Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

AWCRYMIADAU CYFREITHIOL

News
Cite
Share

AWCRYMIADAU CYFREITHIOL W. JONEs.-Nis gellir gwneyd i fachgen dan un ar hugain mlwydd oed dalu iawn am dori ammod priodas. 'Does dim grym cryfreithiol yn yr ammod oni wneir ef gan un yn ei lawn oedran. THOMAS HUGHES.-Nid oes neb ond gwarcheidwaid y tlodion a ddichon orfodi mab i gadw ei fam, na hwytbau ychwaith oni bydd y fam yn derbyn cymhorth plwyfol, a'r mab yn alluog i dalu'r costau i'r plwyf. CADWALADE.—Nis gellir eich gorfodi i dalu am y nwyddau a roddwyd ar goel Ïch gwraig gan fasnachwr a fyddo eisoes wedi derbyn rhybudd genych na fyddech yn gyfrifol am ei dyledion. HWSMON.—Y mae yn ddyledswydd ar y meistr gadw y gwas yn ei wasanaeth yn ystod yr amser y cyflogwyd ef; ac os bydd yn ei droi i ffwrdd cyn yr amser hwnw heb achos cyfreithlon, gall y gwas ddyfod a chwyn cyfraith yn ei erbyn am hyny. A gall y gwas neu y wasanaethferch fydd wedi eu troi i ffwrdd felly ddyfod a chynghaws am eu cyflog. Ond os bydd yn bwriadu cymeryd y ewrs hwnw dylai ef (neu hi) aros hyd nes terfyno cyfnod y cyflogiad, ac yna dyfod a'r cynghaws yn mlaen, oherwydd os wrth y flwyddyn y cyflogwyd y gwas, a'i gyflog yn dyfod yn ddyledus ar y Nadolig, yna, os troir ef i ffwrdd yn mis Mawrth, ac iddo ar unwaith roddi cyfraith ar ei feistr am ei gyflog, nis gall hawlio ond y rhan a fyddo yn digwydd bod yn ddyledus y pryd hwnw; ond drwy aros hyd y Nadolig, gall hawlio y flwyddyn gyfan. Os, pa fodd bynag, yn y cyfamser, rhwng Mawrth' a'r Nadolig, y bydd iddo fyned i wasanaeth un arall, nis gall hawlio ond hyny oedd yn ddyledus iddo hyd yr amser yr ymgymero a'r gwasanaeth arall hwnw. Gyda golwg ar garictor, nid yw y meistr na'r feistres o dan rwymau cyfreithiol i'w roddi. Ond os byddant yn ei roddi, rhaid iddo fod yn un cywir, pa un bynag ai drwg ai da, onide bydd y cyflogwr, y meistr neu'r feistres, yn agored i gynghaws cyfreithiol, ac os bydd cymeriad anghywir, ffugiol, neu anwireddus wedi ei roddi yn bwrpasol, bwriadol, a gwir- foddol, gellir euogbrofi y rhoddwr a'i daflu yn ngharchar. Gellir cyfreithloni ymddyg- iad y meistr a yro ei was cyflog i ffwrdd ar unrhyw adeg am achosion fel y canlyn:— Anfedrusrwydd, arfer ag esgeuluso, neu ryw ymddygiad a fyddo a thuedd neu fwriad i niweidio busnes y meistr, anufudd-dod gwir- foddol i orchymynion rhesymol a chyfreith- lon, camymddwyn, anonestrwydd, meddw- dod, analluogrwydd gwastadol drwy aflechyd, a cyfryw^. GWAS CYFLOG.—Lie byddo gwas cyflog o unrhyw fath yn cael ei gyflogi ar gyfrif ei fedrusrwydd neu ryw allu neillduol i gyflawni rhyw ddyledswydd neu ddyled- swyddau neillduol, ac iddo droi allan yn hollol anfedrus yn y eyfryw bethau, y mae gan ei feistr hawl i dori y cytundeb, a throi y cyflogedig i ffwrdd. YMHOLYDD.—Nid yw geiriau o ddifriaeth gyffredin, megis galw dyn yn r6g," yn scowndrel," neu yn blagard," a'r cyffelyb yn gospadwy drwy gyfraith; ond, os dodir hwy mewn ysgrifen neu argraph, a'u cy- hoeddi, eu dangos, eu hanfon, eu postio, neu eu delifro i unrhyw drydydd person, y maent yn gospadwy fel libel. Gellir deffinio y gair athrod fel trosedd cospadwy fel y cjinlyn Unrhyw beth wedi ei gyhoeddi mewn print neu ysgrifen, neu mewn ffordd o ddarlun, yr hwn, yn ol barn rheithwyr y llys, a fyddo wedi ei fwriadu i wneyd gwawd a dirmyg o unrhyw berson yn faleisus, a cheisio tueddu ereill i'w gashau a'i niweidio yn ei amgylch- iadau. Gall libel, gan hyny, fod yn gyn- nwysedig mewn darlun, gwawdlun, neu bictiwr o ryw fath, yn gystal ag mewn argraph, mewn llyfr neu bamphled, papur newydd neu gylchlythyr, neu rywbeth tebyg. JOHN LLOYD.—Rhaid i bob llythyr cymun fod mewn ysgrifen, ac wedi ei lawnodi gan y cymunroddwr neu'r gymunyddes, neu gan rywun arall yn ei bresennoldeb, ac o dan ei gyfarwyddyd; ac y mae yn rhaid i'r llaw- nodiad hwnw gael ei gydnabod gan y cymun- roddwr yn mhresennoldeb dau neu ychwaneg o dystion yn bresennol ar yr un pryd; a rhaid i'r cyfryw dystion ardystio a llawnodi y cyfryw ewyllys yn ngwydd neu bresennol- deb y testamentwr. Nid ydyn llythyr eymun wedi ei wneyd gan un a fyddo dan un ar hugain oed yn safadwy. Nid ydyw sel ar ewyllys yn angenrheidiol o dan y gyfraith bresennol. D. L. M.—Cwestiwn o dystiolaeth ydyw pa un ai chwi ai gyriedydd y car sydd gyfrifol. Os oeddych chwi yn ceisio pasio ar yr ochr na ddylasech, ac nad oedd y gyriedydd yn eich gweled, ac nas gellir ei gyhuddo o esgeulusdra, nis gall fod yn gyfrifol am y niweidiau na'r golled a dderbyniasoch. Ond, os na chymerodd ddigon o ofal, ac y gallasai eich gweled pe buasai yn ofalus, y mae ef yn gyfrifol. T. L. T.—Pan fyddo croes-gyfrifon rhwng methdalwr ag un o'i achwynwyr, y balance yn unig a gymerir o dan ystyriaeth. Os o du neu yn ffafr y methdalwr y bydd y balance, rhaid i'r achwynydd ei dalu yn llawn os yn ffafr yr achwynydd, eiddo y methdalwr aiff i dalu y gyfran arni sydd yn daladwy i'r achwynyddion ereill. Yn y darlun hwn ceir siaced o moire tonog, ac y mae'r dullwedd drwyddo o'r natur henafol, nes gwneyd y wisg yn gyfaddas at gyrddau cyhoeddus, tra y mae wedi ei hymylu gydag hen lacemelyn-wawr, yr hwn sydd yn gweddu i'r dilledyn tywyll, ac y mae'r llewis yn hynod ddestlus ac addurn- iadol. Yma ceir gwisg o satin gwyrdd goleu, gydag embroidery o jet du ac edau euraidd. Dros hon teflir peliese o fuslin sidan goleu, a thrwyddi y mae'r wisg wyrdd o danodd yn adlewyrchu yn ddymunol. Gyda'r het oleu, ac ymylon gwyrdd iddi, gorphenir dillad sydd o'r harddaf.