Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

BEIRNIADAETHAU EISTEDDFOD…

\ :aUIA.NGERDDI-" MJlRCH OAE'l\…

LLANWDDYN.

BODEDERN, MON,

News
Cite
Share

BODEDERN, MON, Mae haelioni a charedigrwydd tu"g at y tlawd wedi dyfod weithian yn ffaith ad- nabyddus, ac yn rheol sefydledig yn y I! plwyf hwn, yn ystod y blynyddoedd a aetlmnt heibio, ac y mae yn liyfrydwch genym allu dyweud na bu y tembor eleni yn eithriad. Mae ylnit glybiau mewn cyssylltiad a'r Egiwys, sef clwb dillal i'r plant, un Rorall i'r gwragedd tlodion, a chlwb glo. Ar eu rhaniad yr wjthnos ddiweddaf, rhoddwyd pedwar swllt o elw i bob aelod yn y cyntaf, banner coron i bob aelod o'r ail, a dau swllt i bob aelod o'r trydydd. Ac yn ychwanegol at hyn, rhanwyd rhwng y rhai tlottaf o'r gwragedd gweddwon ae ereill niter mawr o wlaneni cynhes tuag at leddfu chwerw- der yr hin yn misoed oerion y gauaf. Mae gofal a tbynerwch o'r natur yma dros y tlawd wedi acbosi i eaw teulu hen- afol a pharchus Treiorwerth fod yn anwyl gan bawb yn y plwyf; ac yn wir, nid yw y ffeithiau uchod ond rhan fechan o'r hyn a ellid fynegi am haelioni Mrs Wynne Jones gan lawer calon a gafodd ymwared mewn eyfyngder ganddi. Ein dymuniad gwresocaf yw hir oes i'r hybarch arch- ddiacon a'i anwyliaid, a gwenau'r Nef fo yn eu dilyn. Y NADOLIG.—Treuliwyd y dydd hwn yma eleni yn wahanol i fel y byddid ar- ferol. Mae'n wir fod yr eglwysi, er cyn cof neb sy'n fyw, yn cynat ar ddyddNadolig ddau wasanaelth eyhoeddumi-un yn y boreu am ddeg, a'r Hall yn yr hwyr am chwech; ond eleni, er mwyn rhoddi cam yn yr iawn gyfeiriad, penderfynodd rhyw gyfran, os nad yr oil, o'r enwadau Ymneillduol i uno er treulio y Nadolig fel y gweddai i Grist- ionogion, sef trwy gynnal cyfarfodydd pregethu, foreu, hwyr, a chanol dydd, yn yr Assembly Rooms. Mae 3 a hyfrydwch nid bychan gan bob Eglwyswr weled fod ei gyfeillion Ymneillduol, o'r diwedd, yn dyfod i iawn ystyried dyben y dyddiau gwyliau a gedwir gan yr "henfam" ers cannoedd 0 flynyddoedd. Rhwydd hynt iddynt, a gobeithiwn weled dydd Gwener y Groglith etto yn derbyn y cyffelyb deyrnged o barch oddiar eu dwylaw. Nis gall neb wadu nad gwaith da fyddai hyn, ac ni raid i neb ofni digio Duw tra yn gwneuthur yr hyn sydd dda. H GOLJlUNI YN YR HWYR."—Y mae Bod- edern yn prysur ymddiosg o r agwedd bentrefol, ac yn gwisgo nodweddion tref bron yn mhob ystyr. Un symmudiad pwysig yn y cyfeiriad hwn eleni ydoedd goieuo yr heolydd. Trwy ymdrechion di- flino Mr Lewis, LleTelyn Lodge, casglwyd digon o arian er pwrcasu lampau ar- dderchog, yn ngoleuni pa rai y gellir tramwyo ar hyd yr heolydd gyda. chjsur a diogelwch. Am hyn boed clod i'r hwn mae'n ddyledus.—Liangc o'r Plwyf.

BAGILLT.

COLWYN.

EISTEDDFOD ABERGELE.

I"Y TORIAID DWL.",

MOEL HEBOG.

LLITH ALARCH GWYRFAI.

LLITH M,R PUNCH.. -rrl

TENANT. ■i; /cuno; AT

LANDLABT.

TENANT. t

LANDLADY. ■

TBNANT. I

7 GWEAGKDD PHILISTAIDD A'R…