Hide Articles List

4 articles on this Page

Y BARNwn GWILYM WILLIAMS.

News
Cite
Share

Y BARNwn GWILYM WILLIAMS. INT VB liynaf y diweddar David AN illiams, Ysw. (Alaw Goch), Ynyscynon, yn mhlwyf Aber- dar, ac o Miskin Manor, yn mhlwyf Llan- trisant, swydd Forganwg, yw y B- tr ii w r dysg- edig. Ganwyd ef yn 1839. Yr oedd Alaw Goch yn enwog fel bardd a lienor, ac fel nodd-wr llenorion, yr Eisteddfod, a phobpeth Cymreig. Nid yw yn syndod i'r fath wladgarwr gael ei fenflitliio a, mab ag sydd mor wladgarol ac aiddgar dros bobpeth Cymreig ag a fu Alaw Goch ei hunan erioed. Edrychodd y tad fed ei fab talentog yn cael pob manteision er dadblygiad ei athrylith a diwylliad ei feddwl. Derbyniodd ei addysg yn Pontfaen, Aberfcawe, a Rouen, yn Ffrainc. Bwriadai ei dad iddo ei ddilyn fel perchenog glofeydd a'u dadblygu; ond yr oedd y mab wedi rhoddi ei fryd ar fod yn far-gyfreithiwr. Tynodd y tad yn ol ei wrthwynebiad, a ihrodd y mab i astudio y gyfraith. Galwyd ef i'r bar yn 1863, ac aeth yntau ar Gylch- daith Deheudir Cymru. Penodwyd ef yn Ustus Cyflogedig (y cyntaf) yn nosparth Pontypridd yn 1872. Yn 1884, penodwyd ef yn Farnwr Llys y Man-Ddyledion dros ddosparth Canolbarthol Cymru, ac yn 1885 symudwyd ef i fod yn farnwr y llys hwnw yn Nghylchdaith sir Forganwg, ac yno y mae hyd lieddyw. Y mae yn ustns lieddwch yn siroedd Morganwg a Brycheiuiog, yn D.L. ac is-gadeirydd, ac yn gadeirydd Pwyllgor Unedig yr Hedclgeiclwaid hefyd yn y gyntaf O ran ei opiniynau gwleidyddol, Rhyddfrydwr Gladstonaidd yw; ac ymgyfenwa yn Ymneillduwr politic- aidd; ond nid yw yn aelod gydag unrhyw enwad crefyddol. Yn 1864, priododd Emma Eleanor, merch hynaf y diweddar William Williams, Ysw., Aberpergwm, yr ysgolor, y dyngarwr, a'r gwladgarwr enwog, ac y mae ei briod yn nith i Miss Williams (Llinos) ag sydd yn bur adnabyddus yn nglyn a cherdd- oriaeth a llenyddiaeth Gymreig. Y mae iddo dri o feibion ac un foreli. Y mae ei fab hynaf (Mr Rhys Williams) yn dilyn yn ngliamrau ei dad fel bar-gyfreithiwr, ac yn dilyn hen gylclidaith ei dad, lie yr edrychir arno fel un o'r bar-gyfreithwyr mwyaf addawoi. Y mae yntau yn chip of the old block "-y mae yn Rhyddfrydwr da, ac y mae mor ymlynedig w1'th ei wlad, ei hiaith, a'i sefydliadau, a i dad, ac a'i daid cyn hyny. Trwy ei ddysg a'i ddeheurwydd, gwnaeth y Barnwr wasanaeth mawr fel cadeirydd Pwyllgor Eisteddfod Pontypridd (1893). Yn ei ddarlith feistrolgar o flaen Cymmrodorion Abertawe yn 1888, profai fod cyfreithiau Prydain Fawr wedi' eu sylfaenu, i raddau mawr, ar gyfreithiau Hywel Dda, a dangosai gydnabyddiaeth drwyadl a chyfreithiau, llenjddiaetta, a hynafla,ethau Cymreig. Fel prif lieddynad yn Pontypridd, er ei fod yn ddychryn i ddrwgweitliredwyr, eto cyd- nabyddai yr holl bleidiau, yr aflwyddiannus yn gystal a'r llwyddiannus, degweh ei ddy- farniadau. Heblaw fod ei addysg gyfreith- iol wedi ei gyfaddasu i ogryn tystiolaethau er mwyn cael ailan y gwir, y mae ei gydnabyddiaetli a, defion ac iaith ei gyd- wladwyr yn rhoddi mantais neillduol iddo i wneuthur cyfiawilder, ac y mae gan y rhai a gyrchent i'w lysoedd berffaith ymddiried yn ei degwch. Ond cael mwy o'i gyffelyb, byddai gan Gymru achos i fed yn llawen. Fel y canodd Dyfed iddo :â Gwefreiddiol gyfarwyddwrâi'w genedl Yw ein gonest farnwr; Un yn dal i'n hiaith yn dwr, Yn goron o wladgarwr.

HENRY MORTON STANLEY,

AP CALEDFRYN.

Advertising