Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

LLADRON A'R TUGEL

-F"f.j';-"'''"""",''' UN 0…

News
Cite
Share

-F"f.j' UN 0 FEIBION ANAC YN mhlith ereill o'r teithwyr a ddaethant i mewn i'r gerbydres o Aberderwenog, y dydd o'r blaen, yr oedd priodfab a phriodferch o'r hen stamp Gymreig. Er fod y cerbyd yn llawn teithwyr, dechreuodd y par dedwydd ysgwyd dwylaw a chusanu eu gilydd yn y modd mwyaf serchog cyn gynted ag yr eisteddasant. Wrth gwrs, tynodd y dull cariadus yma sylw pawb o'r teithwyr, a chyn hir yr oedd pawb yn amneidio ac yn wincio ar eu gilydd, ac yr oedd rhai wedi anghofio eu hunain fel ag i dori allan i chwerthin yn uchel. Cyn bo hir daeth y priodfab tal, ysgwyddog, i ddeehreu amheu ei fod yn cael ei gymeryd yn ysgafn, a chan gyfodi ar ei draed, efe a ymestynodd i'w lawn ddwylath, ac a edrychodd i lawr, ac a ddywedodd, Y mae yn ymddangos i mi fod yma gryn lawer o wincio ac amneidio yn eich plith o gwmpas yma, oherwydd fy mod i 'n cofleidio ac Yl1 cusanu yr eneth wyf wedi ei phriodi am ddeg o'r gloch y boreu yma. Os ydyw rheolau y tren yma yn gwahardd i ddyn gusanu ei wraig wedi talu pob costau gofynol, rhaid i mi fyn'd i lawr yn y stesion nesaf; ond, os nad ydyw y rheolau yn erbyn hyny, ac os na roddir terfyn ar y wincio a'r chwerthin yma cyn i ni gyrhaedd y post telegraph nesaf, yr ydw i am ddechreu yn y seddi nesaf ataf, a gyru yn mlaen hyd y corneli pellaf acw, i godi pris y farchnad mewn ffyn baglau a dannedd gosod!" Os bu yno ragor o wincio ac amneidio yn y cerbyd hwnw wedi hyny, ni welodd y priod- fab cawraidd ddim o'r fath beth.

YR ASYN, Y GOG, A'R EOS

[No title]

YMDROCHI AR OL YMARFERYD

BROL EITHAFOL