Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

COFCOLOFN YR ESCOB MORGAN

News
Cite
Share

COFCOLOFN YR ESCOB MORGAN R. MGYLCHIAD dyddorol oedd yr un Ik||^ hwnw a gymerodd le yn Llanelwy Ebrill 23ain, 1892, pryd y dad- orchuddiwyd cofgolofn genedlaethol i'rEsgob William Morgan, cyfieithydd y Beibl Cymraeg. Casglwyd 693p tuagat y gofadail a thuagat sefydlu ysgolor- iaeth Feiblaidd yn Nghymru. Saif y gofadail rl wng Eglwys Gadeiriol Llanslwy a'r ffordd. Adail wyth onglog ydyw, tua 30 troedfedd o uchder, o gareg goch Stal-. lington. Adeiladwyd hi yn arddull y bymttegfed ganrif. Oddeutu saith troedfedd o'r gwaelod y mae wyi h o lochesau (niches), yn y rhai y mae delwau cerfiedig o'r personau canlynol, yr oil o ba rai a gynnorthwyasant yn nghyfieithiad y Beibl Cymraeg:—Yr Esgob Mor- gan — ei ddarlun ef gyda Beibl agored yn ei law yn gwynebu y ffordd y Parch John Davies, rheithor Mall- wyd yr Archddiacon Peyg, yr Esgob Richard Parry, y Parch Thomas Huet, Mr William Salisbury, a'r Deon Gabriel Goodman (o Ruthyn a Westminster). Mae amryw gerfiadau .ereill ar y golofn, arfbeisiau y pedwar Esgob Cymreig, ac arwyddluniau Eglwysig. Yn uwch i fyny y mae darlun o lusern wedi ei wneyd o haiarn. Yn uwch fyth, y mae coron, ac ar ran uchaf y golofn y mae croes. Cynllunydd y golofn oedd Mr Prothers, Cheltenham ac adeiladwyd hi gan Mr T. Collins, Cheltenham. Ar y diwrnod dan sylw, ddau o'r gloch y prydnawn, cynnaliwyd gwasanaeth Cymreig yn yr Eglwys Gad- eiriol. Daeth lluaws mawr o glerigwyr yn eu gwisgoedd eglwysig i gymeryd rhan yn y gwasanaeth hwn. Y pregethwr oedd yr Hybarch Archddiacon Griffith, Castell Nedd. Cymerodd ei destyn o Joshua ix., rhanau o'r 6 a 7 adnodau, Beth y mae y cerig hyn yn ei arwyddocau i chwi ? Yna y dywedwch wrthynt, Y mae y cerig hyn yn goffadwriaeth i feibion Israel fyth." Sylwodd y pregethwr mai cyfodi yr oeddynt y dydd hwn golofn o goffadwr- iaeth ar anfcidrol fraint a roddwyd iddynt dri chant o flynyddoedd yn ol, pryd y derbyniodd hen drigolion y wlad yr hyn a'u galluogai i droi o dywyllwch i oleuni, pan y cyfododd haul gwybodaeth grefyddol ar hen Wlad y Bryniau. Yr oedd Joshua yn cael ei edmygu a'i garu gan genedl Israel, felly anwyl gan genedl y Cymry y gwr yr oeddynt yn parchu ei goffadwriaeth ar hyn o bryd. Gwladgarwch o'r iawn ryw ydoedd peth fel hyn. Yr oedd rhai yn tybio fod gwladgarwch yn bechod, a bod gwladgarwyr mewn gwirionedd yn I elynion i les y bob!. Nid felly y dylid meddwl am Morgan a'i gydlafurwyr-gwlad- garwyr pur oeddynt. Pwy oedd Morgan? Yr oedd o linach anrhydeddus. Yr oedd un awdwr yn rhanu ei fywyd i dri chyfnod- 28 mlynedd rhagbaratoawl, 20 mlynedd gweinidogaethol, a naw mlynedd esgob- aethol. Cydnabyddai yr Esgob Morgan y cymhorth oedd wedi ei gael gan Archesgob Whitgift, "Esgobion Llanelwy a Bangor, Deon Goodman, Westminster; D. Powell, Edmund Prys, ac amryw ereill. Ond yr oedd ef o'i ysgwydd i fyny yn uwch na'r un ohonynt, ac yn dra hyddysg yn yr ieithoedd gwreiddiol. Nid oes amheuaeth nad oedd y cyfieithiad Cymraeg yn llawer rhagorach, ac yn agosach at y gwreiddiol, na'r cyfieith- iad Seisnig." Ar ol y gwasanaeth, cymerodd y seremoni o ddadorchuddio y gofgolofn Ie, a datodwyd y llinynau gan Esgob Llanelwy, yr hwn a ddywedodd yn y ddwy iaith—"Yn enw y Tad, y Mab, a'r Yspryd Glan, yr wyf yn dadorchuddio y gof- golofn genedlaethol hon i goffadwriaeth yr Esgob Morgan, cyfieithydd y Beibl i'r iaith Gymraeg." Cafwyd sylwadau pert ganyr Esgob. DarUenwyd adroddiad o hanes mudiad y gofgolofn gan y Parch Mr Hughes, Llanuwchllyn, un o'r ysgrif- enyddion, ar ei ran ei hun a'i gyd ysgrifenydd, Dr Dickens Lewis. Yn ei gyf- archiad, adroddodd yr olaf y stori i'r Archesgob Whit- gift ofyn i'r Esgob Morgan a oedd efe yn deall Cymraeg gystal a'r Hebraeg ? Ateb- ai Morgan, Gellwch fod yn sicr fy mod yn deall iaith fy mam yn llawer gwell na'r un iaith arall." Cafwyd anerchiadau hefyd ar yr achlysur gan y Prif- athraw James, Cheltenham, Dr David Roberts (A.), Gwrecsam yr Archddiacon Thomas, Parch Hugh Jones (W.), Parch Owen Davies (B.), Caernarfon; y Proffes- wr Lloyd, Aberystwyth, ac ereill.

[No title]