Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
[No title]
DECHREU GWAITH.—Bydd yn llawen gan gydnabod ein gohebydd Maelor" ddeall fod ei fab, Mr. Oliver T. Edwards, ar fin dechreu ei waith fel gweinidog yn Horn- castle, swydd Lincoln. Pob llwydd iddo yn ei faes newydd a'i alwedigaeth bwysig.
DR. GRIFFITH JOHN.
DR. GRIFFITH JOHN. Y Parch. D. Jones, Scranton, yn rhoddi hanes ei ymweliad a'r cenhadwr enwog. Prawf o gyflwr anfoddhaol iechyd Dr. -Griffith John pan ddaeth yn ol i'r America, ac ar hyd y misoedd y mae wedi bod yma, yw ei fod wedi bod yn analluog i gymeryd rhan mewn unrhyw gyfarfod neu gynulliad .cyhoeddus er pan yma; ac ni bydd yn .alluog am ryw dymor eto, er fel y dywedai fod arwyddion calonogol ac amlwg fod ei nerth yn dychwelyd yn araf i'w feddiant. Yn yr ymddiddan cawsom ad-drem ar y gwaith y mae y genhadaeth wedi ei wneud yn China, a'r cyfnewidiadau daionus sydd wedi eu dwyn oddiamgylch er pan laniodd -ef yn y wlad yn 1855. Y pryd hwnnw yr oedd y wlad yn ymarferol yn nghau yn -erbyn cenhadon. Nid oedd ond pump o leoedd lie yr oedd caniatad i genhadwr bres- wylio ynddynt, sef y pum porthladd oedd wedi gwneud cyfamod a llywodraethau tramor (treaty ports). Yn awr y mae y wlad yn agored a chroesaw i'r cenhadwr bregethu yr efengyl, iachau y cleifion a dosbartliu llenyddiaeth Gristionogol. Pan aeth Dr. John yno, nid oedd ond rhwng 400 a 500 o ddychweledigion yn yr holl wlad, yn awr y mae yno 150,000, yn cynrychioli gwladwr- iaeth Gristionogol (Christian community) o .500,000. Y pryd hwnnw nid oedd ond tua 100 o genhadon yn yr holl ymherodraeth, ond yn awr y mae tua 3,000, yn cynnwys y gwragedd, y rhai ydynt ym mhlith y rhai mwyaf llwyddianus yn y wlad. Yr adeg honno, nid oedd ond ychydig 0 gynorthwy- wyr brodorol, a'r rhai hynny yn wael ac .aneffeithiol, yn awr y mae 9,000 o honynt, yn gwneud gwaith bugeiliaid, ysgolfeistri, a chyjiorthwywyr mewn ysbytai a chlafdai. Y pryd hwnnw eithriad fuasai cyfarfod ag un dychweledig tu allan i'r porthladdoedd uchod ond yn awr eithriad ydyw gallu myned i un man heb gyfarfod a brodorion wedi mabwysiadu Christionogaeth. Yn awr ceir cenhadon ym mhob talaeth yn yr ymerodraeth, a cheir un cenhadwr o leiaf ym mhob un o'r prif ddinasoedd, ac nid oes un man o bwys yn yr holl wlad, ar nad oes rhai cenhadon yn byw yno. Gor- foleddai ein harwr y dydd yr aethom i ym- weled ag ef, mewn canlyniad i Ifaith a ddaeth iddo y boreu hwnnw, neu un o'r boreuau cynt. Symudai yn ysgafn ar draws y ty i geisio cylchgrawn a elwid The Chinese Recorder and Missionary Journal am Tach- wedd, 1906. Yn y rhifyn hwn, yr oedd y golygydd yn dyfynu yr hyn a gyhoeddwyd mewn papur dyddiol yn Shanghai, am Hydref 15 a'r 16, 1906. Enw y newydd- iadur yw Nanfangpao, o'i gyfieithu yr hyn yw Y Newyddiadur Deheuol." Un Chine- aidd yw, fel yr awgryma yr enw. Mae yn un 0 brif newyddiaduron Shanghai. Mae un tudalen yn cael ei gyhoeddi yn Seisnig ynddo er mwyn yr Ewropeaid. Chinead yw y golygydd, ond mewn erthygl olygyddol yn y rhifyn uchod, dywedai yn groew fod dyddiau Confuciaeth, Buddhiaeth a Taoiaeth wedi eu rhifo, ac nad oedd yr un grefydd oedd yn ateb anghenion China ym mhob gwedd ami, yn y dyddiau hyn, fel Cristion- ogaeth. Nid rhyfedd fod Dr. John bron yn barod i ddawnsio gan orfoledd, oblegid y fath fynegiad croew o blaid Cristiotiogaeth mewn newyddiadur o'r fath safle, a chan un o'r golygwyr. O'r braidd y gellir dweyd fod y wasg Ohineaidd yn wrthwynebol i'r genhadaeth, ac nid yw un amser yn chwerw a chas i'r tramorwr. Maent yn dadleu dros i'r Chineaid gael eu gwlad (China for the Chinese), ond nid yw oblegid hyn yn wrth- wynebol i'r cenhadwr na'r tramorwr. Bu swyddogion y wladwriaeth yn gwerylgar a gelyniaethus i'r genhadaeth, ond yn awr y maent yn onest, caredig, a chyfeillgar i'r cenhadon. Mae y llythyr hwn wedi myned yn faith. Bydd yn dda. gennyf mewn llith arall gyfeirio at ragolygon China a gobeithion Griffith John mewn perthynas a hi; yn ogys- tal a chyfeirio meddwl y darllenwyr at y mudiad sydd ar droed i'w anrhydeddu yn Hankow, y ddinas y mae wedi treulio y rhan fwyaf o'i oes ynddi.-(O'r Drych.)
Y GENHADAETH YN INDIA.
Y GENHADAETH YN INDIA. CYFARFOD YMADAWOL Y PARCH. E. H. A MRS. WILLIAMS. Cynhaliwyd yr uchod yng nghapel Wilton Square nos Iau, y 14eg Chwefror. Cyn y cyfarfod cyhoeddus ymgyfarfyddodd nifer liosog iawn o frodyr a chwiorydd i fwynhau te rhagorol ddarparwyd ar eu cyfer gan chwiorydd yr eglwys uchod. Naturiol iawn oedd i'r cwbl o'r trefniadau a'r cyfarfod fod yn llwyddiant perffaith ymhob ystyr, gan fod y Wiltonians yn ddiarhebol am eu cariad a'u cyfraniadau tywysogaidd tuag at bob gwaith cenhadol er's blynyddoedd. Mae eglwys sydd yn rhinweddol yn hyn, o angenrheidrwydd yn fyw i'w holl ddyled- swyddau. Llywyddwyd gan y Parch. Peter Hughes Griffiths, cadeirydd y cyfarfod misol, yn ei ddull doeth a synhwyrol, pob gair i bwrpas, ac yn taro y nod bob cynnyg. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddi gan Mr. John Evans, un o flaenoriaid Holloway. Cynygiodd y Parch. R. 0. Williams, ac eiliwyd gan Mr. T. Woodward Owen, ddymuniad y cyfarfod ar ail fynediad Mr. Williams allan i'r maes cenhadol gyda'i briod i ddatgan ein diolch- garwch i Dduw am ei amddiffyniad o honynt hyd yma, ac iechyd iddynt fod o wasanaeth eto yn ei winllan, ac am eu llwyddiant yn eu holl lafur. Rhoddwyd hanes y llwyddiant mawr sydd wedi disgyn i ran y genhadaeth yn India gan Mr. Williams fel y mae deng mil o baganiaid wedi dod i wrando yr efengyl, ac yn gofyn am y Gair. Yr oedd rhai o'r hanesion yn fyw a tharawiadol, yn enwedig hanes y diwygiad a'r gorfoleddu yn Priong. Cofir am y cyfarfod, yn ddiameu, am flyn- yddoedd. Yr oedd anerchiad Mrs. Williams yn un o'r pethau mwyaf striking gafwyd o'r pulpud er's amser maith, yn cario gwrandawiad mwyaf astud. Rhoddodd hanes o'i chym- helliadau i'r gwaith am ei llafur yn slums Glasgow, Bristol, a Caerdydd dan y forward movement. Y mae wedi ei bedyddio yn ddwys yn yr adfywiad. Cyn diweddu, diolchwyd gan Mr. 0. M. Williams, a cefnogwyd gan Mr. Whigham, i gyfeillion Wilton Square, ac i Ganghenau y Chwiorydd Llundeinig o'r Genhadaeth Dramor am y swm anrhydeddus o Jul46 y maent hwy wedi ei gasglu am 1906, y swm uchaf er sefydliad y symudiad hwn yn Llun- dain. Rhagorol, byddwch wych, ac yr ydym yn gobeithio y gwelir canghen ymhob un o'r capeli cyn diwedd 1907. Hysbyswyd gan y Oadeirydd am waeledd y Parch. W. Jenkyn Jones, cenhadwr yn Llydaw, genedigol o Ceinewydd. Bydd yn dda gan ei gyfeillion ddeall iddo ddod trwy yr operation yn llwyddianus. Mae yn aros gyda'i gyfaill, y Parch. Llewellyn Edwards. Anfonwyd cydymdeimlad y cyfarfod ac ef, a'n gweddiau drosto. Ar hyn, daeth y gynulleidfa ymlaen at y set fawr i ysgwyd Ilaw a'r cenhadon, bob yn un. Golygfa brydferth oedd hon. Terfyn- wyd y cyfarfod da hwn trwy weddi gan y Parch. Peter Hughes Griffiths. "0. Y."
WATCYN WYN.
WATCYN WYN. Dangosai Watcyn gymaint o anibyniaeth meddwl yn arddull a chyfansoddiad ei bre- geth ag yn y ddiwinyddiaeth a gynwysai. Fel Owen Owen, Dolffanog, chwarddai am ben y drychfeddwl fod yn rhaid i gyfan- soddiad feddu rhagymadrodd, tri phen, a chymhwysiad," cyn y gellid ei alw'n bre- geth. Nid oedd i fwyafrif ei bregethau ef ond dau ben-y cyntaf a'r diweddaf; ond yr oedd yna un peth ym mhob un o honynt. sydd yn absennol o gannoedd o bregethau mil mwy honiadol-cenadwri. Rwy'n ber- ffaith sicr na wnaeth yr un bregeth, yn ystod yr ugain mlynedd olaf o'i oes, o herwydd fod yn rhaid iddo. Teimlai yn gyntaf fod ganddo genadwri i'w chyhoeddi, a thyfai y bregeth yn naturiol am honno; ac, fel rheol, byddai yn ei ffitio i'r dim. Os byddai yn weddol rydd oddiwrth y diffyg anadl fu'n ei boeni a'i lethu ar hyd ei oes, yr oedd yn bleser, yn wir yn wledd, i bobl feddylgar glywed Watcyn Wyn yn pregethu. Yr oedd mor hollol wahanol i bawb arall fel yr hawliau ac yr hoeliai sylw'r meddylgar o'r dechrei i'r diwedd. Rhoddai emyn allan bob amser mewn modd oedd yn dangos meddwl yr awdwr i'w wrandawyr yn glir- iach nag y gwelsant ef erioed o'r blaen. Darllenai yn union fel y byddai yn siarad a chyfaill ar ei aelwyd; a dywedai rai o'r pethau gore ddaeth o'i enau erioed mewn ffordd o nodion esboniadol ar y bennod fel yr ai'n mlaen. Nid anghofiaf byth glywed Gurnos yn darllen hanes Dafydd a Goliath, a Watcyn Wyn, wrth ddechre oedfa, yn darllen hanes Satan yn temtio Job. Nid oedd Watcyn, wrth gwrs, mor ddramayddol a Gurnos ond yr oedd yn ei guro o ddigon, fel dywedwr pethau pert, gwreiddiol, a hollol anisgwyliadwy. Ni ddaeth i'w feddwl erioed fod yr Hollalluog yn "drwm ei glyw," nac yn un anhawdd i ddylanwadu arno; felly ni floeddiai byth wrth weddio, yn wir ni chodai ei lais o'i gyweirnod tawelaf; ond gofynai i'w Dad Nefol am fendithion na chlywais neb arall yn gofyn am danynt erioed. Dyma un engraifft: Yn nghapel Towyn y gweddiai. Yr haf oedd y tymor—haf poeth, mwyn. "0 Arglwydd, diolch i ti am yr haf. Dim ond yn yr haf mae rhai o honom yn byw. Diolch i Ti am Dy weld yn gwenu arnom yn y blodau, am Dy glywed yn canu i ni yn y goedwig, am deimlo Dy law ar ein henaid pan y mae Natur i gyd yn cysgu a dim ond y ser a ninnau ar ddihun. Rho^ddigon o A gydwybod i ni gadw'n effro'r prydnawn trymaidd yma, a phar fod digon o efengyl yn y pregethu i gadw'r cythrel ym mhell oddiwrth bawb o honom." Fel rheol, ni soniai o gwbl am athrawiaethau a chredoau yn ei bregethau a dyma un rheswm pam yr oeddent mor ffres ac mor agos at y gwran- dawyr. Soniai Parker, unwaith, am bregeth a llwydni ar ei chyfansoddiad, rhwd ar ei harddull, a swn y Canol Oesoedd yn ei th.raddodiad J Yr oedd pregeth Watcyn, bob amser, yn modern. Traddodai hi yn iaith y dydd, y bobl, a'r lie; a byddai ei chenadwri, yn ddieithriad, yn ffitio'r gynull- eidfa i'r hon y traddodid hi. Clywais lawer yn ymuno i ddweyd un peth am ei bre- gethau, na chlywais gymaint yn ei ddweyd am eiddo neb arall-sef, eu bod yn rhai hawdd i'w cofio.—(Ehoyn yn "ivgheiiiiieii" Gwyl Dewi.)