Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

CAERNARFON.

DOLYDDELEN.

• ^ ,LLYSFAEN.

BRYNSIENCYN.

CYFARFOD CYSTADLEUOL A CHERDDOROL

News
Cite
Share

CYFARFOD CYSTADLEUOL A CHERDDOROL y gelwir yr un a gynnaliwyd yn Libanus, addoldy yr Annibynwyr yn y Bryn, nos Sadwrn diweddaf. Gan y bydd gofod 0 bospibl yn brin o herwydd amldra adrodd. iadau am gyfarfodydd o'r fath, ni wnawn yn unig ond nodi yma drefn y cyfarfod, yn ijgkydag enwau y gwahanol fuddugwyr. 1. Ton gynnulleidfael, gan gor y capel. ,2. Annerehiadau gan y beirdd {stylish chwi welwch), eithr ni chydsyniodd namyn 'i Handel." 3. Solo a chorus, yn dda iawn. 4 Cystadleuaeth adrodd i enethod—budd- iigoli Ann Roberts, Eliza Williams, ac 'Allen Oweii. 5. Solo a chorus, yn swynol djros ben. 6, Cystadleuaeth adrodd, i .fichgyn dan 16eg oed goreu, William L. Williams a Hugh Williams. (Yn ystod y, feirniadaeth ar y gystadleuaeth hon amlygwyd arwyddion amlwg o anfoddlon- rwydd y gynnulleidfa iddi; ac er mwyn tawelwch, gwobrwywyd y ddau ymgeisydd arall-Hugh Roberts a John Jones). 7. < Can, gan Mr W. W. Thomas, Pentrefoelas gynt, yn ei ddull hapus arferol. 8. Adroddiad, Ty ar dan," gan Hugh Roberts, nes cyffroi y dyrfa drwyddi. 9. Solo a chords, yn wir dda. 10. Cystadl- euaeth datganu Mary Magdalen." Dim ond un ymgeisydd—William Williams, a gwobrwywyd ef. 11. Solo a chorus, VlHappy day," yn. deimladwy iawn. 12. Beirniadaeth at y tri phenill i'r Cnowr tobacco mewn .addoldy;" buddugwyr, "jArfonfab (Thos; Rowlands, ^Addolwr" (Hugh Roberts) a Dyma fo (William Edmunds). Ynanffortunuscanodd "Elin" i sdfn y cnowr,yn hytrach nag i'r cnowr meivn addoldy, a chyn-nygiwyd iddi wobr, ond gwrthododd wneud ei hymddangosiad. Ni fuasai raid i E I in gywilydd arddel ei gwaith; yn sicr yr oedd mewn teilyngdod a donioldeb, yn mhell tuhwnt i'r cwbl. 13. Ton (Sankey 32), «;an Owen Hughes, yn dda. 14. Adrodd Galarnad Dafydd am Saut a Jona(th[an,"gan fechgyn goreu, Richard Williams, Hugh Williams, Hngh Roberts a William Willams, y ddau olaf yn gyfartftU Rbpiidi i ni gyfaddef yn y fan hon, na ohlywsam y fath adrodd erioed uu He ag a gafwyd gan Richard Williams. Er nad ydyw y bachgen hwn r ond 13foed, methai y gynnulleidfa yn glir ag ymgynnal dan y fath dryblith o hyawdledd ag a fwrlymai dros ei wefusau.- Bled hwn yn mlaen, chwedl y beirniaid, a disgwyliwn bethau mawrion drwyddo. 15. Solo a chorus The gate ajar (g,inkey), yn effeithiol iawn. 16. Cystadl- euaeth adrodd (merched), Eliza Jones a Mary Edwards yn gyfartah 17. Can, Eden above" (Sankey), gan Miss Margaret Hughes. Meddai hon lais clir a pheraidd, er ei fod dipyn yn wauaidd, a ehanodd y tro hwn yn odidog. 18. Cys- tadleuaeth datganu "What shall the harvest be (Sankey). Dim ymgeisydd. 19. Beirniadaeth yr Englyn i'r Fuvvch;" Rhywun" (Thos. Rowlands), a Ceisiwr y tro cyntaf," yr hwn nid ymddangosodd yn gyfaital, Morddal (Griffith Jones), ac Os na chaf wobr eaf gam" (Robert Owen). 20. Cân ddesgrifiadol gan Mr W. Thomas, Aelwyd LlwynDu," yn ddoniol dros ben. Llywyddwydgan Meilir Moo, tra y cymmerai y Parch. W. W. Thomas y rhan arweiniol, a'r hwn a gadwai y dorf mewn hwyl yn barhaus a'i ffraethineb pert AC yswala. Yr oedd y cyfarfod yn llawn dycldordeb a brwdfrydedd trwyddo, ond yr jedd yr addoldy yn aimyoddefol o boeth, a dichon nad anmhriodol awgrymu yma y dymunoldeb o gael mwy o foddau awyrol erbyn y delo cyfarfod o'r fath etto, yr hyn a obeithiwn a gawn yn fnaii.-Gohebydd.

Advertising

] Y DEHEUDIR. ; '^

LLANGEINWEN. :

• LLAngristiolu S.

Advertising