Hide Articles List

4 articles on this Page

COFADAIL JAMES HUGHES.

[No title]

GWRON Y CONEMAUGH.

News
Cite
Share

GWRON Y CONEMAUGH. (Gan Cynonfardd.) Mewn hwyl a hedd mae Johnstown a'r cyffiniau, Ni thawodd adsain gwyl addurno'r beddau. Dydd Gwener-ganol dyddâmae'r nen yn duo, A chwmwl ar draws cwmwl yn ymrolio Arllwysant eu cynwysiad ar y dyffryn, Fel gwnaethant ganwaith gynt, ac nid oes dychryn, Nac arswyd, nac amheuaeth, yn meddiannu Neb o'r trigolion. Ant yn mlaen dan ganu. Mae'n wir fod llyn yn nghesail ban y mynydd, A bod pob cawod at ei gorff yn gynydd, A'i ddyfroedd yn gynhyrfus eisieu tori Dros ben neu trwy y mur, fel wedi sori Wrth fywyd tawel a llwyddianus dynion, Ac yn ei nwyd cythrybla i'w waelodion. Mae'n bump o'r gloch-cysgodau hwyrol Sydd yn daenedig, ond yn rhy gynarol; Ymchwydda'r afon dros ei cheulanau, A llifa dros y ffyrdd mewn amryw fanau. Ond nid oes ofn, bu felly lawer gwaith, Ust! ust! Run to the hills "-estronol iaith Adseinia'n groew rhwng y bryniau ban, Mae'r swn fel trydan-treiddia i bob man. Ah dacw ddyn ar farch, carlama, bloeddia'n groch, Y marchog sydd yn foddfa o chwýs, a baner goch Chwyfiedig yn ei law, a gwaedda, Ffowch I'r bryniau am eich bywyd-nac ymdrowch! Carlama 'mlaen, a'r bobl dyrant Yn dorfau hyd y 'strydoedd, ymofynant Mewn pryder, Beth yw hyn ? a gwawdiant: Gwallgofddyn yw. Ha I ha!" tra'r marchog gwrol A rhagddo hyd y dyffryn yn herfeiddiol- A chlywir draw o bell ei swn adseiniol, I'r bryniau rhedwch-rhedwch yn egniol! Ah gwelwch acw Beth ganlyna Y gwron dewr ? Ei weled a ddychryna Y dewraf wýr-parlysir nerth y cryfaf! Rhaiadrol dwrf frawycha'r beiddgar, hyfaf, Erch golofn lydan, uchel, gymysgedig 0 dan a dwfr, yn ffromus ewynedig Yn rholio mewn awdurdod marwol- Yn treiglo pobpeth draphlith yn ddireol- Talp-greigiau erch ar draws preswyldai'r dyffryn, Chwilfriwio pob cadernid-taro dychryn I galon pawb.âAh I mur symudol! Ac angeu yn ei rwysg andwyol Yn IIyncu bywyd. Beth yw dyn yr awrhon ? Beth yw cedyrn furiau ar seiliau creigiau cryfion? Beth yw peirianau cledrffyrdd a cherbydau ? Beth yw olwynion mawrion y melinau ? Mae'r llif yn frenin-creulawn yw ei ddifrod- Trwsgl ddawnsia yntau ar y dyfrllyd feddrod. Ond gyru 'mlaen yn feiddgar mae y marchogâ Cyflawni ei genadaeth yn ardderchog Fel udgorn treiddgar clywch ei nerthol seiniau,â 0 rhedwch am eich einioes ffowch i'r bryniau 0 wron enwog cymer wers dy hunan, Mae'r perygl bron dy ddal; rhag erch gyflafan Tro ben dy farch i'r bryn- twrf y llifeiriant A wna dy ymdrech enwog mwy yn fethiant. Ha dacw'r bont! Mae yntau'n troi i'w chroesi, Llwydd iddo fyn'd yn ddyogel a goroesi Y dinystr blin.âOnd, na, mae'r bont yn symud, A'r dylif yn ei ddal; 0 leddfol fynud Mae'r cwbl drosodd nid oes march na marchog, Na phont, na phentref, na dinas fywiog, Ond trwy yr awyr las adleisia'r seiniau- I'r bryniau am eich einioes; ffowch i'r bryniau (Mae'r darn uchod yn gystadleuol i adroddwyr yn Eisteddfod Ysgol Dulwich, gynhelir Ebrill ioed. Arn fanylion ymofyner a'r Ysgrif- enydd, Mr. T. J. Thomas, 3, Rye Lane, S,E.]

Advertising