Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

- Y MODD Y DALIWYD Y LLOFRUDD

[No title]

Advertising

[No title]

...... - Y NAW HELWRIAfcTH.

News
Cite
Share

Dringhedydd' yw pob peth a ddringo i frig pren i amddiffyn ei liun. Ac ni ddyly lieliwr ddy~ wedyd bele, neu gath goad, neu wiwair, neu ffwlbart, ond eu galw dringhedydd llwyd, dring- hedydd diu, dringhedydd coch. Ac am nas gall dringhedydd1 ddiane yn mhell, ond dringo i'r pren, ac yno ei gyfarth a'i faeddu a. wneir. Ceiliog coed a. elwir yn helfa gyfartha, oblegid pan ddel y bytheiaid ar ei hynt ef, ei ymlid a wnant oni chymero bren, ac yno ei gyfarth a'i faeddua wneir. Cadno sydd helfa ddolef, oblegid er maint £0'1' gwaeddi a'r canu cyrn ar ei ol, ef a gynnal ai helynt oni flino. Yr ysgyfarnog sydd helfa ddolef oblegid ei bod yn cadw ei helynt er maint fo'r ymlid ami. Yr Iwrch a elwir yn helfa ddolef oblegid yr un achos. Penaf cig hely yw carw, ysgyfarnog, baedd gwyllt, ac arth. Os gollyngir milgwn i garw neu anifail arall, a'i ymlid o'r milgwn dros fryn, allan o olwg, a'i ladd, y milgi blaenaf yn y golwg diweddaf bia'r croen. Ond ni chaiff miliasfc groen er ei enill, oni bydd hi yn dorog o filgi a enillodd groen, ac yna hi a'i caiff. Am ysgyfarnog, pa beth bynag a'i Uaddo, y ci neu'r peth arall a'i coto o'i gwal a'i piau, os ei ceisio y byddir i'w hymlid. Y naw helwriaeth, a ddyly bawb eu gwybod ar a ddygcu gorn Ac oni fedr ateb am danynt, ef a gyll ei gorn. Ac os da,w neb i hely a'i gyn- llyfan am dano, oni fedr roi ateb am y haw helwriaeth, ef a, gyll ei gynlyfan. Ond ef a all fod a'i gynllyfan am ei fraich yn ddiddial. Ni all neb illwng na milgi na miliaet i un anifail pan fo'r bytheuaid yn ei ymlid, oni bydd iddo yntau fytheuaid yn ei ymlid; ac oni bydd, fe all y neb a fa yn canlyn y bytheuaid dori llinyn garr ei filgi osefe a'i.gillwng. Nid rhydd J. neb saethu anifail y bo helwriaeth arno, pan fo yn ei esmwA thdra, tan boen colli ei fwa a'i saeth i arglwydd y tir. Ond efe a gaiff ei saethu, a.'i ladd os gall, pan fo'r huaid ar ei ol; ond na chaiff saethu yn mysg y cwn. Os a neb i hely, a gillwng yr anifail, a, chyfar- fod o gwn segur ag ef, a'i ladd, y cwn cyntaf bieufydd, on id cwn y brenhin fydd y rhai segur. Yr anifail a helier fydd ar arddelw yr heliwr cyntaf, hyd oni ymchwelo ei wyneb parth a'i gartref, a i gefn ar yr hely. Ond o bydd ei gwn ef yn hely, ac yn tau wedi ymadael a'i gwn ni ddyly ef ddim cyd lladdloy. cwn segur, ond. perchenog y cwn segur bieufydd. Felly'r oedd y gyfraith hely gynt. -y-