Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

CODI GWRTHRYFEL.

News
Cite
Share

CODI GWRTHRYFEL. Mae llawer mudiad ffol wedi cychwyn yng Nghaerdydd, ond addefwn yn rhwydd na welwyd yno ddechreuad un symudiad mwy plentynaidd a di-amcan na'r hyn a gaed nos Fawrth diweddaf. Ar ol bod yn eistedd ar gynlluniau am rai misoedd yn y Clwb Rhyddfrydig Cenedlaethol yn Llundain, aeth y Mri. J. Hugh Edwards, Ellis J. Griffith, a D. A. Thomas ar daith bererindodol i Gymru. Penodwyd ar Gaerdydd fel maes cyfaddas i ddehongli eu breuddwydion, ac i gyhoeddi eu cenadwri i drigolion deuddeg sir Cymru, yn gymaint am mai Caerdydd sydd yn cael ei chydnabod fel prif dref ein Tywysogaeth heddyw. Llywyddid y gweithrediadau gan Mr. D. A. Thomas, yr hwn a addefai mai codi gwrthryfel oedd amcan pennaf y gynhadledd, ac ni fyddai'n syndod ganddo weled yr aelod tros Fon yn cael ei wneud yn garch- aror yn Nghastell Caernarfon am ei feidd- garwch a'i ystyfnigrwydd. Nid oes berygl y cymer hyn le, o herwydd nid oes neb yn ei iawn bwyll a edrych mewn difrif ar y mudiad newydd hwn. Gwyr y cyhoedd beth yw achos yr holl anghydfod, a boddlona i wylied mewn cywreinrwydd ar yr arweinydd Quix- otaidd gydai weision ufudd-Mri. Ellis J. Griffith a D. A. Thomas. Baich y genhadaeth oedd nad oedd y Weinyddiaeth o ddifrif pan yn addaw mesur Dadgysylltiad. Condemnient hi hefyd am benodi Dirprwyaeth Eglwysig i Gymru Rhyw esgus gwael oedd y cyfan, meddent, er gohirio y pwnc hyd amser amhenodol. Ategwyd y fath honiadau ffol gan y Prif- athraw Edwards a'r Parch. H. M. Hughes. Yr oeddem wedi arfer credu fod y blaenaf yn rhyw gymaint o wleidyddwr, eithr am yr olaf fe gydnebydd pawb ei fod bob amser ar grwydr pan yn ymdrin a phethau o'r tu allan i gylch ei enwad ei hun. Yr argraff a adawsant ar y cyfarfod oedd, nad oes wiw rhoddi ymddiriedaeth yn Mr. D. Lloyd-George. Ffolineb noeth yw ceisio hudo'r wlad i gredu fod addewid am Ddad- gysylltiad wedi ei roddi, a galwent ar i'r Cymry yn Nghaerdydd i ymuno mewn cad- gyrch er gorfodi y Weinyddiaeth i ddwyn Mesur Dadgysylltiad ar fyrder i Dy'r Cyffrediti. Na, ni welwyd erioed yr un gymdeithas mor ddi-amcan a hon, a'r syndod yw fod rhai pobl yn Nghaerdydd wedi eu hudo ganddynt. Ond dyna, onid yno y dechreu- wyd cymdeithas, wrth-Gymreig ynglyn a'r la i tlx yn ddiweddar, cymdeithas. ag a fwr- iedid i fod yn rhwystr i bob llesiant cenedl- actliol ac yn awr wele haid o wyr ieuainc ereill yn trefnu cadgyrch gwrth-genedl- aethol arall, gyda'r unig ganlyniad, os y llwydda, i rwystro Dadgysylltiad, ac i ohirio pob llesiant deddfwriaethol arailili-i gwlad. Bwrdd Addysg. Wele Gymru o'r diwedd wedi profi o flaenffrwyth ei gobeithion. Yr wythnos ddiweddaf hysbyswyd fod adran addysg wedi ei chreu tros Gymru, ac fod dau o feibion y genedl wedi eu penodi yn llywydd- ion arni. Dyma gam cyntaf ei mhesur Ymreolaeth, ac os try y mudiad yn un llwyddianus ni fyddis yn hir iawn cyn sicr- hau gweddill ein hiawnderau. Gwaith cyntaf Mr. M'Kenna, yr aelod tros Fynwy, ar ol ei ddyrchafiad yn Llwydd y Bwrdd Addysg, oedd cwblhau'r trefniadau oedd Mr. Birrell wedi eu dechreu gogyfer ag .addysg Cymru. Nid gwaith hawdd oedd hyn. Gwyddai Mr. Lloyd-George a Mr. M'Kenna fod dyfodol Cymru yn dibynu ar y penod- iadau a wnaethai'r Llywodraeth, ac 'roedd yn ofynol bod yn dra gofalus i sicrhau'r per- sonau mwyaf cymhwys at y gwaith fel ag i osod y cynllun ar y wir ffordd i lwyddiant. Pa un a ydynt wedi llwyddo yn eu gobeith- ion amser yn unig a ddengys. ond ar hyn o bryd mae'r wlad yn dra boddlawn ar y penodiadau a wnaed. Mr. 0. M. Edwards. Efe yw prif arolygydd y Gyfundrefn Addysg yn Nghymru. Dyma un o'r penod- iadau mwyaf haeddianol a wnaed erioed i swydd Gymreig. Nid oes neb wedi gwneud mwy tros addysg ein cenedl nag efe, na neb wedi creu'r fath ysbrydiaeth cenedlgarol yn mywyd ei phlant fel yr athro diymhongar o Rydychen. Cafodd Cymru ei hun ami i gyfle i ddangos ei pharch o hono, trwy ei benodi i rai o'i phrifysgolion, ond ei anwy- byddu a wnaeth. Y rheswm am hyn yn ddiau oedd mai Saeson gwrthgenedlaethol sydd wedi bod yn rheoli ein cyfundrefnau liyd yn awr, ac mae'n amheuthyn o beth gweled Gweinyddiaeth Ryddfrydol mewn grym ac yn barod i gydnabod y gwr o Feirion sydd wedi aros cyhyd cyn cael ei wobr haeddianol. Nid oes yr un sill ynglyn ag addysg Cymru nas gwyr Mr. O. M. Edwards am dani. Mae'r holl gyfundrefn o'r gwaelod i fynu ar flaenau ei fysedd, a gwyr yn well na neb arall beth yw gwir angen ee genedl, a mwy na'r oil gwyr hefyd beth ddylai Cymru y dyfodol ymgyrhaedd ato. Mae ieuenctyd Cymru yn ddiogel bellach tan ei ddwylaw ef. Mr. A. T. Davies. Dyma'r gwr sydd wedi ei benodi yn rheolydd yr adran addysg. Mae rhyw ychydig o sawr ffafraeth ynglyn a'r apwynt- iad, mae'n wir, ond mae lie i gredu mai efa oedd y goreu ellid gael tan yr amgylchiadau. Yn ardal Lerpwl a rhanbarthau o'r Gogledd mae i Mr. Davies enw da, ond ym myd addysg rhaid addef nas gwyddai ei genedl fawr am dano. Mae'n gyfaill agos i Mr. Herbert Lewis a'r gwir anrhydeddus D. Lloyd-George, a gallwn ymddiried i'w detholiad hwy, os mai iddynt hwy y mae'n ddyledus am ei safle. Gwir fod yna ber- sonau amryw a allasent lanw'r swydd hon i foddlonrwydd, a chydag ymddiriedaeth llwyr- af y genedl, ond bydd raid i Mr. Davies weithio yn galed am dymor er enill ffydd y bobl cyn y byddant yn barod i roddi'r un ymddiriedaeth ynddo ef ag yn Mr. O. M. Edwards. Gan fod y gwaith wedi ei gyf- lawni gadawer i ni fel cenedl wneyd yr oil a allwn er cynorthwyo a chalonogi y ddau yn y gwaith enfawr sydd o'u blaen yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf yma. Mae Cymru wedi cael y darn cyntaf o'i hawliau, ac ni raid iddi aros yn hir bellach heb gael ycliwanegiad sylweddol at ei phrif obaith o ymreolaeth gyfan ynglyn a phob petli a oerthyn i ni fel cenedl.

[No title]