/1 ,Y DEHEUDIR.|1874-09-11|Llais Y Wlad - Welsh Newspapers Online
Hide Articles List

3 articles on this Page

Y DYN A'R LAN TAB, NEU WELEDIGAETHAU…

/1 ,Y DEHEUDIR.

News
Cite
Share

1 Y DEHEUDIR. (ODDIWRTH EIN GOHBBYDD.) Berwodd Radicaliaid Llechryd grochan- aid da o bysgod yn ddiweddar, gyferbyn ag etholiad y Bwrdd Ysgol. Nid oedd en- wa.u managerf yr ysgol Frytanaidd arlyfr- au y plwyf, ac nid oedd ganddynt ddim un bleidiais. Ar ol i'r ynadon arwyddo llyfr y dreth, yn.ddengys i enwau 19 gael eu gosod ar y llyfrau, yr hyn oedd yn anghyfreithlon. Y mae y mater yn awr yn nwylaw y Board yn Llundain. Nid oes dim pen draw ar y chwedlau a daenir am lofruddiaeth Lianeurwg, ")'n enwedig yn mhapurau Llundain, sef fod a fyno y dyn antrodus James Richards, yr hwn a ymgrogodd pan yn dyoddef dan efieithiau pruddgiwyl, a liofruddiaeth Mrs Gibbs. Nid oecid dim mwy a fynai hun- aniaddiad Richards a'r matter nag sycAi a fyno twrch daiar a'r iiaul. Yr <§dd Richards yn ddiacon cyfrifol gyda'r Bedyddwyr yn y Caebach. Cyhudawyd efo droi ceftJl igae cymmydog, a-throwyd ef allan o'r ddiaconiaeth, yr hyn a eifeith- lodd yn drwm ar ei feddwl. Yr oeddwn yn meddwi fod Phariseaeth wedi diflanu ers hir amser bellach, ond y mae pobl gristionogol i'w cael yn awr yn gymmaint 0 Phariseaid ag oeddynt yn amser ein Hiachawdwr. Hidlo gwybedyn a llyngcu camel yw hi yn awr fel cynt. Clywais gwpl o wragedd syfrdanlJyd ar eu iiordd i'r capel yn beio dyn am ddarllen cyhoeddiad misol ar ddydd Sul ac ar yr un prvd yr oeddynt yn adrodd holl glees yr ardal rhyngddynt a'u gilydd. Y mae un o bregethwyr sir Fynwy wedi darganfod pechod newydd, pechod por- phoraidd, sef chwareu Cricket. Pregeth- odd bregeth mewn capel yn Maesycym- mer yn ei erbyn dychrynodd y gwr parchedig y menywod yn neullduol, canys ni welwyd ond ychydig o'r rhyw deg yn y Cricket Match y diwrnod canlynol, a gwrthododd y seindorf chwareu hefyd ar ol clywed y bregeth. Nid oes dim un dyn, ond ffyliaid anwybodua sydd yn arfer pinio eu pwttyn credo wrth lawes y pregethwr a gred fod chwareu Cricket yn bechod. Gall dyn fod yr un mor dduwiol wrth chwareu cricket ag y gall wrth gan- lyn ei or'uchwylion ereill. Y mae campau diniwaid o'r natur yma yn lies i'r corph a/r meddwi. Y mae yn gwneud dynion yn fwy heinyf a gwisgi; ond yr ydym ni yn Nghymru yn gwaethygu fel cenedl ac yn myned yn fwy pendrwm a llippa; ac os bydd i bawb goleddu syniadau y gwr 0 Faesycymmer, byddwn oil yn brudd- glwyfedigion, a'r diwedd fydd i hunan- laddiadau amlhau. Nid yw dyn wedi ei greu To Bit like his grandfather, cub in alabaster." Y mae y natur ddynol yn rhwym o gael adloniant, ac yr wyf yn barnu y dylai chwareuon diniwaid o'r natur yma gael eu cefnogi yn lie eu condemnio. Yr wyf gyda phob dyledus barch yn barnu fod Ilawer mwy 0 bechod yn nglyn a'r cyrddau tê a'r gwyliauysgolion yn y dyddiau yma, na chwareu cricket. Beth yw yr boll chwareu kiss in the ring sydd yn cael ei ddwyn yn mlaen dan drwynau gweinidog- ion ? Qnid yw hyn yn tueddu at ddrwg ? Gallasai yr un gwr nodi pechodau ereill; ie, pechodau porphoraidd, yn ardal Maes- ycymmer. Y noswaith o'r blaen ceisiodd dau ddyn dreisio boneddiges ieuangc yr hon oedd ar ei ffordd adref 0 bazaar capel y Bedyddwyr, ond nid oes dim son am hyn. Y mae y frech wen wedi tori allan mewn.lie a elwir Nine Miles Point, yn Nyffryn Sirhowy, gerllaw Risca, yn yr huts, y rhai sydd yn cael eu cyfaneddu gan navvies a chwn. Nid oedd dim llai na naw yn gorwedd yn yr un hut, He yr oedd un-ar-bymtheg o ddynion. Dygwyd yr achos o flaen gwarcheidwaid bwrdd yr undeb yn Nghasnewydd, a gorchymynodd y bwrdd i'r swyddogion wneud ymchwil- iad i'r mater. Dylai y tai hyn, sydd yn nythle i glefydau, gael eu llosgi i'r llawr. CRAIG Y FOELALLT.

LLITH DAFYDD EPPYNT.