EISTEDDFODAETH CYMRU.|1874-09-04|Llais Y Wlad - Welsh Newspapers Online
Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

EISTEDDFODAETH CYMRU.

News
Cite
Share

EISTEDDFODAETH CYMRU. F ONEDDIGION,-Heb wastraffu eich gofod na threthu amynedd y darllenydd a rhag- ymadrodd hirfaith ar hanesiaeth eistedd- fodol, caniattewch i mi gongl o'ch newyddiadur i ddymchwelyd gau- ymresymiadau eich gohebydd "Hen E is- teddfodwr" ar y pwngc uchod. Ceisia eich gohebydd ddarbwyllo y wlad mai gan Bwllheli y mae yr hawl i gynal yr Eisteddfod Genedlaethol am y flwyddyn nesaf, ac nad ydyw pwyllgor Conwy ond aflonyddwyr ar heddwch llenyddol y genedl; ond bydded y cyfaill hwn fwyned a chaniattau i mi y rhyddid o ddangos annghywirdeb ei osodiad. Yn y lIe cyntaf, eyhoeddwyd Eisteddfod Pwllheli yn y Wyddgrug y llynedd i gael ei chynnal y fiwyddyn hon ond a glywodd rhywun air o sibrwd yn ei chylch wedi i Tudur ei chyhoeddi oddiar y maen gorseddol, neu a ffurfiwyd cymmaint a phwyllgor rhag- barotoawl ? Attebed a wyr. Yn mhellach, yr wyf yn deall fod rhyw syppyn o bobl hollol ddinod yn ceisio argyhoeddi y wlad ddarfod i gyfeillion Pwllheli roddi heibio gynnal eu heisteddfod eleni yn ffafr Bangor; ond y gwir syml ydyw nad anfonwyd cymmaint a sill ar y pwngc i bwyllgor Bangor; a phe na buasai am ymdrechion gwladgar trigolion dinas Deiniol buasem heb eisteddfod genedl- aethol o gwbl, o ran cyfeillion oriog Pwll- heli o leiaf. Yr wyf yn gwybod hyn, na wyddai pwyllgor Conwy ddim o gwbl am fwriad eu brodyr yn Mhwllheli, pan y cy- hoeddent Eisteddfod Freiniol a Chenedl- aethol 1875 gyda'r fath frwdfrydedd. Hefyd, fel "Eisteddfod Eryri y cy- hoeddwyd un Pwllbeli; ond yn y dull mwyafanfoneddigaidd, wele y pwyllgor yn lladratta teitl Eisteddfod Conwy, drwy alw yr eiddynt hwy yn eu hysbysiad yn Freiniol a Chenedlaethol." Yn awr, yr wyf yn appelio at degwch a boneddig- eiddrwydd y pwyllgor, ac yn eu tynghedu yn enw urddas llenyddol i roddi i fyny deitl Eisteddfod Conwy, a glynu wrth yr enw a roddent ar eu heisteddfod yn y cy- hoeddiad 0 honi yn y Wyddgrug, Pwll- heli, a Bangor, sef "Eisteddfod Eryri." Os na wnant y weithred hon o gyfiawnder, nid ydynt yn teilyngu ymddiried y genedl, ac nis gall eu gwrthodiad lai na throi Hit dylanwad y genedl o blaid Conwy. Yr oil sydd ofynol ydyw i Bwllheli lynu wrth eiriad y cyhoeddiad a chynal Eisteddfod Eryri yn un dalaethol fel ei blaenoriaid o'r un enw. Yna gall Conwy wneud yr Eisteddfod Genedlaethol ynadeilwng«o'r geuedi. ijonia eich gohebydd am annghy- mwysder Conwy fel lie i gynal Eistedd- fod; ond ymddengys ei fod wedi annghofio ddarfod i un o'r eisteddfodau mwyaf llwyddianus gael ei chynal yno tua thair- mlynedd-ar-ddeg yn ol. Y mae croesaw i'ch gohebydd geisio diraddio y cyhoeddwyr yn Nghonwy drwy eu galw yn ddyrnaid dinod;" ond ym- ostynged i sylwi fod yno dri o gadeirfeirdd, a lliaws mawr 0 lenorion a boneddigion adnabyddus i Gymru benbaladr. Yn awr, edrycher ar gyhoeddwyr Pwllheli, a cheir eu bod yn gynnwysedig o lenorion ail- raddol a diddylanwad (ac eithrio Mr Pic- ton Jones), pa rai a ffurfiant y clique hwnw a fu yn ymegnio at lywodraethu Eistedd- fod fythgofiadwy y Borth ac un y Wydd- grug. Wedi ea bwrw allan o awdurdod yn Mangor, y maent yn troi eu hwynebau tua Phwllheli; ond ni rydd y wlad iddynt gynnorthwy i adfeddianu awdurdod a gamarferasant mor ddychrynllyd pan yn eu meddiant. Y gwir ydyw fod y wlad yn edrych tua Chonwy; ac nid oes dadi na fyn y pwyllgor yno gynnal yr Eistedd- fod yn unol a'r cyhoeddiad, ac y mae cyf- lawn sicrwydd am ei llwvddiant. Nid op. yn holl Gymru o ben bwygilydd le mwy canolog na Chonwy, He rhed trains o bed- war cyfeiriad, tra y mae Pwllheli yn un o'r lleoedd mwyaf annghyfleus yn yr un ystyr. Nid ydyw pwyligor Conwy mewn rhyw brysurdeb mawr am ruthro i gy- hoeddi eu testynau a'u gwobrwyon, gan nad ydynt yn awyddus mewn un modd i ennill y blaen ar gyfeillion Pwllheli; ond gweithiant yn bwyllog ond yn benderfyn- ol, mewn perffaith hyder yn llwyddiant yr anturiaeth. Nid yw yr achos yn gyf- yngedig i dref Conwy, oblegid ceiry pwyll- gor yn gynnwysedig 0 bersonau mwyaf dy- lanwadol Llandudno, Llansantffraia, Pen- maenmawr, Llanfairfechan, Colwyn, Llanrwst, Trefriw, Bettws-y-Coed, &c., yn nghydag amryw 0 hrif lenorion v genedl 0 ardaloedd ereilll. Nos Wener y cynnelir cyfarfod cyffredinol o'r pwyllgor 0 dan lywyddiaeth y maer, a disgwylir yr eir trwy gryn lawer o'r gwaith rhagbaro- toawl; ac yn y cyfamser boed i gyfeiliion Pwllheli alw yn ol yr enw a fenthyciasant oddiar frodyr Conwy, ac ymfoddloni i gynnal eu heisteddfod yn un dalaethol, yn unol a'r cyhoeddiad ohoni, fel "Eis- teddfod Eryri." AELOD 0 BWYLLOOB CONWY. O.Y.Ilyfryd genyf hysbysu fod am- ryw foneddegion 0 Lundain a lleoedd ereill eisoes wedi addaw lliaws 0 wobrwyon 0 bymtheg punt ac isod ar gyfer yr Eis- teddfod. Dylaswn hefyd sylwi yr arbedir tua phedwar cant 0 bunnau drwy gynnal y cyrddau yn yr hen gastell, yn hytrach nag mewn pabell gostfawr. Wrth der- fynu, nis gailaf lai na datgan dymuniad ar fod i'ch gohebydd doniol a galluog Robin Sponc draethu ei len ar y pwngc, gan y ceir mwy 0 reswm yn fynych gan- ddo ef mewn brawddeg nag a geir mewn colofn gyfan gan amii«'Hen Eisteddfodwr. A. B. C.

HELYNTION DYPFBYN MADOG.

[No title]

Family Notices

Y PRIF FAKCHNADOEDD CYMREIG.