Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Dyma fel y desgrifia Chinead ddull y wlad hon o gynnal treialon yn ein llysoedd barn Y mae un dyn yn sefyll i fyny yn ddistaw drwy yr holl amser, y mae un aorall yn siarad o hyd, ac yna y mae 12 o ddynion yn dyfod yn mlaen ac yn condemnio'r dyn sydd heb ddyweyd gair wrth neb. SHON Tv'NRBYD Tarwch lasiad i mi am geiniog a ddmai, Mrs Williams. GWRAIG Y DAFARN Na, fedra i ddim yn wir, yr wyf yn fy ngliolled vam bob glasiad yr wyf yn ei werthu am ddwy geiniog. SnoN Dear me, sut yr ydych yn byw ? Y WRAIG 0, ond yn gwerthu llawer yd wyf.. Canfu y Parch Joseph Elliot ddyn tlawd ar oclir yr heol yn tori cerig, ac er mwyn rhwyddhau y gwaith aeth ar ei liniau. Ah, John," meddai y pregethwr, carwn fedru tori calonau celyd fy ngwrandawyr mor rwydd ag yr ydych chwi yn tori y cerig hyn." Atebodd y dyn, "Efallai nad ydych yn gweithio ar eich gliniau, syr." Dro yn ol yr oedd Wil y Wane yn myned adref ar noson loergan braf, ar ol bod cryn amsor yn nghwmni Syr John Heidden, a daeth i'r penderfyniad, wrth weled cysgod coed ar draws y ffordd, iddi fod yn gwlawio cryn lawer, ac mai pyllau dwfr oedd y cysgodion felly, gan na ddymunai ddiwyno ei esgidiau, 'toedd dim i'w wneyd ond neidio drosy" pyllau." Hyn a wnai yn barhaus, a'r bobl wrth basio yn chwerthin am ei ben. Yn mhen amser daeth at gysgod twr, a chan y tybiai mai ffos lydan ydoedd, ac am bar- hau mewn esgidiau gl&n, tynodd hwy a'i hosanau tiddiam ei draed, a rhydiodd y ffos" yn gomfforddus heb oeri ei dsaed yn ddigon i'w sobri. Yr oedd dau hogyn unwaith ar fwrdd llong rhyfel ac yn awyddps am gaei treio un o'r cannons. Un diwrnod eawsent gyfle i dreio. Wol, be pe tase ni yn colli y fwled ? meddai Jack. Wel, mi saiai i o'i blaen," meddai Wil. Aeth Jack i weithio y gwn, ac ar hyny dyma y fwled allan. Aeth un o swyddogion y llong i fyny, a gofynodd beth oedd yn bod. "0, dim byd, syr, ond mod i a Wil yn treio y gannon." Pa le mae Wil? Mae o wedi myn'd i qhwilio am y fwled, syr ac os daw o yn M ol gym gynted ag yr aeth o, mi fydd yma yn y mynjd, syr." Wel, wel," meddai dyn hunanol wrth weled y Parch Hwmffre Jones yn dyfod i'w gyfarfod a phar o esgidiau newyddion ganddo, 'rwyt yn llawn wic wac bob modfedd. Treia ddarostwng dy falchder." "'Rwyf fi wedi ei ddarostwng Tdan^fy nhraed," meddai'r pregethwr, "tra mae)ill effeithio ar dy benglog di." 0 .Yn ystod etholiad yn sir Caerllechog, yr oedd ymgeisydd Toriaidd yn gweithio yn galed er sicrhau buddugoliaeth. Cychwynai gyda'i was mewn cerbyd un boreu, a di- gwyddodd iddo basio nifer 0 hwyaid, y rhai, wrth gael aflonyddu arnynt, a ddecbreuas- ant waeddi, Wig, wig, wig." Cythrybl- wyd yr ymgeisydd yn fawr gan feiddgarwch yr hwyaid yn ei alw ef yn Whig, a dywed- odd wrth ei was, Dos i lawtf a lladd hwynt bob un." Yr oedd gan y Parch Obadiah Simon, Hafod-yr-ebol, gyhoeddiad yn Crugybabell, pryd y daeth gair at y swyddogion ei fod wedi cymeryd "tropyn gormod." Wedi cyflwyno ypeth i sylw y frawdoiiaeth, bu distawrwydd hir. Ebe edmygwr mawr 0 Mr Simon wrth un o'r blaenoriaid, Pryd y mae 0 i fod yma ? Mis i heddyw." "Wel, yn eno'r dyn, be' haru chi; ond fydd o wedi hen sobri cyn hyny." Pan oedd llencyn wedi ei alw yn mlaen fel tyst mewn prawf yn nghylch anghydfod, gofynodd un o'r cyfreithwyr, yr hwn a arferai fod yn dra hynod fel holwr, pa mor bell yr oedd efe oddiwrth y pleidiau pan ddigwydd- odd yr anghydfod. Atebodd y tyst ei fod bedair troedfedd a phedair modfedd a hanner. Gofynodd y twrne drachefn pa fodd y digwyddodd iddo fod mor fanwl a chywir? Atebodd yntau iddo fesur y pellder oher- wydd ei fod yn disgwyl y buasai rhyw ffwl neu gilydd yn holi am dano. Rhyw noson, yn Nghapel Penwhilber, daeth rhyw deimlad rhyfedd dros Shon y Gasgen, fel yr ymofynai am le yn mhlith y brodyr. Ond y gweinidog a ddywedodd, gan fod Shon 0 gymeriad mor hynod, y buasai yn rhaid ei gadw yn ol am fis er mwyn iddynt gael cyfle i siarad yn mhellach yn ei gylch. Gyda fod y gweinidog yn dyweyd hyn, fe gododd Shon ar ei draed, a gwaeddodd nerth esgyrn ei geg, Heddyw, medd y Gair yfory, mecld Satan; ond yn mhen mis, medd gweinidog Penwhilber." 1 JOHN: Mi syrthiais i mewn cariad & ngwraig bymtheng mlynedd yn ol. RHOBART: Ac yr ydych wedi bod mewn cariad & hi byth wedi hyny ? JOHN Wel-io-ond-rhaid i chi gofio ein bod yn wr a gwraig am wyth mlynedd. "Cymerwch ofal, y mae y cauad broil a dyfod i ffwrdd," gwaeddai crwtyn 0 fachgen bychan ar lodes ieuanc y dydd o'r blaen, yr hon oedd yn chwerthin yn lied uehel, a cheg pa. un a ddigwyddai fod dipyn yn fwy na chyffredin. Y mae torwr beddau yn byw heb fed gan' milldir 0 Gwmbwrlwm yn cwyno yn erbyn caledi yr amseroedd, ac yn dyweyd nad ydyw ef wedi claddu yr un enaid byw er's dros dair wythnos heblaw rhyw un baban bychan diolwg. Yr oedd Evans y twrne wedi anfon bil gyda'i glerc i un o'i gwsmeriaid. Wedi i'r clerc ddychwelyd, gofynodd y twrnai iddo beth oedd y dyn wedi ei ddyweyd wrtho. O," ebai y clerc, fe ddywedodd am i mi fyn'd i'r Beth wnest wed'yn ? ail-holai y twrnai. Os mi ddaethum atoch chwi, syr," meddai y gwas. fMi3 Pan oedd Mr Wilberforce yn ymgeisydd am sedd fel cynnrychiolydd Hull, ei chwaer, yr hon oedd fcneddiges hardd a ffraeth, a addawodd roddi gown newydd i wraig pob un a fuasai yn pleidleisio dros ei brawd. Y canlyniad fu i hyny ei gwneyd yn boblog- aidd iawn, a'r gwyr a'r gwragedd a floedd- iant, Miss Wilberforce am byth." Yr wyf yn ddiolchgar iawn am eich teimladau da," meddai y foneddiges, ond nid wyf am fod yn Miss Wilberforce am byth." 'Rwan," ebai cyfreithiwr, ellwch chwi ddyweyd ar eich llw nad eteh llawysgrifen chwi yw hona? Gallaf, syr," ebai y dyn yn ddigon di- fiater. A yw yn debyg i'ch llawysgrifen ? gof- ynai eilwaith. Nac ydyw, syr." A gymerwch chwi eich llw nad ydyw yn debyg?" "Oymeraf ddau, os mynweh, syr." Sut y gellwch brofi nad yw y llaw- ysgrifen yna yn debyg i'ch eiddo chwi ? "Mawdd iawn gwneyd hyny, syr, achosna fuCm yn gallu y,grifenu eriocd