Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
NEW TOWN HALL, WOOLWICH. The Eighth Annual Welsh Concert.. (On behalf of "Bethel" Welsh Congregational Church, Woolwich), will be given in above Hall ON THURSDAY, MARCH 7th, 1907, under distinguished patronage, By th following eminent Artistes Soprano Miss EDITH EVANS Contralto Miss GWLDYS ROBERTS Tenor Mr. THOMAS THOMAS Baritone Mr. DAVID EVANS Harpist Mr. FRED BARKER TP LONDON WELSH MALE VOICE CHOIR. Conductor—Mr. Merlin Morgan. Accompanist and Solo Pianist, MR. MERLIN MORGAN Chairman W H. LEWIS, Esq. Doors open at 7.30 p.m.; to commence at 8 p.m. Dress Circle (numbered and reserved), 4/ Area and Balcony (reserved), 3/ Front Seats, 2/ a limited number of 1/-seats. Tickets may be had of either of the Secretaries-R. G. THOMAS, 3, Dallus Road, and L. Griffiths, 1, Wrottesley Road, Plumstead, also W. H. Lewis, Esq., London and Provincial Bank, Ltd., Woolwich. WILLIAM DAVIES, Dairy & Life Insurance agent, 160, HIGH HOLBORN. Oxford St., excellent Freehold Shop and Prem- ises, main road, 17 barns at 4d. Shop 965, pram, illness, will be sold cheap, the bus. iness and freehold, half can remain. Sole Agent. City-Indoor takings £ 18; Sunday closing 2150 N.-18 gls. 4d.; shop £ 17 low rent; pram 2200 S.W.-19 gls. 4d.; shop 216 pram; inst. sale 2200 N.—Main road. 28 gls. all 4d.; good shop; pram2300 Oxford St.—20 gls. 4d.; shop 217; pram; good 9.250 S.E.-40 gls. all 4d.; shop £ 12 cart round WEst2400 E.C.-40 gls. all 4d.; shop 215; low rent; speciaIZ440 N.—48 gls. 4d.; shop 216; 2 prams illness causeE550 S.E.-36 gls. all 4d.; shop £ 70 2 prams; splendid2550 W.-61 gls. 4d.; shop 220; 3 rounds; low rent zC700 N. 66 gls. 4d.; shop 216; 3 prams; good spot.. £ 750 Others in abundance. Come to DAVIES and be suited.
EISTEDDFOD Y TABERNCL.
EISTEDDFOD Y TABERNCL. Nos Sadwrn diweddaf cynhaliwyd Eistedd- fod Fiynyddol Oymdeithas Lenyddol y Tabernacl Kings Cross, ac er fod yr hin yn anymunol daeth cynulliad i lanw neuadd eang y capel a digon o gystadleuwyr i gadw'r cwrdd i fynd hyd awr hwyr. Lly- wyddwyd am y noson gan J. Jay Williams, Ysw., ac arweiniwyd gan y Parch. H. Elfet Lewis, gweinidog y lie. Gwasanaethwyd fel beirniaid gan y person au canlynol: Cerddoriaeth, Mr. H. Tudor Rhys bardd- oniaeth Parch. T. Mardy Rees, Markham Square traethodau, Parch. Herbert Morgan, B.A., Castle Street; adrodd, &c., Parch. J. Machreth Rees gwniadwaith, Mrs. Wilfred Rowlands a Mrs. T. J. Evans. Cafodd yr oil ddigon o waith i'w gyflanwi, ac er mai talentau lleol oedd gan mwyaf yn cystadlu, yr oedd y safon yn adlewyrchu cryn glod ar aelodau y Gymdeithas. Dechreuwyd gydag adran y plant, a gwobrwywyd y buddugwyr fel y canlyn :— Unawd ar y berdoneg 1, Mr. Albert Owen 2, Miss Jones, Suffolk Street. Adroddiad, Y Plentyn Dall 1, Mr. Jack Reynolds 2, Bertie Reynolds; 3, Miss Eirian Kean. Unawd 1, Miss Gertrude Gay, Llanelli; 2, Miss Blodwen Jones, Essex Road. Drawing 1, Miss Grace Jones, Suffolk Street; ail yn gyfartal, Mr. B. Reynolds a Miss Annie Mathias. Yn adran y rhai agored i bob oed, gwob- rwywyd y rhai a ganlyn Traethawd Tom Ellis a'i waith," Mr. J. R. Owen, Battersea Rise. Traethawd i ferched "Ardal fy mebyd," Miss Hughes, Falmouth Road. Aralleiriad rhyddieithol o Myfanwy Fychan," Mr. Joseph Richards, King's Gross. Englyn, Yr aelod Seneddol," Mr. B. D. Jones, King's Cross. Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg, Cardi," ond nis atebodd i'w enw. Unawd i ferched, Nant y Mynydd," Miss Winnie Evans, King's Cross. Unawd tenor, Yr Hen Gerddor," Mr. Hirwen Davies. Unawd baritone, Mr. David Jones, King's Cross. Pedwarawd, Ti wyddost beth ddywed fy nghalon," Mr. Tom Jones a'i gyfeillion. Champion duet, Mri. Hirwen Davies, King's Cross, a John Hughes, City Road. Parti o 12 i 16 mewn nifer, "Gweddi'r Arglwydd," goreu, Parti King's Cross, tan arweiniad Mr. Emlyn James. Ateb pedwar cwestiwn ar y pryd, Mr. R. Stevens, B.A., yr hwn ddychwelodd y wobr. Tray cloth, goreu Miss Bessie Davies, Castle Street. Adroddiad, "Arafu Ddyn," Mr. H. Jones, Charing Cross. Nid oedd safon y farddoniaeth yn ddigon Mchel i haeddu'r gwobrau y tro hwn, a bu raid atal ar y gan oreu i'r Suffragettes," a phedwar pennill Yn y wlad er hynny, addefai'r Parch. Mardy Rees fod cryn wawd- iaeth yn nghyfansoddiadau'r beirdd ar ferched y bleidlais. Yn ei araith lywyddol dywedai Mr. Jay Williams fod yn llawen ganddo ddod yno i ddangos ei ochr ac i gefnogi'r Eisteddfod ym mha le bynnag ei cynhelid. Hon oedd ein prif wyl Gymreig, ac roedd ef fel Cymro yn teimlo yn hynod falch 0 honi am y lies a wnelai i ddynion ieuainc i ymgydnabyddu a'n lien a'n can, a'u cyfaddasu i fod yn rhyw- rai yn y byd. Er mai dyn bach ydoedd teimlai'n hapus i fod mewn. cadair yn nghys- god Elfed, oherwydd 'roedd yntau fel y prif fardd wedi bod yn crwydro yn hir yn nhir y Sais; er hynny, teimlai yn dra boddhaus i ddod nol nawr ac eilwaith i fwynhau noson fel hon yng nghwmni ei gydgenedl ac i ddyddori eu gilydd mewn araith a chan. Dymunai bob llwydd i'r gymdeithas ac i'r anudiad oedd ganddynt mewn golwg, sef sicrhau llyfrgell briodol ynglyn a'r lie. Diolchwyd yn gynes i Mr. Williams am ei gefnogaeth gan y Parch. Elfet Lewis, yn cael ei eilio gan Mr. Watkin Jones. Yn ystod yr hwyr gwasanaethwyd wrth yr offeryn yn ddeheuig gan Mr. D. Richards, a chanwyd Hen wlad fy nhadau i derfynu y cynulliad tan arweiniad Mr. Stanley Davies—un o'r ysgrifenyddion.
LLYTHYR SION RHYS.
LLYTHYR SION RHYS. Mistir Golygydd. Sir,—Diolch yn fawr i chi am y papyre. Ma'n ddigon hawdd gweld ych bod chi'n medri ysgrifenu. Waith rw i yn cal ych papyre chi bob wth- nos a dim ond Shon Rhys Cymri arno fe, ond wfft i'r Dafy Jons yna. Dos dim ryfedd fod bechgyn y post-offis yn ffeili cal gafel arna i os fe sgryfenodd y drexion. Fel gwiddoch yr w i wedi bod ariod yn erbin i'r mynwed gal fot-ag rw i wedi cal un prawf arall man sownd y dyler set fod. Dyma Sioned, gwraig Dafi Jones, yn cymeryd i llw y byse hin foto yr un peth a'r gwr. Syndod i'r byd mor dwp ag mor dywyll yw cariad. Pwy feddylie fod neb yn y byd mowr yr un fath a Dafi Jos gwedwch chi. Gobeithio ma stori neid yw hi am Sioned, yn wir. Dw i ddim yn leico holl-wybodeth Dafi Jos chwaith. Ma fe'n siarad am Jon Burns fel pe byse fe'n nabod e ar odd en hogin bach. Dw i ddim am wadi nag yw Jon yn codi am whech bob bore, ond peidied Dafi Jons a gweid hyny mor bendant. Mi weles i John Burns unwaith yn yr Hows of Com- mons, ag rodd en edrich fel in o honon nine. Dodd gidag e ddim rhiw got pregethwr a hat sidan, fel rhai o'r bois bach yma sin dwad fyny o Gymry, ond rodd e'n edrych fel gweithiwr. A dyna Kair Hardi hefyd yr un peth. Roedd ynten edrich fel byse fe yn mind i weithio dwrnod wrth y gwair yn gowir. Dynar dynion sin gneid lies i'r byd iwr dynion yna. Dw i ddim harun gweld rings melynion mowr am ddwilo Members o Parliament, a chot ddu fel pe bysi i gwragedd nhw wedi marw i gyd. Rodd yn dda iawn gen ich gweld chi yn rhoi clewten ne ddwi i'r Welsh Lig yna. Dyna biti fod Ellis Griffidd a Elfed yn gadael i riw grytsach bach i hordro nhw lawr i Gaerdydd. Waith diw Cymri ddim yn credu yn mechgin y Welsh Lig na'r Welsh rifolt. Falle i bod nhw yn dda arswidus ar y Stedj, ond din nhw fowr o beth pan fydd eise rhoi hwp i'r cart. Fe nan y tro i bregethi'r Niw Thiologi i'r Seison, ond din nhw werth dim—dime'r delin, i bregethi politics i Gymri. Wel, odich chin sefill i fynd ar y Counti Cownsil yn Llynden, gwedwch. Gobeitho'ch bod chi a gobeitho rewch chi mewn fel ffiam-waeth ma eise dynion fel chi ar y bwrdde yma. Wel, gwd bi nawr. Rw i yn gadel Dafi Jons a Sioned dan sylw nawr. Gobeithio fod rhiwun yn cymrid gofal o'r ddou. Gwd bi yto. Cofiwch fi at Von Defis a'r Preim Minister. Rw i a Mali yn dod lan i Lynden yr wythnos nesa, a mi alwa i gydach chi i roi tro. SHON RHYS.
Bwrdd y Gol.
Bwrdd y Gol. Tymor y dychweliad yw hwn, ac fe ddaeth Senedd- wyr a phobl fawr Llundain yn lluoedd i'w hen gartrefi yn y ddinas yr wythnos hon. Yn eu plith yr oedd ein Gol. parchus, a rhoddwyd croesaw cynnes iddo pan ddaeth i'r cyfarfod o gylch y Bwrdd, gan wneud ei ymddangosiad am y tro cyntaf wedi gwawriad y flwyddyn newydd. Credai'r mwyafrif mai wedi myned i wlad yr haf yr oedd, a'i fod wedi sicrhau palas yn rhywle ar lan Mor y Canoldir, ymysg gwyr ffasiynol yr oes, ond breuddwyd gelynion yw hyn. Nid rhyw gysuron a segurdod o'r fath yw dymuniad y doethawr hwn, eithr gwaith a thrafferthion, a digon o rwgnachwyr o'i gylch bob wythnos, er mwyn gwneud bywyd yn werth ei fyw. Yr oedd torf fawr yn disgwyl eu tro, ac anerchwyd hwy fel a ganlyn o'r gadair olygyddol:— T. R. ROBERTS.—Yr ydych wedi cyffwrdd a man gwan y Gol. pan yn apelio at ei haelfrydedd. Mae'n cydsynio a'ch cais er mwyn goleuo a chenedlaetholi tipyn rhagor ar y dref. TALIESSIN REES.—Croesaw yn ol o gylch y Bwrdd, a da gennym ddeall nad ydych wedi anghofio eich cysylltiadau Llundeinig, er wedi symud i Lerpwl. Pob llwydd i chwi yn y dyfodol. W. F. BOWEN.—Dewch ddiwrnod yn gynarach y tro nesaf, er mwyn sicrhau lie. J. R. GRIFFITH.—Gwnai eich cynllun y tro yn gampus i redeg papur mewn cysylltiad a rhyw gymdeithas ddyngarol neu genhadol-Ile y mae angen gwario arian ar bethau ofer. Ond y mae'n hollol anymarferol ynglyn a phapur fel y CYMRO LLUNDAIN A'R CELT. E. JONES.—I ba beth y curwch ar y Blaid Gymreig pan nad oes y fath beth yn bod? Onid ydych yn cofiio i Mr. Ellis J. Griffith wneud ei oreu i'w ffurfio yn blaid, ac i'r mwyafrif wrthod cydsynio ag ef ? Ac fe ddywedir mai'r adran Gymreig o'r aelodau yw'r rhai anhawddaf i gael cyd-ddealldwriaeth rhyngddynt hefyd. Os felly, gwell fai haid o Saeson. W. WILLIAMs.-Peidiwch a meddwl fod a fynnom ni a syniadau ein gohebwyr. Pan fyddom yn cyhoeddi llythyr neu erthygl, gydag enw yr awdwr wrtho, teg yw nodi mai barn yr ysgrifennydd yn unig a geir ynddo. HEN AELOD.—Dywedwch eich bod yn gredwr cadarn yng nghenhadaeth y Bardd Newydd. Wei, diau eich bod, ond y mae eich englyn mor I- newydd fel nad oes linell gywir ynddo, na lliw cynghanedd o gwbl ynglyn ag ef. Feallai mai ymgais yw o'r eiddoch i gyfansoddi englyn ar "blank verse" y Sais. S.R.—Mae'n ddigon hawdd gwneud pregeth hir am gyfarfod. Y gamp yw gosod y cyfan mewn ychydig o le. Pe baech yn ysgrifennu ar bost-card buasai yn fwy agos i'w le, a gwnai les i chwi hefyd er ymarfer i fod yn fyr a blasus. Dewch eto.