Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Dewi Sant, Paddington. Rhoddwyd y briodasferch ymaith gan Mr. Arthur Nash, brawd-yng-nghyfraith. Gweithredwyd fel gwas-priodas gan Mr. John Pierce, brawd ieuengaf y priodfab, ac fel morwynion, gan Miss Gertrude Fordham a Miss Gracie Nash, chwaer a nith ieuanc y briodasferch. Ar ol y seremoni, cafwyd gwledd sylweddol yng nghartref newydd y par ieuainc, pryd y cyfranogwyd o honi gan luaws mawr o wahoddedigion. Yr oedd yr anrhegion yn lliosog. Y Gymdeithas Leitycidol.-Nos Fawrth, Ionawr 26ain, yn ystafell y neuadd Eglwysig, gerbron aelodau y gymdeithas hon, darllenwyd papur galluog gan y Parch. W. Davies, Holloway, ar y testyn dyddorol: Yr Eglwys yng Nghymru yn ystod yr 17eg canrif." Cafwyd ymdrafodaeth pellach ar y pwngc gan amryw o'r aelodau. Cyn- ygiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i'r dar- llenydd gan Mr. James Williams, ac eiliwyd gan Mr. 0. Davies. Byddai rhagor o ym- drafodaeth ar byngciau o'r natur yma yn sicr o brofi yn fendithiol i Eglwyswyr. CYMANFA GWYL DEWI.—Cynhelir y Gym- anfa bregethu flynyddol yn y City Temple ar nos cyn Gwyl Dewi fel arfer. Y preg- ethwyr eleni fyddant y Parchn. D. Gwynfryn Jones, Llandudno, a Owen Evans, D.D., Lerpwl. Gyda'r fath enwogion a hyn bydd yn amheuthyn cael ychydig o'r Hen Ddiwin- yddiaeth am unwaith eto o bwlpud enwog yr hen Ddoctor Parker. TY'R ARGLWYDDI. Er cymaint y son am ei ddifodi mae awen ambell i fardd Cymreig yn cael ei thanio weithiau gan edmygedd o allanolion y Ty beth bynnag am ei waith. Dyma fel yr englynodd un o'r hil yr wyth- nos ddiweddaf TY'R ARGLWYDDI. Hudolus wych adeilad-ar fin dwr Afon deg ei rhediad Rydd wenwyn, trwy ei ddwnad, Ar wir len mesurau'r wlad. Y tro nesaf feallai y gall yr awdwr mewn pedair llinell roddi cynllun i ni sut i'w ddiwygio a'i ddwyn i fynu a gofynion yr oes oleu hon. WILLESDEN GREEN.—Parhau i gynyddu y mae yr achos Cymreig yn Willesden Green, prysur baratoi ar gyfer y bazaar y mae lliaws o foneddigesau gweithgar, a nos Iau, .y 31ain cyfisol, cynhaliwyd cyngherdd mawreddog yng nghapel Cymreig Willesden Lane, W. T. Lewis, Ysw., Brondesbury Park, yn y gadair, a theg ydyw dweyd nad anghofir ei anerchiad hyawdl yn fuan gan y rhai oedd yn bresenol. Y datganwyr oeddynt Miss Laura Evans, Miss Minnie Lewis, Mr. 0. T. Morris, Harlesden Road, Oes o Iwydd i Morris lan, Tenorydd tannau arian." a T. Teifion Hughes. Cyfeiliwyd mewn modd deheuig gan Miss Hughes, Glaslyn House, ac adroddwyd yn fedrus gan Mr. Robert Hughes, Chapter Road. Y mae Miss Phillips, High Road, yn deilwng o barch ac edmygedd am ei llafur ynglyn a'r cyngherdd, yr hwn a drodd allan yn llwydd- iant yn mhob ystyr. YR YSGOLION A'R GYMRAEG.—Yng nghyf- arfod dau-fisol Undeb yr Ysgolion Sabbothol M.C. Llundain, a gynhaliwyd yng nghapel Hammersmith ar y 3ydd o Chwefror, pasiwyd y penderfyniad a ganlyn, yn unfrydol:— Ein bod fel cynrychiolwyr Ysgolion Sab- bothol M.C. yn Llundain yn dymuno pwyso ar Fwrdd Canolog Cymru y dymunoldeb a'r pwysigrwydd o roddi cwestiynau arholiadol ar wybodaeth ysgrythyrol yn yr iaith Gym- raeg yn ogystal a'r Saesneg." Deallwn mai allan o'r holl ysgolheigion yn Ysgolion Canolraddol Cymru, fu dan arholiad yn •ddiweddar dim ond un ysgrifennodd ei ateb- ion yn y Gymraeg, am yr unig reswm yn ddiau na roddwyd cymhelliad i hynny trwy roddi y cwestiynau yn Gymraeg yn ogystal a'r Saesneg. BARRETT'S GROVE.—Cynhaliwyd cwrdd te a chyngherdd blynyddol capel Y Goheb- ydd nos Iau, Ionawr 31, ac er fod yr hin yn oer daeth cynulliad llawn i'r capel, a chaed croesaw cynnes yno a gwledd ddyblyg mewn moethau a chan. Cadeiriwyd y cyngherdd gan Mr. Benjamin Rees, Car- thusian Street, un o gefnogwyr goreu'r achos yn ei ddyddiau blin, ac 'roedd Mr. Herbert Emlyn wedi trefnu rhaglen eith- riadol o dda am y noson. Y cantorion oeddynt Misses Gwladys Roberts a Towena Thomas, Mri. Herbert Emlyn a Tim Evans, ynghyd a Mr. Egryn Owen fel adroddwr, a Mrs. Nellie Jones yn cyfeilio. Rywfodd neu gilydd mae canu da bob amser yn Barretts Grove, a'r nos hon ni roddwyd yr un darn cyffredin gan yr un o'r unawdwyr. Nid oes eisieu canmol Miss Roberts oherwydd y mae erbyn hyn ar ben rhestr ei dosbarth ym myd y gan, ac roedd ei dadganiad o "lIen gadair freichiau fy mam" yn ddeongliad newydd o'r gan i'r gynulleidfa. Mae Miss Towena Thomas yn dod yn gantores hynod felus, ac yn sicr o ennill bri yn y blynydd- oedd nesaf yma. Dewisa ganeuon addas, ac mae'n canu gyda swyn a gofal. Rhoddodd Mri. Herbert Emlyn a Tim Evans ddatgan- iadau rhagorol hefyd, a bu raid iddynt ail ganu bob tro. Fel adroddwr, anhawdd curo Mr. Egryn Owen, a'r tro hwn synodd y dorf gydai'i ddeongliad newydd o Emynau Cymru Elfed, ac nis gellir gor-ganmol ei ddarn o awdl Elusengarwch Dewi Wyn. Gall Mr. Owen osod ei ddarnau Seisnig cyffredin o'r neilldu pryd y mynno, ac ni theimlir chwith ar eu hoi, ond yn sicr gwna gam ag ef ei hun os esgeulusa ei ddarnau Cymreig ar ol hyn, nid yn unig y mae addysg a swyn iddynt i gynulleidfa Gymreig, eithr gwnant Mr. Owen ei hun yn well adroddwr. Cyfeiles ofalus yw Mrs. Jones bob amser, a'r noson hon bu'n gryn gymorth i'r cantorion i gadw i fynu safon uchel y cyngherdd. Ar y diwedd diolchwyd i'r cadeirydd ac ereill am eu gwasanaeth ar gynygiad y Parch. D. C. Jones, ac eiliad y Parch. J. Machreth Rees. YR OERFEL.—Parhau i gwyno mae'r dinas- yddion oherwydd y tywydd oer sy'n aros o hyd, a daw hanes fod llu o Gymry wedi eu caethiwo i'w tai gan yr anwydwst ac anhwyl- debau ereill. Yr oedd Mr. W. Price, Paddington, i lywyddu yng nghyngherdd y Gohebydd, ond methodd dod, gan ei fod y pythefnos cynt wedi gorfod aros yn ei ystafell glaf. Yr wythnos hon bu raid gohirio Dirprwyaeth yr Heddgeidwaid oherwydd selni Syr Brynmor Jones. CINIO GWYL DEWI. Mae'r pwyllgor fu. ynglyn a'r cinio y llynedd wedi trefnu i gynnal y wledd eleni eto yn yr Hotel Cecil. Mr. Ellis J. Griffith sydd eto i lywyddu y noson, a gwneir ymdrech i sicrhau rhai o fawrion y Senedd am y tro. HAMMERSMITH.—Nos Iau diweddaf cyn- haliwyd cyfarfod cyntaf y tymor, o dan nawdd Cymdeithas Lenyddol y lie uchod. 'Roedd y cyfeillion yn Hammersmith yn dechreu eu tymor, pan y mae mwyafrif y Cymdeithasau yn trefnu i ddirwyn eu tymor i ben. Y rheswm am hyn ydyw nad oedd ganddynt ystafell gyfleus i gyfarfod yn ystod y rhan gyntaf o'r gauaf. Credwn y buasai ami i gymdeithas, pe yn yr un am- gylchiadau a Hammersmith, yn gadael y gweddill o'r tymor basio heb gynnal yr un cyfarfod, ond nid felly Hammersmith; a sicr fod y gymdeithas i'w llongyfarch ar ei sel yn ymaflyd a'r gwaith.—Trefnwyd cyfar- fod amrywiaethol gogyfer a'r achlysur, a bus Mrs. a Miss Lewis, Bromley Road, yn gar- edig iawn yn ein cyflenwi a danteithion blasus a rhyfedd y fath nifer o'r chwior- ydd ddaeth ynghyd. (Peidiwch a meddwl Mr. Gol., fy mod yn awgrymu mai i'r te ac nid i wrandaw y gerddoriaeth y daeth y chwiorydd! Bum bron a meddwl hynny unwaith pan welais rai chwiorydd mwyaf parchus yr eglwys yn myned allan yn fuan wedi dechreu y wledd gorphorol, yr hyn gymerodd le ar gynal y cyfarfod). 'Roedd y pwyllgor yn ffortunus iawn i gael gwas- anaeth amryw gantorion o'r tuallan i'r gymdeithas i'w cynorthwyo, a bu y cyfeillion canlynol yn garedig iawn yn gwneud eu goreu i gynnal un o'r cyfarfodydd mwyaf llwyddianus gynhaliwyd erioed yng nglyn a'r gymdeithas yn y lie. Miss Ema Edwards (Clapham Junction), Miss Sherwood (Hor- bury Chapel), Mr. W. H. Jones (Charing Cross), a Mri. J. Bedford Morgan, a W. Rees- (Castle Street). Adroddwyd hefyd yn swynol iawn gan Miss Hall, o Brixton- Arwydd da iawn ydyw gweled aelodau y cymdeithasau cryfaf yn estyn y fath gyn- orthwy sylweddol i'r cymdeithasau hynny sydd ag angen cynorthwy arnynt. Calondid. mawr yw gweled fod y fath dalentau gwerth i'w canfod ym mhlith cymdeithasau llenyddol Cymreig y Brifddinas, ac mae'n bleser meddwl fod y talentau hyn yn cael eu defnyddio yn yr iawn gyfeiriad. Yn y cyfarfod dan sylw cafodd y gym- deithas y fraint o groesawu i'w plith un o'i hen aelodau-un ag sydd wedi codi i safle uchel yn y byd crefyddol, cymdeithasol a gwleidyddol yn Llundain-Mr. Timothy Davies, A.S. Bu Mr. Davies am flvnvddoedd yn aelod gweithgar yn Hammersmith, ac nid oes neb yn llawenhau mwy yn ei lwyddiant nai liaws gyfeillion yn ei hen eglwys. Traddodwyd ganddo anerchiad hynod c bwrpasol ar neges Cymru i'r cenedloedd oddiamgylch, a mawr obeithir y bydd y cyf- eillion ieuainc oedd yn bresennol yn man- teisio ar syniadau gwerthfawr Mr. Davies. Trafferth fawr ydoedd adeiladu y capel newydd, ac mae'r eglwys erbyn hyn wedi dod a phethau i drefn. Y Sabbath diweddaf cynhaliwyd cyfarfod dau-fisol Undeb Ysgol- ion Sabbothol y Methodistiaid yn Hammer- smith, ac yfory agorir y capel newydd trwy- gyfarfod pregethu.—D.D. JEWIN NEWYDD.—Nos Wener diweddaf cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus, o dan nawdd Cangen Ddirwestol y Merched. Daeth nifer liosog ynghyd, ac y mae ar- wyddion llwyddiant ar lafur y chwiorydd yn amlwg. Llywyddwyd yn dra deheuig gan. Mrs. Gwilym Owen, un 0 aelodau y pwyllgor gweithiol, a chyflwynodd cheque am SWill! anrhydeddus tuagat dreuliau y gymdeithas., Cafwyd anerchiadau brwd gan Mrs. Joel, Mrs. David Rees, a Mr. D. D. Gealy, a dat- ganwyd mewn dull canmoladwy gan Miss Lucretia Jones a Mr. J. Tudor Evans. Adroddwyd gyda mawr gymeradwyaeth gan Miss Nellie Stephens. Disgwyliwn lawer o waith eto cyn ddiwedd y tymor. EALING.—Cynhaliwyd y trydydd Social y tymor hwn, nos Fercher, Ionawr 30ain, yn y Swift Assembly Rooms, Ealing Green, o dan lywyddiaeth Mr. H. Parker Rees. Yr oedd darpariadau neillduol wedi eu gwneud gogyfer a llwyddiant y cyfarfod gan Mr. a Mrs. Clifford Evans, Acton, a thrwy eu haelionu hwy cafodd pob un ag oedd yn bresennol ei ddiwallu a digonedd o ddan- teithion er boddloni y rhan gorphorol. Yn ychwanegol at hynny, sicrhawyd cewri ym myd y gan i wasanaethu yn y cyngherdd dilynol, set Miss Lizzie Roberts, Misses G. ac M. Roberts, Mrs. Roberts, Acton Mrs. Grey, Llew Caron, Mr. Stanley Richards, Mr. R. Jones, Mr. a Mrs. Strangward, ac-