Hide Articles List

4 articles on this Page

CYNGOR SIR LLUNDAIN.

News
Cite
Share

CYNGOR SIR LLUNDAIN. Dydd Sadwrn nesaf, Mawrth 2fed, gor- ffenir un o'r brwydrau caletaf yn hanes bywyd dinesig Llundain. Cymer etholiad y Cyngor Sir, sydd a rheolaeth y Babilon fawr yn ei ddwylaw, le ar y dydd hwnnw, ac mae tynged y trethdalwyr am y tair blynedd nesaf ynghyd a llwyddiant y ddinas, yn dibynnu yn hollol ar y modd y pleid- leisia y trigolion ar yr amgylchiad. Er pan sefydlwyd y Cyngor yn 1889 mae'r â¢rhyddfrydwyr, neu'r progressives," a rhoddi iddynt eu henw cyffredin, wedi dal .awenau y ddinas ymhob etholiad ond un, ac mae hyn wedi cynhyrfu'r Toriaid a'r cyf- oethogion i'r fath raddau fel y gwneir ym- gais ddigyffelyb y tro hwn er ceisio gosod y moderates neu'r Toriaid, mewn awdurdod a chipio'r ddinas i fod yn faes agored i ym- gyrchoedd gwahanol gwmniau a lleshad y vfcirfeddianwyr a'r cyfoethog. Pan grlwyd y cyngor gan Weinyddiaeth Doriaidd credid yn lied gyffredin y buasai oyfeillion y blaid honno yn lied debyg o -sicrhau'r rheolaeth, ond yn yr etholiad cyntaf cafodd y Rhyddfrydwyr fwyafrif o 28, yna yn 1892 codwyd hwn i 48. Yn 1895 roedd y pleidiau yn gyfartal, a chaed tair blynedd lied ddiwerth, ond yn 1898 enillodd y Rhyddfrydwyr 22 o fwyafrif, yr hwn a zgodwyd i 53 yn 1901, ac a gadwyd yn 50 yn ,g 1904, ac felly y saif y pleidiau heddyw, 84jo .fl Ryddfrydwyr a 34 o Geidwadwyr. Etholir 118 o aelodau gan y gwahanol ranbarthau, ac ychwanegir 19 o henaduriaid. {)'r henaduriaid mae 6 o'r Rhyddfrydwyr a 3 o doriaid i'w hail-ethol yn Mawrth, tra mae 7 o Ryddfrydwyr a 3 o Doriaid yn aros mewn -swydd hyd 1910. Yr Ymgeiswyr Cymreig. Ychydig yw nifer y Cymry sydd yn ym- .geisio am seddau y tro hwn. 0 herwydd eu ..galwadau Seneddol mae Mr. Timothy Davies, A.S., Fulham, a Mr. T. H. W. Idris, A.S., yn ymddiswyddo y tro hwn, a chan fod y ddau wedi gwasanaethu eu rhanbarthau yn hynod ,0 ffyddlawn am flynyddau, bydd yn golled dirfawr i weled eu lleoedd yn wag ym mhwyllgorau'r Cyngor. O'r rhai sydd eto yn ymgeiswyr gwelir enwau MR. WILLIAM DAVIES, y cynghorwr adnabyddus o Battersea, hen ,gydymaith Mr. John Burns am flynyddoedd lawer. Mae Mr. Davies yn un o flaenoriaid â eglwys yr Anibynwyr Cymreig yn Chelsea, -ac wedi cael profiad helaeth o waith y cyngor, a disgwylir y gwna ei gydgenedl yr oil a -allant i'w ddychwelyd eto'n fuddugoliaethus y tro hwn. Un o'r Cymry mwyaf pybyr sydd yn eistedd ar hyn o bryd yn Spring hardens yw MR. HOWELL J. WILLIAMS, Y.H., ac mae ganddo ornest galed o'i flaen yn South Islington. Fel un o flaenoriaid parchus capel Charing Cross a llywydd Undeb y Cymdeithasau Diwylliadol, y mae .Mr. Williams yn adnabyddus i bob Cymro yn y ddinas, a byddai'n golled dirfawr i ni fel cenedl yn Llundain ei weled allan o'i Isedd ar y cyngor. Mae eisieu gweithwyr i'w helpu yr wythnos hon, a disgwyliwn y gwna pob un ei oreu i roddi ychydig oriau i'w gynorthwyo yn ei ymladdfa galed. Ceir pob manylion ond myned i'w ystafelloedd yn 132, Upper Street, Islington. Mae MR. T. E. MORRIS, Ll.M., yn ddigon dewr i ymosod ar un o ranbarthau mwyaf toriaidd y ddinas. Un o fechgyn y Tabernacl yw Mr. T. E. Morris, ac mae rhanbarth St. Georges (Hanover Square), wedi ei ddewis ganddo. Ei gydymladdwr rhyddfrydol yw larll Craven, a chan fod mwyafrif llethol ganddynt i'w ysgubo ymaith, gofynir am gynorthwy pob Cymro a Chymraes i fyned yno er chwilio am bleid- leiswyr. Cynhelir cyfarfod arbenig ganddynt yn St. George's Hall, Mount Street, W., nos Fawrth nesaf, am 8 o'r gloch, a cheir pob manylion ond galw yn eu swyddfa yn lA, Semley Place, Buckingham Palace Road, S.W. Cymry ereill sy'n ymgeisio am leoedd ydynt MR. A. A. THOMAS, dros ranbarth Islington east, yr hwn sy'n adnabyddus fel gweithiwr caled ar adran addysg y Cyngor, a'r PARCH. L. JENKIN JONES, y gweinidog poblogaidd dros ranbarth Woolwich. Boed i'n darllenwyr, fel Cymry, wneud eu rhan trostynt oil yn yr ornest fawr a gymer le ddydd Sadwrn nesaf.

DR. GRIFFITH JOHN.

Cymanfa Gwyl Dewi.

[No title]