Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
[No title]
News
Cite
Share
[:Mae Meistar Golygudd wedi fy warnio fi i beidio byth eto a chrybwll am betha cysegredig, a felly wiw i mi ar ol y tro yma son am bregethwr yn pesychu. Ond cin gorffan efo'r pwnc rhaid i mi gael deud mae y peth mwya argyhoeddiadol (mi glowis stiwdant rwdro yn deyd y gair yna) glowis i 'rioed ydi y pesychiad pregethwrol yma, 'nenwedig os caiff o ei berfformio ar y mynuda iawn ac yn y lie iawn. Mae clowad pregethwr yn pesychu wrth fyn'd i fyny i'r pwlpud yn ara deg ac urddasol yn un o'r petha mwya tarawiadol, a mi fuo dest i modryb fyn'd i orfoleddu lawer gwaith wrth ddim ond clowad rhw bregethwr yn rhoid y pesychiad yma yn y steil iawn. Ond mae'n debig fod yn rhaid practeisio lot fawr cin medru pesychu yn ddigon da i godi ofn ar lon'd capal o bobol.—WIL.]
11 HUNANCOFIANT HOGYN neu…
News
Cite
Share
11 HUNANCOFIANT HOGYN neu Yr hyn fu llawer ohonom. PENNOD XXVI. Y LLONGDDRYLLIAD. ELIS di'r llong yna, Bob ? gofynis iddo. Llong Naddo I Yn mh'le ? Cin ei fod o wedi gorffan deud y' geiria dyma felltan arall yn suo heibio i ni ac yn diffodd yn y m6r efo'r twrw mwya 'chryslon. Wrth 'leini y felltan hono mi welis i-a mi welodd Bob hefyd y tro yma—long fawr dri- mast yn cael ei dreifio o flaen y storom reit i gyfeiriad y creigia, lie 'roedd anga i bob sowl oedd ar ei bwrdd hi os na fasa rhwun yn medru myn'd atyn nhw. 'Toes gynyn nhw 'run cwch yn y Hong yna," ebra Bob, mi welis gymint a hyny. Mae'n debig fod eu cychod nhw wedi cael eu 'sgubo i ffwrdd yn y storom, achos mae ochor y Hong o gwmpas y dec wedi cael ei falu yn dipia." Dyna floedd wed'yn—y 'sgrech hono--ac mi ddalltodd Bob a fina y tro yma mai nid bwgan miawn distres oedd wedi bod yn gwichian ar hyd yr amsar ac yn ein dychryn ni ein dau, ond pobol, a'r rheini yn cael eu gyru yn syth tia marwolaeth sicir os na basa rhw help yn dwad iddyn nhw o'r lan ne o rwle. Ond sut y medra help ddwad iddyn nhw o'r lan ? 'Roedd y gwynt yn chwthu reit o'r m6r i'r lan, a'r tona rhwng y creigia a'r lan yn rhedag fel mynyddoedd. Fedra neb byth dynu yn erbyn y storom, a fasa 'run cwch yn medru croesi o'r lan i'r creigia heb gael ei swampio. 'Blaw hyny, 'toedd y creigia 'roedd y llong ar fin rhedag iddyn nhw ddim ond prin ddangos eu pena allan o'r dwr, a felly mi fasan yn malu y llong yn dipia, a hyny heb i neb o'r criw a'r pasinjers, os oedd yai hi basingers, fedru cael dim lloches ar y creigia, achos tasa nhw yn neidio o'r llong i'r creigia mi fasa pob un ohonyn nhw yn cael eu 'sgubo i ffwrdd miawn winciad drw fod y tona yn cuddio y creigia latheni o ddyfn dan ddwr amball dro. 'Roedd hi wedi darfod ar griw y llong hono, yn reit siwr; fydda'r un ohonyn nhw yn fyw i wel'd y bora wed'yn. 'Roedd yr ynys fach lie 'roedd Bob a fina dipin o'r neilldu i'r creigia rheini, tuallan iddyn nhw, yn fwy i'r mor. Hyny ydi, 'roedd y creigia rhyngon ni a'r lan, a thipin nes i gyfeiriad Aberdaron. Ac. 'ro'n i wedi sylwi fod y m6r rhwng ein hynys ni a'r creigia yn fwy llonydd o lawar nag oedd o rhwng y creigia a'r lan, achos fod yr ynys yn tori nerth y gwynt a'r tona. Tasa life- boat yn digwdd bod y noson hono ar yr ynys lie 'roeddan ni ein dau, mi fasa yn medru myn'd at y llong, a hwrach ddwad i'r ynys yn ol oddwrthi hefyd, drw y basa fo yn myn'd ac yn dwad yn ngbysgod yr ynys. Ond pa iws siarad 'Toedd yno 'run lifeboat, a felly 'roedd yn rhaid i igien ne fwy o bobol foddi o fewn pum' can' llath i ni. Brensiach anwl! Peth ofnadwy ydi gwel'd dyn yn marw-hyd yn nod yn natur- iol miawn gwely-gwel'd ei chwthad o yn myn'd yn fyrach, fyrach, fynta yn spio i fyny i'ch llygid chi fel tasa fo'n crefu gynoch chi neyd rhwbath er ei fwyn, a chitha yn gwbod na fedra neb neyd dim ond gadel iddo fyn'd o'ch gafel am byth. Peth ofn- adwy ydi meddwl, wrth edrach arno fo yn batlo am ei anadl, ac yn sincio yn swpyn bach yn y gwely-peth ofnadwy ydi meddwl fod y dyn ei hun ar fin cychwyn ar drafel fawr i rwle diarth i chi a fynta, rhwle na ddaw llythyr byth oddwrtho fo i ddeyd dim o'r hanas. Ond dyma igien ne hwrach fwy o bobol yn myn'd i foddi reit yn ein hymyl ni 'rwan. Be fedra Bob a fina neyd? Bob," ebrwn wrth fy lifftenant toe, 'rol i lot o feddylia felna redeg drw fy mhen, mae'r bobol yn y llong yna yn siwr o foddi." "Reit siwr i ti; 'toes dim help am dani," ebra Bob. lvIi gei di a fi4a ein trwblo gan eu hys- prydion nhw am byth," meddwn. Dychrynodd Bob dipin. Pa'm raid iddyn nhw'n trwblo ni ? medda fo 'rol meddwl am y peth am fynud. Achos eu bod nhw yn boddi reit yn ein hymyl ni." Toe dyma Bob yn gofyn, Oes rhwbeth yn rheola m6rladron yn erbyn iddyn nhw aehub pobol fydd dest a boddi ? 'Roedd Bob yn dechra f'ystyriad i fel capten peirats, a fynta fel lifftenant, ac 'roedd yn rhaid i mina, er mwyn cadw i fyny urddas y swydd, fel basa'r stiwdants yn deud (rhei garw am son am "urddas" a phetha felly ydi'r stiwdants bob amsar)—'roedd yn rhaid i mina siarad efo fo 'rwan yn y dull mwya mawreddog fedrwn i, a dangos iddo mod i yn gwbod pob peth dest iawn. 'Rol cymeryd hanar mynud i 'styried y cwestiwn ac i edrach yn ddoeth a gwybodus gynddeiriog (ond fasa waeth i mi heb na gneyd hyny, achos nos oedd hi, a fedra Bob ddim fy ngwel'd i, fel y cofis wed'yn) dyma fi'n atab, yn slo ac awdurdodol, fel bydd twrneiod yn gneyd pan fydda nhw'n enill chwech ac wyth: Wei, Robet," meddwn, tydw i ddim yn meddwl fod y llyfra yn deud dim yn erbyn i ni, fel morladron, fyn'd i achub y bobol yna, ond rhaid i ti gofio (a mi dreis roid pesychiad tebig i besychiad pregethwr yn y fan yma, ond mi aeth y gwynt ofnadwy oedd yn chwthu ar y pryd i fiawn i gorn fy ngwddw fi, a felly 'toedd y pesychiad ddim hannar mor effeithiol a thaswn i miawn pwlpud ne yn y set fawr-")-ond rhaid i ti gofio, wel'di, mai cym'ryd bywyda pobol ydi gwaith peirats, ac nid achub bywyda neb. Ond gin dy fod di yn gneyd cais ata i, fel capten peirats, 'rydw i yn^berffaith foddlon i ganiatau i ti fentro allan at y llong yna yn y cwch." "'Toeddwn i ddim yn gneyd cais sut yn y byd," ebra Bob, ond 'rydw i'n meddwl fod merchaid yn y llong yna, achos mi welis ddillad tebig i ddillad merchaid ar y dec pan fuo'r felltan ddweutha heibio, a mae hanas pob morladron ddarllenis i 'rioed yn deud eu bod nhw yn gneyd ymdrach i achub merch- aid bob amsar." Wel, dyna ydi'r rheol," ebrwn ina, a mi fydd yn rhaid i ni eu cadw nhw yn yr ogo yma, a hyny fel gwystlon." "Fel be ? Fel gwystlon." Bedi hyny ? ebra Bob. Gwystlon ydi —— wel, dwn i ddim ond dyna mae hanes Paul Jones y peirat yn ddeud fydda fo yn neyd efo merchaid a phobol gyfeuthog—eu cadw nhw miawn ogo fel gwystlon." Hwrach mae rhw fath o fortgej yd hyny," ebra Bob. Hwrach wir. Ne f'alla mae eu lladd nhw fydda fo'n neyd pan fydda'r ogo wedi myn'd yn rhy lawn o ferchaid a byddigi@ns a phob math o stragglars felly—eu trawo nhw yn eu pena efo pastwn a rhoid diwadd arnyn nhw. Hwrach mae dyna bedi gwystlo."