysgrifenna Ap Madog am dano rr Drych :—" Yn Kramer, Ind, y mae bardd cadeiriol Eisteddfod Penygroes, Arfon, yn cael ei wisgo, ei arwisgo, a'i gylch-wisgo mewn lleni tewion, o fwd du-dew-feddygol y fangre hardd hono, i'r dyben o chwys-boethi allan o'i Ibenliniau a'i draed y gymalwst erchyll sydd Wedi bod yn faich poenus iddo am yn agos i ddeng mlynedd. Cana ac englyna yn ei boen- au5 ac y mae efe yn feistr pert y gynghanedd. Mae ei ddarluniad o oruchwyliaeth ddu y mwd yn rhy fard.donoLgywireddol i ymddangos ar wyneb gwyn y Drych.' Mae y meddygon yn ■kyderu y chwysir y drwg allan o'i drigle, ac y caiff y dioddefydd lwTyr adferiad. Fflamychodd Deudraeth fel y oanlyn mewn atebiad i lythyr: Daeth y post a'th epistol-i, fy llaw, Hefo llwyth diyngarol; Diail yw.cregyn di lol, A diddan dretlh fwdyddol." 'Bydd yn ddrwg gan lu o hen gyfeillion Deu- draeth ddeall hvn am dlaino. Hyderaf finnau y claw allan o'r "mwd" wedi ei lwyr wella y gwelir ef yn gallu neidio fel hogyn ar ol y drin- xaeth ryfedd hon. Y LLIF-DDYFROEDD. Clywais fod pobl Glan Conway ac Eglwysbach Wedi ofni eu bod yn ddiwedd byd amyrut olier- Wydd y llif-ddvfmedd a ddaethant. Nid hwy yn unig oedd mewn brawd. Yr oedd eraill hefyd lllewn gwahanol leoedd. Yr oedd yr hen gyfaill yn Eglwyshadh yn falch iawn fod ei dy yn yrnyl y graig, os nad ar y graig. Cafodd Mr laager Hughes ddigon o ddwfr i droi y felin, a gorinod hefyd ar unwaith. Buasai yn dda g'anddo fod wedi gallu cadw ystor o hono ar igyfer tywydd' sych yr haf. Ond ofer cwyno, rhaid i ni gymeryd pethau fel y deuant. I'ENMACHNO. Mae hen air yn dweyd nad oes eisiau Dyagu Pader i berson." Ond mi gafwyd gweled peth .:trll yma y dydd o'r blaen. Tipyn yn anighar- edig oedd gwaith y Parch. Ben Jones yn ceisio rhv/ystro ei gymdogion i gael pleidlais. Ond y "lae yn defbyg na fydd mor hawdd ganddo ym- •yryd y tro nesaf. Nid yn fuan y buaswn i yn fir,gho!fio y cerydd, pe cawswn un tebyg i'r un, a gafodd ef. Y tro yma, yn lie torri pennau rhai Eraill, fe dortodd Ben ei ben ei hun. ^ENMAENMAWR. Hyderaf y bydd gennyf dipyn o fanylion pri- Cldas un o feibion. y He hwn y tro nesaf. Cymear y briodas le yr wythnos hon yn Neheudir ^ymru.—Yn Salem, y Sul diweddaf, pregethai y Parch. W. Rheidiol Roberts. Un 0> blant yr "pglwys ydyw ef, a brawd i'r Pardh. Gwylfa Ro- ^«its. Mae y ddau yn anrhydedd i'r egwys a t ardal, a rhoddir croesaw caredig iddynt bob arnser pan ar ymweliad a'r ardal. Y JUNCTIOiN. Na feuir fi am na fuaswni yn gwneud sylw o'r yngherdd cystadleupl, oblegyd nid oes neb gwele'd!. yn dda i anfon i mi ddim o'r man.- y lon yn ei gylch. Hawdd iawn ydyw beio; ^nd giwel Un o'r Lie," oddi wrth hyn, fod yr sgidi yn gwasgu ar y droed arall y tro hwn. NED LLWYD, Swyddfa'r Weekly News, Conwy.

Advertising

N odion Llywarch Hen

..--... The Sons of Bishops.

Advertising

'Newyrth Huw yn Llanymor

"Llywarch Hen " a'r Gynhadiledd…

Colwyn Bay Territorials.

Advertising