Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Gormes Gwareiddiad:

News
Cite
Share

Gormes Gwareiddiad: neu "CALED YW FFORDD TROSEDD- WYR." PENNOD III.-P ARHAD. E T H fu ffawd Her- bert Humphreys y noson hono, wedi dod yn ol at ddrws yr esgob nid oes neb yn gwybod hyd sicrwydd. Fodd bynag, gwelwyd ef y bore dilynol yn dod o dy yr esgob, a chanddo fwndel lied fawr dan ei fraich. Yr oedd yr esgob gydag ef ac fel pe yn dangos y ffordd iddo at y gwestv gyferbyn a'r hwn v byddai y cerbydau pedwar ceffyl, yn aros. Y csrbydau hyn oeddynt unig foddion teithiol canol y wlad i fyny i'r adeg hon, oblegid ni cheid rhei jfyrdd ond mewn ychydig iawn o fanau. Gwelid yr esgob yn prynu tocyn ac yn ei roddi i Herbert, gan ddyweyd wrt-ho cyn i'r olaf esgyn i'r cerbyd cyhoeddus, "0 hyn allan, yr wyf yn disgwyl y bydd i chwi fyw yn onest, uniawn, a da. Credaf y gwnewii credaf mai nid ffug oedd yr arwyddion o edifeirwch welais ynoeh neith- iwr. Gwertihwch y llestri arian yna a chyimerweh yr hyn gewch am danynt at ddechreu eyohwyn gyrfa dda, yr hon ond i chwi barhau ynddi hyd y diwedd, ach ar- wain i lawer gwell byd na. hwn. Da y bo'ch, fy nghyfaili." Gwelid deigryn yn llygaid Herbert tra yn ysgwvd llaw a'r esgob. Yna, cychwynodd y cerbyd ymaitih—a dyna'r try) olaf y gwel- wyd Herbert yn Abergwili na'r cylch.

PENNOD IV.-Y "DYN DYEITHR."