Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Y TY A'R TEULU

News
Cite
Share

Y TY A'R TEULU Glan Banon, Awst 29ain, 1893. NWYL GYFNITHEE,—• Yr oeddwn wedi meddwl i ysgrifenu atoch o Bwllheli, ond rywsut neu gilydd y mae yn all- mhosibl i rywun gael ei ffordd ei hun yn yr hen dref dawel heno, oherwydd y mae y bobl yno mor ddiarebol o garedig a chymdeithasgar, mor dwymngalon a llety- gar fel nad oedd genyf amser i ddim yn y byd ond ymweled a rhywun bob dydd. Y mae yr hen dref wedi cychwyn ar ol yr oes, ac yn meddwl ei dal cyn bo liir, fel na raid i ni fyned yn mhellach nag yna i weled y ffasiynau diweddaraf. Yr oedd yno amryw ymwelwyr yn ymdrochi ac yn rliodianna o gylch y lan; ac yiiiae llawer yn dyweyd y daw y lie fel y Rhyl a Llan- dudno cyn bo hir. Cymerodd parti ohonom gerbyd am drive i Aberdaron clrwy Abcr- socli un diwrnod, a dyna'r drive ddifyraf a ges i erioed. Yr oedd Metliuw Jones yn difyru'r cwmni ar hyd y ffordd drwy adrodd hen straeon am hen bobol Abersoeh ac Aberdaron nes oeddym bron a marw gan chwerthin. Ond yr oedd yn ddigon amlwg i bawb ei fod yntau yn teimlo yn fwy hapus ac yn gallu cliwerthin yn fwy iachus wrth ddyfod yn ol pan oedd Matilda wrth ei ochr. Y mae gwedd merched Aberdaron a'r gym- ydogaeth yn dweyd ei fod yn lie iach. Ni welais gynnifer ag un wyneplwydd yn eu plith. Pobol hen ffasiwn iawn sydd o gwm- pas yno mae'n debyg gen i fod y lie yn rhy bell o bob man i'r ffasiwn newydd fyned iddo hyd yn nod am dro. Mi gochodd Matilda at ei chlustiau wrth glywed un o'r merclicd yno yn chwerthin ac yn dyweyd Welwch chi lodes smart, yn gwisgo i bonet ar ei gwegil, ac yn cysgodi ei phen a pharasol, ho-lio-lio Rhyw briodas o Bwllheli ydi hi," nieddai'r lleill; wfft iddyn nhw, mac nhw'n gwisgo'n oell" Cebyst, Diew meddai rhyw lane, mae'r merched yma'r un fath a seraphiaid yn union, hei lwc i ni gael'u clywed nhw'n canu." Dywedid wrthym fod rhai o gwmpas yno yn glynu wrth yr hen wisgiad Gymreig; ond ni welsom ni neb felly. Gyda';r ychydig eithriadau diniwed a enwais am yr Aberdar- oniaid, pobl garedig iawn ydynt, a daethom yn ol i Bwllheli gyda choffa da am danynt, wedi mwynhau ein hunain yn iawn. Yr oeddwn wedi clywed son am Mrs Bart- ley, ei bod wedi bod mewn amryw drefydd yn areithio ac yn rhoddi gwersi ar goginio, ac yn desgrifio ceginau Ffrainc, ac yr oedd arnaf awydd ei chlywed, oherwydd i ferched ieuanc yn benaf y mae ei hareithiau yn ddyddorol. Ni freuddwydiodd fy nghalon erioed ein bod ni fel cenedl mor bell ar ol yn y gel- fyddyd o wneyd dysglaidflasaso ddefnyddiau mor rhad, nes i mi glywed a gweled. Dywedodd, yn mhlith pethau eraill, nad ystyrir fod medr y gogyddes Ffrengig yn dyfod i'r golwg yn fwy mewn dim nag mewn gwneyd saws (sa-nee) blasus. Y gall y gwlad- wr cyffredin ei fforddio, ac eto yn deilwng i'w osod ger bron y brenhin. Gellir gwneyd y lluniaetli mwyaf cyffredin yn flasus,' yn nghyda'r fwyaf rhagorol yn amgenach gyda aws wedi ei wneyd" yn briodol, yn debyg fel ag y mae barnish yn gloewi'r pictiwr goreu mewn olew. Dywedai un gwr enwog fod saws mewn coginiaeth yr hyn yw gramadog i iaith, neu gamut i gerclcloritotli. Dylai saws fod y naill both neu y llall. Y mae llawer cogyeld a chogyddes yn gwneyd camgymeriadau pwysig yn hyn y maent hwy yn meddwl nas gellir ei wneyd yn flasus heb ddodi ynddo ychydig o bobpeth sydd yn digwydd bod yn gyfleus, gan feddwl fod pob ychwanegiad yn welliant. Rhyw gymysgedd rliyfedd fyddai saws o bob rhyw ffaethion wcdi eu pontyru ar eu gilydd a'u cydfcrwi. Mcddylier am y cerddor a geisio swyno'r glust drwy daro holl nodau y raddfa oslcfol ar yr un pryd ac wedi hyny am y fath nefoedd o liyfrydwch a rhyfedd- odau sydd o fewn cylch y raddfa hono o'i hiawn ddefnyddio. Pe cymysger dyfroedd y Tawe, yr liafren, a'r Dysynwy yn yr un gwpanaid o do, pa both a enillid ? Ond pan fydd y gogyddes fedrus yn gallu cyfartalu y ffaethion hyny sydd yn cydweddu a'u gilydd, a'u mantoli mor hapus fel na fydd i'r naill spice neu lysicua orthrechu y llall, fe cnillir y cydgordiad liyfryd hwnw sydd yn rhoddi y boddlonrwydd a'r bias sydd yn anesboniadwy i'r anfedrus. Er y dosperthir saws mhlith ceinderau y gelfyddyd o goginio, eto, yn y cylehoedd mwyaf gwladaidd a chyffrcdin, nid oes o angenrheidrwydd ddim gwastraff na cham- ddefnydd yn perthyn iddo. Swm y cwbl a geisiais egluro yn ei gylch ydyw, gwneler pobpeth yn weddaidd ac mown trufn." Yr ydym yn deall fod Lydia yn lioili ei lie, a bod pawb yn Bodhyfryd yn iach, ac yr ydym ninnau oil yn anfon ein coiion mwyaf caredig attach cliwi a Peris. Eich ffyddlon gyfnither MARY JANE.

[No title]