Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Y PROFF. HENRY JONES, M.A.

News
Cite
Share

Y PROFF. HENRY JONES, M.A. DARLUN ydyw yr ucbod o un o ddysgedigion blaenaf Cymru, sef neb llai na'r Proffeswr Henry Jones, M.A., gynt o Goleg Bangor, ond yn bresennol Brifathrofa St. Andrews, Ysgotland. Mae gwrthddrych yr ysgrif hon yn engraipht' darawiadol o'r posiblrwydd i ddringo hyd yn nod i gadair athrofaol, yn ngrym penderfyniad diysgog a hunan-ddi- wylliant, er i'r amgylchiadau arianol fod yn ddiffygiol. Brodor o blwyf Llangernyw ydyw y Proffeswr Jones. Crydd wrth ei alwedigaeth ydoedd ei dad, ac yn gorfod gweithio yn galed o foreu hyd yr bwyr gynnal ei deulu. Llwyddodd i roddi addysg i'w blant yn Ysgol Genedlaethol y pentref. Yn yr ysgol hon y bu y bachgen Henry hyd nes yr oedd yn ddeuddeg mlwydd a hanner oed. 0 bosibl fod y rhieni yn tybio iddo gael digon o addysg erbyn hyny, er iddynt oddef iddo aros yn hwy yn yr ysgol na bechgyn yn gyffredin yn y cyfnod hwnw. Gadawodd yr ysgol, ac aeth yn grydd fel ei dad.. Dilynodd yr alwedigaeth hono hyd nes yr oedd yn un ar bymtheg a hanner oed. Yn y cyfamser, yr oedd Henry Jones a'i frawd, yn nghyda dau brentis arall yn cyfarfod eu gilydd yn y gwaith nwy yn ami iawn, ac yn ngoleuni y retorts yn ceisio dysgu llawfer Gymraeg. Nid oes genym le i gredu fod eu hymdrechion wedi bod yn rhyw hvycldiannus iawn yn y cyfeiriad hwnw, Model bynag, ei daflu i fyny a wnaed, a gofynasent i'r ysgol- feistr agor ysgol nos. Cydsyniwyd a'u cais, ond ni pharhaodd yn rhyw hir iawn yn agored, ac felly unwaith yn rhagor daeth anhawsder i'w cyfarfod. Yn y cyfnod yma, ymddengys i Henry Jones a chyfaill o'r un oed fyned i Lanrwst, ac iddynt yno glywed rhyw foneddiges Ysgotaidd yn llefaru ar fendithion addysg. Ar y ffordd adref y noswaith hono, penderfynodd y naill a.'r llall fyned am raddau. Pupil teacher oedd y cyfaill y sonir am dano, ond erbyn hyn y mae yn gurad, wedi graddio yn Nghaer- grawnt, ac yn enillydd gwobrau Coleg Clare. Wedi cyrhaedd adref o Lanrwst, mae y llanc Henry yn tywallt ei galon i'w fam dirion, ac yn ei hysbysu nas gallai yr alw- edigaeth o grydd fod o ddim dyddordeb iddo ef yn hwy. Fel dynes gall, ac, o bosibl, yn gallu syllu i ddyfnion calon ei mab, y mae yn ymgyfaddasu i'r amgylchiadau yn hollol ddirwgnacb. Anfoncdd ef at hen ysgol- feistr oedd wedi ymddyrcbafu oddiar faine y gwydd. Wedi peth siarad y maent yn dod i delerau fod Henry Jones i fyned i'r ysgol ddyddiau LJun, Mercher, a Gwener, ond fod yn rhaid iddo wneyd esgidiau ar ddyddiau 0 y ereill. Fel hyn y treiglodd yr amser hyd nes y tybiodd yr hen athraw y gallai ei ddysgybl fyned i mewn am arholiad y Coleg Normalaidd yn Mangor. Nid oedd erbyn hyn ond deunaw oed, a mwy na hyny, nid oedd ond deunaw mis er's pan y dechreuodd astudio gyda'r hen ysgolfeistr a nodwyd. Ar 9 11 hyd y cyfnod hwn, cofier, yr oedd yn wneu- thurwr esgidiau am dri diwrnod o bob wythnos. I Fangor, modd bynag, yr aeth Henry Jones. Aeth drwy yr arholiad,ond dychwelodd adref gan feddwl ei fod wedi methu. Ychydig amser cyn hyny yr yd- oedd wedi enill tystysgrif mewn arholiad Cymdeithas Gwyddoniaeth a Chelfyddydau yn Lerpwl. Ar bwys y dystysgrif hon bu yn llwyddiannus yn ei gais am le fel athraw mswn ysgol ramadegol yn Ormskirk. Ni bu yno ond wyth diwrnod cyn clywed y newydd oddiwrth y Parch Daniel Rowlands, M.A., ei fod wedi pasio yr arholiad ar ben y rhestr, ac mai efe a basiodd uchaf arholiad y Gym- deithas Frytanaidd a Thramor o blith y rhai nad oeddynt yn pupil teachers. Ni chafodd Henry Jones ddim trafferth i adael Ormskirk, oblegid cydsyniodd ei feistr a'i gais yn uniongyrchol. Casglodd ei ddillad a'i ychydig lyfrau at eu gilydd. Wedi gwneyd hyn canfu nad oedd ganddo ddigon o arian i'w gario adref. Yn garedig iawn, fel pe buasai rhywbeth yn ei gynl yrfu, rhoddodd ei feistr 10s yn anrheg iddo heb ei cheisio. Cyrhaeddodd gartref, wedi cerdded rhai milldiroedd o Lanrwst, ac arwyddion amlwg ei fod mewn twymyn. Felly yr ydoedd, oblegid trodd allan ei fod wedi bod yn cysgu am saith noswaith mewn gwely llaith. Mewn canlyniad i hyny, bu adref am rai wythnosau. Ond mor fuan ag y gwellha- odd, ac y gallodd fyned allan, nid hir y bu cyn troi ei wyneb i'r Coleg Normalaidd, a chymeryd yno ei le priodol. Gyrfa Iwydd- iannus fu ei yrfa golegawl. Wedi gorphen ei gwrs yn y coleg, penodwyd ef yn ysgol- feistr yn Brynaman, yn yr hwn le yr arosodd am ddwy flynedd. Ar ddiwedd y cyfnod hwn, rhoddodd ei ysgol i fyny, a gwynebodd y byd eilwaith. Yr oedd ysgoloriaeth o 40p yn cael ei chynnyg yn Athrofa Glasgow. Bu am bum' mis yn astudio o chwech o'r gloch yn y boreu hyd 12 yn yr hwyr ar gyfer yr arholiad hon, gyda'r canlyniad iddo ei chipio. Yn mhen dwy flynedd a hanner wed'yn, cymerodd ei radd o M.A., yn yr un athrofa. Cipiodd ymaith hefyd y wobr mewn Groeg ac mewn athroniaeth, yr ail wobr mewn rhesymeg, tlws mewn llenydd- iaeth Seisnig, yn nghyda gwobrwyon ereill. Gyda dim ond 40p aeth i Germani i astudio am anrhydedd (honours) mewn gwyddon- iaeth. Yn mhen yspaid dychwelodd adref drachefn, a benthyciodd arian i fyned i Scotland i eistedd am ysgoloriaeth ac anrhydedd mewn gwyddoniaeth. Y canlyn- iad fu iddo gael first honours yn ol ei ddymuniad. Mae yn awdwr lluaws o lyfrau ar Athroniaeth Foesol, &c. Dewiswyd ef yn broffeswr mewn athroniaeth, &c., yn Ngholeg Bangor ar ei sefydliad yn Mai, 1884, o'r hwn le yr ymadawodd i lenwi cyffelyb swydd yn Ngholeg St. Andrews yn niwedd y flwyddyn 1891. Mae yn bregethwr grymus ac effeithiol gyda'r Cyfundeb Methodistaidd. Darfu i'w lyfr ar Browning a'i weithiau dynu cryn sylw, ac hefyd roddi cychwyniad i ddadl bur frwd tua dwy flynedd yn ol. Coleddir syniadau uchel am dano yn Ysgotland, a gellir hyderus ddisgwyl am lawer dyrchafiad pellach iddo.

[No title]