Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Y Blaid Gymreig.

News
Cite
Share

Y Blaid Gymreig. Swn ymraniadau a hanes am anghydfod a glywir y dyddiau hyn am ein Seneddwyr Cymreig. Mae'n amhosibl cael un math o gydgord rhwng y 34 personau a gynrych- iolant Gymru, ac os na ddaw rhai o honynt i ganfod eu camsyniadau yn lied fuan bydd y rhwygiadau yn fwy, ac fe chwalir pob gobaith am undeb yn ystod y Senedd-dymor presennol o leiaf. Y drwg yw mai nid lies Cymru sydd gan y dosbarth anfoddog mewn golwg. Eiddigedd a siomiant personol sydd wrth wraidd y cyfan, ac er cymaint a bregethir ganddynt am frad y Ilywodraeth a'r modd truenus yr esgeulusir Cymru ganddi" a'r cyffelyb nid yw'r wlad yn cyffroi dim, a does ond ychydig o benboeth- iaid enwadol wedi dangos un math o bryder nad yw'r weinyddiaeth yn barod i gadw i'r llythyren at yr hyn a addawyd ar y cyntaf i'n cenedl ni. Cyn codi gwrthryfel yn erbyn plaid neu ddosbarth rhaid fod rhyw egwydd- orion wedi cael eu sathru, ond ynglyn a'r anfoddlonrwydd presennol does dim i gyfrif am dano ond eiddiged rhai or aelodau sydd wedi eu gadael allan o ffafrau y weinydd- iaeth ar hyn o bryd. Esgeuluso Dyledswyddau. Clywir rhai o honynt y dyddiau hyn yn beio penodiad y Ddirprwyaeth Eglwysig, eto pan wnaed y peth yn hysbys yn Nhy'r Cyffredin ni ddywedwyd air yn ei erbyn. Gwyr pob gwleidyddwr craff fod yn rhaid cael rhyw ymchwiliad manwl i'r sefyllfa yng Nghymru cyn byth y gellir penderfynu ar fesur a wnai gyfiawnd;r a'r genedL Fe geisiodd Mr. Asquith ers talm setlo'r pwnc, ond bu'n fethiant truenus. Cwynai'r Cymry pryd hynny nad oeddent wedi cael gosod eu hachos yn deg ger bron, ac mai mesur ar gynllun y Saeson anwybodus yn unig ydoedd. Bu gwrthryfel tost ymysg y blaid zzl Gymreig ei hun a safodd Cymru yn lied gadarn o'r tu ol i'r revolters" yr adeg honno. Er mwyn osgoi ail-adroddiad o'r un trybini wele ymchwiliad wedi ei drefnu, ond yn hytrach na myned ati, a dod a'r achos a'r ffigyrau yn drefnusger bron, wele dystion yn cael eu galw i siarad ar fan athrawiaethau ac am fan blwyfi nes gwneyd y wedd ym- neillduol bron yn chwerthinllyd i'w darllen. Pe bae'r gwleidyddwyr anfoddog hyn wedi tref nu'r tystiolaethau yn daclusach a gwneud rhywbeth er hyrwyddo'r mudiad, byddai lie i gwyno, ond fel y saif pethau heddyw gwell ganddynt gynllwyno a chreu anfodd- lonrwydd yn hytrach na hyrwyddo Datgys- ylltiad i Gymru. A Ohirir Dadgysylltiad ? Dyna bryder rhai o'r gwleidyddwyr all- foddog hyn. Neu o leiaf dyna'r esgus a roddant am godi anhawsterau ar ffordd y Llywodraeth. Fel y gwyddis yn lied gyff- redin yr oedd trefniadau wedi eu gwneud er dwyn i fewn Fesur ynglyn a'r Eglwys yng Nghymru yn ystod y Senedd Ryddfrydig bresennol. Gwelir yn awr fod llu o anhawsterau ar y ffordd o wthio y peth allan o'i amser priodol. Gwyr pawb mai ffolineb yw gwthio unrhyw fudiad yn anamserol; drwy hynny gwneir mwy o ddrwg nag o les yn ami, ac yn sicr nid peth doeth yw gwthio Dadgysylltiad i'r ffrynt cyn cael adroddiad y Ddirprwyaeth sy'n eistedd ar hyn o bryd. Nid oes un esgus dros gri rhai o weinidogion yr annibynwyr yn Nghymru, er mai swm a sylwedd eu gwybodaeth wleidyddol hwy yw'r pwnc hwn, ond dylent ar bob cyfrif dderbyn er cyfarwyddo, pa fodd i weithredu, gan Seneddwyr profiadol a gwyr a wyddant ant y myrdd anhawsterau sydd ar ffordd y fafch ruthr anamserol. Cyngor Amserol. Mae erthygl amserol yn y Genedl yr wythnos hon ar y pen hwn. Dywed Mae'n dra eglur ein bod ar drothwy pennod newydd yn hanes gwleidyddol ein gwlad, ac yn wyneb yr argyfwng mae'n bwysicach nag y bu bron erioed o'r blaen ein bod yn Gymrll Gyfan, unolâpawb o gyffelyb feddwl ac amcan, ac yn penderfynu ar gwrs fydd yn drwyadl genedlaethol. Y ffordd rwyddaf i sicrhau hyn fydd rhoi'r gwahaniaethau o'r neilldu, a chraffu ar y pwyntiau lie mae cyd gord. Dyna i gychwyn yr angen am Ddad- gysylltiad, nid yn unig oherwydd iawnder yr achos, ond fel y sylwodd yr aelod craff a gwladgarol dros Eifion ddydd Sadwrn, oherwydd fod ildio Dadgysylltiad yn golygu gwanhau ein safle cenedlaethol yn Senedd Prydain. Fe ddylai fod cydgord perffaitlt ar y pen hwn. Nid yw pawb yn cydsynio i osodiad un dosbarth, sef mai Dadgysylltiad ydyw prif angen gwerin Cymru heddyw, a chyfrifwn ein hunain yn mysg y rhai na chydsyniant i hynny. Eto, ffol yw tybio y golyga hyn 'werthu' Dadgysylltiad fel angen cenedlaethol, ac anwybyddu a dibrisio aberth ac ymdrech y gorphenol. Mae gwerin Cymru wedi deffro i anghenion newydd, mae'n wir, yn y rhai y maent yn gyfranog a gwerin y Deyrnas Gyfunol, ond nid ydyntwedi colli golwg ar y ffaith fod ganddynt anghen- ion cenedlaethol eto heb eu diwallu, a bod Dadgysylltiad yn flaenaf ar y rhestr. Yn nesaf, ni wad neb na bydd yr Arglwyddi yn wrthwynebol i Gymru gael y cydraddoldeb crefyddol y gofynodd am dano gyhyd. Tra. saif, bydd y Ty hwn yn rhwym o daflu allan bob Mesur Dadgysylltiad. Mewn gair, nid oes obaith am Ddadgysylltiad heb orthrechn hwn yn gyntaf. Yn drydedd, fe gytuna. pawb mai trwy gyfrwng rhyw lun ar Ly- wodraeth Ryddfrydol yn unig y ceir Dad- gysylltiad. Dyna dri phwynt felly ar y rhai y mae cydgord, a hwy fydd raid fod sylfeint pa gwrs bynag a fabwvsiedir."