Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

LLOFFION O'R DEHEUDIR.

BRASNODION 0 LANDUDNO.

News
Cite
Share

BRASNODION 0 LANDUDNO. Gwyddoch yn eithaf da, foneddigion, nad ydyw orodorion Llandudao yn cael digon o hamdden i gymmeryd eu gwynt attynt er gwahaniaethu rhwng Sul, gwyl, a gwaith yi-i ystod y tymhor haf; a phe buasai cysgod amheuaeth ar y pwngc, gallaswn nodi y ffaith eu bod mor brysur fel ag i fethu hebgor amser i gynnal cyfarfod y Feibl Gymdeithas heblaw ar nawn Sabbath. Yr ydym ni yma yn unfarn mai penbwl noeth oedd y cler- fardd hwnw a ganodd,—"0! na chawn farw yn yr haf," oblegid nis gallwn ni hyfforddio seibiant i grefydda a noddi Jacks pregethwrol oddigerth yn y gauaf. Os oes mewn bwrlad gan ryw frawd o falerdwr ddwyn y gan hono i'r dref hon, Doed iddo ofalu am ei chyfnewid i-" 0! na chawn farw yn y gauaj," a chaiff werth- iant rhwydd iddi.—Erbyn hyn y mae olwynion ymfflamychol prysurdeb yn dechreu arafu, a dydd Llun credodd amryw o gocosyddion urddasoiaf y dref hyfforddio hawnt i bererindodi ar feirch am y tro cyntaf. Y cyfeillion hyn. oeddynt-ond gweil eu harbed am y tro hwn, rhag ofn iddynt droi yn ddisgyblion Baalam.-Y pwngc sydd yn bawlio mwyaf o sylw yma ar hyn e bryd ydyw y ffordd newydd y bwriedir ei gwneud o amgylch Pen Gogarth; ao y mae yn dda genyf weled fod pob tebygolrwydd y bydd i'r auturiaeth fawr gael ei chychwyn cyn pen nemawr wythnosau.. Deallaf fod Arglwyddes Augusta Mostyn, yr hon gyda'i meibion sydd yn awr yn y lie, wedi cymmeryd gwerth mil o bunnau o gyfranau yn y cwmni yn ychwanegol at y swm a gym- merasai o'r blaen, ac y mae Ricnard ETans, Haydock Colliery, yr hwn bydd yn trigo yn ein plith, wedi gwneud yr yehwanegiad yn ei gyfranau.-Yeiiydig ddyddiau yn ol gwnaed dargaufyddiad tra rhyfedd yma, nid amgen dyfud o hyd i gorph baban cynamserol wedi ei adodi mewn potel. Caiwyd ef gan lachgen o'r gymydogaeth yr hwn a'i trosgiwyduodd i P.S. Jones, yn ngofal yr hwn y mae etto. N OB Sadwrn cyrfrowyd y lie yn ddirfawr drwy y newydd fodcwrwgl wedi dyfod i'r lan yn mau Conwy gyda dillad boneddwr ynddo. Aethpwyd allan gyda chwch a dygwyd y cwrwgl i'r lan, pryd y cafwyd ynddo holl ddillad boneddwr, ac ar un dilledyn yr oedd yr enw," Darbishire." Yr oedd yn hawdd casglu fod y boneddwr wedi ymddiosg er ymdrochi, ond teimlid cryn bryder gyda golwg ar yr hyn a allasai fod ei dynged. Gwyddem am deulu parchus y Darbishires, Pendyffryn, Pen- maenmawr, ac yn naturiol anfonwyd brysgenadwri attynt yn nghylch yr amgyichiad. Cyn pen nemawr amser daeth y boneddwr ieuangc drosodd ei hun, a chafwyd cyfrif am y digwyddiad. Yr oedd wedi myned i ymdrochi, ond tra y nofiai, aeth y cwrwgl ymaith gyda'r llif a'r gwynt. Nofiodd ar ei ol am gryn bellder, ond canfu fod ei ymdrech yn oter, a chyfeiriodd am y lan, yr hwn a gyrhaedd- odd yn ddiogel.—Pwngc sydd yn tynu llawer o sylw yma ar hyn o bryd ydyw ymddygiad babanaidd Mr Bulkeley Huges, cadeirydd y bwrdd lleol, yr hwn sydd mewn dwfr poeth oherwydd amcanu ohono gau allan gynrychiolydd y wasg. Ceisiai gael gan y bwrdd gondemnio gwaith y wasg yn trin tippyn ar ei gyflwr ond rywfodd daeth y gath allan o'r cwd, ac yn y gwahanol bapurau am ddydd Sadwrn diweddaf, cafodd ddigon o halen ar ei fri wiau drachefn. Gwarchod fi! y bonedd- wr o'r Plascoch, gwyliwch rhag cicio nyth cacwn y wasg, neu byddant o gwmpas eich pen iel pJ.a'r Alpht. Pan gaf hamauen, rhoddaf i chwi frasluniau doniol o rai o brif gyuffonwyr y bwrdd, yn gyflwynedig i Mr Darwin; ac nyd byny byadwcii wycn. CLOO YR EGLWYS.

LLANIDAN.

TRYWANU YN NORTH SHIELDS.

YMLADDFA MEWN ADDOLDY.

[No title]

LLITH DAFYDD EPPYNT.