Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

AT EIN QOHEBWYR

News
Cite
Share

AT EIN QOHEBWYR HOCTYN BUCHES.-Y mae yn berffaith bosibl i gorgi 'ch ewyth' Sam," godi ysgyfarnog, ond perchenog y ci a'i deil a'i dwg adre'. EFRYDYDD.—Ewch allan am dro i'r wlad mor fynych ag y gellwch; a phob tro y eychwynwch, gadewch eich pynciau efrydol o'ch ol, ymysgydwch, a phenderfynwch na chaiff dim ond prydferthion natur ei hun eich sylw. Y mae mor angenrheidiol i'r meddwl gael ei awyro, ei loni, a'i fywiogi ag ydyw i'r corph. Y mae anadlu awyr y wlad mor ddedwydd i'r ymenydd ag ydyw i'r ffroenau. Y mae ar y meddwl eisieu amryw- iaeth fel y corph, y mae yn ffolineb rhoddi rhyddid i'r corph a chadw'r meddwl yn gaeth. Nid ydyw myned a'r corph allan am dro, dair neu bedair milldir i'r wlad, a chadw y meddwl yn gaeth yn yr efrydfa gyda'ch llyfrau, yn ateb un dyben yn y byd ond i wneyd math o beiriant piwritanaidd ohoaoch. IF AN PWLLHELI Puw. — Y mae eich pryddest yn debycach i'r prairie American- aidd nag i'r Sahara Affricanaidd, oherwydd yn yr olaf ceir ambell ffaethle (oasis) hyfryd. A fynech chwi i'r darllenwyr deithio'r gwas- tadeddau anhygyrch hyn, heb yn gyntaf ganu yn iach a'u perthynasau a'u cyfeillion ? SYCAMORE EDWARDS.—Mae'n rhaid eich bod o dan gystudd trwm pan oeddych yn ysgrifenu y llinellau hyn. Y mae yr holl swyddfa yma yn cydymdeimlo a chwi. ROBIN BACH.—Yr achos fod gan y camel gefn crwn ydyw fod rhai o'i dadau a'i deid- iau wedi byw i fod yn gant oed. A fydd y gohebydd sydd yn galw ei hun yn Ffwl Ebrill" gystal ag anfon i ni ei enw priodol a'i gyfeiriad yn llawn. LLWYN Y GOG.—Yr ydych yn myned allan ganol dydd goleu a, chanwyll frwyn yn eich llaw i ddangos i'ch cymydogion fod yr haul wedi codi. Y mae paiub wedi clywed am Papur Pawb, fel y mae'r holl fyd wedi clywed am "John Elias." YR HEN JOHN JONES o GYMRU.—Yr ydym yn ddiolchgar iawn i chwi am eich dymun- iadau da, ond y mae'r gwirionedd yn ngbylch ein teilyngdod yn y swyddfa hon yn gor- wedd yn rhywle yn y canol rhwng yr hyn a ddywed ewyllyswyr da am dano o helaeth- rwydd eu calon, a'r hyn a ddywedwn ni ein hunain am dano yn ein gostyngeiddrwydd. BARDD HELICON.-Dywedwch nad. ydych byth yn arfer darllen gwaith llinellwyr di- farf a dibrofiad. Mae'n rhaid eich bod wedi anfon y llinellau hyn i'r wasg heb eu darllen pan oeddych ar eich taith i Jericho. IFAN Y GO.-Y ddau air mwyaf pwysig yn mhob iaith dan haul ydynt le a Nage." CrORucHioNFARDD.—Y mae eich ymfflam- ychiad yn ddoniol iawn, ac y mae llawer o wir yn machio allan o echelau eich mellt- olwynion wrth luchedeneiddio i ni oleuni mwy llwybrllaethol nag a gawsom erioed o'r hlaen ar chwyrnelliaeth y bodau wybrenawl. Ond pe buasai Galileo wedi sefyll swper champagne i'w farnwyr, buasai yn llawer haws iddo eu hargyhoeddi fod y ddaear yn troi. Y mae SIMON TYCLAI yn erfyn ar i fechgyn y swyddfa yma beidio anfon Papur Pawb i Betsan ei wraig o hyn allan. Y mae yn dyweyd mai y peth a'i synodd ef fwyaf o ddim oedd ei gweled hi yn dal y papur o'i blaen, yn llygadu arno am beth amser, heb agor ei gwefusau, ac yna yn tori allan i chwerthin, gan edrych yn smala arno ef o'i wadn i'w goryn. Y mae Simon yn ofni fod ein papur clodwiw yn ei gymeryd ef yn ysgafn; ac y mae yn rhyw ddirgel feddwl hefyd fod gan Betsan ei wraig, a gwragedd Pwllygro, rywbeth a wnelont a'r holl gudd- amcanion. HEN GYMRO a ddymunai wybod a oes ofer- goeledd mewn perthynas i wyau yn bodoli yn rhywle heblaw yn ei gwmwd ef ei hun.- Dywedir fod. Mewn rhai manau, y mae ar y bobl ofn casglu wyau, a dyfod a hwy i mewn i'r ty wedi iddi dywyllu; mewn manau ereill, gwaherddir iddynt gael eu dwyn i mewn ar y Sul. Yn Ffrainc, mae rhai pobl yn cadw yr wyau a ddodwir ar Ddydd Gwener y Groglith drwy'r flwyddyn, a chredir eu bod yn swyn gwerthfawr tuagat ddiffodd tanau a ddigwydd dori allan. Dywed un hen awdwr os bydd ar berchen. ogion tai eisieu bwyta wyau, y dylent fod yn ofalus fod i bob aelod o'r teulu fwyta nifer cyfartal ohonynt, onide y bydd i ryw drychineb fod yn sicr o ddigwydd i'r ty hwnw. WIL Y GOF.-Y mae Wil yn gofyn a fydd rhai o ddarllenwyr Papur Pawb gystal a'i hysbysu yn mha le y ceir y geiriau tywallt olew ar y dyfroedd cythryblus," ac yn mha le y ceir yr olew hwnw ? Y mae Wil yn byw mewn cymydogaeth boblogaidd iawn, lie y mae gwragedd segur yn treulio eu hoes i edliw eu beiau eu gilydd ac i gweryla, a dymunai wneyd prawf ar yr olew fel modd- ion i dawelu ymchwydd y tonau.

[No title]

Advertising