Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

ATEBIAD I LYTHYR "CARIADFERCH."

(BUDDUGOL)

News
Cite
Share

CAN Y CRYDD. (BUDDUGOL) Mor felus i mi ydyw cofio Helyntion boreuol fy oes, A gwenau fy mam yn fy nghuddio 0 afael gwaradwydd. a chrocs; Adgofio'r cymdeithion a gefais Wrth lwybro i ysgol y Llan, Ar difyr chwareon difalais- Gymerwn o hyd ynddynt ran. Pan fyddem yn dychwel o r ysgol, Aem oil yn gytun i'run lie Pob un daflai drem i'w ddyfodol, Ar fasnach ddewisai efe Ond lluaws ohonynt newidiodd Feddyliau mewn dydd ar ol dydd; Er hyny fy meddwl sefylodd, Ar fynd rhyw ddiwrnod yn grydd. Hen grydd oedd fy nhaid, a chwennychwi Fod yn ei gwmpeini bob pryd Ei forthwyl a'i laps tone a deimlwn Yn goglais fy awydd o liyd. Rhyw swynion digymhar ganfyddwn, Yn holl oferynau fy nhaid A net o fwynhad mi debygwn Oedd bywyd y crydd yn ddibaid. Y dydd ymadawais a'r ysgol, Datguddiais fy meddwl i mam Ond Ow bu ei hamnaid nacaol Yn foddiou i chwyddo y fihm,- Ymguddiai dan gesail fy nghalon, .1 9 1 Fel perlyn aflonydd o hyd A minnau yn nyffryn amlieuon, Yn llawn o hclbulon i gyd Ond ha pan mown ofn a phryder, O'r gwaith fe ddycliwelodd fy nliad; A'i swynol edrychiad bob amser, A wlawiai i'w deulu fwynhad. Ymroddais fy hun i'w bcrswadio,- Mewn geiriau cariadlawn a blydd,- I ddenu fy mam i gydsynio A'm cais o gael myned yn grydd. Siaradai yr wythnos ddyfodol, Gyfrolan o fwyniant i mi; A llwydd pcnderfyniad egniol Wnai anghof o'r rhwystrau a fu: Yn ngweithdy fy nhaid y pryd hwnw, Y gweitliiwn o foreu hyd hwyr A thybiwn fod mawredd yn enw Defnyddiwr y lap stone a'r cwyr. Ond weithian, fy nhaid sydd yn gorwedc 0 dwrw y byd yn y becld; A minnau a welir yn eistedd- Mewn llawnder yn awr ar ei sedd. Fy mhriod a'm teulu osodwyd, Uwch cwynion mewn angen a rhaid Wrth dderbyn y meddiant a roddwyd I mi yn ewyllys fy nhaid. Ni feddaf enwogrwydd, na mawredd, Ni cheisiais ddyrchafu erioed Mae nodwydd fy nghwmpas yn gomedd Dyrcliafu 'i chyfeiriad o'r droed: Os caf rhyw anrhydedd i'm henw— Am weithio mor isel e' fydd A sylwaf—anrhydedd fydd hwnw Wrthodir yn rliwydd gan bob crydd. Er hyn mi gaf achos llawenydd Yn olwyn fasnachol y byd, Wrth weled fy hun yn symbylydd, A chymhortli i'w symud o hyd. Rhyw yni symudol duedda I'r aelod a wisgaf a'm gwaith; A'r esgid a wnaf ddyogela Y droed rhag gerwinder y daith. Fy ngweithdy yn nhymhor y gauaf, Sy'n llawn o gwsmeriaid o hyd A minnau yn ddilys atebaf Eu holl ofyniadau mewn pryd Diwydrwydd fy llaw sy'n brydlondeb, Gonestrwydd fy ngwaith sy'n foddliaus, Ac yna bydd gwenau pob wyneb Yn dilyn fy ngwaith yn barhaus. EXCELSIOE.

0 WYTHNOS I WYTHNOS

TELERAU.

BOB WYTHNOS.