Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

BUGAIL ABERCWMEIGIAU A'R MWNWR

"--"'-GOLYGYDD Y LLEUAD GYMREIG…

News
Cite
Share

GOLYGYDD Y LLEUAD GYMREIG AT El OHEBWYR ZOROBABEL DAFYDD Loerig Olygydd 1" Dyna fel y mae Zorobabel Dafydd yn ein cyfarch, ac y mae yn gofyn i ni pa le y gellir cael Gweledigaethau y Bardd Cwsg." Yr ydym wedi holi ein holl gymydogion, ac y mae Zabulon Dafydd yn meddwl mai ar obenydd bugail Cwm Dyli y deuir o hyd iddynt. WIL Y BRASGLYTIWR Yr ydycli yn cam- gymeryd, William nid myn'd ar y streic am ychwaneg o gyflog, fel y tybiwch chwi, a wnaeth i Die Aberdaron ymadael a'r seiri llitio liyny yn Llynlleifiad. Llifio yn ngwaelod y pwll yr oedd, ac wrth geisio cofio pa le y dodasai ei Almanac Hindws- tanaeg, anghofiodd symud ei draed yn mlaen, a syrthiodd ar ei drwyn. Ond beth sydd a wnelo Brasglytiwr" a melinau llino ? Onid ydyw yn berygl i chwi anghofia eich crefft wrth ymdrin a dyrus-bynciau fel hyn ? CERDDOR ISLOERAWL Digon tebyg, ond yn y lleuad yma y mae pobpeth yn wahanol. Canu drwy y ffroenau sy'n myn'd a hi yma, a sefyll ar eu penau y bydd y cantorion bob amser. Almanac Caergybi ydyw y gramadeg goreu i addysgu cynghanedd a gwrthbwynt, a thri mis gyda llafur caled ydyw y gosp am ganu ton yn gywir ar yr olwg gyntaf. SIMON, GWR BETSAN TYCLAI O'r llwybr llaethog yr ydym ni yn cael ein holl ymenyn llestri yn yr ochr Gymraeg o'r Lleuad yma. Yn afon Cadnant y mae y dwfr goreu i gymysgu a, llaeth. CERDDOR SELaG: Yr ydym yn cydnabod eich brwdfrydedd, ond y mae brwdfrydedd heb wybodaetli yn debyg i'r turtle soup hwnw a gawsom yn y Mariners y dydd o'r blaen, naw deg a naw o chwartiau ohono yn mock am bob chwart o'r sowp ei hun, yn nghyda pben Ho yn y fargen, 0 OWEN BARABLUS Cynghorem chwi i fyned yn mlaen yn ddiymdro, gan siarad cymaint fyth ag sydd yn bosibl i chwi ddydd a nos, mewn amser ac allan o amser, ar bob rhyw bwnc, ar draws ac ar hyd. Yn awr yw eich adeg chwi, olierwydd dylech fod wedi siarad y cwbl cyn priodi. Wedi hyny fydd genych ond chance wael iawn. BARNADO Y mac eich ysgrif yn rliy ddaearol i'n colofnau. Os ydyw eicli gwraig yn un lxardd, pa niwaid ydyw iddi edrych yn y drycli cyn amled ag y dymima ? Os ydyw yr hwn a dyfo ddau flewyn glas lie na thyfai ond un o'r blaen yn gymwynaswr i ddynoliaeth, pa faint mwy ydyw hi, yr hon sydd yn dyblu ei gwyneb hardd ei hun WILLIAM SHOLGROP, Ysw.: Dywedwch eich bod wedi ysgrifenu yr erthygl hon a, phin aur, ar bapyr peraroglaidd, ac yn sawyr blodeu gardd ar foreu teg. Yr unig beth yr ydych yn fyr ohono ydyw cael rliywun o'r tu cefn i chwi i ddy weyd beth i'w ysgrifenu. GOIIEBYDD CYSON: Pe cyhoeddem eich llith, tynem y bydysawd yn benben. Os ydych yn myned i gladdu anghariadoldeb, claddwch ef yn nyfnder y nos, ac na ddodwch flodeu ar ei fedd. DARLLENYDD CYSON: Y ffordd fwyaf effeithiol i ladd amser ydyw i chwi ei wenwyno a mwg tybaco. BARDD Y -BUARTH Yr ydych wedi anfon i ni ddeugain pryddest, a ninnau wedi dychwelyd yr oil ohonynt. Anwyl gyfaill, peidiweh ag anfon yr un yn ychwaneg i ni, rhag i ni wallgofi a'i cliyl-ioeddi 1 "DWE CHI FYNOCH CHI,

DWCH CHI FYNOCH CHI, ASYN…

SIMON TYCLAI, A BETSAN El…

-=-' HOLWYDDOREG EISTEDDFODOL