Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

SIRYDD YN CALIFFORNIA yn gwasanaethu…

News
Cite
Share

SIRYDD YN CALIFFORNIA yn gwasanaethu fel sirydd yn HllS Califfornia yn ystod ei cbyfnod mwyaf penrydd, a chefais achosion i idyfod a rhai o'r cymeriadau mwyaf peryglus i afael y gyfraith. Crogwyd lluaws ohonynt, a diangodd y lleill, gan ddwyn yn eu cof ddarlun byw o'm gwynebpryd, a thyngu dialedd arnaf y cyfleusdra cyntaf. Cyn bo hir, rhoddais y swydd i fyny, ac arhosais yn y Dalaeth dair blynedd, ond ni chefais fy saethu, fel y'm bygythid, os nad fy yspryd sydd yn ysgrifenu yr hanes hwn. Wedi ymadael a, Chaliffornia, aethum i Texas, lie y bu'm yn wibiad a chrwydriad am beth amser. Llawer dihangfa gyfyng a gefais yno, a bu agos i mi a chael fy lladd ga,n ladron ceffylau oeddwn wedi eu dal ar gais psrchenogion yr anifeiliaid. Bu'm yn gorwedd yn archolledig am chwech wythnps, nes osddwn yn debycach i ddrych- iolaeth nag i fod dynol, yn meddu cnawd ac esgyrn. Yr ooddwn wedi cael fy saethu yn fy morddwyd—a'r fwled wedi gadael archoll ddofn a'm trywanu yn fy mrest. Yr oeddwn wedi'm rhoddi i fyny i farw, ond bu fy null cymedrol o fyw o fantais i mi y pryd hwnw, drwy gadw yr ysgerbwd i ffwrdd. Torasom y fintai hono i fyny, beth bynag, ac yr oedd hyny yn un achos boddlonrwydd. Ond prin yr oeddwn wedi adenill fy nerth pan, a mi yn dychwelyd o neges o orllewin y dalaeth ar farch, y cyrhaeddais afon yr oedd rhaid ei chroesi mewn cwch. Yr oedd y bad yr ochr arall i'r afon, ac yn llewyrch gwan y lloer, yr hon oedd tu ol i'r cwmwl, gwelais gorn y ferry yn hongian ar ganghen o dderwen. Wedi i mi ganu yr udgorn, daeth yr ateb yn ol o'r lan arall ar unwaith. Arweiniais fy march at lan y dwfr, a disgwyliais yn bryderus am ymddangosiad y bad. Gwaedd. ais allan o'r diwedd- Deuwch, brysiwch yma I Yr wyf ar ol fy amser yn barod I Pwy sy'n malio ynot ti na dy amser oedd yr atebiad, mewn llais dwfn a nerthol. Gwelais ar unwaith na wnai diffyg amynedd neu frys ar fy rhan i ond gwneyd pethau yn waeth; yna daliais fy nhafod, gan gicio'r tywod o gwmpas nes oedd genyf dwll dwfn o dan fy nhraed. O'r diwedd, clywais y bad yn cael ei lusgo i'r dwfr, a gallwn glywed y badwr yn mwngialu ac yn rhuo fel tarw wedi ffromi. O'r diwedd daeth y cwch ilr lan, ac wedi cael fy march i mewn gystal ag y gallwn, dilynais ef, ac eisteddais ar hen gasgen bowdwr wag, yr hon oedd yr unig eisteddle yu y csvch. Cyn belled ag y gallwn weled yn llewyrch gwanaidd y lleuad, nid oedd dim byd yn ddeniadol yn ngwynebpryd y badwr. Yr oedd ei drwyn wedi ei anffurfio yn fawr, ac un llygad wedi myn'd. Yr oedd ei foch- gernau yn drymion, a'i farf yn frithlwyd. Yr oedd yn cnoi blaenau ei wefl-flew yn barhaus, ac yr oedd golwg sarug a phenderfynol arno. Yr oedd yn ddyn cryf, cyhyrog yr olwg arno, ac yn edrych yn un digon annymunol i fod yn ei gwmni. Pan aethum i mewn goreu y gellais i'r bad, sylwais ei fod yn llygadu arnaf yn Ilym; a phe buasai y lloer yn tywynu yn ddis- gleiriach, yr wyf yn meddwl y gallaswn weled rhywbeth yn y llygad hwnw yn wahanol i gyfeillgarwch. Anturiais wneyd ychydig sylwadau i'w dynu allan, fel y dywedir, o'i ddistawrwydd anfoddog, ond ni chefais un atebiad, ond rhyw grydwst sarug gan hyny, rhoddais i fyny yr idea o wneyd fy hun yn gymdeithas- gar, a throais fy ngolygon tua'r afon, ac ymollyngais i'm synfyfvrdod fy hun. Troais at fy nghydymaith annifyr unwaith neu ddwy, a deliais yr un olwg dreiddgar ac y 11 anghyfeillgar bob tro. Y tro cyntaf, ni wnaethum un sylw o hyny, dim ond ei gymeryd fel cymeriad gerwin a dibris. Ond yr ail dro yr edrychais arno, brawychwyd fi gan yr olwg a gefais arno, fel pe buasai holl ystrywiad y pwll diwaelod wedi ymgrynhoi yn yr un llygad hwnw. Nis gallaf ei ddesgrifio Parheais i syllu i mewn i'r llygad drwg anonest hwnw, fel o dan ddylanwad swyn sarph. Yn ddisymwth, teimlwn ryw arswyd a. dychryn, tra y pelydrai y lloer drwy hollt y cwmwl ar ei wyneb ellyllaidd. Yr oeddwn yn gallu deall oddiwrtb ei edrychiad y byddai genyf rywbeth i wneyd ag ef cyn y cyrhaeddwn y lan. Gwyneb Die Thurder ydoedd, yr hwn a ddeliais i yn Califfornia, a'r hwn y cafodd ei dad ei grogi am lofruddiaeth o dan amgylch- iadau mor echryslawn, fel y rhwymasom ef ar unwaith, fel nad oedd gobaith iddo allu dianc. Yr oedd Die wedi dianc o'r carchar- gwaith pur anhayydd yn y dyddiau hyny— ac wedi tyngu yn ei lid y saethai fi, pa bryd bynag, a pha le bynag y gwelai fi. Dyma lie yr oedd o'r diwedd, a dyma lie yr oeddwn innau. Pe mai fi fuasai y badwr, ac yntau yr ymdeithydd, efallai y buaswn yn teimlo yn wahanol ar y cyntaf; ond, fel yr oedd, yr oedd ef yn gartrefol yn y bad, ac yn cymeryd arno yr agwedd ymosodol. Yr wyf yn meddwl ei fod wedi methu fy adnabod ar y cyntaf, gan feddwl, efallai, fy mod yn parhau i ddilyn y swydd o sirydd yn Califfornia ond yn awr, gwyddai pwy oedd ganddo ar y bwrdd, ac nid oedd amheuaeth genyf nad oedd am geisio cyflawni ei fygythiad. Yn awr, dyma fel yr oeddwn yn sefyll. Yr oedd fy revolver yn mhoced fy nghot, a chymerai amser i mi ei wneyd yn barod i waith. Y mae mynyd o dan amgylchiadau felly yn awr, ac yr oeddwn yn gweled y buasai unrhyw symudiad byrbwyll o'm heiddo, yn dangos iddo fy mod wedi ei adnabod, yn nghyda'm bwriad, yn ei gynnorthwyo ef i danio arnaf cyn i mi gael amser i ddatod botymau fy nghot; oherwydd, gwyddwn o'r goreu fod ganddo revolver yn barod, fel y mae gan gymeriadau felly bob amser, naill ai i saethu eu hysglyfaeth neu i amddiffyn eu hunain rhag cael eu dal fel drwgweithredwyr. Dywedais fy mod wedi brawychu pan welais ei wyneb yn eglur yn ngoleu y lleuad. Ni pharhaodd hyny yn hir, gan y gwyddwn y byddai yn well i mi guddio fy nheimlad, ac ymddangos yn berffaith ddifater. Gan hyny, troais fy ngolwg i lawr yr afon, a dywedais yn ddigyffro- "Y mae hon yn olygfa ddymunol, onid ydyw ? Mae'n debyg eich bod chwi wedi bod yn y parthau hyn i wybod am bob twll a chornel." "Ydwyf, ac i adnabod pob dyhiryn dir- mygus fydd yn myned heibio yma hefyd." Yr oedd yr ergyd hon yn dyfod yn bur agos, ond parheais yn berffaith ddigyffro. Ac felly yr ydych yn dal ambell un ohonynt yn awr ac eilwaith ? Troais ato yn gyflym wrth ddywedyd hyn, ac wrth wneyd hyny llwyddais i ddattod botymau fy nghot gyda'm llaw chwith, yr hon oedd o'i olwg ef. Y crogwr uffernol, wyt ti'n meddwl y cei di dy ddymuniad arnaf etc ? 'Rwyt ti dan f'awdurdod i yrwan I Yr wyt ti yn fy adnabod i, a minnau yn dy adnabod dithau, ac mi gei di wybod rhywbeth yn ychwaneg cyn y cei di amser i ddyweyd dy baderau Bdrychais arno yn dawel, yn myw ei lygad, yr hwn a fflamiai yn ei ben, o dan gysgod y lloer. Y mae y rhai sydd yn gydnabyddus a chymeriadau o'r fath, yn gwybod fod eu nwydau yn eu gyru i fath o wallgofrwydd, a'r unig ffordd i gael amser ydyw eu trin fel y trinir gwallgofddyn. Ymddangos yn hollol ddidaro, edrych yn ddiysgog yn myw eu llygaid, ac ystyried pa beth fydd genych i'w wneuthur. Dyna oedd yn fy nghyfrwysdra innau ar y pryd, onide ni buaswn yma heddyw i ddyweyd yr hanes. Penderfynais droi ymaith yr ergyd bono, a'i syfrdanu oddiar ei bwrpas presennol