Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. CYFARFODYDD.—Heno, nos Sadwrn, tradd- odir darlith arbennig, tan nawdd Undeb y Cymdeithasau Diwylliadol, gan y Parch. G. Hartwell Jones, yn Castle Street. WALHAM GREEN.—Mae'r Eglwys hon wedi sicrhau gwasanaeth un o bregethwyr blaenaf y cyfundeb ym mherson y Parch, T. Charles Williams, Menai Bridge, i bregethu yn y cyfarfodydd blynyddol a gynhelir yno y foru a nos Lun. YN YMADAEL. Mae'r Parch. Edward Owen, B.A., Barrett's Grove yn ymadael am y wlad. Derbyniodd alwad oddiwrth Eglwysi Bontnewydd a Saron, Caernarfon, a bwriada ddechreu ar ei weinidogaeth yno ym mis Ebrill. Mae Mr. Owen yn bregethwr ieuanc meddylgar, a bydd y golled gaiff yr enwad yn Lundain yn enill mawr i eglwysi Caernarfon. GWEITIIREDIAT)AU. Fel y gwelir oddiwrth ein colofnau, mae nifer o gyfarfodydd i'w cynnal yn ein plith yn ystod yr wythnosau nesaf yma, a'r anffawd yw ceir fod amryw i gymeryd lie ar yr un noson. A'i gormod gofyn i ysgrifenwyr y gwahanol gynulliadau yrru'r manylion i'r swyddfa hon mor gynted ag y trefnir y dyddiadau ganddynt fel ag i gynorthwyo pwyllgorau ereill rhag penodi cyfarfodydd ar yr un noson ? Mae colofn Y Dyfodol" yn rhydd at wasanaeth y cyfryw, a gwyr pawb erbyn hyn nad oes fawr o lewyrch ar y cynulliadau yma a benodir mewn gwrthdarawiad i'w gilydd. EAST HAM.—Nos Iau diweddaf cafwyd ..dadl bur fywiog cydrhwng Cymdeithas East Ham a Chymdeithas Burdett Road, ar y testyn: "A ydyw yr laith Gymraeg yn -werth ei hastudio." Agorwyd gan Mr. W. J. Williams, o Gymdeithas Burdett Road dros yr ochr nacaol, a gwnaeth Mr. William Griffiths gymeryd He Mr. J. R. Jones dros yr ochr gadarnhaol. Siaradwyd yn hyawdl gan y ddau agorydd, a dilynwyd hwy gan gefn- ogwyr selog o bob tu i'r cwestiwn. Yr oedd pawb o'r aelodau am y cyntaf i roddi eu barn yn yr ymddiddan. Wedi'r hwyl a'r brwdfrydedd, rhannwyd y Ty a chaed fod y Gymraeg wedi ennill y gamp gyda mwyafrif o un. Teimlad pawb oedd y dylid cael rhagor o'r dadleuon rhwng-gymdeithasol hon. Poed felly. HAMMERSMITH.—Dydd Sul wythnos i'r diweddaf, eynhaliwyd cyfarfod pregethu agoriadol y capel uchod, pryd y gwasan- aethwyd gan y Parchn. William Jenkins, Abertawe, a Richard Roberts, Westbourne Grove. Trefnodd y swyddogion i gael gwasanaeth y Parch. H. Barrow Williams, Llandudno; ond o herwydd iddo gael ei gyfyngu i'w wely gan afiechyd, methodd Mr. Williams a thalu ymweliad a Hammersmith y tro hwn. Cafwyd cynulliadau mawrion yn ystod y gyfres cyfarfodydd, a thraddodwyd pregethau grymus, a sicr y bydd dylanwad mawr yn dilyn y genadwri. Bydd y llwyddiant fu ar y cyfarfodydd agoriadol yn symbyliad mawr i'r cyfeillion yn Hammer- smith i ymgymeryd a'r gwaith sydd yn debyg o'u gwynebu yn y dyfodol agos. Casglwyd y swm anrhydeddus o dros £ 100 yn ystod y cyfarfodydd, ac mae'r Eglwys i'w llongyfarch yn fawr ar eu llwyddiant yn y cyfeiriad yma. EISTEDDFOD NEWYDD.—Cynhelir hon yng nghapel Falmouth Road, nos Fercher, Ebrill lOfed, er budd y gangen ysgol yn Dulwich. Mae y rhaglen yn adlewyrchu clod ar y pwyllgor, a llongyfarchwn hwy ar Gymreig- rwydd y testynau, yn gerddorol a llenyddol a haeddant bob cefnogaeth, pe ond yn herwydd yr ystyriaeth hon. Yn yr adran gerddorol rhoddir gwobrwyon da i bartion o 16 i 24, wythawd, ac unawdau, a diau y ceir cystadleuaethau dyddorol i'r bechgyn dros 50 oed, ac yn y codi canu." Rhoddir hefyd gyfleustra i adroddwyr y ddinas ar ddarn adnabyddus, a thair cystadleuaeth i feirdd, yn cynnwys englyn ar Yr Oedfa fore Sul." Ca llenyddiaeth le amlwg, a gwobrwyon teilwng. Testyn y prif draeth- awd ydyw Y moddion effeithiolaf i gadw Cymry ieuainc y Brifddinas yn ffyddlon i'w gwlad, eu hiaith a'u crefydd," testyn cyn- wysfawr ac amserol. Rhodder hefyd wobr am restr o'r 50 llyfr goreu yn yr iaith Gymraeg, ynghyda nodiadau byrion ar y llyfrau a'u hawdwyr. Torrir tir newydd ynglyn a'r gystadleuaeth gorawl trwy gynnyg anfon copiau o'r darn cystadleuol yn rhad i ysgrifennydd neu arweinydd unrhyw bartli wna gais ffafriol am danynt. Anfoner am fanylion pellach at yr ysgrifennydd—Mr. T. J. Thomas, 3, Rye Lane, Peckham, S.E. GEIRIADUR BYWGRAFFYDDOL.- Fel y sylwyd gennym yn flaenorol, y Parch. T. Mardy Rees-yn awr o Markham Square, Chelsea— oedd awdwr y cyfansoddiad ail-oreu ar y Geiriadur Bywgraffyddol yn Eisteddfod Caernarfon yr haf diweddaf. Mae Mr. Rees fel ereill o'r ymgeiswyr wedi cael canmol- iaeth uchel i'w waith, a bwriada ei gyhoeddi yn gyfrol hylaw ar fyrder. Yn Seisnig mae'r gwaith wedi ei ysgrifennu, a sicr y gwna gyfrol tra derbyniol a gwerthfawr. Os oes rhai o'n darllenwyr am sicrhau copi boed iddynt anfon eu henwau yn awr i'r Parch. T. Mardy Rees, Markham Square, S.W., er mwyn hwylusu'r gwaith a'i gyhoeddi. WALHAM GREEN. Nos Fercher, loeg cyfisol, traddodwyd darlith o flaen aelodau ein Cymdeithas Ddiwylliadol, gan y Parch. S. E. Prytherch. Ei destyn ydoedd Ara- bedd Cymreig" (Welsh Humour). Cafwyd cynulliad da o'r aelodau ynghyd er fod cyf- arfod atyniadol arall yn y Neuadd Drefol gerllaw ar yr un noson. Yr oeddym er's misoedd yn edrych ymlaen gyda llawer 0 ddyddordeb at y noson hon, a theg ydyw dweyd na siomwyd ein disgwyliadau uchel yn y graddau lleiaf. Yr oedd y darlithydd, fel pob amser, yn ei hwyliau goreu, a chaf- odd y gwrandawiad mwyaf astud gan bawb oeddynt yn bresennol. Wedi i'r darlithydd orffen caed ychydig sylwadau pwrpasol gan y llywydd ynghyd a'r brodyr canlynol: Mri. 1. W. Thomas, John Hughes, David Jones, R. Gomer Jones, a Mr. Huw R. Gruffydd. DEWI SANT, PADDINGTON.—Nos Fawrth, Chwefror 12fed, yn St. David's Hall, gerbron aelodau y Gymdeithas Lenyddol a Cherdd- orol, cafwyd darlith gan Mr. B. Crosland, yn cael ei hegluro drwy gyfrwng yr hud-lusern (limelight). Testyn y ddarlith oedd Gallant little Wales." Oafwyd darluniau ysblenydd o'r hen wlad, o'r amser boreuaf hyd yn awr, a chadwodd y darlithydd y cynulliad mewn hwyl anarferol o'r dechreu i'r diwedd, gyda hanesion byr a doniol am y Cymry. Rhyfedd mor ddiwyd a llafurus ydoedd wedi bod i loffa cymaint o wybodaeth am ein hanes a'n harferion ym mhob oes. Rhwng y darlun- iau, cenid gan barti o Dewi Sant, hen alawon ein gwlad. Yr oedd yr adran gerddorol o dan ofal medrus Mr. Tom Jenkins, yr hwn drwy ei ddetholiad chwaethus, a dderbyn- iodd ganmoliaeth uchel. Cymerwyd rhan yn yr unawdau gan Misses Maggie Pierce a Nancy Parry, a chyfeiliwyd gan Miss Nancy Pierce. Carem fwynhau noson fel hon heb fod yn hir eto. Eisteddfod Llitiz y Pasg.- Y testynau yn agored i'r byd, ac i'w cael ond talu y cludiad, oddiwrth yr ysgrifenydd, Mr. R. H. Morris, 157, St. Olaf's Road,. Fulham, S.W. WATERLOO Y MERCHED.—Yr oedd nifer- liosog o ferched Cymreig yn yr ysgarmes a gaed gyda'r heddgeidwaid o gylch Ty'r Cyffredin yr wythnos ddiweddaf, ond ni anafwyd yr un o honynt yn dost, a chad- wasant allan o afael y gyfraith. Er hynny cwynai Mrs. Winton Evans yn chwerw yn ol yr Evening News, am greulonder y gwyr meirch. Os anfonwyd tros hanner cant o- honynt i garchar mae'r mudiad trwy hynny wedi enill ei filoedd. Mae'r merched, er' mor ffol, wedi deall sut i wneud ei hachos yn boblogaidd, beth bynag, a cheir gweled a wna'r Llywodraeth wrando ar eu cais ar Mawrth yr 8ed, pan ddygir eu mesur ger bron y Ty. PLAID LLAFUR YN Y SENEDD.—A'i dyma'r cynrychiolwyr goreu i werin y deyrnas? Dyna oedd pwnc dadl a gaed yn y Tabernaclr King's Cross, ddydd Sadwrn. Yr oedd' cymdeithas capel Seisnig Paddington wedi addaw dod yno i gael ysgarmes, ond ar y funud olaf cyhoeddasant eu hanallu i gadw'r addewid. Cadeiriwyd gan Mr. Roch, o Benfro. wyr i'r enwog Powell Maesgwyn," hen aelod tros Sir Gaerfyrddin. Caed dadll hwyliog tan arweiniad Mr. C. J. Evans, a bu raid galw am y cloadur i ddirwyn y doniau i derfyn. Diwedd y ddadl oedd condemniad; a'r Blaid Llafur. LEWISHAM.—Nos Fawrth cafwyd darlith gan Mr. Randall Fox ar waith Cyngor Sir Llundain. Daeth cynulliad lliosog ynghyd- er mor anffafriol y tywydd, a theimlid cryr.- lawer o ddyddordeb yn y darluniau ddang- oswyd trwy gyfrwng y magic lantern.- Siaradwyd gan Mr. T. Huws Davies, B.Sc., Mr. J. Roberts, Mr. W. Edwards, Mr. Ellis Roberts, a'r llywydd, Mr. G. W. Jones. Nos- Fawrth nesaf disgwylir Mr. S. R. John, o swyddfa'r Tribune, i roddi papur ar Irish Rebel Poets." WILLESDEN GREEN.—Nos Sul diweddaf ymwelwyd a'r Eglwys hon. gan gynrychiol- wyr o'r cyfarfod misol i'w cynorthwyo r ddewis blaenoriaid. Y cynrychiolwyr- oeddynt y Parch. Llewelyn Edwards, M.A., Mri. John Thomas, Walham Green; Griffith W. Jones, Lewisham; a James Evans, Clapham Junction. Cafwyd ychydig sylwadau a chyfarwyddiadau gan y dieith- riaid, ac yna aed ymlaen gyda'r etholiad. Yr- oedd cynulliad lliosog iawn wedi dod ynghyd a chaed cynrychiolaeth deg o'r Eglwys. Y brodyr ddewiswyd oeddynt Mr. Evan, Hughes, High Road; Mr. Robert Hughes, Chapter Road; Mr. Rhys Jones, Kilburn Mr. W. Lewis, Brondesbury, a Mr. Hugh Lloyd-Williams, L.D.S.,M.R.C.S., Blenheims Gardens. JEWIN.—Nos Fawrth diweddaf cawsom yr hyfrydwch o wrando ar y llenor a'r bardd enwog Elfed yn darlithio. Y mae nifer o'r gweinidogion o bryd i bryd wedi traddodi darlithiau cynwysfawr ar hanes- ymneillduaeth Cymru o'r dechreu hyd y dydd presennol, a diweddglo neillduol o gynwysfawr gafwyd gan y prif-fardd Elfed yn Jewin. Ni raid dweud dim mwy ar y ddarlith na bod y darlithydd enwog yn ei fan goreu. Llywyddwyd gan Mr. David Thomas yn ddoeth a deheuig. EISTEDDFOD FIEOL-Y-CASTELL.—Nos Sadwrn diweddaf cynhaliwyd Eisteddfod Flynyddol Cymdeithas Ddirwestol y Capel uchod, pryd y daeth cynulliad rhagorol ynghyd. Lly- wyddwyd gan Joseph Leete, Ysw., ac ar- weiniwyd yn fedrus gan Mr. John Hinds, Gwasanaethwyd fel beirniaid gan y personau canlynol:—Cerddoriaeth, Tom Davies, Ysw.