Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

NODIONI NED LLWYD.

News
Cite
Share

NODION NED LLWYD. YR EIRA. Dyna ryfedd, onide? Yr wythnos ddiwedctaf yr oeddwn yn son am eira a rhew fel pethau diaithr i'r dyddiau hyn. Ond errbyn heddyw dyma ni wedi cael c-mwd o hono. Mi 1lU peth tebyg ers llawer blwyddyn. Mae y plant wrth eu bodd, and dipyn yn anhwylus ydyw y rhew a'r eira. i hen greadur fel fi i symud tipyn 0 gwmpas. Bodlom wyf, ear hyrmy, i ddioddef yr hall anghyfleusftra, oblegvd credaf fod yr eira a thywydd caled yr adeg hon o'r flwyddyn yn iachach i ni oil na thywydd gwlyb. Mae wedi ei biofi yn amlwg ears llawer dydd nas giall dyn reoli y tywydd. Fe gofiwch, mae'n debyg, am lawer ymgais sydd wedi ei woeud gan bobl i hynny, ond Hid ydyw y gwaith ip-or hawdd. Fe geisiodd Mr. Caw," meddai •Ceiriog, ond aflwyddianus fu, a chynghoBodd y rhai oedd yn awyddus i gael tywydd gwahanol i droci. adref, a chofio ar Oil troi, Mae'r nefoedd sy'n gwybod pa dywydd i roi." YN LLWYDDO. Yr oedd yn dda gemnyf weled fod y cyfeillion hyn wedi llwyddo i ennill gwobrwyon mewn gwahanol leoedd ar y Nadolig, Ap Huwco, Oemaes, Sir Fon, wedi cael cad air a gwobr o'r De. Gorchfygodd yno nifer o feirdd da. Enillodd hefyd ym Mhenmachno, &c. Daeth gyda'r Gwyliau hefyd amryw o wobrwyon beilwng 1 Bryfdir, Caerwyn, Hewco Penmaen, Dewi hi o Fedrion. Yr wyf yn gwybod am y beirdd yna, ond mae yna lu o rai eraill sydd wedi bod yn cael en cynhaeaf i fewn. Gwvn eu byd oil PREGETHU I'R PLANT. Da iawn ydyw g weled gweinidogion yn gwneud hyn. Mae nifer fawr o blant yn myned i -tddold-ii ac eglwysi nad ydynt yn gweled gwerth yn y gwasanaeth fel y mae yn cael ei gario ymlaen. Anhawdd iawn ydyw cadw nifer o blant bywiog yn llonydd yn y capel, ac mae yn gospedigaeth fawr ar blenityn ei orfodi i fod yn llonydd yn yr amgylrchiadau hynny. Pe byddai y gwasanaeth yn wahanol ei ffurf, ar adegau, credaf y byddai yn fwy cymeradwy. Fe ddywedir fod pregeth i'r plant yn cael lie amilwg mewn rhai ardaloedd, a bod y gweinidog yn gallu swyno meddyliau y rhai bach, yn gy- maint fel y byddant yn edrych yn galonog at yr adeg i gael y gwasanaeth tirachefn. Dyiid rhoddi pob cymorth i'r gweinidogion parchus sydd wedi dechreui ar y gwaith calonog hwn. Credaf yr erys y dylanwad yn lan ar feddyliau y plant, ac os y gellir llwyddo i'w cael i wraindo a sylwi yn awr crear ynddynt awydd mwy i roddi sylw i'r sawl sydd yn gallu gwerth- fawrogi y da a'r pur ymhob dyn. Weinidogion sydd heb ddechreu ar y gwaith hwn, byddai yn aicr o dalu yn dda 1 chwi i addysgu y plant yn awr. TAITH I'R DE. Bum yn y De, a rhaid dweyd dipyn o'r banes, ond yr oedd yna eneth yn agor y ffenestr ac yn ei chadw felly am amser, a chan ei bod yn oer iawn i fyned o Gaer i Gaerdydd," gellwch feddwl mor anifyr oedd arnom. Yr oedd yno hefyd frawd ieuanc o Berth- esda. Yr oedd ef yn myned i'r De, gan feddwl cael gwaith yn un o'r rnasffiacbdai yno. Hyderaf ei fod wedi Uwyddo yn ei gais. Pan yn stesion Caerr digwyddodd tro fyddai yn werth i ddar- llenwyr y Weekly News wneud sylw o honot. Yr oeddym v.edi cyfarfod ar y daith hen wi a hen wraig yn bwriadu myned i'r De i gladdu perthynas iddynt. Yr oeddynt yn falch iawn o feddwl cael cwmni. Yohydig funudau cyn i'r tren gychwyn, daeth yr IiiiSipector i fewn i'r oetr- byd He yr oedd yr hen bobl a minnam yn barod i'r daith. Ond pan welodd y gwr swyddogol hwnmw fod eu tocynau i fymred a hwy via Crewe bu rhaid i'r ddau fyned i law,r. Yr oedd yn ddrwg iawn gennyi golli eu cymdeithas. Dylai pob un sydd yn codi tocyn i fyned i'r De ei godi gyda'r G. W. Railway Co., via Wrexham. Yr un bris oedd tocynau y ddaii dynnwyd i lawr a miniiau, ond yr iivi yn sur fy mod wedi gla,nio yng Nghaerdydd amser mawr o'u blaen- au hwy. Hwn o-edd y tro cyntaf i mi fyned i'r De, ac wrth gwrs ni fuaswn yn gaillu myned yn awr onibai caxedigrwydd yr hv/n yr wyf yn ei wasanaeth, oblegyd yr oedd myned i'r De yn golygu colli tri diwrnod o amser, a dweyd y llediaf. Diwrnod i fynd, un arall i aros yno, ac un arall i ddyfod yrl ol. Y tro hwn bum i yno o nos lau hyd brydnawn dydd Llun. Y lie cyntaf i mi aros i gysgu ynk), oedd ym Modring- allt, y fan y mae y Parch. T. D. Jones, hen weinidog Conwy. Gwelais ef y nOSOIl gyntaf y cyrhaeddais i Ystrad-Rhondda, ac yr oedd yn dda gennyf ei weiled. Y LLETY. Dyna sydd yn bwysig i ddyn yn myned oddi- cartref. Mae yn bwysig eich bod yn cael lie glan, lie na fydd gwg ar wyneb neb. Gan fy mod wedi addaw cymeryd xihan mewn Eistedd- fod oedd ynglym ag eglwys Anibynnol Bodring- allt, yr oedd y pwyllgor wedi trefnu lie i mi. A dyna le hapus gefais yn Rose Cottage, gyda Mr. a Mrs. Daniel. Mae Mrs. Daniel yn cael pension ddechreu y flwyddyn, ac yr oedd el llawenydd yn gymaint a llawenydd brenhin pan yn cael coron. Fe ga Mrs. Daniel goron hefyd. Nid ydyw M.r. Daniel yn ddigon hen eto. Yn yr Eisteddfod cyfarfyddais a'r beimiad cer,ddorol, serf Mr. G. T. Llewelyn, Port Talbot. Cerddor a datganwr emwog iawn, a gwr ieuanc cymer- adwy iawn hefyd ymhob man, ond yn cael ei barchu a'i weled gymaint gartref a neb yn y wlad. Amsec yn ol cyflwynwyd iddo, gan y dref, oriawr aur a chan punt o arian. Mae peth fel hyn yn dweyd llawer am allu a gwasan- aeth Mr. Llewelyn. Yr oeddwn wedi ei gyfar- fod flwyddyn yn ol mewn cyngherdd ym Mhen- trefoelas. Yr oedd yn dda geanyf gael y fraint o aros yn yr un llety ag ef, a chysgu (go 'chydig oedd hynny) am nioson yn yr un gwely ag ef. Yn beirniadu hefyd yn yr un Eisteddfod yr oedd Myfyr Hefin, brawd i'r bardd galluog Ben Bowein a fu farw ym mlodau ei ddyddiau, er hynny, gwnaeth iddo ei hun le anwyl yng nghalon pob Cymro sydd yn caru ei wlad a'i henwogion. Mae Myfyr Hefin yn awr yng Ngholeg Caerdydd yn parotoi i'r weinidogaeth. Balch ydyw yr enwad o honno. Bedyddiwr ydyw. Caraswn ddweyd llawer yn rhagor am dano fel bardd llwyddiannus, ac fel un a wriaeth gymaint i sierhau oolofn ar fedd ei frawd. Ym- welais a Mjwiwent Treorci, i weled y golofn hardd. Gyda mi wrth y bedd boreu Sadwrn yr oedd brawd arall i Ben Bowen, un sydd yn fyfyriwT gyda'r Anibynvvyr yn Aberhonddu, brawd-yng-nghyfraith iddo, a Petr Elwy, un o Sir Ddnnbych ydyw ef, ond yn awr yn gweithio yn y De. y Daeth gyda mi i Pontypridd dydd Sid win. Cyn gadael Ysitrad-Rhondda, rhaid i mi gael dweyd gair am y croesaw mawr a gefais gan swyddogion yr Eisteddfod. Yr oeddynt oil yn awyddus iawn i'm gwneud yn gysurus yno. Yr oedd y CacLedrydd, Mr. Isaac (loan Ap Daniel), a'r Trysorydd, Mr. Jonn Hughes, gydar ddau Ysgrifennydd, Mri. Sam John a Davict Da vies yn methu gwybod pa fodd i wneud digoin o groesaw i mi. Yr oedd yr Eisteddfod yn llwyddiant mawr, y gweinidog yn arwain y ddau gyfarfod yn ddoniol anghyffredin. GADAEL YSTRAD. Gyda Petr Elwy, aethum i lawr i Lwynypia, gerllaw Tonypandy, lie mat; ugeiniau, os nad cannoedd o bobl Ffestiniog yn byw. Cymer- asom y tren i Pontypridd. Wedi gweled ychydig yno ymadawsom, aeth ef gartref, a chymerais innau y tren i Aberdar. Arhosais yno hyd boreu Llun. Gan y cymer ormod o ofod i mi fytned trwy y daith i gyd y tro hwn, ni arhsswn yn AbeTdar hyd y tro ne^at. NED LLWYD," Weekly News Office, Conwy. O.Y.-Goddefwch 1 mi ddymuno Blwyddyn Newydd llwyddi aim us i'r Golvgydd, ir Staff, ac i holl ddarllenwvr y "Weekly News. N. LL."

INodion Llywarch HenI I-I

_____"_-------Ffordd Ddwr…

-------At Drethdalwyr Llangystenyn.

Advertising

Y Golofn Feirniadol.

------Eisteddfod y Bedyddwyr…

--------Cyfarfod Cystadleuol…

-----------__---Congl yr Awen.

--------._--Rev. W. T. Stonestreet,…