Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

DEFODAU PRIODASOL HYNOD

News
Cite
Share

DEFODAU PRIODASOL HYNOD Y MAB un o bapurau China yn desgrifio defodau priodasol lied hynod a difyrus. Mewn pentref bychan mynyddig rhwng Kaza ag Etehn, mae'r briodasferch yn dyfod at borth y priodfab ac yn bloeddio arno:— Holo, frawd dyma fi wedi dwad." Yna y mae'r priodfab yn ateb :— Mae'n dda gen i'ch bod chi wedi dwad. Yna mae'r briodasferch yn apelio ato :— Newch chi byth fy anghofio i ? Mae'r priodfab yn ei hateb "Mi enillwn ein bywoliaeth gyda'n gilydd." Wedi cael y sicrwydd hwn, mae'r briodas- ferch yn dyfod i mewn i'r ty, yn cael ei dilyn gan orymdaith hir o ewyllyswyr da, hen ac ieuanc. Yna rhenir math *o win gwan, a rhad, rhwng y cwmpeini, yna y maent yn dechreu dawnsio, a dawnsio y byddant nes y bydd i'r llawr ymollwng odditanynt. Yna y maent yn curo'u dwylaw, ac yn bloeddio:— Llawenydd a llwydd, fe dorodd y llawr," ac yna yn ymadael.

-'-""" HYSBYSEBU AM FAM

PAN OEDD Y FRENHINES YN -…

0 FEWN I SIOP Y BARBWR

DISOWYL YR HYN NI DDIGWYDDODD

PUMMED RESTR 0 WOBRWYON