Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Y BYD YN GWELLA
News
Cite
Share
Y BYD YN GWELLA YR wyf yn argyhoeddedig fod y byd yn myned yn well bob dydd," sylwai boneddwr parchedig wrth frawd o glerigwr y mae fy nghynnulleidfa i yn cynnyddu yn barhaus." Ydyw," sylwai y brawd, yr hwn a ddi- gwyddai fed yn gaplan carchar; ac felly y mae fy nghynnulleidfa innau hefyd Ac yma y diweddodd yr ymddyddan am wawriad buan y mil blynyddoedd.
CYCHWYN ALLAN I HELA
News
Cite
Share
CYCHWYN ALLAN I HELA BETSAN B'le 'rwyt ti'n myn'd, Simon ? SIMON: Myn'd allsni i hela, peth siwr 'di u. BETSAN: Hela'n wir, be fedri di hela ? Bob tro y byddi di'n myn'd allan i hela, mi 'rwyt ti'n peri i mi feddwl am yr hen goo. hono am Dafydd Ifan, Trawsfynydd, hono glywais i fy nhaid yn ei chanu yn mharlwr y Bedol:— Os daw yr hen Ffrancod fel buon nhw o'r blaen, I ymladd a'r Cymry, na hidiwch mo'r draen; Ni wna' nhw ddim niwad i ni, nenw'r tad, Tra bo Dafydd If an a'i wn yn y wlad. Mi saethith yn gelain yn gywrain a'r gwn, Yn gwn ac yn gathod, un hynod yw hwn Os gwêl o scyfarnog neu lwynog ar lawr, Bydd Dafydd yn cerdded a'i fwriad yn fawr Os caiff o bil pabwyr i glymu'r hen glo, Mi saethith yn gelain hyll frain yr holl fro." Dyma'r ewbl ydw i'n gofio, ond mae hi'n bictiwr byw ohonot ti, Simon. SIMON Dyna fel 'rwyt ti bob amser, Betsan, gyda dy hen gerddi gwirion, ond yr ydw i wedi saethu llawer bran yn gelain gegoer cyn erioed dy weled di. BETSAN Wel, dos di, a chymer ofal Simon, cofa di gadw ffroen y gwn tua'r llawr, fel y byddo hi'n ddyogel i bobl fydd yn cerdded ar dy ol di, a chymer ofal o hyn allan rhag saethu mul neb mewn cam- gymeriad, ac os na fedri di saethu y peth y byddi di yn anelu ato fo, pwy a *yr na laddi di rwbath fydd yn digwydd bod ddeg llath ar hugain o'r naill du iddo fo, ond paid a saethu mul. SIMON: Mul, a mul, a mul bob eraser ydi dy holl sgwrs di, Betsan; Mae rhagor cynddeiriog Rhwn' mul a scyfarnog Mewn mawnog a maes." Dyna i ti, mi fasa'n llawn cystal i tithe beidio tynu bardd yn dy ben, Betsan.
Advertising
Advertising
Cite
Share
A 1, i( ..Xl ZI.tL.- POTEL AROCLI DR MACKENZIE At yr ANWYDWST. jwellha Oerfel yn y Pen. Gwellha Gur Gieuol yn y Pen. Diatreg symuda Haint y Gwres, a Phoen yn y Pen. Y moddion goreu at Lesgedd a Syfrdandod. 7vjerthir yn mhob Fferylldy ac Ystorfn. Pris, Un Swllt. TUT GWRTHODWCH EFELYCHIADAU DIWERTH. Drwy'r Post am 15 o lythyrnodau o'r Mackenzie's Cure Depot, Readinor
[No title]
News
Cite
Share
hyd nes y dof fi yn ol, gael i ti watsio rhag i'r un ohonyn nhw ddengid." Fuon ni ddim gwerth o amsar y tro yma ac mi ddoth capten y llong a'r gweddillo'r criw i gid i'r lan yn saflf, ac roedd ei wraig o a'r hogen yn sefyll ar y lan yn ei ddisgwl, a Bob yn sefyll wrth ochor yr hogen. Pan welis i hyny mi wylltis wrtho fo, aches 'toedd gin Bob, a fynta yn ddim ond lifftenant, ddim hawl i neyd ei hun yn big yn ngolwg yr hogen, a felly mi ofynis iddo yn reit siarp, Pa'm na f'asa ti yn gneyd fel y deudis wrthat ti ? I be wyt ti'n gadel i'r bobl yna ddwad o'r ogo ?" Ond mi gerddodd Bob i ffwrdd oddiwrth yr hogen pan glywodd o liyny, a felly mi faddeuis ina iddo, achos eisio ei gadw yn ddigon pell oddiwrth yr hogen oedd arna i. In Pan neidiodd y capten o'r cwch i'r lan mi afeulodd ei wraig am dano fo, a dyna lie 'roeddan nhw'n cusanu eu gilydd reit o flaen y dynion. 'Ro'n ina dest a gafel am wddw'r hogen a rhoid cusan iddi, ond 'toeddwn i ddim mor ddigwilydd a'r capten, felly neis i ddim. Y ddau hogyn yma sy' wedi'n hachub ni," ebra'r capten, onibai eu gwroldeb nhw mi f'asa pob un ohonan ni yn gyrph ein y bora. Fuom i 'rioed yn y fath berig a heno, a dyma waredigaeth wedi dwad heb ei disgwl ac o le rhyfadd hefyd. Pwy ydach chi?" ebra to, gan droi ata i—" dau frawd ydach chi ? Nage, peirats ydan ni," ebrwn wrtho. Ro'n i'n disgwl ei wel'd o yn dychryn wrth glowad hyny, ond wnaeth o ddim blaw gollwng ei wraig ac edrach arna i dan hanar chwerthin, heb ddeud 'run gair am fynud. "Wedi bod yn darllen hanes Paul Jones, y peirat, mae'n debig?" ebra fo toe, mae yr hen lyfra yna yn gwneyd llawar o ddrwg i hogia o'r oed yma. Piti na fasa posib stopio hogia rhag eu darllen nhw. Ond dowch," medda fo wrth ei wraig, oes yma gysgod yn rhwle dan y bore ? Oes," ebra'r wraig, mae'r ddau hogyn yma wedi dwyn cwch rhwun a dwad yma efo lot o fwyd a choed i neyd tan, a mae yna dan nobl mewn ogo 'rochor arall i'r ynys yma." Wel, mae'n dda i ni heno eu bod nhw wedi dwyn cwch a chym'ryd yn eu pena chwara peirats." Ac aeth y capten a'r wraig yn eu blaena tia'r ogo, a fina, 'rol gneyd lot o stimia ar yr hogen er treio cael gyni hi gerddad efo mi, yn llercian dipin ar ol. "Peirat ydach chi?" ebra'r hogen toe, wedi i'w thad a'i mham fyn'd dipin bach yn eu bleuna. la, siwr, fi ydi'r capten tydi'r hogyn arall yna yn neb ond yn lifftenant i mi. Faswn i ddim yn siarad rhw lawar efo fo taswn i yn eich lie chi, achos tydi o yn neb, ydach chi'n gwel'd--y fi ydi'r boss." Tyr'd yn dy flaen at y tan yma, Cather- ine Ann," ebra ei mham wrth yr hogen, 'rol cyredd yr ogo. Dyna lie yr oedd yr holl griw yn iwsio'n pricia ni i gid ar y tan, ac yn agor y tunia samon a llyncu'r bara a jam fel haid o fytheuid. Welsoch chi 'rioed ffasiwn draf- lyncu oedd yno. 'Toedd hyny ddim yn deg chwaith, a Bob a fina wedi talu am danyn nhw'n onast. "Weldi, Bob," ebrwn wrtho, dipin o'r neilldu, lkwell i ni beidio son dim 'chwanag am beirats; 'toes ar y bobol yma ddim tamed o'n hofn ni, rwsut. Well i ni roid y ffidil yn y to efo'r busnas yma nes byddan ni wedi hudo lot o hogia erill o Bwllheli i droi yn beirats efo ni. Ne hwrach mai troi yn ladron pen ffordd fydda gore i ni—gneyd criw mawr a chael gyna a pistols a phetha felly, 'run fath a Die Turpin, a throi allan i 'mosod ar ffermydd Lleyn yma yn y nos wrth ole'r lleuad." I- la," ebra Bob, a gollwng eu moch nhw yn rhydd, dychryn eu hieir nhw, a lliohio giatia oddiar eu hinjis. Sport iawn Do i wir, mi ddof efo ti. Mae digon o bistols i'w cael miawn siop toys yn Pwllheli am rot ne chwe' cheiniog yr un, a chleddyfa, a gweuw- ffyn, a phetha felly—rhei pren, wyddost, ond mi wnant y tro yn iawn i 'mosod ar bobol Aberdaron, achos wyr y rheini mo'r gwahaniaeth rhwng cledda pren a rhwbeth arall." Felly mi fuo Bob a fina yn planio efo'n gilydd nes 'reuthon ni'n dau i gysgu, a phan ddeffroison dyna lie 'roedd y storom wedi pasio, y mor wedi myn'd i lawr; y capten, ei wraig, a'r hogia, a rhai o'r criw wedi myn'd i Bwllheli, a chwch mawr o Bwllheli yn dwad i 'nol y gweddill. Anghofia fi byth y peth a ddigwyddodd yn Mhwllheli pan gyrheuddsom yno y dwrnod hwnw. (Tio barhau.)