Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

LLAIS Y WASG.

News
Cite
Share

LLAIS Y WASG. CHWARELWBR Y PENRHYN. Y Wrexham Guardian a ddywed:- Bydd i'r bobl yn y cyrau hyp sylwi gyda galar ar amlygiadau o ysbryd anesmwyth yn mysg chwarelwyr Goededd Cymru. Y mae hyn yn gyfnewidiad llwyr ac anhapus yn nghymeriad hanesiol y dynion. Hyd yma y maent wedi cadw draw oddiwrth gynhyrfiadau ymranol sydd wedi bod yn aflonyddu y eyssylltiad' rhwng cyfalaf a llafur mor alarus mewn parthau ereill o'r wlad, ac yn sicr nid ydynt wedi colli dim drwy gymmedroldeb a boddlonrwydd. Y mae eu meistriaid wedi gwneud mwy erddynt yn wirfoddol nag a allesid ei ddirwasgu drwy unrhyw allu gorfodol. Y mae y meistriaid yn wastad wedi amlygu dyddordeb teimladwy yn amgylchiadau a llwyddiant y dynion, ac y mae y telerau hapus hyn wedi bodoli er lies- had y ddwyblaid. Nis gallent fodoli, modd bynag, ond tra yr oedd cyd- ymddiried a chyfeillgarwch, pan yr ym- ddygai y ddwy echr yn rhydd tuag at eu gilydd mewn symlrwydd a didwylledd, a phan y trafodai y rhai a fynent.a'r pwngc unrhyw annghydwelediad a ddigwyddai gyfodi yn uniongyrchol. Mor gynted ag yr ymyrodd estroniaid, yr oedd bodolaeth y cydgordiad yn anmhossibl. Daeth canolwyr a theimladau newyddion i weith- rediad, a chychwynwyd ymreibiad oer, dideimlad, am gyflogau, a dinystriwyd yr hen gydymdeimlad a fodolai, oherwydd gorweddai y gwir benderfyniad yn nwylaw dynion nad oedd ganddynt y cydymdeim- iad lleiaf a lies y naill ochr na'r Ilall. Yn wir, tueddai eu lies ar brydiau tuag at annghydfod ac ymrafael, fel cyfiawnhad o'u ymyriad fel cynhyrfwyr. Mor bell ag yr ymddygo y meistriaid yn deg a chyf- ia^n tuag at y dynion, y mae doethineb yn cymhell ar fod i'r ddwy blaid bender- fynu eu trefniadau heb gynnorthwy allan- ol. Unwaith y daw mesurau dirwasgol i mewn, a chychwynir dyeithrwch ag sydd yn rhwym o brofi yn ddinystriol i'r ddwy ochr. Ymdrechasom i wneud hyn yn eglur yn nglyn i'r annghydwelediad yn chwarelau Dinorwic. Yno mewn awydd am aflonyddwch yn unig, bu i'r dynion sefyll ar eu bawl i ffurtio undeb. Nid oedd ganddynt gwynion i'w gwastattau na hawlion i'w mynu; cymmerasant yn eu penau yn unig ffurfio undeb y chwarelwyr, a gwnaethant lawer o ddrwg iddynt eu hunain wrth gyflawni eu hamcan. Yn ofer y gwrthwynebai Mr Assheton Smith eu cwrs byrbwyll, ar y sail y byddai iddo dori y berthynas gydgordiol ydoedd hyd hyny yn teyrnasu yn Llanberis. Gydag yehydig gyfnewidiad caniattawyd iddynt y fraint o ymuno, a chredwn fod y dynion yn foddlawn ar eu buddugoliaeth ddi- ffrwyth. Pa iawn a gawsant am eu colled o bedair wythnos o golli gwaith a chyflog nj s gaUwn ddirnad; dyrysai hyd yn nod hwy eu hunain i egluro. Ond os nadoes unrbyw ffrwyth sylwedd- 01 yn amlygedig yn Llanberis, y mae ffrwyth chwerw yr un cynllun i'w ganfod yn chwarelau cymmydogol Bethesda. Y mae yr amgylchiad yn meddu ystyr taraw- iadol, fel yn egluro yr yspryd ymosodol sydd yn awr yn gyffredin yn mysg gweithwyr yn y cylcli hwn. Os oes dyn yn teilyngu ymddygiad ystyr- iol a pharchus oddiar ar law ei weithwyr, yn sicr y mae Arglwydd Penrhyn ymysg y nifer. Etto, pa beth yw ei ad-daliad yn y cyfwng hwn ? Y mae undeb gweithiol ymysg ei bobl, neu yn hytrach y maent yn offerynau bylaw yn nwylaw estroniaid nad oes ganddynt un syniad am rwymed- igaethau gwasanaeth teyrngarol; pa fodd y mae y swp hwn o gynhyrfwyr ac aflon- yddwyr wedi cyfarwyddo y dynion ac ym- ddwyn at Arglwydd Penrhyn? Y maent wedi neidio yn fyrbwyll i strike, heb gym- maint a diwrnod o rybudd, neu hyd yn nod feddu digon o foneddigeiddrwydd i ymohebu yn flaenorol a'u meistr. Syrth- iodd y ddyrnod yn gyntaf, a daeth rheswm yn olynol. Hyd yr adeg y bwriasant i lawr eu harfati ac y taflasant y chwarel- au eang i gyflwr o segurdod, nid oedd cymmaint a sill o gwyn wedi ei an- fon at Arglwydd Penrhyn; nid oedd- ynt wedi gwneud unrhyw ofynion, ac felly nis gellir dwyn ymlaen wrthodiad i gyfiawnhau defnyddio mesurau eithafol. Ond wedi i'r strike gychwyn, ac i elyn- iaeth gael ei achosi, bu y dynion mor dda a gwneud eu gofynion yn hysbys i'w meistr. Anfonasant deleran terfynol, gan kysfey8to pa Iriri It gfflog yr jm rhaid iddo dalu i'r dynion a bechgyn yn y chwarelau, a'r dyddiad pennodedig ar ba un yr oedd yn ofynol iddo wastattau ei gyfrifon. Pa mor bell yr oedd yr hawliad manwl hwn yn oddefadwy o dan yr am- gylchiadau nid ydym yn barod i ddyweud, ond yn y dull o'i gyflwyniad ar yr am- gylchiadau presennol nid oedd yn ddim amgen na hunan-hyder haerllug. Yr oedd y dynion eisoes wedi eyhoeddi rhyfel yn erbyn eu meistr, heb roddi iddo rybudd neu ofyn iddo ddyfod i deleran & hwynt cyn defnyddio mesurau eithafol. Yr oedd yn lied ddiweddar i agor goheb- iaeth pan yr oedd y frwydr wedi ei chychwyn, a hyny hefyd heb ail mewn an- foneddigeiddrwydd. Y mae y dynion wedi dewis eu gwely, a rhaid iddynt orwedd arno. Y maent wedi dewis segurdod yn hytrach na diwydrwydd, rhyfel na heddwch, a dichon y bydd iddynt gael hamdden i edifarhau oherwydd eu ffolineb. Nid oes amheuaeth na fuasai i Arglwydd Penrhyn roddi ystyriaeth ddi- frifol a ffafriol i unrhyw ddeiseb a gyflwyn- asid iddo gyda pharch. Y mae gwyr Bethesda wedi taflu eu hunain, tuallan i gylch cydymdeimlad drwy eu byrbwylldra a'u poethder. Y mae eu* cwrs annoeth wedi gwneud yn dra anhawdd i Arglwydd Penrhyn i ymdrafod & hwynt, llawer llai i wneud ffafr & hwynt, tra y gorfyddir y cyhoedd i gondemnio ysbryd rhyfelgar y dynion. Ymae hyd yn nod y newydd- iaduron a arferant gymmeryd plaid y gweithwyr yn awr yn gorfod eu ceryddu, a rhaid fod yr hyn a gondemnia cyfeillion yn ddrwg mewn gwirionedd. Eu bai ydyw canniattau i gymmeryd eu twyllo gan rai sydd yn byw wrth y drwg a gyn- nyrchant, a rhaid iddynt ddyoddef am eu bygoeledd. Os nad oedd cynllun dichell- gar i greu strike, yr oedd diffyg eglur mewn rhagystyriaeth er ei osgoi. Y mae fod y dynion wedi sefyll allan heb rybudd, cyn hyd yn nod gynnyg eu gofynion i ystyriafcth, yn agwedd newydd ar undeb ag sydd, yn ffodus, yn brin yn Ngogledd Cymru, a gobeithiwn y bydd iddo ddyfod yn brinach byth. Bydd i'r dynion ennill yn hytrach na cholli drwy y fath ganlyniad, ac felly gall daioni ddeilliaw o ddrygioni yn chwarelau y Penrhyn. Byddai yn beth caled orfodi dynion sydd wedi bod yn ngwasanaeth Arglwydd Penrhyn drwy eu hoes i chwilio am wasanaeth newydd. Nid oes ganddynt ond eu hunain i feio am wahanu cyfeillion a dinystrio cartrefi. Gadawsant eu gwaith heb esgusawd nac ystyriaeth, ac os ydynt, fel yr hysbysir ni, yn ymfudo i faesydd newyddion, nid ydyw ond cosp eu byrbwylldra. Yn hyn y maent yn elynion iddynt eu hunain. Dylent gofio y gall Arglwydd Penrhyn hyfforddio cad w ei chwarelau i sefyll yn well nag i'r dynion aros mewn segurdod. Pa mor bell y bydd i'r meistr estyn allan ei law i wared ei ddynion oddiwrth. eu ffolineb eu hunain, nid oes genym un moddion i benderfynu, ond rhaid cofio y bydd i ba beth bynag a wnelo yn y cyfeiriad hwn darddu oddiar garedigrwydd ac nid gor- fodaeth.

IY CYHUDDIAD 0 LOFRUDDIAETH…

YMGAIS I LOFRUDDIO.

[No title]

TY-DORIAD YN CAPEL CURIG.

------..---.....--:;¡¡-CYHUDDIAD…

,CYFLAFAN AR Y MOn

Family Notices

[No title]

CRYNNODEB WYTHNOSOL.