Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

--_0_----Barddoniaeth. ('..--

A --leek for Ladies. -

[DAN uLiei/>KXH T. D. ISAAC.…

News
Cite
Share

[DAN uLiei/>KXH T. D. ISAAC. BARN FFRANCWR AM Y CYMRY. Yehydig ddyddiau yn ol bu M. Paul Barbier athraw ffrancaeg yn Ngholeg Caerdydd, yn darlithio ger bron y Regent Street Polytechnic Llundain. Ei destyn oedd "Cymru a'r Cymry fel eu gwelir trwy wydrau Ffrengig." Sylw- odd y darlithydd mai'r Gymraeg o hyd, er gwaetlaaf amgylchiadau cymdeithasol a pholi- ticaidd anfFafriol, oedd iaith aelwyd, chwareu. le, a chrefydd-dai Cymru. Y siroedd mwyaf Cymreig oedd y siroedd y ceid ynddynt leiaf o droseddau ac o dyngu anudon, ac hefyd y bywyd cymdeithasol puraf. Yr oedd y Cymro yn fab mwy ufydd, yn dad mwy cariadus, ae yn briod ffyddlonach na'r Gwyddel. Yr oedd parch i rieni a henaint yn rhan o grefydd y Cymro, tra yr oedd y teimlad hwn yn gwan- ychu'n ddirfawr yn Lloegr ac wedi ei golli bron yn llwyr yn America. Trwy y Brifysgol tyfai y Gymraeg a gweithiai ei ffordd i ysgol- ion a cholegau y genedl—fe'i cydnabyddid yn gangen bwysig i gyrhaedd gradd y Brifysgol. Os y Ffrancaeg oedd iaith dynion, y Ger- manaeg yn iaith y milwyr, yr Hispaenaeg yn iaith seintiau, yr Eidalaeg yn iaith rhianod, y Saesneg yn iaith adar-yna.'n aicr y Gymraeg oedd iaith angylion. Rhyfedd yw'r ffaith hon —er fod y Gymraeg yn cael ei hedmygu gan y rhai a'i deallant, ac yn cael ei gwawdio gan anwybodusion, nad oedd ei phrydferthweh yn cael ei hamlygu'n fwy a'i grym yn cael ei werthfawrogi. Yn ei chyfluniad a'i mynegiant ymJebygai lawer i'r Hebraeg; ac yr oedd cyffelybrwyd3 hefyd rhwng y Cymry ar He- breaid. Hoflfai'r ddwy genedl fywyd bugeil- 10I, a chaffent fwynhad wrth amaethu. Natnr hawdd ei chyffroi oedd eiddo'r Cymro, a gwrthnalws (iddo ydoedd yr anghyfartalwch cymdeithasol a pholiticaidd a ffynai yn ei wlad.

- -■ IAITH A GWAITH.

PONTYPRIDD CRICKET I CLUB.

Advertising

--Llwyfan Llafur

Grand Performances at Peatre.

Advertising