Y DYN A'R LAN TAB, NEU WELEDIGAETHAU Y BIRFW*.|1874-09-11|Llais Y Wlad - Welsh Newspapers Online
Hide Articles List

3 articles on this Page

Y DYN A'R LAN TAB, NEU WELEDIGAETHAU…

News
Cite
Share

Y DYN A'R LAN TAB, NEU WELEDIGAETHAU Y BIRFW*. PENNOD XV. ■W Yn mha un y mae y Barfwr yn gweledpetk cyffredin, ac yn cael araeth ar y cyfryw. Symmudwn yn mlaen ebe'r Dyn a'r Lantar, "ac mi a agoraf fy Lantar." Ufuddhaodd y Barfwr i'r archiad ac ymhen ychydig eiliadau agorwyd y Lantar dra- ehefn. I mewn yn y drych y tro hwn gwelai gegin eang a glanwaifch. Ar y mur gyferbyn ag ef yr oedd yr awrlais yn sefyil &'i fysedd yn pwyntio at bedwar. Wrth ochr yr awrlaia safai y dresel yn llawn o ■ddysglau, llestri a gwydrau, ac yn y gongi ger y tan yr oedd hen gwppwrdd gwydr llawn o'r priddlestri goreu, y rhai a ym- ddisgleirient gan mor laned oeddynt. Mewn cadair freichiau o dderw ger y tan eisteddai hen wr gyda phibell anferth ei hyd yn ei safn yn mygu yri araf a diseib- iant, nes yr oedd y rowg yn cylchu o'i am- gylch, ac yn ymffurfio yn gaenen gymylog uwch ei ben. Yn agos i'r tan safai bwrdd erwn gyda Uian gwyn yn ei orchuddio, ar ba un yr oedd y llestri te wedi eu gosod, ac wrth yr hwn yr eisteddai hen wraig yn llymeitian y ddiod bron mor ddiseibiant ag yr oedd yr hen wr yn distrywio y ddeilen dybacco. Nid oedd y darlun amgen nag a welir mewn cannoedd o dai ar fayd a lied y wlad yn yr oes bresennol. Cyffredin iawn ydoedd yr olygfa, mor gyffredin, yn wir, nes y gofynodd y Barfwr i'w gydym- aitb o'r diwedd I ba beth y dangosaist hyn i mi ?" Er addysg i ti," ebe'r Dyn a'r Lantar gan gau y Lantar. Oni wydd- ost ti, 0! Farfwr, mai yn y cyffredin, yn y pethau sydd agos atat, y gorwedd yr athroniaeth ddyinaf. Un o feiau mwyaf dyn wrth natur ydyw ei fod o falchder yn chwilio am yr anghyffredin, ac am y rhy- fedd, gan annghofio yr hyn sydd o'i am- gylch ac yn wastad ger ei fron. Sarhau y cyffredin am ei fod yn -gyffredin, a dyr- chafu yr annghyffredin am nas gall ei ddeall; dyna elfen dyn bod amser, gan adael dros got mai trwy efrydu y cyffredin yn barhaus ac yn ddifrifol y gellir cael dirnadaeth am yr anghyffredin. Onid trwy ystyried marwoiaeth yr hedyn gwenith yn y ddaear a'i ddadebriad drachefn y mae'n bossibi i ddyn wybod am ei adgyfodiad ef eihun? Na ddirmyga y cyuredin, 0! Farfwr, canys ynddo y mae pob gwybod- aeth. Hen wr yn ysmocio ac hen wraig yn yfed te,—cyffredm iawn ydyw'r,olygfa, ac eto yn hyn hefyd mae dirgelwch. Fel ag y gwelaist hwynt, maent ynengreifftiau byw o rym arferiad, ac yn y ddau air hyn, sef grym arferiad, y mae dyfnder o athroniaeth. nas gellir ei dreiddio. Edrych yn ol ganrifoedd o oesau a chenfydd yn anialwch yr America y gwylltddyn noeth a ddargaofyddodd: gyntaf y llysieuyn tybacco. Dirwyn yr hanes yn mlaen hyd nes y deui o hyd i'r dyn a'i llosgodd am y tro cyntaf erioed ac a sugnodd ei fwg i'w enau i'w chwythu allan drachefn. Ystyria ttiu fuuu.d, oo golli pa faint n nmafii- y bu y byd anwaraidd cyndilyn esiampLyr arwr cyntaf a ddioddefodd dan y selni a gynnyrchid gan y ddeilen wenwynig. Meddwl wedi hyny am yr oesau dirifedi a aethant heibio cyn i'r arferiad ddyfod mor gyffredinol ag y mae yn y byd yn awr, ac yna gofyn i. tidy hun, paham y bu byn, a pha ddyben sydd iddo ?" Gyda'r ddeilen de y mae yr ungofyniadyncyfodi. Pa fodd y daeth y ddynolryw i ddeall am dani ac i'w harfer, a phaham y mae'r ar- feriad o yfed ei ffrwyth wedi dod mor ami a chyffredin ? Wrth geisio attebiad i'r gofyniadau hyn, fe dreiddi i mewn i natur fewnol y dyn. Cyn eu hatteb, rhaid efrydu eu chwantau a holl reolau eu natur, ac wedi'r cwbl nis gellir ond braidd dybied y gwir achos. Rhyfedd! rhyfedd! fel y mae dyn yn ymgymmeryd a phethau ac yn eu harfer, yn enwedig pan nad yw y pethau byny ond yn rhwyBtrau ac yn fag- fau iddo. Dyn yn ysmocio, yn tynu rhyw- faint o wAg bleser iddo ei hun oddiwdh, bibell o glai a deilen wywedig, yn dibrisio ei amser, yn dioddef arteithiau yatumogol, ac yn haner lladd ei hun er mwyn dysgu tynu mwg gwenwynig i'w geg a'i chwythu allan drachefn; onid gwagedd dychrynllyd yw hyn, hefyd ? Ac unwaith wedi i'r ar. feriad ymuno i'i gyfansoddiad, dyna lie bydd y dyn yn gwario ei arian, ei iechyd, a'i nerth er mwyn mygtt, a mygu yn ddi- baid, nes o'r diwedd i'w ddannedd fyned yn dduon, ei, foob au yn grebychlyd a lliw eu groen ymdebygu i'r mwg ei hunan. Magys ag y m" gyda'r dyn oherwydd ei bibell, y mae gyda'r merched oherwydd y nanaid o de. Te yn y boreu, te ganoi lr a the yny prydnawn; dyna hanes lluniaethol cannoedd os nad miloeldd o ferched yr oes. Llymeitian y byddant o'r boreu hyd yrhwyr, nes i'w croen felynu, a'u haelodau fyned yn grynedig,- a'u giau golli eu nerth yn hollol. ErchyR ac ofn- adwy ydyw'r canlyniadau sydd yn dilyn yr arferiad hwn. Ac eto waeth heb na phregethu yn ei erbyn, mae'r arferiad wedi myned mor gryf yn awr nes yr ymddatodai Bylfeini cymdeithas, pe digwyddai i'r td gael ei ddinystrio. Ffaith alarus i'w chyhoeddi ydyw, ond ffaith ydyw wedi'r cwbl, sef fod cymdeithas yr oes hon wed ei sylfaenu ar fwg tybacco a thrwyth te. Pe deuai rhyw un cryf i afael yn y ddwj golofn yma, ac i'w tynu i lawr fe gwympai cymdeithas, fel y cwympodd teml Dagon ar ben Samson gynt. Drwg, ie drwg iawn ydyw'r arferiad o losgi y myglys, ond gwaeth byth ydyw yfed te, canys nid yw'r naill arferiad yn drygu neb ond y dyn ei hunan, er iddo beri anesmwythder i'w gymmydog dieuog. Ond uwch ben y gwpanaid te, ac o dan ei heffaith y dar- perir ac y cyfansoddir y chwedleuon dych- rynllyd sydd yn ehedeg trwy bob ardal, gan dduo cymmeriadau pawb yn mhell ac yn agos. I'r te, ac i'r te yn unig, y mae'r byd i ddiolch am y fraint yma. Pan yr oedd y ddynolryw yn foddlawn ar yfed dwr neu laeth, ni chlywid eon am yr ys- traeon melldigedig ag sydd yn awr yn ehedeg o dy i dy, ac o ardal i ardal, gan ennill nerth a chynnyddu mewn maintioli, gan effaith rhyfeddol y trwyth te. Os, 0! Farfwr, os oes arnat eisieu, yn y byd hwn, gyflawni dy ddyledswydd tuag atat dy hunan, ymwrthod yn hollol a'r bibell a'r tybacco; ac os oes arnat eisieu gwneud dy ddyledswydd tuag at dy gymmydog, a hyn mewn cymmod heddychlawn ag ef, tro oddiwrth y gwpan de. Yn y gwpan ac yn y bibell nid oes ond gwagedd a gorthrymder ysprydol. Twyll a magi i ddyn ydyw'r ddau. (I barhau.)

/1 ,Y DEHEUDIR.

LLITH DAFYDD EPPYNT.